Agenda item

Cais i godi adeilad i storio dodrefn ardd ynghyd â chodi adeilad cyfagos i arddangos a gwerthu dodrefn, ardal storio agored ac estyniad i'r faes parcio cwsmeriaid presennol

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Cai Larsen

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Gohirio er mwyn cynnal ymweliad safle

 

Cofnod:

Cais i godi adeilad i storio dodrefn ardd ynghyd â chodi adeilad cyfagos i arddangos a gwerthu dodrefn, ardal storio agored ac estyniad i'r maes parcio cwsmeriaid presennol

 

Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr

 

a)            Amlygodd y Rheolwr Cynllunio mai cais llawn ydoedd ar gyfer ymestyn canolfan arddio Fron Goch drwy godi adeilad i storio dodrefn ardd ynghyd a gofod cyfagos i arddangos a gwerthu dodrefn, ardal storio agored. Byddai'r adeilad yn mesur 46.2 medr o hyd (yn ei fan hiraf), 22.7 medr o led a 7.8 medr i ran uchaf y to yn gwneud cyfanswm o 977 medr sgwâr. Bwriedir hefyd ymestyn y lle parcio ceir cwsmeriaid presennol ynghyd a chreu ardal storio yn mesur 1452 medr sgwâr a leolir rhwng yr adeilad bwriededig a therfyn newydd de orllewinol y safle.

 

Gan fod defnydd manwerthu yn bodoli eisoes ar y safle awgrymwyd y dylid ystyried egwyddor y bwriad yn erbyn Polisi MAN6 (Manwerthu yng nghefn gwlad). Yn unol â pholisi MAN6, caniateir cynigion ar gyfer siopau ar raddfa fechan ac estyniadau i siopau presennol sydd tu allan i’r ffin datblygu, cyn belled fod y bwriad yn cydymffurfio gyda meini prawf y polisi. Amlinellir yn y maen prawf cyntaf y dylai’r  bwriad fod yn elfen israddol o fusnes presennol ar y safle. Datgan yr eglurhad i Bolisi MAN 6 mai’r lleoliad mwyaf addas i siopau yw o fewn ffiniau aneddiadau trefi a phentrefi. Fodd bynnag, gall siopau ar raddfa fechan sy’n cael eu rhedeg ar y cyd a busnes sydd eisoes ar y safle yn debygol o ddarparu gwasanaeth a chyflogaeth ddefnyddiol i gymuned wledig.

 

Wedi pwyso a mesur y bwriad yng nghyd-destun y polisïau perthnasol ni ystyriwyd bod y bwriad yn dderbyniol i’w ganiatáu oherwydd bod lleoliad, dwysedd, y cynnydd mewn maint yn afresymol ac y byddai'r bwriad yn cael effaith negyddol sylweddol ar edrychiad a chymeriad yr ardal sydd yn groes i sawl polisi. Yn ychwanegol nid yw’n glir os yw’r effaith ar fioamrywiaeth a’r amgylchedd naturiol yn dderbyniol ac  ni ystyriwyd fod cyfiawnhad am y golled o dir amaethyddol fyddai’n deillio o’r bwriad.

 

Wedi rhoi ystyriaeth lawn i’r holl faterion cynllunio perthnasol ni ystyriwyd fod y bwriad yn cyfarfod amcanion polisïau cynllunio.

 

b)            Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd yr ymgeisydd y sylwadau canlynol:

·         Nad oedd bwriad diddymu coed – coed onnen gydag afiechyd fyddai’r unig rai fydd yn cael eu dymchwel gyda bwriad i blannu a thyfu mwy.

·         Y bwriad yn ymateb i faterion Iechyd a Diogelwch: Nwyddau trwm - llai o gyflenwadau, ond llwythau mwy ac felly angen gwneud mwy o le storio ar eu cyfer a chreu maes parcio ychwanegol i gwsmeriaid

·         Nad oes lle yn y ganolfan ar gyfer storfa ac nid oes modd lleoli storfa yn agosach i’r prif adeilad – ni ddylid ei ystyried fel busnes ar wahân

·         Sefydlwyd y  busnes yn 1981 - wedi blaenoriaethu agweddau cefn gwlad

·         Y busnes bellach yn cyflogi 102 o weithwyr: yn sicrhau cydbwysedd amgylcheddol a chymunedol - yn cyflawni gwaith yn lleol gydag ysgolion, cynghorau lleol ac yn cefnogi prosiectau lleol.

 

c)            Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd yr Aelod Lleol y sylwadau canlynol:

·         Ei fod yn gefnogol i’r cais

·         Bod y busnes yn gynhenid a safonol – yn cael ei reoli yn gyfrifol, yn chwaethus ac yn  boblogaidd yn lleol a chenedlaethol

·         Bod rhaid ymestyn i gystadlu gyda siopau mawr

·         Yn cyflogi yn lleol ac yn gyflogwr arwyddocaol. Angen ystyried y budd economaidd

·         Bod y Gymraeg yn glywadwy ac yn weladwy ar y safle

·         Hyderus y byddai’r ymgeisydd yn ymateb i ofynion gwarchod rhywogaethau coed cynhenid

·         Bod datblygiad sylweddol eisoes ar y safle - methu derbyn y byddai adeilad newydd yn cael effaith ar gefn gwlad a mwynderau trigolion cyfagos

·         O ran trothwy technegol - datblygiad mawr’ - mewn pentref efallai, ond hwn mewn cefn gwlad

·         Angen lle parcio ychwanegol i resymoli gyda gofynion iechyd a diogelwch

·         Colled tir amaethyddol – sylw mai perchnogion y safle sydd yn berchen y tir yma ac nid yw’n cael ei ddefnyddio fel tir amaeth

·         Cynnig caniatáu i ddatblygu’r safle  mewn modd cyfrifol at ddefnydd lleol

·         Cymorth sydd ei angen ar fusnesau ac nid rhwystrau

 

ch)       Cynigiwyd ac eiliwyd cynnal ymweliad safle 

 

PENDERFYNWYD: Cynnal ymweliad safle

 

Dogfennau ategol: