skip to main content

Agenda item

Ymestyn trac  dan gyfeirnod cais  C21/1155/22/YA am bellter o 15 medr i'r gogledd o'r fynedfa bresennol ynghyd ác adeilad pont i groesi'r cwrs dwr  - Lon Tyddyn Agnes, Llanllyfni

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Peter Thomas

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

 

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Caniatáu’r cais yn ddarostyngedig i’r amodau isod: -

 

1.    5 mlynedd.

2.    Yn unol â’r manylion a gyflwynwyd gyda’r cais.

3.    Cyflwyno cynllun plannu coed i’w ganiatáu’n ysgrifenedig gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol.

4.    Cwblhau’r datblygiad yn unol gydag argymhellion yr adroddiad ecolegol.

 

Nodyn parthed yr angen i dderbyn caniatâd yr Uned Drafnidiaeth i ymgymryd â gwaith o fewn y briffordd.

 

Nodyn parthed y cyngor a gyflwynwyd gan Uned Dwr ac Amgylchedd y Cyngor.

 

COFNODION:

Ymestyn trac  dan gyfeirnod cais  C21/1155/22/YA am bellter o 15 medr i'r gogledd o'r fynedfa bresennol ynghyd ac adeilad pont i groesi'r cwrs dwr  - Lon Tyddyn Agnes, Llanllyfni

 

Gohiriwyd y cais ym Mhwyllgor Cynllunio 13 Mehefin 2022 er mwyn gwybyddu un o’r gwrthwynebwyr oedd yn dymuno siarad yn y Pwyllgor ynghyd a chynnal ymweliad safle.

 

Roedd rhai o’r Aelodau wedi ymweld â’r safle 04/07/22 er mwyn ymgyfarwyddo gyda gosodiad a chyd-destun y bwriad o fewn yr amgylchedd lleol. 

 

a)    Amlygodd y Swyddog Rheolaeth Datblygu mai cais llawn ydoedd ar gyfer ymestyn y trac amaethyddol a ganiatawyd o dan gais hysbyseb cymeradwyaeth ymlaen llaw rhif C21/1155/22/YA am bellter o 15m o’r fynedfa bresennol ynghyd ag adeiladu pont i groesi’r cwrs dwr oddi ar ffordd sirol ddi-ddosbarth Lon Tyddyn Agnes yng nghymuned Llanllyfni. Lleolir y trac arfaethedig ar dir sy’n rhan o ddaliad amaethyddol Fferm Taldrwst. Saif yng nghefn gwlad agored gyda’r rhan yma o’r dirwedd o laswelltir wedi ei wella yn cael ei ddefnyddio i ddiben pori da byw. 

 

I gefnogi’r cais, cyflwynodd yr ymgeisydd Arolwg Ecolegol Rhagarweiniol ynghyd a Datganiad Cynllunio oedd yn cyfeirio at nifer o elfennau’r cais.

 

Eglurwyd bod y cais diweddaraf hwn wedi ei gyflwyno i ymestyn y trac amaethyddol am bellter o 15m i’r gogledd o’r fynedfa a ganiatawyd eisoes ar sail fod y fynedfa newydd wedi ei leoli o fewn 25m i ffordd sirol dosbarth III (Lon Ddŵr). Y rhesymeg y tu ôl i’r cais diweddaraf hwn yw byddai creu mynedfa yn agosach i’r gyffordd yn galluogi i loriau fynd i mewn ac allan o’r safle heb rwystr ac i osgoi difrodi wyneb y ffordd sirol ddi-ddosbarth. Byddai hefyd yn ymateb i drafodaethau gyda’r Uned Drafnidiaeth parthed dirywiad y ffordd sirol ddi-ddosbarth (Lon Tyddyn Agnes) a dymuniad yr Uned i dynnu pwysau loriau trymion oddi ar y ffordd.

 

Yng nghyd-destun hanes y rhan yma o’r daliad amaethyddol, ystyriwyd bod yr egwyddor o gysylltu'r twll chwarel gyda’r rhwydwaith ffyrdd lleol at ddibenion amaethyddol yn dderbyniol a bod yr egwyddor o’r fath fwriad eisoes wedi ei dderbyn pan ganiatawyd yr hysbysebion blaenorol.

 

Ni ystyriwyd fod y bwriad yn groes i bolisïau lleol na chenedlaethol ac nad oedd unrhyw fater cynllunio perthnasol yn gorbwyso’r ystyriaethau polisi hyn. O ganlyniad, ystyriwyd  fod y bwriad yn dderbyniol yn ddarostyngedig ar gynnwys amodau priodol.

 

b)    Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd gwrthwynebydd i’r cais y sylwadau canlynol:

·         Bod nifer o lythyrau wedi eu cyflwyno yn gwrthwynebu’r cais

·         Y cais yn groes i faterion amgylchedd a diogelwch y cyhoedd

·         Adroddiad Bioamrywiaeth yng nghais 2017 yn mynegi’n glir bod rhywogaethau prin angen eu gwarchod – dim pryderon y tro hwn?

·         Bod y lon yn gul ac yn anaddas i bwrpas

·         Bod damwain ddifrïol wedi bod ar y lon gyda chymydog yn dioddef anafiadau newid bywyd - wedi hysbysu a rhybuddio’r Uned Trafnidiaeth y byddai damwain yn anochel

·         Bod y lon yn rhy gul i loriau trymion sydd yn teithio dol ac ymlaen yn cludo gwastraff o’r chwarel - o leiaf 40 lori lawn neu wag yn defnyddio'r lon

·         Angen ystyried diogelwch y cyhoedd a thrigolion lleol

 

c)    Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd yr ymgeisydd y sylwadau canlynol

·         Bod y cais cynllunio ar gyfer adeiladu pont fechan a fydd yn rhan o drac amaethyddol eisoes wedi ei ganiatáu.

·         Bydd y bont 15 medr yn nes na safle’r bont wreiddiol at gyffordd Lôn Tyddyn Agnes a Lôn Ddŵr ger Llanllyfni.

·         Prif fwriad y cais yw dargyfeirio trafnidiaeth yn gyfan gwbl oddi ar Lôn Tyddyn Agnes yn unol â dymuniad Awdurdod Priffyrdd Cyngor Gwynedd.  Bydd y cynllun gwirfoddol yn cyfrannu at leihau effeithiau trafnidiaeth i, ac o, safle chwarel Tyddyn Agnes a Fferm Taldrwst. Ystyrir fod y mesurau yn welliant i fwynderau pobl leol, yn gwella diogelwch y briffordd ac yn y pen draw yn golygu llai o waith cynnal a chadw i Gyngor Gwynedd ar Lôn Tyddyn Agnes.

·         Yn ymwybodol, yn anffodus fod damwain ffordd gyda thractor wedi digwydd yn ddiweddar ar Lôn Ddŵr. Ni ellir gwarantu na fydd damweiniau ar unrhyw ffordd ble bynnag y bo, na beth bynnag fo’i chyflwr. Drwy ymgymryd â’r cynllun hwn hyderwn y gellir lleihau ychydig ar y risg o ddamweiniau ar y briffordd yn y dyfodol.

·         Bod yr holl weithgareddau sydd yn digwydd yn Taldrwst a chwarel Tyddyn Agnes yn unol â Rheoliadau Cynllunio, Amaethyddol ac Amgylcheddol cyfredol.

·         Yn ymwybodol nad yw pawb yn dymuno gweld llwyddiant i’r cynlluniau yn Taldrwst. Fodd bynnag, y teulu yn denantiaid ac yn berchnogion Fferm Taldrwst ers yn agos i 150 o  flynyddoedd.  Dyhead ac uchelgais yw gwella’r ddaliadaeth hyd orau eu gallu yn economaidd ac yn amgylcheddol, gyda’r bwriad o liniaru problemau iechyd a diogelwch enfawr a berthyn i’r safle o ganlyniad i weithgareddau chwarelyddol y gorffennol.

·         Bod y cynllun yn cyfrannu’n sylweddol at eu dyheadau fel teulu ac yn cyfrannu yn ogystal at fwynderau, cyflogaeth a diogelwch yr ardal i’r dyfodol.

 

ch)    Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd yr Aelod Lleol y sylwadau canlynol:

·         Derbyn yr angen i osgoi difrod i Lon Tyddyn Agnes dwy leihau traffig

·         Dim gwrthwynebiad gan yr Uned Trafnidiaeth er bod sawl gwrthwynebiad gan drigolion lleol am y cynnydd mewn cerbydau trwm

·         Bod hawl cynllunio eisoes wedi ei ganiatáu ac felly cynnydd mewn cerbydau yn anochel

·         Byddai mantais gyfreithiol ac amgylcheddol o gau’r tyllau yn y lon

·         Bod creu trac 15m ychwanegol ar dir amaeth yr ymgeisydd yn gwneud synnwyr er derbyn pryderon trigolion Tyddyn Agnes - damwain ddifrïol wedi bod ar y lon gyda chymydog yn dioddef anafiadau newid bywyd

·         Y lon yn un boblogaidd gyda cherddwyr, beicwyr, plant yn cerdded i’r ysgol

·         Bod corneli dall a gwelededd gwael i’r lon

·         Awgrym ystyried amodau o beidio gyrru lorïau ar amser teithio dol ac ymlaen i’r ysgol ynghyd a gosod man pasio. Awgrym i’r Uned Trafnidiaeth gyfarfod gyda’r Aelod Lleol i ystyried amodau rheoli traffig

·         Nad oes arwyddion rhybudd parhaol ar y lon - angen arwyddion o ystyried bod defnydd loriau a thractorau parhaus yma

·         Pwysig canfod balans rhwng defnyddwyr, cymdogion a busnes

·         Bod gan Cyngor Gwynedd ddyletswydd i sicrhau diogelwch trigolion

·         Gobaith dod i gytundeb – dim eisiau gweld damwain arall

 

d)      Cynigwyd ac eiliwyd caniatáu’r cais

 

e)      Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan aelodau:

·         Dadleu maiamaethyddolyw’r safle - ymdebyga i chwarel

·         Bod y safle yn un gwlediglonydd a’u hymylon yn cael eu dinistrio

·         Bod nifer o drigolion lleol yn gwrthwynebu

 

Mewn ymateb i sylw ynglŷn â gweithgareddau’r chwarel, nododd Pennaeth Cynorthwyol Cynllunio ac Amgylchedd bod y gweithgareddau yn cael eu gweithredu yn unol â gofynion cyfreithiol gyda’r defnydd yn bodoli yn barod yn unol â rheoliadau. Diben y stribyn tir yw gwella diogelwch defnyddwyr gan dynnu cerbydau oddi ar y ffordd. Ategwyd nad oedd gan yr Uned Drafnidiaeth wrthwynebiad i’r cais ac nad oedd sail gan yr Uned Iechyd a Diogelwch i wrthod oherwydd bod defnydd y chwarel eisoes yn gyfreithiol.

 

Mewn ymateb i sylw ynglŷn â chynnydd mewn maint loriau yn hytrach na’r nifer, nodwyd nad oedd modd rheoli nifer cerbydau drwy’r drefn cynllunio ond derbyn ei bod yn hanfodol bod cyfathrebu clir ynghylch natur y defnydd a’r amserlen. Ategwyd mai cyfrifoldeb yr ymgeisydd yw rheolaeth y busnes ac y dylid cysylltu gyda’r gwasanaeth o unrhyw rybuddion. Awgrymwyd y dylid rhannu’r wybodaeth yma gyda’r Aelod Lleol a’r Uned Trafnidiaeth fel bod modd gwella gohebiaeth ac arwyddion. Nodwyd, yn syml, mai ymdrech oedd yma i resymoli a symud cerbydau oddi ar ddarn o dir sydd yn dirywio - hawl dros dro sydd i’r gwaith - daw i ben pan fydd y gwaith wedi ei gwblhau.

 

Ategodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol pe bai dirywiad yng nghyflwr y lon mai mater i’r Uned Drafnidiaeth fyddai ei atgyweirio.

 

PENDERFYNWYD: Caniatáu’r cais yn ddarostyngedig i’r amodau isod: -

 

1.    5 mlynedd.

2.    Yn unol â’r manylion a gyflwynwyd gyda’r cais.

3.    Cyflwyno cynllun plannu coed i’w ganiatáu’n ysgrifenedig gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol.

4.    Cwblhau’r datblygiad yn unol gydag argymhellion yr adroddiad ecolegol.

 

Nodyn parthed yr angen i dderbyn caniatâd yr Uned Drafnidiaeth i ymgymryd â gwaith o fewn y briffordd.

 

Nodyn parthed y cyngor a gyflwynwyd gan Uned Dwr ac Amgylchedd y Cyngor.

 

 

Dogfennau ategol: