Agenda item

Cyflwynwyd gan:Cyng. Ioan Thomas

Penderfyniad:

1.1 Nodwyd sefyllfa ariannol derfynol adrannau’r Cyngor am 2021/22. 

 

1.2 Cymeradwywyd y symiau i’w parhau (y golofn “Gor/(Tan) Wariant Addasedig” o’r talfyriad yn Atodiad 1), sef -

 

ADRAN 

£’000 

Oedolion, Iechyd a Llesiant 

(69) 

Plant a Theuluoedd 

(97) 

Addysg 

(60) 

Economi a Chymuned 

(72) 

Priffyrdd a Bwrdeistrefol 

0 

Amgylchedd  

(100) 

Ymgynghoriaeth Gwynedd 

(100) 

Tai ac Eiddo 

(100) 

Tîm Rheoli Corfforaethol a Chyfreithiol 

(33) 

Cyllid 

(96) 

Cefnogaeth Gorfforaethol 

(63) 

 

1.3 Cymeradwywyd yr argymhellion a’r trosglwyddiadau ariannol canlynol (sydd wedi’u hegluro yn Atodiad 2)

 

·       Yr Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol i dderbyn cymorth ariannol un-tro o £746k i ddiddymu ei orwariant am y flwyddyn yn llwyr, o ystyried yr amgylchiadau eithriadol yn ymwneud â’r argyfwng eleni. Bydd hyn yn galluogi’r adran symud ymlaen i wynebu her 2022/23. 

 

·       Er mwyn cydymffurfio â'r Rheoliadau Ariannol, ni fydd yr adrannau canlynol yn cadw eu tanwariant uwchlaw (£100k):  

·       Adran Amgylchedd (£91k) 

·       Adran Ymgynghoriaeth Gwynedd (£9k) 

·       Adran Tai ac Eiddo (£180) 

 

Ceisir penderfyniad y Cabinet i neilltuo’r cyfanswm o £280k i gronfa ar gyfer trefniadau adfer yn sgil Covid ar gyfer cyllido'r heriau ariannol cysylltiedig fydd yn wynebu'r Cyngor. 

 

·       Ar gyllidebau Corfforaethol: 

·       fod (£2,183k) yn ymwneud â chostau cyfalaf yn cael ei neilltuo i gronfa ariannu'r rhaglen gyfalaf 

·       gyda gweddill y tanwariant net ar gyllidebau Corfforaethol yn cael ei neilltuo fel a ganlyn: 

·       (£395k) yn mynd i falansau cyffredinol y Cyngor 

·       (£3,000k) i'r Gronfa Trawsffurfio i gyllido blaenoriaethau'r Cyngor a gwaith trawsffurfiol ei natur 

·       (£1,377k) i'r Gronfa trefniadau adfer yn sgil Covid ar gyfer cyllido'r heriau ariannol cysylltiedig fydd yn wynebu'r Cyngor. 

 

1.4 Cymeradwywyd y trosglwyddiadau ariannol o gronfeydd penodol fel yr amlinellir yn Atodiad 4 yn dilyn adolygiad o’r cronfeydd, gan gynaeafu (£851k) o gronfeydd gan ddefnyddio £746k ohono i gynorthwyo’r Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol sydd wedi gorwario yn 2021/22 a throsglwyddo'r £105k sydd yn weddill i falansau cyffredinol y Cyngor. 

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cyng. Ioan Thomas.

 

PENDERFYNIAD

 

1.1 Nodwyd sefyllfa ariannol derfynol adrannau’r Cyngor am 2021/22.  

  

1.2 Cymeradwywyd y symiau i’w parhau (y golofn “Gor/(Tan) Wariant Addasedig” o’r talfyriad yn Atodiad 1), sef - 

  

ADRAN  

£’000  

Oedolion, Iechyd a Llesiant  

(69)  

Plant a Theuluoedd  

(97)  

Addysg  

(60)  

Economi a Chymuned  

(72)  

Priffyrdd a Bwrdeistrefol  

0  

Amgylchedd   

(100)  

Ymgynghoriaeth Gwynedd  

(100)  

Tai ac Eiddo  

(100)  

Tîm Rheoli Corfforaethol a Chyfreithiol  

(33)  

Cyllid  

(96)  

Cefnogaeth Gorfforaethol  

(63)  

  

1.3 Cymeradwywyd yr argymhellion a’r trosglwyddiadau ariannol canlynol (sydd wedi’u hegluro yn Atodiad 2) -  

  

·         Yr Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol i dderbyn cymorth ariannol un-tro o £746k i ddiddymu ei orwariant am y flwyddyn yn llwyr, o ystyried yr amgylchiadau eithriadol yn ymwneud â’r argyfwng eleni. Bydd hyn yn galluogi’r adran symud ymlaen i wynebu her 2022/23.  

 

·         Er mwyn cydymffurfio â'r Rheoliadau Ariannol, ni fydd yr adrannau canlynol yn cadw eu tanwariant uwchlaw (£100k):   

·         Adran Amgylchedd (£91k)  

·         Adran Ymgynghoriaeth Gwynedd (£9k)  

·         Adran Tai ac Eiddo (£180k)  

  

Ceisir penderfyniad y Cabinet i neilltuo’r cyfanswm o £280k i gronfa ar gyfer trefniadau adfer yn sgil Covid ar gyfer cyllido'r heriau ariannol cysylltiedig fydd yn wynebu'r Cyngor.  

 

·         Ar gyllidebau Corfforaethol:  

·         fod (£2,183k) yn ymwneud â chostau cyfalaf yn cael ei neilltuo i gronfa ariannu'r rhaglen gyfalaf  

·         gyda gweddill y tanwariant net ar gyllidebau Corfforaethol yn cael ei neilltuo fel a ganlyn:  

·         (£395k) yn mynd i falansau cyffredinol y Cyngor  

·         (£3,000k) i'r Gronfa Trawsffurfio i gyllido blaenoriaethau'r Cyngor a gwaith trawsffurfiol ei natur  

·         (£1,377k) i'r Gronfa trefniadau adfer yn sgil Covid ar gyfer cyllido'r heriau ariannol cysylltiedig fydd yn wynebu'r Cyngor.  

 

1.4 Cymeradwywyd y trosglwyddiadau ariannol o gronfeydd penodol fel yr amlinellir yn Atodiad 4 yn dilyn adolygiad o’r cronfeydd, gan gynaeafu (£851k) o gronfeydd gan ddefnyddio £746k ohono i gynorthwyo’r Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol sydd wedi gorwario yn 2021/22 a throsglwyddo'r £105k sydd yn weddill i falansau cyffredinol y Cyngor.  

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod yr adroddiad yn manylu ar wariant y Cyngor yn 2021/22. Eglurwyd fod talfyriad o sefyllfa derfynol yr holl adrannau i’w gweld fel rhan o’r adroddiad ynghyd â’r symiau i’w cario ymlaen ar ddiwedd y flwyddyn ariannol. Tynnwyd sylw at effaith ariannol Covid19 ar y Cyngor unwaith efo gyda £17.5miliwn wedi ei hawlio o’r gronfa caledi a Furlough erbyn diwedd y flwyddyn.

 

Amlygwyd y prif faterion a meysydd ble fu gwahaniaeth sylweddol, yn benodol nifer o grantiau sylweddol ychwanegol yn hwyr yn y flwyddyn sydd wedi trawsnewid y sefyllfa ariannol erbyn diwedd y flwyddyn. Tynnwyd sylw at yr arian ychwanegol i Setliad Llywodraeth Leol o £2.5m, grant Pwysau Gofal Cymdeithasol o £1.9m, Cronfa Adfer Gofal Cymdeithasol o £1.5m ynghyd â Ôl Groniad Treth Cyngor o £0.9m i enwi dim ond rhai. Mynegwyd fod tanwariant i’w gweld ar draws yr holl adrannau oni bai am yr Adran Briffyrdd a Bwrdeistrefol sydd yn gorwario o £746mil. Eglurwyd mai’r maes Bwrdeistrefol sydd yn parhau i fod yn gorwario gyda problemau amlycaf i’w gweld yn maes casglu a gwaredu gwastraff.

 

Nodwyd fod gwelliant sylweddol wedi bod i sefyllfa’r Adran Oedolion yn dilyn derbyniad grantiau sylweddol ym misoedd olaf y flwyddyn, gan gynnwys grant o £1.9miliwn Pwysau Gofal Cymdeithasol ar Awdurdodau Lleol. Amlygwyd eto effaith covid ar yr adran sydd werth dros £3.7miliwn erbyn diwedd y flwyddyn. Eglurwyd fod balansau’r ysgolion wedi cynyddu £6miliwn ar ddiwedd Mawrth 2021 i £16.7miliwn erbyn diwedd Mawrth 2022 yn sgil effaith Covid a derbyniad grantiau niferus amrywiol. Mynegwyd o ran cronfeydd y Cyngor fod adolygiad digonolrwydd cronfeydd penodol y Cyngor wedi ei wneud wrth gau’r cyfrifol a fod £851mil o adnoddau wedi eu cynaeafu.

 

Ychwanegodd y Uwch Reolwr Cyllid fod y sefyllfa wedi ei thrawsnewid dros y misoedd olaf cyn cau cyfrifon o ganlyniad i swmp o grantiau yn  cael eu derbyn yn hwyr yn y flwyddyn. Eglurwyd fod hyn yn rhoi cyfle i’r Cyngor baratoi at heriau 2022/23, a pwysleisiwyd fod hyn yn sefyllfa un tro yn unig.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾     Eglurwyd fod yr adroddiad hwn yn un technegol. Nodwyd fod setliad eleni wedi bod yn arbennig o dda, ond na fydd y ddwy flynedd nesaf cystal ac o ganlyniad fod cyfnod anodd y wynebu y Cyngor.

¾     Mynegwyd fod grantiau wedi helpu nifer o adrannau am eleni, ond holwyd i ba raddau rhaid poeni wrth edrych i’r dyfodol.

 

Awdur:Dewi Morgan

Dogfennau ategol: