I ystyried a derbyn yr adroddiad
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD
Derbyn yr adroddiad yn unol â gofynion Safonau Archwilio Mewnol y Sector
Gyhoeddus am y flwyddyn ariannol 2021/22
Cofnod:
Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Archwilio
yn mynegi barn Archwilio Mewnol ar amgylchedd
rheolaethol gyffredinol o fewn yr Awdurdod yn ystod 2021/22 gan ddarparu cyfryw
farn archwilio mewnol blynyddol i’r Awdurdod. Nodwyd na all sicrwydd fyth fod
yn llwyr ac y mwyaf y gall gwasanaeth archwilio mewnol ei ddarparu i’r Cyngor
ydi cyngor rhesymol nad oes gwendidau mawr yn y system gyfan o reolaeth fewnol.
Adroddwyd bod Covid-19 wedi cael effaith sylweddol ar yr Awdurdod yn ei
gyfanrwydd ac ar waith Archwilio Mewnol ac fel y mwyafrif o wasanaethau’r
Cyngor roedd swyddogion Archwilio Mewnol yn gweithio o adref. Ni fu’n bosib
cynnal archwiliad lle byddai angen ymweld â’r sefydliad oherwydd canllawiau a
chyfyngiadau Llywodraeth Cymru. Mynegwyd
bod Archwilio Mewnol wedi cynorthwyo Gwasanaeth Profi, Olrhain a Diogelu, sef
gwasanaeth a lansiwyd gan Lywodraeth Cymru gyda 98.57diwrnod wedi eu treulio ar
y gwaith yma. Yn ogystal bu swyddogion hefyd yn cynorthwyo’r gwasanaeth
Budd-daliadau i ddelio gyda phrosesau Taliadau Cymorth Hunanynysu
yn sgil y cynnydd yn y nifer o achosion yng Ngwynedd ddiwedd 2021 a dechrau
2022 (treuliwyd cyfanswm 96.77 diwrnod ar y gwaith yma).
Adnabuwyd blaenoriaethau archwilio newydd mewn ymateb i risgiau newydd
yn sgil effaith covid-19. Cafodd yr archwiliadau hyn eu cwblhau o fewn cyfnod
heriol gyda ffocws yr archwiliadau ar drefniadau yn sgil y pandemig
ac archwiliadau statudol megis grantiau. Cynhaliwyd nifer cyfyngedig o
archwiliadau yn ystod 2021/2022 o gymharu â’r blynyddoedd blaenorol a hynny
oherwydd amgylchiadau digynsail o anghyffredin. Ystyriwyd hynny yn eithriad eto
eleni a defnyddiwyd tystiolaeth a ddarparwyd gan reoleiddwyr
allanol i gefnogi’r farn am y flwyddyn. Daethpwyd i’r casgliad, ar sail y
gwaith a gwblhawyd yn ystod 2021/22, bod fframwaith rheolaeth fewnol Cyngor
Gwynedd yn ystod y flwyddyn ariannol 2021/2022 yn gweithredu ar lefel a rydd
sicrwydd rhesymol ar ddigonolrwydd ac effeithiolrwydd cyffredinol fframwaith
llywodraethu’r Awdurdod, rheoli risg a rheolaeth fewnol.
Cafodd 42 darn o
waith eu cynnwys yng nghynllun archwilio addasedig terfynol 2021/2022 gyda 30
(71.43% o’r cynllun) o’r aseiniadau hyn wedi eu cwblhau erbyn 31 Mawrth 2022,
At bwrpasau’r mesur caiff aseiniad ei gyfrif wedi ei gwblhau os oes
adroddiad/memorandwm terfynol wedi ei ryddhau neu os yw’r aseiniad wedi ei gau
a ni ddisgwylir treulio mwy o amser arno – uchelgais y perfformiad oedd 95%.
Cyfeiriwyd at y rhestr o’r archwiliadau o gynllun 2021/2022 oedd wedi
cyfrannu at y farn a fynegwyd.
Diolchwyd
am yr adroddiad
Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â chael
mynediad at wasanaethau, nodwyd parodrwydd swyddogion i gydweithio yn y ddwy
flynedd diwethaf, ond bod bwriad ail ymweld â rhai cynlluniau. Er bod covid -19 efallai yn esgus i rai swyddogion beidio
cydweithio, prin iawn oedd hyn.
PENDERFYNWYD
Derbyn yr adroddiad yn unol
â gofynion Safonau Archwilio Mewnol y Sector Gyhoeddus am y flwyddyn ariannol
2021/22
Dogfennau ategol: