I dderbyn adroddiad llafar gan y Pennaeth Cyllid. .
Cofnod:
(a) Cyflwynwyd diweddariad llafar gan y Pennaeth Cyllid ynglyn a chyllideb 2016/17 gan nodi dros y cyfnod pedair blynedd
o Ebrill 2014 i Fawrth
2018, cynlluniwyd ar y
sail:
·
Byddai grant
gan Lywodraeth Cymru i’r Cyngor yn gostwng £21m, a
· Byddai chwyddiant a chynnydd mewn galw am wasanaethau yn ychwanegu £29m at gostau, gan greu
· Bwlch ariannol o £50m sydd
raid ei ddarganfod.
Dros yr un cyfnod pedair
blynedd (2014 - 2018), cynlluniwyd
cynnydd Treth
Cyngor o 3.5% y flwyddyn (’ychydig
uwch yn 2015/16) sy’n golygu lleihad
£9m ar y bwlch, gan adael £41m i’w ddarganfod.
Adnabuwyd gwerth £26m o arbedion effeithlonrwydd sy’n cael ei gweithredu,
gyda rhai adrannau canolog y Cyngor yn wynebu cwtogiad
30%.
Yn rhan o’r “arbedion
effeithlonrwydd” £26m, mae’r
£4.3m ysgolion.
Wrth gwrs, gellid dadlau’r
ffin lwyd rhwng “arbedion effeithlonrwydd” a “toriadau”,
ond yn y strategaeth mae’r £4.3m ysgolion yn “arbedion
effeithlonrwydd”.
Yn ogystal â’r “arbedion
effeithlonrwydd” o £26m, cynllunnir
i gyflawni £8m pellach o arbedion effeithlonrwydd, heb ofyn am fwy
gan ysgolion yn y cyfnod pedair
blynedd hyd at 2018.
Yn anffodus, ni fydd
hyn yn ddigon
i gyfarch y bwlch o £41m.
Gyda’r bwlch sydd ar
ôl, adnabuwyd byddai angen i’r
Cyngor wireddu £7m o doriadau,
sef testun ymgynghoriad Her Gwynedd.
Yn dilyn setliad grant amodol i lywodraeth leol, a gwaith pellach ar anghenion
gwario 2016/17, edrychir am
doriadau o tua £5m dros y ddwy flynedd
nesaf, yn hytrach na’r £7m y cynlluniwyd ar ei gyfer.
Bydd hyn ddim yn
golygu osgoi unrhyw ran o’r £34m o “arbedion effeithlonrwydd”. Felly, bydd dim newid i’r cyfraniad
£4.3m gan yr ysgolion.
Esboniwyd bod setliad amodol 2016/17 llywodraeth leol yn dangos lleihad
o 1.4% ar gyfartaledd i awdurdodau Cymru, gyda lleihad 1.7% i Wynedd, sydd yn
agos at be roedd Gwynedd wedi darogan, sef
lleihad o 2%.
Ynglŷn â diogelu rhywfaint ar gyllidebau ysgolion,
nodwyd bod amodau ynghlwm i’r ymarfer
cyfrifo, sy’n cynnwys -
•
effaith ariannol unrhyw gynnydd neu leihad yn
y nifer disgyblion,
•
cynnydd neu leihad yn y datganoli,
•
cyfraniad £2m yn 2016/17 o’r £4.3m o arbedion effeithlonrwydd,
•
trosglwyddiadau grant penodol i’r setliad,
a
•
cost
benthyg ar gyfer buddsoddi mewn eiddo ysgolion
(yn gysylltiedig â’r rhaglen ysgolion
unfed ganrif ar hugain, a threfniadaeth ysgolion).
Wrth gwrs, bydd y Cyngor hefyd, fel arfer,
yn darparu cyllideb ychwanegol ar gyfer –
•
cytundebau tâl,
•
isafswm cyflog byw,
•
y
cynnydd yng nghost cyfraniadau pensiwn athrawon,
•
y
cynnydd sylweddol yng nghost yswiriant
gwladol, ayb.
(b) Mewn
ymateb i sylwadau wnaed, nododd y Pennaeth Addysg y
pwyntiau canlynol:
·
ni fyddai’n ofynnol i ysgolion gyfrannu tuag at y toriadau o £5m rhwng rŵan a 2018 ac mai £4.3m fyddai cyfraniad gan yr
ysgolion
·
y byddai angen
ffocws ar y cyd-drefniadaeth ar ôl 2018 a bod rhagolygon ar ôl hynny
yn edrych yn drychinebus
Penderfynwyd: Derbyn a nodi’r uchod.