Agenda item

Adeiladu ty newydd a llecynnau parcio

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Dafydd Davies

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Gohirio er mwyn cynnal ymweliad safle

 

Cofnod:

Adeiladu tŷ newydd a llecynnau parcio

 

Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr

 

a)    Amlygodd y Swyddog Rheolaeth Datblygu mai cais llawn ydoedd i godi tŷ deulawr ar lain o dir ger Pen Lôn, o flaen anheddau a adnabyddir fel Y Ficerdy a Clynnog House gydag annedd preswyl Tŷ Isaf a Court Cottages at gefn y safle o fewn ardal breswyl a ffin datblygu Clynnog Fawr. Ceir hefyd yma fynediad cefn at Eglwys Beuno Sant sydd hefyd yn cael ei ddefnyddio gan y pum tŷ presennol cyfagos. Nodwyd bod y safle wedi ei leoli yn union gerllaw Adeiladau Rhestredig, wedi lleoli o fewn yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) a hefyd o fewn Ardal Cadwraeth.

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio ar gais gan yr aelod lleol.

 

Cafodd cais blaenorol ei gyflwyno i’r Pwyllgor Cynllunio ym Medi 2021, lle penderfynwyd gohirio’r cais er mwyn trafod ffordd ymlaen a chyflwyno cynlluniau diwygiedig. Tynnwyd y cais yn ôl a chyflwynwyd y cais presennol gyda’r unig newidiadau yn cynnwys dwy ffenestr gromen yn y to ar yr edrychiad Gorllewinol.

 

 

Wedi ystyried yr holl faterion perthnasol gan gynnwys polisïau a chanllawiau lleol a chenedlaethol a’r sylwadau a dderbyniwyd, amlygwyd na ellid argymell caniatáu’r cais oherwydd y methiant i fodloni gofynion polisïau TAI y CDLL sy’n ymwneud ag addasrwydd y datblygiad i gydymffurfio â chymeriad yr anheddle ar ran ei faint a graddfa a bod angen amddiffyn y llecyn agored rhag gor-ddatblygiad er mwyn diogelu edrychiad a chymeriad yr ardal cadwraeth leol.   

 

b)     Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd gwrthwynebydd i’r cais y sylwadau canlynol:

·         Bod y cynllun gyda sawl problem

·         Bod y cais yn orddatblygiad mewn ardal cadwraeth

·         Yr ymgeisydd yn parhau i gyflwyno cynlluniau

·         Adeiladau rhestredig o harddwch eithriadol angen eu gwarchod

·         Bod y ffordd fynediad yn un sengl - angen i’r Uned Trafnidiaeth wirio hyn

·         Bod 5 eiddo, mynediad Dŵr Cymru ac Eglwys yma

·         Nad oes cyfeiriad at y cylfert wedi ei wneud

·         Gwagle o 1m yn unig fydd rhwng y bwriad ac eiddo presennol

·         Goredrych ar anheddau cymdogion

·         Nad yw’r ymgeisydd yn byw yn lleol

 

c)       Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd yr ymgeisydd y sylwadau canlynol:

·         Brodor  wedi ei eni a’i fagu yn 25 Llwyn y De, Clynnog Fawr yw’r ymgeisydd a phan yn saith oed symudodd y teulu i Aberdesach. Yn 1999 prynodd eiddo Penlôn yng Nghlynnog Fawr, sef bwythyn bach traddodiadol gyda gardd ar wahân nepell o’r eiddo. Wedi pum mlynedd, ac oherwydd amgylchiadau personol, gwerthwyd  Penlôn yn 2004 ond penderfynwyd dal gafael yn yr ardd gyda bwriad a gobaith o ail ymgartrefu yn y pentref yn y dyfodol gan adeiladu tŷ newydd ar safle a oedd eisoes yn eu meddiant

·         Y safle wedi ei leoli oddi mewn i ffin datblygu’r pentref ac oddi mewn i ardal cadwraeth - Clynnog Fawr ei hun wedi ei leoli o fewn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol

·         Cyfanswm arwynebedd y safle yw oddeutu 175m² gyda bwriad o adeiladu eiddo syml a chryno, dau lawr gydag ychydig o ardd a phosibl. Cyfanswm arwynebedd llawr gwaelod yr eiddo fydd  55m² sydd yn gadel 120m² ar gyfer parcio, gardd a libart o gwmpas yr eiddo

·         Bod polisïau cynllunio yn ganllaw ac wedi cael eu darparu yn ofalus ar gyfer cael eu dehongli - wrth gwrs gall pob person eu dehongli yn wahanol ond serch hynny mae egwyddor sylfaenol y bwriad yn dal i sefyll

·         Prif bryder y swyddog cynllunio yn yr achos yma yw bod y bwriad yn ei dyb ef, oherwydd ei faint a gosodiad, yn groes i bolisïau perthnasol. Mater o farn yw hyn os nad yw’r bwriad yn ychwanegu ac yn gwella cymeriad ac ymddangosiad y safle a hefyd os nad yw’r bwriad yn diogelu nac yn gwella’r gosodiad ac edrychiad ardal cadwraeth

 

ch)   Cynigiwyd  ac eiliwyd caniatáu y cais yn groes i’r argymhelliad - y dyluniad yn gweddu - dim gwrthwynebiad wedi ei dderbyn gan yr Uned Trafnidiaeth na’r AHNE

 

d)            Mewn ymateb i’r cynnig, amlygodd Pennaeth Cynorthwyol Cynllunio ac Amgylchedd bod angen ystyried y lleoliad fel un sensitif, yn un o dan reolaeth cadwraeth gydag adeiladau rhestredig o’i gwmpas. Ategodd bod dyluniad y bwriad yn un fyddai yn gyffredinol i’w weld mewn stad o dai ac nad yw yn parchu cymeriad sensitif yr ardal yma.

 

e)            Cynigiwyd ac eiliwyd gwelliant i gynnal ymweliad safle

 

PENDERFYNWYD: Gohirio er mwyn cynnal ymweliad safle

 

 

Dogfennau ategol: