Agenda item

Lleoli 5 pod pren ar gyfer gwersylla tymhorol, codi uned gawod / toiledau, gosod gwaith trin carthion domestig a gwaith tirlunio.

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Anwen J Davies

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Caniatáu’r cais yn ddarostyngedig i'r amodau canlynol:

           

  1. Cychwyn o fewn 5 mlynedd.
  2. Unol â chynlluniau a gyflwynwyd.
  3. Dim defnyddio'r fynedfa i'r gogledd sy'n cysylltu'n uniongyrchol gyda'r A497 o gwbl at ddibenion y busnes
  4. Nifer o unedau ar y safle ar unrhyw un adeg ar y safle hwn i’w cyfyngu i 5
  5. Cyfyngu tymor i rhwng 1 Mawrth a 31 Hydref.
  6. Defnydd gwyliau yn unig.
  7. Cadw cofrestr o ddefnyddwyr
  8. Dim cadw'r  unedau ar y safle y tu allan i'r tymor
  9. Yr holl arwyddion mewnol ac allanol i fod yn Gymraeg yn unig neu yn ddwyieithog gyda’r flaenoriaeth i’r iaith Gymraeg.
  10. Rhaid dilyn argymhellion yr Asesiad Ecolegol Cychwynnol
  11. Rhaid cyflwyno Cynllun Atal Llygredd fydd yn cynnwys manylion ar gyfer monitro ansawdd y dŵr a ollyngir i ffosydd

 

Nodyn - Gwasanaeth Tân, Cyfoeth Naturiol Cymru, Uned Draenio Tir

 

Cofnod:

Lleoli 5 pod pren ar gyfer gwersylla tymhorol, codi uned gawod / toiledau, gosod gwaith trin carthion domestig a gwaith tirlunio

 

a)      Amlygodd y Rheolwr Cynllunio mai cais ydoedd ar gyfer lleoli 5 pod pren ar gyfer gwersylla tymhorol ar lain o dir coediog ger Boduan. Byddai’r gwaith yn cynnwys codi adeilad ar gyfer cawodydd / toiledau, gosod gwaith trin carthion a gwaith tirlunio. Amlygwyd bod y cais wedi ei gyflwyno i bwyllgor 22 Tachwedd, 2021 a 21 Mawrth 2022 pryd y gohiriwyd gwneud penderfyniad ar gais yr ymgeiswyr er mwyn caniatáu iddynt ddarparu rhagor o wybodaeth i gefnogi eu cynnig. Adroddwyd bod y wybodaeth isod bellach wedi ei ychwanegu at y cais.

     Cynlluniau safle diwygiedig gan gynnwys cynlluniau o fynedfa amgen

     Asesiad ecolegol cychwynnol

     Arolwg ansawdd coed

     Cynllun diogelu coed

 

Mynegwyd bod Polisi TWR 5 yn datgan y dylai safleoedd ar gyfer llety gwersylla amgen dros dro a’r polisi yn gosod cyfres o feini prawf ar gyfer caniatáu datblygiadau o’r fath.  Adroddwyd bod maen prawf 1 polisi TWR 5 yn datgan y dylai unrhyw ddatblygiad arfaethedig fod o ansawdd uchel o ran dyluniad, gosodiad ac edrychiad ac y dylai fod wedi’i guddio’n dda gan nodweddion presennol y dirwedd a / neu mewn lle gellir cydweddu’r unedau teithiol yn hawdd i’r dirwedd mewn modd nad yw’n peri niwed sylweddol i’w hansawdd weledol. 

 

Ystyriwyd bod y bwriad arfaethedig wedi ei leoli mewn safle oedd yn guddiedig o’r rhan fwyaf o welfannau cyhoeddus ac yn safle sydd eisoes wedi ei blannu gydag oddeutu 1000 o goed gyda bwriad o reoli’r coed trwy frysgoedio (coppicing). Ategwyd nad oedd y safle o fewn yr AHNE ond fe saif o fewn yr Ardal Tirwedd Arbennig. Oherwydd ffurfiant y tir a natur goediog y safle, ni ystyriwyd y byddai’r datblygiad yn achosi niwed arwyddocaol i ansawdd y tirweddau dynodedig

 

Ystyriwyd bod y cynnig yn cwrdd gyda’r anghenion ar gyfer datblygu safle gwersylla tymhorol newydd fel y’i nodir ym Mholisi TWR 5 y CDLl ac o osod amodau priodol yn sicrhau na ddefnyddir y fynedfa briffordd tua'r gogledd (i'r A497) o gwbl at ddibenion y busnes ynghyd a chamau lliniaru ar gyfer amddiffyn rhag llygredd a diogelu bioamrywiaeth,  y byddai'r datblygiad yn cwrdd gyda gofynion polisïau perthnasol y CDLl.

 

a)     Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd yr ymgeisydd y sylwadau canlynol:

·         Cais ydoedd i gael maes gwersylla bach o 5 pod gwersylla wedi'u lleoli mewn coedwig hardd yng nghefn y tŷ.

·         Bod yr holl adroddiadau bioamrywiaeth bellach wedi cadarnhau bod y coed sydd angen eu dymchwel yn rhai sydd ag afiechyd. Nad oedd bwriad clirio coed ar gyfer y prosiect, dim ond bod angen iddynt ddod i lawr gan eu bod yn beryglus

·         Wedi ystyried pod gwersylla amgen yn hytrach na strwythur pren. Bydd yn haws i’w symud pan fydd angen ei storio ar ddiwedd y tymor.

·         Bod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cymeradwyo’r system trin carthion fyddai’n welliant aruthrol i’r system tanciau septig sydd yno ar hyn o bryd.

·         Bod hawl mynediad dros y cae yng nghefn y tŷ  - hwn gyda hawl tramwy cyfreithiol a’r ffordd wreiddiol i fferm Nant. Bydd modd dargyfeirio traffig y ffordd honno a pharcio wrth y giât. Byddai hyn yn osgoi traffig o ffordd Pwllheli Nefyn.

·         Bod effaith ar lygredd sŵn a golau a lles yr ystlumod wedi ei ystyried

·         Bwriad gwarchod a gofalu am yr amgylchoedd hardd sydd yn y Nant - byddai’r safle yn cynnig profiad cadarnhaol i'r sector twristiaeth ym Mhenrhyn Llŷn

 

 

c)    Cynigiwyd  ac eiliwyd caniatáu y cais

 

ch)  Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylw canlynol gan aelod:

·         Bod creu trac o’r newydd yn ei hun yn creu llygredd

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â bod y safle yn ‘bell o wasanaethau’, nodwyd bod y safle yn agos at y brif rwydwaith ffyrdd a bod bysiau yn cynnig opsiwn cludiant cyhoeddus i’r safle. Y bwriad yn cwrdd â gofynion y polisi.

 

PENDERFYNWYD: Caniatáu’r cais yn ddarostyngedig i'r amodau canlynol:

     

1.   Cychwyn o fewn 5 mlynedd.

2.   Unol â chynlluniau a gyflwynwyd.

3.   Dim defnyddio'r fynedfa i'r gogledd sy'n cysylltu'n uniongyrchol gyda'r A497 o gwbl at ddibenion y busnes

4.   Nifer o unedau ar y safle ar unrhyw un adeg ar y safle hwn i’w cyfyngu i 5

5.   Cyfyngu tymor i rhwng 1 Mawrth a 31 Hydref.

6.   Defnydd gwyliau yn unig.

7.   Cadw cofrestr o ddefnyddwyr

8.   Dim cadw'r  unedau ar y safle y tu allan i'r tymor

9.   Yr holl arwyddion mewnol ac allanol i fod yn Gymraeg yn unig neu yn ddwyieithog gyda’r flaenoriaeth i’r iaith Gymraeg.

10. Rhaid dilyn argymhellion yr Asesiad Ecolegol Cychwynnol

11. Rhaid cyflwyno Cynllun Atal Llygredd fydd yn cynnwys manylion ar gyfer monitro ansawdd y dŵr a ollyngir i ffosydd

 

Nodyn - Gwasanaeth Tân, Cyfoeth Naturiol Cymru, Uned Draenio Tir

 

 

 

 

Dogfennau ategol: