Agenda item

I dderbyn y wybodaeth, ystyried unrhyw risgiau sy’n deillio o’r gwir wariant ac incwm yn erbyn cyllideb 2021/22, a chraffu penderfyniadau’r Cabinet yng nghyswllt rheoli cyllidebau’r Cyngor a’i Adrannau.

 

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

 

Derbyn yr adroddiad

Nodi’r risgiau perthnasol

Cefnogi penderfyniad y Cabinet (14 Mehefin 2022)

 

Nodyn: Awgrym bod materion gorwariant a gwireddu arbedion ym maes bwrdeistrefol yn cael ei graffu. Cynnig cyfeirio’r awgrym at yr Uned Iaith a Chraffu fel bod modd i Aelodau’r Pwyllgor Craffu Cymunedau ei ystyried fel maes posib i’w graffu yn eu gweithdy blynyddol.

 

Cofnod:

Amlygodd yr Aelod Cabinet Cyllid bod yr adroddiad wedi ei gyflwyno i’r Cabinet 14 Mehefin 2022 a bod y Cabinet wedi cymeradwyo’r holl argymhellion a’r trosglwyddiadau ariannol.

 

Gosodwyd cyd-destun yr adroddiad gan yr Uwch Reolwr Cyllid. Nodwyd bod yr adroddiadau yn manylu ar wariant y Cyngor yn 2021/22, sefyllfa alldro tanwariant neu orwariant yr adrannau unigol, a’r rhesymau am hynny. Cyfeiriwyd at grynodeb o sefyllfa derfynol yr holl adrannau sy’n amlygu’r symiau i’w parhau ar ddiwedd y flwyddyn ynghyd a’r prif faterion a meysydd ble fu gwahaniaethau sylweddol. Amlygwyd,

 

·         Bod effaith ariannol Covid19 yn sylweddol i’r Cyngor unwaith eto yn 2021/22, gyda £17.5 miliwn wedi ei hawlio o’r gronfa caledi a furlough erbyn diwedd y flwyddyn (cyfuniad o gostau ychwanegol o £15.2 miliwn a cholledion incwm o £2.3 miliwn).

·         Bod y Cyngor wedi derbyn nifer o grantiau sylweddol ychwanegol yn hwyr yn y flwyddyn sydd wedi trawsnewid y sefyllfa erbyn diwedd y flwyddyn ariannol -  grantiau sylweddol yn cynnwys:

-       ychwanegiad i setliad Llywodraeth Leol 21/22 (£2.5 miliwn)

-       pwysau gofal cymdeithasol (£1.9 miliwn)

-       cronfa adfer gofal cymdeithasol (£1.5 miliwn)

-       grantiau i gyllidebau ysgolion sef cynnal a chadw (£1.8 miliwn)

-       Cyflymu Dysgu mewn ysgolion (£1.2 miliwn)

-       Ôl groniad Treth Cyngor (£0.9 miliwn)

-       £0.8miliwn blaenoriaethau Fframwaith Economaidd.

 

·         Bod tanwariant gan yr holl adrannau (heblaw am yr Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol oedd yn gorwario £746 mil). Nodwyd bod y maes bwrdeistrefol yn parhau i fod yn fater o bryder gyda’r problemau amlycaf yn y maes casglu a gwaredu gwastraff. Ategwyd bod yr adran hefyd yn cael trafferthion gwireddu arbedion gwerth £608k.

·         Cafwyd gwelliant yn sefyllfa’r Adran Oedolion o ganlyniad i dderbyn grantiau sylweddol ym misoedd olaf y flwyddyn (gan gynnwys grant o £1.9 miliwn Pwysau Gofal Cymdeithasol ar Awdurdodau Lleol). Nodwyd bod effaith Covid wedi parhau i  gael ardrawiad sylweddol ar yr Adran eto yn 21/22 oedd yn gyfwerth a dros £3.7 miliwn erbyn diwedd y flwyddyn.

·         Bod nifer o resymau tanwariant un-tro ar nifer o benawdau Corfforaethol

·         Bod balansau’r ysgolion wedi cynyddu o £10.7 miliwn ar ddiwedd Mawrth 2021 i £16.7 miliwn erbyn diwedd Mawrth 2022 yn sgil effaith Covid19 a derbyniad grantiau amrywiol.

·         Bod adolygiad digonolrwydd cronfeydd penodol y Cyngor wrth gau’r cyfrifon, lle llwyddwyd i gynaeafu £851 mil o adnoddau.

 

Adroddwyd bod y datganiadau ariannol statudol 2021/22 eisoes wedi eu cwblhau ac wedi eu cyflwyno i Archwilio Cymru eu harchwilio.

 

Diolchwyd i’r staff am eu gwaith trylwyr a’u hyblygrwydd dros y cyfnod herio

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan aelodau:

·         bod balansau ysgolion yn dderbyniol o ystyried mai anodd yw gwario arian sydd ynghlwm a’r grantiau hwyr (prinder staff llanw sydd yn ei dro yn arwain at leihad mewn costau teithio a chynnal hyfforddiant)

·         Nad yw derbyn grantiau yn hwyr yn y flwyddyn yn ‘hwyluso trefniadau ariannol’

 

Mewn ymateb i sylw ynglŷn â dibyniaeth ar grantiau arbennig, nodwyd er bod tuedd o dderbyn grantiau yn hwyr yn y flwyddyn nid oedd y sefyllfa yn un ddibynadwy

 

Mewn ymateb i orwariant parhaus ym maes bwrdeistrefol ac awgrym ynglŷn â chraffu’r mater, nodwyd bod penderfyniad diweddar gan y Cabinet i ail strwythuro’r Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol gan drosglwyddo’r maes casglu gwastraff i’r Adran Amgylchedd. Er hynny, derbyniwyd yr awgrym i graffu’r maes ac i gyfeirio’r awgrym hwnnw i’r Uned Iaith a Chraffu. Ategwyd mai arbedion sydd methu eu gwireddu yw cyfran helaeth o’r gorwariant ynghyd ag effaith covid ar y maes gwastraff a cholledion incwm yn y maes gwastraff masnachol.

 

PENDERFYNWYD

 

Derbyn yr adroddiad

Nodi’r risgiau perthnasol

Cefnogi penderfyniad y Cabinet (14 Mehefin 2022)

 

Nodyn: Awgrym bod materion gorwariant a gwireddu arbedion ym maes bwrdeistrefol yn cael eu craffu. Cynnig cyfeirio’r awgrym at yr Uned Iaith a Chraffu fel bod modd i Aelodau’r Pwyllgor Craffu Cymunedau ei ystyried fel maes posib i’w graffu yn eu gweithdy blynyddol.

 

Dogfennau ategol: