Land and
Seafood Bar, Abersoch Land and Sea, Royal Garage, Abersoch, LL53 7AH
I ystyried
y cais
Penderfyniad:
Cofnod:
1.
CAIS AM DRWYDDED EIDDO –
Land and Seafood Bar, Abersoch Land and Sea, Royal
Garage, Abersoch
Ar
ran yr eiddo: Mr Stephen Cliff (Ymgeisydd), Diane
Robertson ( Gweithiwr Land and
Sea a Phreswylydd Lleol)
Ymatebwyr: Elizabeth Williams (Heddlu
Gogledd Cymru)
Swyddogion Cyngor Gwynedd: Keira Sweeney (Rheolwr Cynllunio), Alun Evans (Rheolwr Gwarchod y
Cyhoedd (Lles, Iechyd a Diogelwch) a Ffion Muscroft (Swyddog Gwarchod y
Cyhoedd)
Einir Wyn (Clerc Cyngor Cymuned Llanengan)
Preswylwyr Lleol: Mr Wyn Williams, Mr Robert
Kennedy, Mrs Margot Jones a Mr Martin Turtle
Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.
Amlygodd y Cadeirydd y byddai gan bob parti hawl i hyd at 5 munud i gyflwyno eu sylwadau
a)
Adroddiad yr Adran
Trwyddedu
Cyflwynwyd
adroddiad y Rheolwr Trwyddedu yn manylu ar gais am drwydded eiddo ar gyfer
bwyty gyda hawl i werthu alcohol a gweini bwyd o fan arlwyo ar lecyn tu allan i
adeilad busnes gwerthu a thrwsio cychod rhwng 11:00 hyd at 21:20, saith diwrnod
yr wythnos ynghyd a hanner awr yn ychwanegol er mwyn rhoi cyfle i gwsmeriaid
orffen a gadael. Adroddwyd na wnaed cais am yr hawl i gynnal adloniant, ond
petai'r drwydded yn cael ei chaniatáu bydda’r ymgeisydd yn gallu manteisio ar
eithriadau Deddf Cerddoriaeth Fyw 2012 i chwarae cerddoriaeth chwyddedig tan
22:00
Nodwyd bod gan Swyddogion yr Awdurdod Trwyddedu tystiolaeth ddigonol bod
y cais wedi ei gyflwyno yn unol â gofynion Deddf Trwyddedu 2003 a’r rheoliadau
perthnasol. Cyfeiriwyd at y mesurau yr oedd yr ymgeisydd yn ei argymell i
hyrwyddo’r amcanion trwyddedu ac amlygwyd y byddai’r mesurau hyn yn cael eu
cynnwys ar y drwydded.
Tynnwyd sylw at yr
ymatebion a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori. Nodwyd bod amryw o
wrthwynebiadau wedi eu derbyn i’r cais mewn perthynas â'r pedwar amcan
trwyddedu - Atal trosedd ac anhrefn, atal niwsans cyhoeddus, sicrhau diogelwch
cyhoeddus a gwarchod plant rhag niwed.
Argymhellwyd i’r
Pwyllgor wrthod y cais yn unol â gofynion Deddf Drwyddedu 2003 ac am y rhesymau
isod yn benodol:
·
Bod y safle agored mewn lleoliad peryglus ar bwys
priffordd a chyffordd brysur, ac ar gwrtil busnes cychod prysur
·
Na fyddai’n bosib i’r ymgeisydd atal y peryglon i
gwsmeriaid ac eraill oherwydd trafnidiaeth ceir a thractorau hefo trelars a
chychod drwy fesurau rheoli oherwydd nad yw'r safle yn ddiogel nac yn addas fel
eiddo trwyddedig.
·
Na fyddai’n bosib rheoli
sŵn o’r lleoliad agored hwn; er gwaethaf y mesurau sydd yn cael eu cynnig
gan yr ymgeisydd.
Wrth ystyried y
cais dilynwyd y drefn ganlynol-:
· Rhoi cyfle i
aelodau’r Is-bwyllgor a’r ymgeisydd ofyn cwestiynau i’r Rheolwr Trwyddedu
· Gwahodd yr
ymgeisydd i ymhelaethu ar y cais
· Rhoi cyfle i
aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i ddeilydd y
drwydded.
· Rhoi cyfle i'r
Rheolwr Trwyddedu ofyn cwestiynau i ddeilydd y
drwydded
· Rhoi cyfle i’r ymgynghorai gefnogi unrhyw sylwadau ysgrifenedig
· Gwahodd y Rheolwr
Trwyddedu a’r ymgeisydd i ymateb i’r sylwadau a chrynhoi eu hachos
Wrth ymhelaethu ar
y cais, nododd yr ymgeisydd:
·
Bod blaen yr adeilad yn wag ac yn lleoliad addas ar
gyfer cynnig bwyd a diod i gwsmeriaid
·
Bod asesiad risg wedi ei gwblhau – lle parcio wedi
ei drefnu a ffens i sefydlu ffin wedi ei osod
·
Bod y fenter ar gyfer gwyliau’r haf yn unig – yn
fudd i’r economi leol ac yn elfen ychwanegol i’r busnes
·
Ei fod gyda phrofiad o redeg bwytai yn Lerpwl,
Manceinion a Chaer. Y bwyty dan sylw
(wedi bod yn weithredol am bedair wythnos o dan Hysbysiad Digwyddiad Dros Dro)
yn darparu bwyd o safon, gyda ffocws ar alcohol i’w weini gyda’r bwyd yn unig
·
Ei fod, yn dilyn gwrandawiad Hysbysiad Dros Dro
(15-07-22), wedi gosod croesfan i gerddwyr ac yn bwriadu cyfaddawdu gydag
amodau pellach yn ymwneud a diogelwch y cyhoedd.
·
Bod modd ychwnwaegu ‘cable ropes’ i’r ffens i atal plant
rhag gwthio drwyddo
·
Ei fod wedi derbyn nifer o e-byst yn cefnogi’r
fenter
·
Nad oedd tystiolaeth mai’r bwyty oedd yn gyfrifol
am sŵn a phroblemau traffig - dau fwyty arall gerllaw
·
Ei fod yn gobeithio cynnal trafodaethau gyda’r
Adran Cynllunio ynglŷn â’u pryderon
·
Nad oedd cerddoriaeth yn cael ei chwarae ar y safle
·
Bod bwytai eraill yn y pentref yn ymylu ar lon
beryg heb rwystrau diogelwch
·
Bod y safle ar dir preifat ac felly rheolaeth drwy
fesurau yn ei wneud yn lleoliad diogelach nag eraill
·
Gweini bwyd yn dod i ben am 21:30
·
Dim yn rhagweld problemau trosedd ac anrhefn – dim
yn fwyty sydd yn apelio at gwsmeriaid stwrllyd
·
Bod staff yn gwisgo siaced lachar (high viz) ar y safle i gynorthwyo
cwsmeriaid i groesi’r ffordd yn ddiogel
·
Bod gyrwyr y tractorau yn ymwybodol o’r terfyn
cyflymder 5mya sydd ar y safle
Mewn ymateb i
gwestiwn ynglŷn â chydymffurfio a’r amcanion trwyddedu o ddiogelu’r
cyhoedd ac atal plant rhag niwed (fydd yn gweld tractorau a chychod fel atyniad
naturiol iddynt), nododd yr ymgeisydd bod gyrwyr y tractorau wedi derbyn
hyfforddiant ychwanegol a diweddariad ar yr asesiad risg a adolygwyd. Ategodd
bod llinellau melyn wedi eu peintio i atal parcio, bod llwybr pwrpasol i groesi
i’r toiledau, bod staff yn monitro'r safle a bwriad ychwanegu ceblau i’r ffens
i wella diogelwch.
Mewn ymateb i
gwestiwn ynglŷn â niferoedd staff sydd yn cael eu cyflogi yn y bwyty,
nodwyd bod chwe aelod yn ystod y dydd a phedwar ychwanegol yn ymuno gyda’r nos
ar yr amseroedd prysur. Ategwyd bod hyn yn ychwanegol i’r nifer staff sydd yn
gweithio yn Land and Sea ac yn monitro'r tractorau
Mewn ymateb i sylw
gan y Rheolwr Trwyddedu oedd yn nodi ‘nad oedd dim cerddoriaeth yn golygu dim
sŵn’, nododd yr ymgeisydd nad oedd bwriad bod yn agored ar ôl 21:30 ac nad
oedd eisiau aflonyddu trigolion lleol. Ategodd bod mwyafrif o’r cwsmeriaid yn
gwsmeriaid Land and Sea oedd yn bachu cyfle ar ddiwedd dydd i gyfarfod a chael
sgwrs dros fwyd.
Manteisiodd yr
ymgynghorai oedd yn bresennol ar y cyfle i ymhelaethu ar sylwadau a gyflwynwyd
ganddynt drwy lythyr.
Elizabeth Williams
– Heddlu Gogledd Cymru
·
Ymgeisydd wedi ymateb i bryderon yr Heddlu drwy
osod ffens gan dderbyn bod gwifren ychwanegol yn cael ei hychwanegu i leihau’r
gwagle yn y ffens. Er hynny, ystyriwyd y byddai plant yn gallu gwasgu drwy’r
gofod ac y byddai strwythur mwy sylweddol yn fwy derbyniol. Hyn yn fater
cynllunio.
Keira Sweeney – Rheolwr Cynllunio, Cyngor Gwynedd
·
Mai anghyffredin iawn yw sefyllfa lle bydd y
Gwasanaeth Cynllunio yn gwrthod cais trwyddedu - y sefyllfa yn un siomedig iawn
·
Bod cais wedi ei wrthod yn 2021 am gaffi / bar
sefydlog am nifer o resymau
·
Er Deddfau gwahanol i Drwyddedu a Chynllunio yr
ystyriaethau yn debyg - yn y sefyllfa yma, sicrhau diogelwch y cyhoedd mewn
perthynas â chynnal gweithgareddau e.e. diffyg palmant, yw’r prif ystyriaeth
·
Derbyn a nodi ymdrechion o fewn y safle, ond angen
gwelliannau tu hwnt i berchnogaeth Land and Sea
·
Yn gwrthod y cais ar sail diffyg parcio, y safle o
fewn parth llifogydd, y safle yn gyn safle garej a dim sicrwydd bod y tanciau
wedi eu gwagu
·
Cadarnhau bod cais cynllunio pellach wedi ei
dderbyn i leoli faniau symudol ar y safle
Alun Evans –
Rheolwr Gwarchod y Cyhoedd (Lles, Iechyd a Diogelwch)
·
Rhaid rhoi blaenoriaeth i ddiogelwch y cyhoedd
·
Bod Land and Sea yn defnyddio ardal
ehangach na’r safle
·
Yn wahanol i fwytai eraill, y busnes wedi ei leoli
o fewn iard gychod prysur - y risgiau yn amlwg
·
Er derbyn asesiad risg, nid yw’n ddigonol
·
Er gosod croesfan a ffens, nid yw’n ddigonol i
warchod staff a chwsmeriaid
Ffion Muscroft -
Swyddog Gwarchod y Cyhoedd
·
Amlygu pryderon am sŵn yn deillio o’r safle –
sŵn cerddoriaeth a sŵn pobl
·
Ers caniatáu Hysbysiad Digwyddiad dros dro, yr
adran wedi derbyn cwynion am y gerddoriaeth - derbyn bod y seinydd wedi mynd,
ond pryderon am sŵn cymdeithasol yn parhau
·
Anodd rheoli lleisiau – cynllun y safle yn nodi lle
i tua 52 o bobl – hyn yn sŵn sylweddol o ystyried bod tai cyfagos i’r
safle
Cyngor Cymuned
·
Amlygu pryder am ddiogelwch y cyhoedd a sŵn
·
Y gyffordd yn un brysur - dau fusnes arall gerllaw
ynghyd a mynediad i stad o dai
·
Nid yw garej tractorau a chychod yn cyd-fynd a lle
i weini bwyd a diod
·
Prysurdeb garw yn yr ardal yma
·
Bod cais cynllunio eisoes wedi ei wrthod
·
Rhaid ystyried effaith y bwriad ar drigolion lleol
Mr Wyn Williams
·
Yn hanesyddol, bar wedi bod ar y safle ac wedi ei
gau ar apêl
·
Dim cydnabyddiaeth i’r amgylchedd
·
Diffyg cydymffurfio gyda pholisïau trwyddedu – yr
ymgeisydd gydag agwedd mai ar gyfer eraill mae rheolaeth a deddfau yn
berthnasol
·
Bod yr argymhelliad i wrthod yn gryf ac yn gosod
neges glir bod rhai dilyn trefniadau cynllunio a thrwyddedu os am sefydlu
busnes
Mr Robert Kennedy
·
Er bod bwyty gweithredol ar y safle - pryderon
sŵn a diogelwch wedi codi
·
Bod y ffordd yn brysur gyda cherddwyr yn cael eu
gorfodi i gerdded ar y ffordd
·
Byddai caniatáu bwyty trwyddedig yn gwaethygu’r’
sefyllfa
·
Bod angen mwy o wybodaeth am sefyllfa’r tanciau
petrol
·
Bod y safle yn un peryglus – damwain yn anochel
·
Byddai caniatáu yn tanseilio’r pedwar amcan trwyddedu
Mrs Margot Jones
·
Bod y safle yn cynnwys amryw o ‘adeiladau’ – podiau gwydr, faniau bwyd a
chynhwysyddion ar gyfer storio
·
Byddai modd cynnal 100 o bobl ar y safle – y safle
yn anaddas ar gyfer hyn
·
Bod cynnydd amlwg yn yr angen am lefydd i barcio
·
Bod y sefyllfa yn beryglus – damwain yn anochel –
ceir, tractorau, cychod a faniau dosbarthu yn lleihau
gwelededd
·
Dau fwyty gerllaw - byddai datblygiad arall yn
ychwanegu at yr hyn sydd eisoes yn beryglus
Yn manteisio ar y
cyfle i gloi ei hachos, nododd y Rheolwr Trwyddedu y pwyntiau canlynol:
·
Er yr ymateb gan yr ymgeisydd, risgiau diogelwch yn
parhau
·
Nad oedd modd rheoli'r holl agweddau
·
Damwain yn anorfod
Yn manteisio ar y cyfle i gloi ei achos, nododd yr ymgeisydd y pwyntiau
canlynol:
·
Ei fod yn barod i gyfaddawdu
·
Ei fod yn derbyn y
sylwadau ac yn barod i fynd tu hwnt i’r hyn sydd angen
·
Mai gweithgaredd dros yr
Haf yn unig ydyw
·
Bod posib cywiro’r drefn, ystyried y cais a derbyn
amodau hyd ddiwedd Medi
·
Ei fod wedi cyfarfod
rhai o’r ymatebwyr ac wedi trafod eu pryderon
·
Nad yw cwsmeriaid yn cyrraedd gyda char ac felly
nid yw parcio yn berthnasol
·
Bod dogfennaeth ar gael ynglŷn â’r tanciau
petrol sydd yn nodi dim risg i bobl nac i’r amgylchedd
·
Siomedig fuasai peidio caniatáu - ymwelwyr o blaid
y lleoliad
Wrth gyrraedd y penderfyniad ystyriodd yr
Is-bwyllgor ffurflen gais yr ymgeisydd, sylwadau ysgrifenedig a gyflwynwyd gan
y partïon â diddordeb, adroddiad y Rheolwr Trwyddedu ynghyd â sylwadau llafar pob parti yn bresennol yn
y gwrandawiad. Ystyriwyd Polisi Trwyddedu’r Cyngor a chanllawiau’r
Swyddfa Gartref. Roedd yr holl ystyriaethau yn cael eu pwyso a’u mesur yn erbyn
yr amcanion trwyddedu o dan y Ddeddf
Trwyddedu 2003, sef:
i.
Atal trosedd ac anhrefn
ii.
Atal niwsans cyhoeddus
iii.
Sicrhau diogelwch cyhoeddus
iv.
Gwarchod plant rhag niwed
Diystyrwyd sylwadau ddaeth i law i’r
graddau eu bod yn amherthnasol i’r amcanion hyn. Diolchwyd i bawb am gyflwyno
sylwadau ar y cais. Rhoddodd yr Is-bwyllgor ystyriaeth briodol i’r holl
sylwadau.
PENDERFYNWYD
gwrthod y cais
Rhoddwyd ystyriaeth arbennig i’r canlynol.
Derbyniwyd
sylwadau gan Heddlu Gogledd Cymru. Nid oedd ganddynt dystiolaeth o broblemau o
safbwynt trosedd ac anhrefn, ond roedd ganddynt bryderon o safbwynt Diogelwch y
Cyhoedd ac Atal Plant rhag Niwed. Yn benodol roeddynt yn pryderu nad oedd y
mesurau a awgrymwyd yn sicrhau gwahaniad digonol rhwng yr ardal fwyta a
gweithgareddau busnes cychod Land and Sea; bod plant yn chwilfrydig yn ôl
natur, ac y byddai cychod a thractorau yn atyniad iddynt; bod alcohol yn
effeithio ar allu oedolion i farnu pellter a chyflymder cerbydau, gyda’r
lleoliad mor agos at fusnes prysur a’r brif ffordd i mewn i Abersoch.
Derbyniwyd
sylwadau gan Uned Rheolaeth Datblygu Cynllunio Cyngor Gwynedd yn nodi fod
caniatâd Cynllunio eisoes wedi ei wrthod ar gyfer datblygiad cyffelyb ar y
safle yn 2021. Eglurwyd fod y datblygiad diweddaraf yn ei hanfod yr un peth a’r
hyn a wrthodwyd yn 2021 ac mai un o’r prif resymau dros wrthod oedd pryderon o
safbwynt diogelwch y cyhoedd o ganlyniad i brysurdeb y busnes a’i leoliad ger
ffordd fawr. I gyrraedd y safle byddai rhaid i gwsmeriaid groesi mynedfa lydan
iawn neu, os i groesi o’r palmant ar yr
ochr arall i’r ffordd roedd rhaid croesi ffordd brysur iawn heb balmant yr ochr
arall.
Derbyniwyd sylwadau gan Uned
Gorfodaeth Cynllunio Cyngor Gwynedd yn cadarnhau eu bod yn y broses o gychwyn
camau gorfodaeth ffurfiol i atal y defnydd di-ganiatâd cyfredol. Cadarnhawyd yn
y gwrandawiad bod yr ymgeisydd erbyn hyn wedi cyflwyno cais cynllunio ar gyfer
newid defnydd dros dro i ganiatáu lleoli’r faniau yn y safle presennol.
Derbyniwyd
sylwadau gan Uned Iechyd a Diogelwch Gwarchod y Cyhoedd Cyngor Gwynedd yn
gwrthwynebu’r cais gan nad oedd y bwriad yn cyd-fynd gyda’r amcan trwyddedu o
sicrhau diogelwch cyhoeddus. Nodwyd er bod yr ymgeisydd wedi cymryd camau i
geisio gwella’r sefyllfa, nad oedd hyn yn newid y ffaith bod Land and Sea yn parhau
i ddefnyddio’r ffyrdd o amgylch y safle, ac nad oedd modd newid y cyfeiriad a’r
llif sylfaenol yma. Gyda’r busnes wedi ei leoli oddi fewn i iard gychod prysur,
nid oedd modd ei gymharu â busnesau tebyg yn Abersoch. Nid oedd yr Asesiad Risg
a’r mesurau lliniaru a gyflwynwyd gan yr ymgeisydd yn eu barn hwy yn ddigonol i
warchod staff a chwsmeriaid. Datganwyd pryder fod potensial i nifer sylweddol o
bobl ymgynnull tu allan i Abersoch Land and Sea o dan ddylanwad alcohol.
Derbyniwyd
sylwadau gan Uned Llygredd - Gwarchod y Cyhoedd Cyngor Gwynedd. Nodwyd bod yr
ymgeisydd bellach wedi peidio chwarae cerddoriaeth a bod hynny yn ymateb i un
o’r pryderon o safbwynt atal niwsans cyhoeddus. Serch hynny, ystyriwyd y byddai
nifer sylweddol o bobl yn ymgynnull yn yr awyr agored (fyddai yn cynnwys nifer
dan ddylanwad alcohol), yn achosi llygredd sŵn i’r trigolion cyfagos a
chadarnhawyd bod cwynion sŵn yn cael ei achosi gan y cwsmeriaid wedi eu
derbyn.
Derbyniwyd sylwadau a
gwrthwynebiad i’r cais gan Uned Trafnidiaeth Cyngor Gwynedd gan nad oedd yr
ymgeisydd wedi cyfarch unrhyw un o’r pryderon a nodwyd pan wrthwynebwyd y cais
cynllunio ar y safle am ddatblygiad cyffelyb yn 2021. Ystyriwyd y byddai’r datblygiad arfaethedig yn debygol o
ddenu nifer o bobl i ymgynnull yn agos i’r ffordd fawr, ac y byddai hynny yn
effeithio ar welededd ar gyfer trigolion a chwsmeriaid yn gadael safle busnes
cychod Land and Sea. Nodwyd hefyd y byddai cyfyngder y safle yn debygol o
arwain at griwiau o gwsmeriaid yn ymgynnull o gwmpas y safle fyddai’n arwain at
broblemau diogelwch y ffordd. Ymhellach, nodwyd y byddai diffyg parcio ar y
safle yn debygol o achosi problemau parcio pellach (ar y ffordd fawr) gan
danseilio diogelwch cerddwyr a gyrwyr cerbydau.
Derbyniwyd sylwadau Gyngor
Cymuned Llanengan yn gwrthwynebu’r cais ar y sail y byddai’n arwain at
ymddygiad gwrth gymdeithasol; pryderon am ddiogelwch fel canlyniad i’w leoliad
wrth gyffordd brysur, ffordd mynediad i stadau tai, a dau fwyty arall; niwsans
sŵn i drigolion, a’r perygl i blant a fyddai’n defnyddio’r safle gyda’u
teuluoedd i groesi yn ôl ac ymlaen i’r traeth.
Derbyniwyd e-byst gan
drigolion lleol yn gwrthwynebu’r cais am drwydded gyda phryderon mewn perthynas
â’r pedwar amcan trwyddedu, oedd yn cynnwys:
·
Byddai gweini alcohol yn arwain at ymddygiad gwrth
gymdeithasol
·
Bod y lleoliad ar gornel beryglus gyda mynediad i sawl
busnes gan gynnwys busnes cychod Land and Sea yn ogystal â dau fwyty.
·
Bod mynediad a’r droed i’r lleoliad yn beryglus gan ei
fod ar gyffordd brysur a bod tractorau yn mynd yn ôl ac ymlaen o’r lleoliad
trwy’r dydd yn tynnu trelars a chychod yn ôl ac ymlaen i’r traeth.
·
Byddai mwy o bobl yn parcio yn anghyfreithlon ac yn
beryglus.
·
Byddai sŵn o safle awyr agored fel hyn yn amharu ar
drigolion cyfagos.
·
Byddai cynnydd ym mhrysurdeb y lleoliad yn cynyddu’r
risg o ddamwain ffordd
Ystyriaeth o’r dystiolaeth
yng nghyd-destun yr amcanion trwyddedu:
Atal Trosedd ac Anhrefn
Codwyd pryder y byddai
cynnydd mewn ymddygiad gwrthgymdeithasol. Serch hynny, roedd yr Heddlu wedi
cadarnhau nad oedd ganddynt unrhyw dystiolaeth o broblemau trosedd ac anhrefn i
wrthwynebu cais ac ni chyflwynwyd tystiolaeth gan unrhyw un arall a gyflwynodd
sylwadau. Ar sail diffyg tystiolaeth i gefnogi’r pryderon hyn, ac yn arbennig
diffyg gwrthwynebiad gan yr Heddlu, nid oedd yr Is-bwyllgor wedi ei berswadio y
byddai rhoi’r drwydded yn tanseilio’r amcan o atal trosedd ac anrhefn.
Diogelwch y Cyhoedd
Rhoddodd
yr Is-bwyllgor ystyriaeth ofalus i farn arbenigol y swyddogion proffesiynol y
byddai caniatáu’r cais yn tanseilio’r amcan trwyddedu yma. Roedd y swyddogion
yn bendant eu barn bod lleoliad a natur y safle, a’r ffaith y byddai’n cael ei
rannu gyda busnes cadw arwain at sefyllfa beryglus. Rhoddwyd cryn sylw i’r farn
yma oherwydd bod amryw o adrannau gwahanol o fewn y Cyngor wedi cyflwyno barn
mewn modd cyson a chryf. Roedd yr
is-bwyllgor felly yn pryderu am ddiogelwch staff a chwsmeriaid y busnes yn
ogystal â defnyddwyr cyffredinol y ffordd o ganlyniad i’r gweithgareddau.
Rhoddwyd ystyriaeth ofalus hefyd felly i’r mesurau roedd yr ymgeisydd eisoes
wedi cymryd, a’r rhai hynny yr oedd yn cynnig eu rhoi mewn lle i geisio
lliniaru’r risgiau. Er bod yr Is-bwyllgor yn nodi ac yn gwerthfawrogi’r bwriad
o wneud y newidiadau ni ystyriwyd y byddai modd cyfarch y pryderon yn ddigonol
gan na fyddai’r mesurau hynny yn goresgyn y problemau sylfaenol oedd yn cael eu
creu gan natur a lleoliad y safle a’i ddefnydd.
Rhwystro Niwsans Cyhoeddus
Derbyniwyd bod yr ymgeisydd
wedi peidio chwarae cerddoriaeth, serch hynny, ar sail y farn a’r dystiolaeth a
gyflwynwyd ( gan gynnwys cwynion oedd wedi eu derbyn) roedd yr is-bwyllgor o’r
farn y byddai niwsans o ganlyniad i sŵn yn anorfod ar drigolion cyfagos
oherwydd natur agored a lleoliad y safle a’i agosatrwydd at dai cyfagos.
Amddiffyn Plant Rhag Niwed
Roedd
pryderon o safbwynt diogelwch y cyhoedd yn gyffredin i bawb. Er hynny, gyda
phlant yn bresennol gyda’u teuluoedd yn mynd ac yn dod o’r traeth, ynghyd â’r
ffaith y byddai tractorau yn tynnu cychod yn ôl ac ymlaen, ac y gallai hyn fod
yn atyniadol iddynt, yn amlygu risgiau penodol o dan y pennawd yma.
O ganlyniad, roedd yr
Is-bwyllgor o’r farn y byddai caniatáu’r cais yn tanseilio tri allan o’r 4
amcan trwyddedu, ac felly gwrthodwyd y cais.
Adroddodd y Cyfreithiwr y byddai’r penderfyniad yn cael ei gadarnhau yn
ffurfiol drwy lythyr i bawb oedd wedi cyflwyno sylwadau ysgrifenedig. Ategwyd
bod gan bob parti i’r cais yr hawl i gyflwyno apêl yn Llys Ynadon Caernarfon yn
erbyn penderfyniad yr Is-bwyllgor. Dylid cyfeirio unrhyw apêl o’r fath drwy roi
rhybudd o apêl i’r Prif Weithredwr, Llys Ynadon Llandudno, Llandudno, o fewn
cyfnod o 21 diwrnod gan gychwyn â’r dyddiad y bydd yr apelydd yn derbyn llythyr
(neu gopi ohono) yn cadarnhau’r penderfyniad.
Dogfennau ategol: