Agenda item

Cyflwyno gwybodaeth am gyfraniad yr Adran i’r Polisi Iaith, a sut mae’r adran yn mynd ati i hybu a hyrwyddo’r Gymraeg yn eu gwaith.

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd.

 

Cofnod:

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Bennaeth yr adran, a thynnwyd sylw yn fras at y prif bwyntiau canlynol:

-          Eglurwyd fod yr adran yma, yn debyg i’r Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant yn dilyn Fframwaith Strategol Olynol ‘Mwy na Geiriau’.

 

-          Mae’r Gwasanaeth Blynyddoedd Cynnar yn cydweithio yn agos gyda CWLWM, sef 5 sefydliad arweiniol cenedlaethol gofal plant, er mwyn hyrwyddo’r Gymraeg ar draws lleoliadau gofal plant o fewn y Sir. Mae hyn yn aml iawn yn arwain at brosiectau newydd sydd yn cael eu hybu gan y 5 sefydliad megis podlediad newydd gan y Mudiad Meithrin gyda chymorth Nia Parry o’r enw ‘Baby Steps Into Welsh’ sydd yn helpu plant a rhieni i ddysgu’r iaith. Mae’r Gwasanaeth Blynyddoedd Cynnar hefyd yn elwa o gydweithio gyda CWLWM gan fod Cynllun Croesi’r Bont gan y Mudiad Meithrin yn pontio dosbarthiadau meithrin yn ieithyddol, ac mae 11 cylch o fewn y sir yn derbyn cefnogaeth o’r fath.

                                        

-          Adroddwyd fod yr adran hefyd yn hybu’r Gymraeg yn annibynnol mewn sawl ffordd. Mae grantiau o £100 yn cael ei gynnig i warchodwyr plant preifat di-gymraeg er mwyn prynu adnoddau Cymraeg perthnasol. Yn ogystal â hyn, mae sawl tîm o fewn yr adran yn defnyddio cwrs rhiantu ‘FRIENDS’ ac wedi llwyddo i gyfieithu’r cwrs i’r Gymraeg ar gyfer rhieni’r Sir.

 

-          Nodwyd fod dim modd cael lleoliad gofal plant addas o fewn y sir ar gyfer pob plentyn, yn aml am resymau diogelwch. Os na fydd lleoliad cyfrwng Cymraeg ar gael i’r plentyn, bydd yr adran a’r Gweithwyr Cymdeithasol yn parhau i ymweld a chysylltu â’r plant yn yr iaith Gymraeg er mwyn helpu eu datblygiad ieithyddol.

 

-          Esboniwyd fod yr adran yn arwain 55 o ddarparwyr Addysg Feithrin ar hyn o bryd sydd yn derbyn cefnogaeth gan Athrawes Blynyddoedd Cynnar i gynorthwyo gydag addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg. Ymfalchïwyd yng Nghynllun Dechrau’n Deg, sydd yn gwasanaethu mewn rhannau difreintiedig o fewn y Sir, ac yn darparu addysg cyfrwng Cymraeg i blant 2 oed. Mae 12 lleoliad gofal plant Dechrau’n Deg o fewn y Sir ar hyn o bryd.

 

-          Amlygwyd fod gwaith yn cael ei gwblhau i hybu’r Gymraeg ar gyfer plant hŷn hefyd megis creu a datblygu Ap Gwobr Dug Caeredin ar gyfer plant ysgol uwchradd.

 

-          Cadarnhawyd fod hybu’r Gymraeg wedi cael lle blaenllaw gan yr adran yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Bu un aelod o staff, Stephen Wood, yn llwyddiannus yng Ngwobrau Coffa Dafydd Orwig eleni am ei lwyddiant wrth ddysgu’r Gymraeg. Yn ogystal â defnyddio’r iaith ar lafar o fewn yr adran, mae llawr o adnoddau ysgrifenedig a fideos wedi cael eu datblygu er mwyn hyfforddi staff ar amryw o nodweddion pwysig yr adran. Hefyd, mae’r adran yn y broses o drosleisio adnoddau ar gyfer defnydd rhanbarthol a chenedlaethol er mwyn darparu gwasanaeth dwyieithog effeithiol.

 

-          Trafodwyd gwaith effeithiol y Gwasanaeth Ieuenctid, a nodwyd fod sawl cynllun megis garddio, coginio a gweithdai graffiti, bellach ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg a bod adborth y plant 16-25 oed oedd wedi cymryd rhan mewn gweithdai, ar y cyd gyda chynllun ‘FRIENDS’ yn dweud eu bod wedi mwynhau’r ffaith eu bod wedi gallu cymryd rhan yn y Gymraeg gan eu bod yn teimlo ei fod yn fuddiol i’w datblygiad personol.

 

-          Diweddarwyd y pwyllgor ar Fframwaith Gweithgareddau a Chwarae i blant, pobl ifanc a theuluoedd. Bellach mae 24 o ddarparwyr gweithgareddau yn gallu gwneud hynny drwy gyfrwng y Gymraeg. Ymhellach i hyn, roedd dros 50 o sefydliadau wedi dod ynghyd i gyflwyno gweithgareddau llesiant o fewn wythnos llesiant a gynhaliwyd yn ddiweddar. Defnyddiwyd y dechnoleg ddiweddaraf drwy blatfform ‘Haia’ er mwyn cynnal yr holl ddigwyddiadau yn Hybrid a drwy gyfrwng y Gymraeg. Yn dilyn y llwyddiant yma, mae Ap newydd yn cael ei ddatblygu - ‘Ai Di’ er mwyn helpu i gysylltu plant a gofalwyr. Bydd modd ei ddefnyddio i gysylltu ag ysgolion yn ogystal â defnydd cymunedol.

 

-          Sicrhawyd yr aelodau fod gofynion ieithyddol yn cael eu cynnwys ym mhob cytundeb trydydd parti pan fo’n addas a bod y broses yma yn cael ei fonitro yn rheolaidd rhwng Rheolwr Gwasanaeth a Rheolwr ar ran y darparwr.

 

Mynegwyd pryder am broblemau recriwtio a welwyd yn ddiweddar, yn debyg i rai adrannau eraill y cyngor. Nodiwyd ei fod yn her i recriwtio pobl sydd yn meddu a sgiliau arbenigol cymwysedig yn ogystal â sgiliau Cymraeg addas ar adegau. Mae’r adran yn edrych ar ffyrdd o oresgyn y problemau yn ogystal â darparu cefnogaeth i aelodau staff sy’n dymuno datblygu eu sgiliau ieithyddol Cymraeg.

 

-          Ychwanegwyd fod heriau yn wynebu’r adran wrth gyd-weithio gyda’r partneriaid oherwydd nad ydi’r cyfleusterau ar gael o hyd er mwyn gallu cyfathrebu yn Gymraeg yn effeithiol. Eglurwyd nad ydi pawb yn cynnig darpariaeth cyfieithu ar y pryd.

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau’r pwyllgor holi cwestiynau:

-          Mynegwyd balchder yng ngwasanaeth cyfieithu Cyngor Gwynedd a thrafodwyd yr angen am brotocol i fynnu fod y Gymraeg yn cael ei ddefnyddio wrth gydweithio gyda phartneriaid ac i’w hysbysu os yw eu gwasanaethau Cymraeg yn annigonol.

 

-          Gwnaed sylw fod cyfleusterau yn cael eu gwastraffu os nad ydi pobl yn eu defnyddio. Atgoffwyd pawb o’r angen i ddefnyddio’r iaith Gymraeg os ydynt yn gallu er mwyn ei chynnal a helpu eraill i ddysgu.

 

-          Clodforwyd gwaith yr adran i ddatblygu sawl ap defnyddiol newydd ar gyfer pobl o bob oed. Holiwyd os oes modd monitro’r defnydd o’r ap-iau i weld faint o ddefnydd Cymraeg a geir ohonynt.

 

Mewn ymateb, nododd yr Uwch Ymgynghorydd Iaith a Chraffu:

-          Bod modd atgoffa staff o’r polisi iaith cyfredol a beth yw eu cyfrifoldebau ynghylch hysbysu partneriaid am fethiannau ieithyddol. Ymhelaethwyd fod modd creu protocol newydd fel trafodwyd yn gynharach er mwyn i staff adael i swyddogion yr adran wybod fod methiant ieithyddol wedi digwydd er mwyn gallu cysylltu â’r partneriaid, y Comisiynydd Iaith a’r Llywodraeth pe bai angen.

Mewn ymateb, nododd yr Ymgynghorydd Iaith:

-          Gan fod y mater yma wedi codi amryw o weithiau yn ystod y cyfarfod fod modd ystyried ychwanegu protocol fel addasiad i’r polisi iaith newydd, a hynny cyn ei gyflwyno i aelodau’r cabinet, os bydd y pwyllgor yn cytuno i wneud hynny. Mynegwyd ei fod yn rhywbeth cadarnhaol bod gan swyddogion gyfrifoldeb i hysbysu ac ymateb i unrhyw fethiant ieithyddol oherwydd bod ganddyn nhw gyswllt uniongyrchol a’r partner a bod hynny yn atgyfnerthu’r polisi iaith.

Mewn ymateb, nododd Pennaeth Adran Plant a Chefnogi Teuluoedd:

-          Bod angen sicrhau fod partneriaid ac asiantaethau eraill yn rhanbarthol a chenedlaethol yn gwella eu safonau ieithyddol oherwydd bod y defnydd o’r Gymraeg yn eilradd mewn sawl cyfarfod. Cytunwyd fod angen defnyddio ein dull o weithredu’r Gymraeg fel enghraifft i asiantaethau eraill.

 

-          Ymatebwyd nad oes modd i fonitro’r defnydd o’r Gymraeg mewn amryw o’r ap-iau a ddatblygwyd hyd yma gan eu bod yn ymdrin â gwybodaeth bersonol unigolion. Er hyn, gobeithiwyd gallu monitro faint o’r Gymraeg a ddefnyddir ar yr Ap Gwobr Dug Caeredin.

 

PENDERFYNWYD

-          Derbyn yr adroddiad gan nodi sylwadau a dderbyniwyd.

 

Dogfennau ategol: