Agenda item

Cais llawn i newid defnydd tir amaethyddol er mwyn creu safle carafanau ar gyfer 32 llain, codi adeilad newydd i gynnwys cawodydd/toiledau, holl lleiniau caled cysylltiedig, ail wynebu a mynediad

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Gareth Morris Jones

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Caniatáu gydag amodau

 

  1. 5 mlynedd. 
  2.  Unol â chynlluniau a gyflwynwyd.
  3. Nifer o unedau.
  4. Cadw cofrestr a defnydd gwyliau yn unig.
  5. Cyfyngu tymor i rhwng 1 Mawrth a 31 Hydref.
  6. Dim cadw'r  unedau ar y safle y tu allan i'r tymor
  7. Yr holl arwyddion mewnol ac allanol i fod yn Gymraeg yn unig neu yn ddwyieithog gyda’r flaenoriaeth i’r iaith Gymraeg.
  8. Rhaid dilyn argymhellion yr Asesiad Ecolegol Cychwynnol
  9. Tirweddu
  10. Deunyddiau a gorffeniadau'r bloc amwynder

 

Cofnod:

Cais llawn i newid defnydd tir amaethyddol er mwyn creu safle carafanau ar gyfer 32 llain, codi adeilad newydd i gynnwys cawodydd/toiledau, holl leiniau caled cysylltiedig, ail wynebu a mynediad

 

 

a)    Cyflwynodd y Pennaeth Cynorthwyol Amgylchedd ei adroddiad yn dilyn cyfeirio penderfyniad Pwyllgor 13/06/22 i gyfnod o gnoi cil. 

 

Amlygwyd y risgiau i’r Cyngor o ganiatáu’r cais ynghyd ag opsiynau i’r Pwyllgor. Roedd y swyddogion yn nodi’n glir fod rhinweddau’r cais wedi cael eu hasesu yn drylwyr gan swyddogion y Cyngor oedd yn argymell yn gadarn fod y cais yn cael ei wrthod gan nad oedd y bwriad yn cydymffurfio gyda gofynion polisïau mabwysiedig Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn, canllawiau lleol a chenedlaethol a pholisïau cynllunio cenedlaethol na’r Cynllun Rheoli AHNE.

 

Nodwyd, er y byddai’n debygol y gall peth tirlunio ychwanegol gyfrannu at gysgodi’r safle i raddau dros amser, ni ystyriwyd fod y bwriad yn dderbyniol gan fod caniatáu datblygiadau newydd o fewn dynodiadau wedi eu gwarchod fel yr AHNE, yn gwbl groes i egwyddorion cynllunio lleol a chenedlaethol a hefyd cynllun rheoli'r AHNE. Hyd yn oed o geisio cyfiawnhau'r datblygiad o safbwynt materion economaidd, mae’r polisïau a’r arweiniad yn glir yn nodi’r angen i warchod tirlun o werth cenedlaethol fel a geir yma rhag datblygiadau pellach fyddai’n effeithio ar fwynderau gweledol yr ardal.

 

b)    Roedd yr Aelod Lleol, y Cynghorydd Gareth Tudor Jones, wedi ymddiheuro nad oedd yn gallu bod yn bresennol. Darllenodd y Cadeirydd ei sylwadau:       

·         Wedi defnyddio’r cyfnod ‘cnoi cil’ i ail edrych, i ail ystyried ac i ail ddarllen yr holl ddogfennaeth oedd ynghlwm â’r cais.

·         Wedi pwyso a mesur yn ofalus y dadleuon o blaid ac yn erbyn ei fod yn gwbl dawel ei feddwl y dylid caniatau’r cais a’i fod yn cefnogi barn y gymuned leol.

·         Cymdogion agosaf yn gwbl gefnogol i’r cais a’r gymuned leol hefyd yn unfrydol o blaid maes carafanau. Felly hefyd Cyngor Cymuned Tudweiliog.

·         Bod 317 o bobl wedi arwyddo deiseb gan gynnwys perchnogion y Post a’r Lion yn Nhudweiliog sy’n gweld budd i’r economi leol. (Ni chrybwyllir cymaint yw maint y ddeiseb yn yr adroddiad).

·         Does dim un llais yn gwrthwynebu ac mae hynny yn beth anarferol iawn y dyddiau hyn gyda cheisiadau cynllunio

·         O safbwynt mater allweddol gwarchod yr amgylchedd, y dirwedd a’r tirlun, mae ‘Cyfoeth Naturiol Cymru’ a swyddogion ‘AHNE’ yn fodlon cefnogi’r cais ar yr amod y caiff y carafanau eu cuddio gyda chloddiau pridd a gwrychoedd hyd y terfynau.

·         Bod teulu Tyddyn Isaf fel perchnogion cyfrifol wedi dangos eu hymrwymiad diwyro a chlir i wella’r amgylchedd trwy dalu am arbenigwr tirlunio rhyngwladol i forol y bydd y safle wedi’i dirlunio yn effeithiol. Mae’n dirwedd heriol ond bod posib tyfu coed a gwrychoedd mewn byr o dro a sicrhau na fydd y datblygiad yn cael effaith niweidiol ar fwynderau gweledol yr AHNE

·         Yn pwyso ar y Pwyllgor i ganiatau y cais. Ar adeg anodd o gynnydd mewn costau byw a’r economi wledig yn gwegian, dyma gyfle i roi dyfodol gwell i deulu lleol o 5 fel y gallant aros yn Nhudweiliog a chyfrannu i’w cymuned.

 

c)    Cynigiwyd ac eiliwyd caniatáu y cais yn groes i’r argymhelliad gan nodi bod angen i’r ymgeisydd gydymffurfio gyda’r Cynllun Tirweddu

 

PENDERFYNWYD: Caniatáu gydag amodau

 

1.         5 mlynedd. 

2.         Unol â chynlluniau a gyflwynwyd.

3.         Nifer o unedau.

4.         Cadw cofrestr a defnydd gwyliau yn unig.

5.         Cyfyngu tymor i rhwng 1 Mawrth a 31 Hydref.

6.         Dim cadw'r  unedau ar y safle y tu allan i'r tymor

7.         Yr holl arwyddion mewnol ac allanol i fod yn Gymraeg yn unig neu yn ddwyieithog gyda’r flaenoriaeth i’r iaith Gymraeg.

8.         Rhaid dilyn argymhellion yr Asesiad Ecolegol Cychwynnol

9.         Tirweddu

10.       Deunyddiau a gorffeniadau'r bloc amwynder

 

 

Dogfennau ategol: