Gofynnir i’r Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu nodi’r sefyllfa ac unrhyw risgiau yng nghyswllt
rhaglen gyfalaf y Cyngor, ystyried penderfyniad y Cabinet, a sylwebu fel bo
angen
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD:
Derbyn yr adroddiad
Nodi’r risgiau perthnasol
Cefnogi penderfyniad y Cabinet (14 Mehefin 2022)
Cofnod:
Amlygodd y Uwch Reolwr Cyllid mai prif ddiben yr
adroddiad oedd cyflwyno’r rhaglen gyfalaf diwygiedig ar ddiwedd y flwyddyn
ariannol (sefyllfa 31 Mawrth 2022), a chymeradwyo’r ffynonellau ariannu
perthnasol. Cyfeiriwyd at ddadansoddiad fesul Adran o’r rhaglen gyfalaf £139.3
miliwn am y 3 blynedd 2021/22 - 2023/24 ynghyd a’r ffynonellau sydd ar gael i
ariannu’r cynnydd net sydd oddeutu £11.0 miliwn ers yr adolygiad diwethaf.
Prif gasgliadau’r adolygiad oedd bod y Cyngor wedi llwyddo i wario
£37.1m yn 2021/22 ar gynlluniau cyfalaf, gyda £29.9m (81%) ohono wedi’i ariannu trwy grantiau
penodol.
Adroddwyd bod effaith argyfwng Covid19 a’r cyfnod clo ar y rhaglen
gyfalaf yn amlwg ac yn ychwanegol i’r £31.2m a adroddwyd arno yn yr adolygiadau
blaenorol, roedd £26.8m pellach o wariant arfaethedig wedi’i ail-broffilio, sef
wedi llithro o 2021/22 i 2022/23, gyda’r prif gynlluniau yn cynnwys:
·
£7.6 miliwn Cynlluniau Strategaeth Tai a
Digartrefedd
·
£7.2
miliwn Cynlluniau Atal Llifogydd a Traenio Tir
·
£6.5
miliwn Cynlluniau Ysgolion Ganrif 21 ac Eraill
·
£4.0
miliwn Grantiau Newydd Llywodraeth Cymru yn y maes Tai (adnodd a ddisodlir yn
llithro)
·
£3.2 miliwn Grant Cyfalaf Cyffredinol Ychwanegol
21/22 (derbyniwyd yn chwarter olaf y flwyddyn gyda’r hawl i’w lithro i 22/23)
Yn ogystal, llwyddodd y Cyngor i ddenu grantiau pellach ers yr adolygiad
diwethaf (dros 11miliwn) oedd yn cynnwys;
·
£3.2 miliwn - Grant Cyfalaf Cyffredinol Ychwanegol
21/22 - caniatâd llithro i 22/23
·
£3.1
miliwn - Grantiau o’r Gronfa Datblygu Tir ac Adeiladu sy’n caniatau
disodli ariannu cyfredol i’w wario yn
22/23.
·
£1.3
miliwn - Grant Cronfa Gofal Canolraddol – addasiadau sefydliadau oedolion a
hwyluso gweithio ar y cyd ag asiantaethau eraill yn y maes gofal.
·
£1.1 miliwn - Grant Cyfalaf Prydau Ysgol am Ddim -
caniatáu disodli ariannu cyfredol i’w wario yn
22/23 ar addasiadau i geginau ysgolion.
Penderfynodd y Cabinet (14 Mehefin 2022) i dderbyn yr holl argymhellion
oedd yn cynnwys:
·
Derbyn yr adroddiad
·
Nodi'r gwariant o £37,054,000 ar y rhaglen gyfalaf
yn ystod y flwyddyn ariannol 2021/22, sydd wedi ei ddefnyddio fel sail i’r
datganiadau ariannol statudol ar gyfer 2021/22.
·
Cymeradwyo yr ariannu addasedig:
Diolchwyd am yr
adroddiad
Mewn ymateb i gwestiwn
ynglŷn ag adnabod risg o gynnydd mewn costau adeiladu a chostau byw a bod
hyn yn cael ei ystyried o fewn cais / swm y grant, nodwyd yn gyffredinol bod
rhaid derbyn rhai grantiau gan wneud y gorau ohono, ond gydag eraill bod cais
ychwanegol yn cael ei wneud i Lywodraeth Cymru. Ategwyd, wrth ymateb i gynnydd
mewn costau, bod penderfyniadau yn cael eu gwneud i ohirio rhai cynlluniau.
PENDERFYNWYD
Derbyn yr adroddiad
Nodi’r risgiau perthnasol
Cefnogi penderfyniad y Cabinet (14 Mehefin 2022)
Dogfennau ategol: