skip to main content

Agenda item

Cyflwynwyd gan:Cyng. Dilwyn Morgan

Penderfyniad:

Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cyng. Dilwyn Morgan

 

PENDERFYNIAD

 

Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi  mai hon oedd adroddiad cyntaf yr Aelod Cabinet yn y maes hwn, a mynegwyd ei fod yn adroddiad pwysig sydd yn feincnod o ble mae’r adran arni ac yn amlygu pa waith sydd angen ei wneud.

 

Eglurwyd nad oes cyfarfod herio perfformiad wedi ei gynnal eto ond fod nifer o’r materion wedi bod yn destun trafodaeth gyda’r adran dros yr wythnosau diwethaf. Amlygwyd fod yr ail ran yr adroddiad yn amlygu cynnydd sydd wedi ei wneud yn y cynlluniau sydd gan yr adran yng Nghynllun y Cyngor. Nodwyd fod llawer o waith wedi ei wneud ar y cynlluniau ac fod cyfeiriadau at ble mae angen ei wella. Mynegwyd fod y gwaith o ail ddylunio’r Gwasanaeth Gofal yn mynd rhagddi ac fod gwaith yn cael ei wneud ar hyn o bryd o ran tendrau i ddatblygu gwasanaeth gofal newydd.

 

Pwysleisiwyd fod problem recriwtio a gweithlu i’w gweld yn amlwg drwy’r adroddiad a pwysleisiwyd nad yw’r broblem hon yn un unigryw ac ei bod yn cael ei gweld yn rhanbarthol ac yn genedlaethol. Nodwyd fod yr adran yn edrych ar ddatblygu ffyrdd arloesol  o ddenu gweithwyr i’r sector ac i ddeall y rhwystrau. Eglurwyd y bydd adroddiad pellach ar y mater yn dod o flaen y Cabinet maes o law.

 

O ran perfformiad yr adran, nodwyd yn dilyn trafodaeth a’r Pennaeth fod angen gwneud gwaith pellach i edrych yn benodol ar pwrpasau a mesuryddion gwasanaethau er mwyn blaenoriaethu’r gwaith er mwyn symud ymlaen. Diolchwyd i’r Cyng. Dafydd Meurig am y gefnogaeth ac ei waith fel yr Aelod Cabinet a oedd yn dal y portffolio ynghynt.

 

Bu i’r Pennaeth Adran ychwanegu o ran recriwtio fod rhaglen amrywiol o weithgareddau a sesiynau recriwtio wedi ei cynnal sydd wedi bod yn hynod llwyddiannus yn rhai ardaloedd a dim diddordeb mewn ardaloedd gwahanol. Eglurwyd y bydd adroddiad pellach ar gwaith yn cael ei rannu dros y misoedd nesaf. Nodwyd o ran cynlluniau Cynllun y Cyngor fod rhain yn raglenni gwaith penodol gyda nifer o ffrydiau gwaith i bob un ohonynt. Eglurwyd mai un o’r tasgau mwyaf sydd gan yr adran yw i newid y diwylliant ar draws y maes gofal nid yn unig yn fewnol ond yn allanol. Mynegwyd mai drwy newid y diwylliant bydd gwahaniaeth mwyaf i’w weld ar draws y gwasanaeth.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾     Amlygwyd diffyg cynnydd yn y cynllun ar gyfer Canolfan Dolfeurig yn Nolgellau sydd wedi bod ar y gweill dros bum mlynedd a mynegwyd y bydd yr arian sydd ar ei gyfer yn annigonol o bosib bellach.

¾     Eglurwyd yn ôl ym mis Awst 2021, fod yr adran yn rhagweld gorwariant o £1.4miliwn ond o ganlyniad i dderbyn £1.9miliwn o Grant Pwysau Gofal Cymdeithasol gan Lywodraeth Cymru bu i’r adran danwario o £68,000. Pwysleisiwyd fod y tanwariant yn gwbl ddibynnol ar grant un tro, ac amlygwyd fod arbedion yn mynd i fod yn gwbl heriol i’r adran yn wyneb y pwysau cynyddol sydd i’w weld. 

 

 

Awdur:Aled Davies

Dogfennau ategol: