Agenda item

Ymestyn safle carafanau teithiol presennol i dir gerllaw trwy greu mynediad newydd o'r safle gwersylla presennol, symud lleoliad un garafán deithiol ac ychwanegu 8 carafán deithiol newydd.

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Anwen Davies

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Gwrthod – rhesymau

 

  1. Ni fyddai'r datblygiad hwn wedi ei leoli o mewn lleoliad anymwthiol sydd wedi'i guddio'n dda gan nodweddion presennol y dirwedd, fe fyddai’n niweidiol i ansawdd y dirwedd ac ni fyddai’n integreiddio'n briodol gyda’i leoliad mewn cefn gwlad agored. Ni fyddai'r bwriad ychwaith yn ychwanegu at gynnal, gwella neu adfer cymeriad cydnabyddedig yr Ardal Tirwedd Arbennig. Fe ystyrir felly fod y bwriad yn groes i ofynion Polisïau TWR 5, PCYFF 4 ac AMG 2 Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn

 

Cofnod:

Ymestyn safle carafanau teithiol presennol i dir gerllaw trwy greu mynediad newydd o'r safle gwersylla presennol, symud lleoliad un garafán deithiol ac ychwanegu 8 carafán deithiol newydd.

 

Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr

 

a)    Amlygodd y Swyddog Rheolaeth Datblygu bod y cais yn ymwneud ag ymestyn safle gwersylla presennol i dir amaethyddol cyfochrog sydd wedi ei leoli yng nghefn gwlad agored ac o fewn Ardal Tirwedd Arbennig.  Bwriedir creu llecynnau ychwanegol ar gyfer 8 carafán deithiol ynghyd a ffordd gyswllt fewnol newydd a llecyn ar gyfer adleoli un garafán deithiol o’r safle presennol. 

 

Eglurwyd bod y cais yn ddiwygiad o gais ar gyfer 8 pod ychwanegol ar yr un safle a wrthodwyd ar 22/07/2019 (cais rhif C19/0090/33/LL) Cyflwynwyd y cais i Bwyllgor gan fod y safle o fewn perchnogaeth Aelod o’r Cyngor.

 

Mynegwyd bod Polisi TWR 5 yn datgan y dylai unrhyw ddatblygiad carafanau teithiol newydd fod o ansawdd uchel o ran dyluniad, gosodiad ac edrychiad a’i fod wedi’i guddio’n dda gan nodweddion presennol y dirwedd a / neu mewn lle gellid cydweddu’r unedau teithiol yn hawdd i’r dirwedd mewn modd nad yw’n peri niwed sylweddol i’w hansawdd weledol.  Amlygwyd bod tir y cais ar lefel uwch na’r safle carafanau teithiol presennol ac er y bwriedir cloddio lawr tua 1m yn y cae er mwyn lleoli’r carafanau ar y tir, byddai rhan uchaf y carafanau’n parhau yn weladwy yn y dirwedd. Ni fyddai’r gwaith tir a’r plannu yn debygol o fod yn ddigonol i guddio’r carafanau am rai blynyddoedd, os o gwbl. Byddai datblygiad o’r natur a’r raddfa hwn felly yn debygol o sefyll allan yn ymwthiol yn y tirlun gan achosi niwed arwyddocaol i ansawdd gweledol y dirwedd.

 

Wrth gydnabod y pwyntiau a wnaed gan yr ymgeisydd a gyflwynwyd yn y wybodaeth ychwanegol, nid ydynt yn newid y ffaith bod y safle yn weledol yn y dirwedd a byddai’r estyniad sydd dan sylw ar lefel uwch na’r safle carafanau teithiol presennol ar y fferm.  Ni ystyriwyd y byddai'r estyniad i'r safle wedi’i guddio’n dda gan nodweddion presennol y dirwedd ac ni ystyriwyd y byddai’r bwriad yn integreiddio yn dda gyda’r hyn sydd o’i amgylch. O ganlyniad,  ystyriwyd y byddai’r bwriad yn gwneud dim i gynnal, gwella neu adfer cymeriad cydnabyddedig yr Ardal Tirwedd Arbennig a bod y bwriad felly yn groes i ofynion Polisi TWR 5, PCYFF 4 ac AMG 2 CDLL.

 

b) Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd asiant yr ymgeisydd y sylwadau canlynol:

·         Bod y fferm yn fferm teulu chwe chenhedlaeth

·         Bod rhaid ystyried arall gyfeirio

·         Y teulu wedi sefydlu parc bychan a thaclus

·         Bwriad yw ymestyn y ddarpariaeth ac nid creu parc o’r newydd

·         Bod cyfeiriad yn yr adroddiad am y bwriad o ostwng lefel y tir, ond dim cydnabyddiaeth y bydd y cloddiau yn uwch

 

c)    Cynigwyd ac eiliwyd gwrthod y cais

 

PENDERFYNWYD: Gwrthod – rheswm

 

1.         Ni fyddai'r datblygiad hwn wedi ei leoli o mewn lleoliad anymwthiol sydd wedi'i guddio'n dda gan nodweddion presennol y dirwedd, fe fyddai’n niweidiol i ansawdd y dirwedd ac ni fyddai’n integreiddio'n briodol gyda’i leoliad mewn cefn gwlad agored. Ni fyddai'r bwriad ychwaith yn ychwanegu at gynnal, gwella neu adfer cymeriad cydnabyddedig yr Ardal Tirwedd Arbennig. Fe ystyrir felly fod y bwriad yn groes i ofynion Polisïau TWR 5, PCYFF 4 ac AMG 2 Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn.

 

Dogfennau ategol: