Agenda item

Penderfyniad:

Cofnod:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Amlygodd y byddai'r penderfyniad yn cael ei wneud yn unol â pholisi trwyddedu Cyngor Gwynedd. Nodwyd mai pwrpas y polisi oedd gosod canllawiau ar y meini prawf wrth ystyried cais yr ymgeisydd gyda’r nod o ddiogelu’r cyhoedd drwy sicrhau:

 

       Bod yr unigolyn yn unigolyn addas a phriodol

       Nad yw'r unigolyn yn fygythiad i'r cyhoedd

       Bod y cyhoedd wedi'u diogelu rhag pobl anonest

       Bod plant a phobl ifanc wedi'u diogelu

       Bod pobl ddiamddiffyn wedi'u diogelu

       Bod y cyhoedd yn gallu bod yn hyderus wrth ddefnyddio cerbydau trwyddedig

 

 

Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu adroddiad ysgrifenedig ar gais a dderbyniwyd gan Miss A am drwydded gyrru cerbyd hacni/hurio preifat. Gofynnwyd i’r Is-bwyllgor ystyried y cais yn unol â’r cofnod DBS, y canllawiau ar droseddau a chollfarnau perthnasol ynghyd ag adroddiad Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau. Roedd yr Awdurdod Trwyddedu yn argymell i’r Is-bwyllgor ganiatáu y cais.

 

Gwahoddwyd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar y cais gan roi gwybodaeth am gefndir yr arnodiadau ar y drwydded a’i hamgylchiadau personol. Cyfaddefodd nad oedd wedi cyflwyno manylion ei chyfeiriad newydd i’r Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau nac o hysbysu’r Adran Drwyddedu am droseddau traffig difrifol - nododd ei bod ar y pryd yn symud tŷ ac yn cydnabod yr esgeulustod.

 

PENDERFYNWYD bod yr ymgeisydd yn berson addas a phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat gyda Chyngor Gwynedd.

 

Wrth gyrraedd eu penderfyniad, roedd yr Is-bwyllgor wedi ystyried y canlynol:

·      Gofynion ‘Polisi Trwyddedu ar gyfer Hurio Preifat a Cherbydau Hacni Cyngor Gwynedd’

·      ffurflen gais yr ymgeisydd

·      adroddiad yr Adran Drwyddedu ynghyd a’r datganiad DBS ac adroddiad Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau

·      sylwadau ar lafar ga yr ymgeisydd

·      Canllawiau'r Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau

 

Rhoddwyd ystyriaeth benodol i’r materion canlynol

           

Yn mis Ebrill 2020, derbyniodd yr ymgeisydd chwe phwynt cosb am fethu a rhoi gwybodaeth am hunaniaeth y gyrrwr.

 

Ystyriwyd paragraff 2.2 o Bolisi’r Cyngor lle nodi’r nad oes rheidrwydd i berson sydd â chollfarn am drosedd ddifrifol gael ei wahardd rhag cael trwydded, ond bydd disgwyl iddo fod yn rhydd rhag unrhyw gollfarnau am gyfnod priodol fel y nodir yn y Polisi, a dangos tystiolaeth ei fod yn unigolyn addas a phriodol i ddal trwydded. Mae cyfrifoldeb ar yr ymgeisydd i brofi ei fod yn berson addas a phriodol. Mae paragraff 2.4 yn nodi pan fydd ymgeisydd wedi'i gael yn euog o drosedd(au) neu fod mater arall/materion eraill i'w (h)ystyried yng nghyswllt hynny, ni chaiff y cyngor adolygu rhinweddau'r gollfarn honno na'r mater arall hwnnw.

 

Ystyriwyd paragraff 4.5 sydd yn nodi bod Gorchymyn Deddf Ailsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) (Diwygio) 2002 yn caniatáu’r Is-bwyllgor ystyried pob collfarn, p’run ai ydynt wedi eu treulio o dan Ddeddf 1974 neu beidio.

 

Mae rhan 12 o’r Polisi yn ymwneud â chollfarnau moduro gyda pharagraff 12.2 yn rhestru troseddau traffig difrifol at ddibenion y Polisi. Ymysg y troseddau mae MS90 (methu darparu gwybodaeth am hunaniaeth gyrrwr ac ati). Mae paragraff 12.3 yn nodi y bydd cais yn cael ei wrthod os oes collfarn yn erbyn yr ymgeisydd ac nad yw wedi bod yn rhydd rhag collfarn am 6 mis o leiaf.

 

Daeth yr Is-bwyllgor i gasgliad bod y gollfarn o 2020 yn drosedd traffig difrifol i bwrpas y Polisi. Ystyriwyd methiant yr ymgeisydd i ddatgelu gwybodaeth yn unol â gofynion y drwydded.  Derbyniwyd eglurhad yr ymgeisydd mai diffyg trefn oherwydd ei bod yn symud tŷ oedd y rheswm dros y methiant i ddarparu’r wybodaeth ar y pryd.

 

Roedd yr Is-bwyllgor yn fodlon fod mwy na’r amser a nodir yn y Polisi (6 mis o leiaf) lle dylid gwrthod ceisiadau oherwydd troseddau o’r fath, wedi mynd heibio.

 

Penderfynodd yr Is-bwyllgor o blaid caniatáu y cais.  Penderfynwyd bod yr ymgeisydd yn berson addas a phriodol i ddal trwydded gyrrwr cerbyd hacni a hurio preifat.  Anogwyd yr ymgeisydd i ymddwyn yn gyfrifol a chymryd gofal gan nad oedd y 6 pwynt oedd ar ei thrwydded yn dod i ben hyd Ebrill 2023.

 

Adroddodd y Cyfreithiwr y byddai’r penderfyniad yn cael ei gadarnhau yn ffurfiol drwy lythyr i’r ymgeisydd.