skip to main content

Agenda item

Cais ar gyfer codi byngalo dormer, lledu'r fynedfa bresennol ynghyd a darparu llecynnau parcio (ail-gyflwyniad o gais a wrthodwyd o dan cyfeirnod C21/1140/15/LL)

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Kim Jones

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Caniatáu gydag amodau

 

1. 5 mlynedd. 

2. Unol â chynlluniau a gyflwynwyd.

3. Tynnu hawliau a ganiateir.

4. Llechi a deunyddiau.

5. Cwblhau'r parcio cyn meddiannu

6. Amodau draenio tir

7. Enw Cymraeg i’r tŷ

 

Cofnod:

Cais ar gyfer codi byngalo dormer, lledu'r fynedfa bresennol ynghyd a darparu llecynnau parcio (ail-gyflwyniad o gais a wrthodwyd o dan gyfeirnod C21/1140/15/LL

 

Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr

 

a)    Amlygodd y Swyddog Rheolaeth Datblygu mai cais llawn ydoedd ar gyfer codi tŷ deulawr newydd yng ngardd cefn eiddo a adnabyddir fel Y Berllan sydd wedi ei leoli yng nghanol pentref Llanberis. Nodwyd bod y cais yn ail-gyflwyniad o gais cyffelyb a wrthodwyd yn Ionawr, 2022 a bod y cais diweddaraf yma wedi ei alw i mewn gan yr Aelod Lleol oedd yn nodi bod y bwriad diwygiedig, erbyn hyn, yn dderbyniol ar sail risg llifogydd a dyluniad.

Nododd y Swyddog, er y byddai’r cais yn dderbyniol ar sail capasiti a’i fod wedi ei leoli o fewn y ffin datblygu, ystyriwyd bod angen cydymffurfio gyda pholisïau eraill perthnasol o fewn y CDLL -  gofynion Polisi PCYFF 1 (ffiniau datblygu) ynghyd a gofynion Polisi PCYFF 2 (meini prawf datblygu).

 

Ystyriwyd y byddai codi tŷ newydd 5.9m o uchder, 5m i ffwrdd o'r annedd bresennol yn creu strwythur gormesol ar draul mwynderau deiliaid Y Berllan gan greu awyrgylch clawstroffobia. Yn ogystal byddai lleoli annedd newydd yn gyfagos i'r annedd bresennol yn tanseilio mwynderau deiliaid Y Berllan ar sail aflonyddwch sŵn fyddai'n deillio o weithgareddau sy'n gysylltiedig â bywyd modern a chyfoes ynghyd a symudiadau cerbydau i mewn ac allan o'r safle sydd yn rhannu'r un fynedfa. Yn ogystal, byddai ei osodiad cyfochrog a'r Berllan ynghyd a maint y tŷ yn creu strwythur anghydnaws a lletchwith ei gymeriad ar draul mwynderau gweledol ac felly, er yn gais diwygiedig, yn parhau i fod yn annerbyniol.

 

Wedi ystyried yr holl sylwadau a dderbyniwyd gan drigolion lleol, ymgynghorwyr statudol ac ymateb yr ymgeisydd i bryderon blaenorol risg llifogydd y bwriad, roedd yr Awdurdod Cynllunio Lleol yn nodi y byddai’r bwriad diweddaraf  yn amharu’n andwyol ar fwynderau preswyl a chyffredinol deiliaid cyfagos a mwynderau gweledol y strydlun. Argymhelliad y swyddogion oedd gwrthod y cais.

 

b)    Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd yr ymgeisydd y sylwadau canlynol:

·         Cais ydoedd i adeiladu byngalo bach dwy loft i’w mab a hithau fyw ynddo - dim i’w werthu nac i’w osod fel Airbnb. 

·         Yn enedigol o’r pentref gyda’i meibion a’i hwyrion hefyd yn byw yn y pentref -  ei mab a’i wraig yn dibynnu arni i fynd a’r wyrion i’r ysgol bob bore cyn mynd i’w gwaith

·         Y bwriad yw adeiladu yng ngardd Y Berllan (cartref ei rhieni). Y Berllan yn cael ei werthu gyda phwy bynnag fydd yn ei brynu yn ymwybodol, os yn llwyddiannus, bod caniatâd cynllunio yn yr ardd gefn. 

·         Bod digonedd o le yn ffrynt Y Berllan a digon o le yn y cefn i barcio 3-4 o geir a lle i droi rownd.

·         Cais am fyngalo bach yw’r bwriad ac nid creu “strwythur ymwthiol fel sydd yn cael ei ddatgan gan y swyddogion. Y cynllun yn debyg iawn i’r byngalo sydd eisoes mewn bodolaeth.

·         Ni fydd y bwriad yn creu  aflonyddwch sŵn gan mai dim ond 1 cerbyd a 2 berson fydd yn byw yn y tŷ.

·         Bod lleoliad Y Berllan ar waelod Ffordd Capel Coch  -  ni fydd yn creu mwy o sŵn na thraffig fel sydd yn cael ei ensynio - mwy o sŵn a thraffig yn cael ei greu gan y pum safle Airbnb sydd yn y stryd yn barod. Un bwthyn yn Stryd Ceunant i fyny’r ffordd wedi cael estyniad dwy ochr ac wedi ei rannu’n ddau safle Airbnb -  siawns bod hwn yn creu mwy o sŵn a thraffig yn y stryd! 

·         Ei bod wedi ymateb i ofynion y Swyddog Cynllunio

·         Nid oes modd prynu tŷ yn Llanberis oherwydd prisiau tai yn yr ardal, ond bod modd adeiladu byngalo bach - bydd hyn yn rhatach gan fod oedran yn ei herbyn  i gael morgais.

·         Nid yw’r Cyngor Cymuned na’r cymdogion wedi gwrthwynebu’r cais.  Erfyn ar y Pwyllgor i ganiatáu y cais - rhoi sylw i ystyriaethau cadw’r iaith Gymraeg yn fyw a chadw pobl leol yn eu pentrefi.

 

c)    Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd yr Aelod Lleol y sylwadau canlynol:

·         Nad oedd gwrthwynebiad gan Cyngor Cymuned na chymdogion

·         Bod yr ymgeisydd eisiau aros yn Llanberis

·         Na fydd parcio yn amharu ar eraill – bod lle parcio ar y safle

·         Y dyluniad yn gweddu

·         Un byngalo sydd yma – dim effaith – dim sŵn – Airbnb yn cael mwy o effaith

·         Coed tal aeddfed ar y safle – dim goredrych

·         Stad newydd yn y pentref gyda phrisiau uchel

·         Yr iaith Gymraeg yn dirywio yn y pentref – angen cadw gafael

 

d)    Cynigiwyd  ac eiliwyd caniatáu y cais yn groes i’r argymhelliad, gan nodi bod y cais yn cydymffurfio gyda Polisi Cyff 3 - y dyluniad ac edrychiad yn dderbyniol ac na fyddai’n cael effaith ar fwynderau trigolion cyfagos.

 

e)    Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan aelodau:

·         Bod y safle o fewn ffin datblygu'r pentref

·         Angen cadw pobl leol yn lleol

 

PENDERFYNWYD: Caniatáu gydag amodau

 

1. 5 mlynedd. 

2. Unol â chynlluniau a gyflwynwyd.

3. Tynnu hawliau a ganiateir.

4. Llechi a deunyddiau.

5. Cwblhau'r parcio cyn meddiannu

6. Amodau draenio tir

7. Enw Cymraeg i’r tŷ

 

Dogfennau ategol: