Agenda item

Ystyried unrhyw gwestiynau y rhoddwyd rhybudd priodol ohonynt o dan Adran 4.19 y Cyfansoddiad.

Cofnod:

(Dosbarthwyd atebion ysgrifenedig yr Aelodau Cabinet i’r cwestiynau i’r aelodau ymlaen llaw.)

 

(1)     Cwestiwn gan y Cynghorydd Elin Hywel

 

“Pa gamau mae’r Cyngor yn gymryd i sicrhau cydraddoldeb i bobl ifanc mewn addysg wrth iddynt baratoi a chwblhau gwaith y tu allan i oriau dysgu, ar amseroedd o’u dewis hwy, ta waeth gallu eu teuluoedd neu warchodwyr i allu fforddio y gost gynyddol o ynni i bweru eu offer technoleg gwybodaeth angenrheidiol, megis gliniaduron?”

 

Ateb gan yr Aelod Cabinet Addysg, y Cynghorydd Beca Brown

 

“Mae’r cwestiwn yn un pwysig iawn achos mae’n tynnu sylw at y myrdd o heriau mae teuluoedd a phobl ifanc yn wynebu yn sgil yr argyfwng costau byw sy’n ein hwynebu, ac mae’r Adran Addysg wedi rhoi sawl peth ar waith i gyfarch yr ystod o heriau sydd o’n blaenau i gyd.  Ond un peth rwy’n arbennig o falch ohono ydi ein Strategaeth Ddigidol, sef bod modd i unrhyw ddisgybl gael mynediad i ddyfais ddigidol, a bod y ddyfais honno - a dyma’r darn pwysig - yn mynd adref hefo’r plentyn yn y sector uwchradd er mwyn cyfarch y problemau anghyfartaledd a nodwyd yn y cwestiwn.  Strategaeth Gwynedd ydi hon ac mae’n un flaengar.  Ond ar y mater o’r ynni a’r gwefru a’r gost o hynny, mae’r dyfeisiadau sydd wedi’u dewis yn rhai sy’n gwneud defnydd rhesymol o drydan ar gost resymol, a bydd yna gyfle i’r disgyblion wefru eu dyfeisiadau yn yr ysgol, ac mewn clybiau cyn ac ar ôl ysgol ac mewn llyfrgelloedd hefyd.  Mae yna weithdai wedi’u trefnu mewn ysgolion hefyd i drafod gwefru a bydd y mater a godwyd gan yr aelod yn cael sylw yn y fan honno hefyd.”

 

Cwestiwn Atodol gan y Cynghorydd Elin Hywel

 

“I warchod ein cymunedau rhag artaith gwleidyddiaeth a pholisïau Llywodraeth bresennol San Steffan, ac i gefnogi trigolion a dysgwyr Gwynedd drwy’r argyfwng hinsawdd ynni a chostau byw, beth yw cynlluniau’r Cyngor i sicrhau buddsoddiad yn isadeiledd ein hysgolion a chanolfannau addysg ac adeiladau cyhoeddus tu hwnt, megis llyfrgelloedd, er mwyn galluogi sicrwydd cyflenwad a phris ynni yn yr hir dymor?”

 

Ateb gan yr Aelod Cabinet Addysg, y Cynghorydd Beca Brown

 

“Mae hyn, wrth gwrs, yn fater i’r Adran Eiddo hefyd, ond, wrth gwrs, mae’r Adran Addysg yn teimlo’n gryf iawn bod angen cyfarch y math yma o bethau.  Mae yna 2 brosiect ar y gweill gan yr Uned Ynni a Gwasanaethau Masnachol, sef prosiect paneli solar fydd yn cael eu rhoi ar amryw o safleoedd y Cyngor, a gobeithio y bydd hynny yn cynnwys ambell ysgol, a phrosiect golau LED er mwyn rhoi gwell rheolyddion i mewn i’r ysgolion, er mwyn sicrhau pethau fel bod y golau yn cael ei ddiffodd ar ddiwedd y dydd.  Ond yn amlwg mi fyddwn i’n cefnogi unrhyw symudiad tuag at leihau ein dibyniaeth ar y grid yn y maes yma yn y cyd-destun a nodwyd.”

 

(2)     Cwestiwn gan y Cynghorydd Gruffydd Williams

 

“Yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth Cymru ym mis Mehefin 2022 eu bod yn cyflwyno newidiadau i'r ddeddf Gynllunio gan gyflwyno:

(i) 3 dosbarth defnydd newydd

(ii) Erthygl 4 a fydd yn galluogi Awdurdodau Lleol Cymru i osod trothwyon ar niferoedd tai haf / unedau gwyliau mewn ardaloedd penodedig

(iii) Treth Tir benodol ar ail dai

 

Sydd oll yn weithredol o fis Hydref 2022 ymlaen.

Pa waith paratoi, recriwtio staff ac adnabod dulliau casglu data ayyb mae'r Cyngor wedi'i gyflawni a hynny er mwyn gweithredu ar y mesurau arloesol yma cyn gynted â phosib?”

 

Ateb gan yr Aelod Cabinet Amgylchedd, y Cynghorydd Dafydd Meurig

 

“Rwy’n croesawu’n fawr y cyhoeddiad gan y Llywodraeth sydd wedi dod ar ôl cryn bwysau gan y Cyngor yma dros y blynyddoedd a mudiadau eraill – Hawl i Fyw Adra, Cymdeithas yr Iaith, ac eraill, wrth gwrs.  Mae’r ateb ysgrifenedig a gylchredwyd yn ateb eithaf hir i gwestiwn eithaf byr, ac mae hynny am y rheswm bod y maes deddfwriaeth cynllunio o reidrwydd yn gymhleth a thrwsgwl.  Mae’r ateb yna fel ag y mae.  Yr hyn sy’n bwysig i’w nodi ydi mai newid fydd yn dod i mewn ymhen ychydig wythnosau ydi’r newid i’r dosbarthiadau defnydd.  Bydd raid i’r Cyngor hwn, ac rwy’n credu mai’r Cabinet fydd yn gwneud y penderfyniad, gyflwyno cyfarwyddyd Erthygl 4, sy’n rhoi’r hawl i ni reoli’r symudiad rhwng un dosbarth defnydd a’r llall.  Yr hyn sy’n siomedig yw mai ond yn ddiweddar y cawsom ni glywed bod gofyn i ni ddisgwyl 12 mis ar ôl gwneud y cyflwyniad cyn gallu gweithredu oherwydd bod yna bosibilrwydd o orfod talu iawndal yn sgil gwneud penderfyniadau.  Mae hynny’n rhwystredig, ond gallaf eich sicrhau bod y gwaith o hel tystiolaeth yn mynd yn ei flaen.  Eisoes mae’r Cyngor wedi gwneud gwaith mawr yn 2020 yn hel tystiolaeth.  Bydd angen diweddaru’r gwaith hwnnw ac mae’r gwaith yna yn mynd rhagddo.”

 

Cwestiwn Atodol gan y Cynghorydd Gruffydd Williams

 

“Onid yw’n gynamserol felly bod y Cyngor yn cysidro codi mwy o Dreth Premiwm trwy fynd i ymgynghoriad cyhoeddus heb yn gyntaf roi cyfle i weld a fydd y newidiadau deddfwriaethol a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru yn cael effaith bositif ar reoli’r farchnad tai haf / unedau gwyliau, a thrwy hynny yn gwarchod tai ein cymunedau ar gyfer cartrefi?”

 

Ateb gan yr Aelod Cabinet Amgylchedd, y Cynghorydd Dafydd Meurig

 

“Mae’n debyg bod y ddau arf yma yn arfau y gellid eu defnyddio ac maent yn sefyll ar eu pennau eu hunain i raddau helaeth.  Mae’r penderfyniad ynglŷn â’r Premiwm yn gwestiwn i’r Cyngor llawn yn ei gyfarfod nesaf, os mai dyna fydd argymhelliad y Cabinet.  Ni allwn weithredu ar y newid defnydd hyd at 12 mis ar ôl cyflwyno Erthygl 4, felly bydd yna gryn amser wedi mynd heibio cyn i ni weld effaith hwn.”

 

(3)     Cwestiwn gan y Cynghorydd Gwynfor Owen

 

“Gyda chymaint o sôn am y Dreth Twristiaeth, pa fuddiannau mae'r Adran Cyllid / Economi yn ei weld i'r Sir o gyflwyno'r fath dreth, h.y., lle ydych yn credu y dylid gwario'r incwm y buasai yn dod o gyflwyno'r dreth yma?”

 

Ateb gan yr Aelod Cabinet Cyllid, y Cynghorydd Ioan Thomas

 

“Mae Llywodraeth Cymru’n ymgynghori ar hyn o bryd ar sefydlu Ardoll Twristiaeth ar gyfer Cymru.  Byddai hyn yn golygu bod ymwelwyr sy’n aros dros nos yn talu ardoll i’r Awdurdod Lleol yma yng Ngwynedd.

 

Yn dilyn yr ymgynghoriad bydd Llywodraeth Cymru’n ystyried deddfu, ac mae hynny am gymryd amser, amser hir iawn i roi grymoedd trethu i Awdurdodau Lleol benderfynu os ydynt am godi Ardoll o fewn y fframwaith genedlaethol o ganllawiau a gweithdrefnau.

 

Gan nad oes gan y Cyngor hwn y grym i godi Ardoll ar hyn o bryd a chan mai dechrau’r broses ymgynghori yw hyn, ni fyddai’n briodol i’r Cyngor ddatgan sut y dylai’r incwm yma gael ei wario ar y pwynt yma.

 

Mae’n bwysig nodi, er gwybodaeth, bod y Cyngor wrthi’n datblygu Cynllun Economi Ymweld Cynaliadwy mewn partneriaeth gydag Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, a bydd y Cyngor yn ymateb i’r ymgynghoriad maes o law, ac erbyn y dyddiad cau o 13 Rhagfyr 2022.  Gai bwyso arnoch chi i gyd i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad yma, ac mae’n bosib’ ei wneud ar-lein.”

 

Cwestiwn Atodol gan y Cynghorydd Gwynfor Owen

 

“Rhaid i mi ddatgan fy siom gyda’r ymateb yma yn anffodus.   Mae gan y Cyngor, yn fy marn i, rôl bendant i arwain a helpu i addysg pobl Gwynedd am wahanol faterion a buasai ateb clir i’r cwestiwn yma wedi bod o gymorth i’r bobl hynny sy’n cwestiynu manteision cyflwyno’r dreth yma.  Gai felly ofyn am sicrwydd y bydd y Cyngor yn gwneud datganiad clir am y manteision unwaith y byddent wedi ymateb i’r ymgynghoriad?”

 

Ateb gan yr Aelod Cabinet Cyllid, y Cynghorydd Ioan Thomas

 

“Rwy’n cydnabod rhwystredigaeth yr aelod, ond gan nodi eto mai ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ydi hwn, ac ni fyddai’n briodol i’r Cyngor ddatgan sut y dylid gwario’r incwm yn bresennol, ac yn sicr rydw i’n ymrwymo i sicrhau datganiad am y manteision pan fydd y Cyngor wedi ymateb i’r ymgynghoriad.”

 

(4)     Cwestiwn gan y Cynghorydd Rhys Tudur

 

“Mewn theori mae geiriad Categori 3, fel diffinnir hwnnw yng nghanllaw categoreiddio ysgolion uwchradd Llywodraeth Cymru, yn caniatáu i gyfran go helaeth (hyd at 40%) o blant mewn ysgol benodol osgoi addysg cyfrwng Cymraeg yn llwyr, neu i raddau helaeth.  Pa fesurau sydd mewn lle i sicrhau nad ydi sefyllfa felly yn bodoli mewn unrhyw ysgol Categori 3 yng Ngwynedd? ”

 

Ateb gan yr Aelod Cabinet Addysg, y Cynghorydd Beca Brown

 

“Mi wnai ddechrau drwy fanylu ar beth yn union ydi Categori 3.  Categori 3 uwchradd ydi pan fo’r Gymraeg yn brif iaith cyfathrebu mewnol, ethos Gymraeg gadarn ym mhob cyd-destun cymdeithasol oddi fewn ac oddi allan i’r ysgol, pob plentyn yn gallu siarad, darllen, sgwennu a gwrando yn Gymraeg ac yn Saesneg ac yn unol â’i oed a’i allu, a bod ystod eang o’r meysydd dysgu a phrofiad yn cael eu cynnig drwy’r Gymraeg ac o leiaf 60% o’r dysgwyr yn gwneud o leiaf 70% o’u gweithgareddau ysgol yn y Gymraeg.  Felly mae’n anodd i unrhyw blentyn osgoi’r Gymraeg mewn ysgol Categori 3, fel y gwelwch o’r diffiniad yna.  Rydw i’n derbyn y pwynt, a hyn sy’n bwysig, mae sefyllfa Gwynedd yn unigryw, wrth gwrs, o ran bod gennym ni ein polisi iaith ein hunain sy’n gyffredin i holl ysgolion y sir fel bod neb yn cael ei adael ar ôl.  Yn sgil hynny mae disgwyl i’r ysgolion gynllunio’n ieithyddol ar gyfer pob math o ddysgwr sydd yn ein sir, o’r mwyaf rhugl i’r lleiaf rhugl, a phopeth yn y canol, sy’n golygu bod y ddarpariaeth ddwyieithog yn hynod gymhleth yng Ngwynedd.  Ond nid yw’r cymhlethdod yna, wrth gwrs, yn tynnu oddi wrth yr angen i fynd i’r afael â hyn go iawn a gwneud gwahaniaeth go iawn ac i fynd ati o ddifri’ i gael darlun cywir a diweddar a manwl o’r ddarpariaeth sydd ymhob ysgol ar hyn o bryd er mwyn i ni wedyn fynd ati o ddifri’ i roi cynlluniau manwl mewn lle, fel bod ni’n gallu cynyddu’r ddarpariaeth ymhob ysgol yn unol â dyhead pob un ohonom gobeithio.”

 

Cwestiwn Atodol gan y Cynghorydd Rhys Tudur

 

“O ystyried bod y categori yn darparu mai o leiaf 60% o’r plant sy’n cael addysg Gymraeg, ydi’r Aelod Cabinet yn cytuno bod angen cymryd camau polisi i wella ar y gwaelodlin a’r ddarpariaeth o’r Gymraeg sydd ar gyfer Gwynedd ar hyn o bryd?”

 

Ateb gan yr Aelod Cabinet Addysg, y Cynghorydd Beca Brown

 

“Rydw i’n meddwl bod nifer fawr o ysgolion Gwynedd yn gwneud yn well na gwaelodlin y categori yn barod.  Ond, wrth gwrs, o wybod beth yn union ydi’r sefyllfa ymhob ysgol, gallwn wella wedyn ar y gwaelodlin, ac rydw i’n gwbl agored i syniadau gwahanol ynglŷn â sut i wneud hynny.  Mae 'na rai syniadau wedi dod ymlaen yn barod ac mi fyddwn yn hollol hapus i glywed pob math o syniadau ynglŷn â hynny ac i dderbyn cefnogaeth.  Mae yna gyfrifoldeb ar lywodraethwyr.  Mae yna nifer ohonom ar gyrff llywodraethol, ond mae eisiau data diweddar, mae eisiau cynlluniau gweithredu, mae eisiau craffu, mae eisiau cefnogaeth ar ei gyfer, a gallaf eich sicrhau, fel un sydd wedi ymgyrchu dros addysg Gymraeg yn y gorffennol, nad ydw i wedi dod i’r portffolio i weld pethau yn llithro yng Ngwynedd.”

 

(5)     Cwestiwn gan y Cynghorydd Menna Baines

 

O ystyried bod: 

(A) Llithriad yn y nifer sy'n cael addysg cyfrwng Cymraeg wrth fynd o addysg Gynradd i Uwchradd; 

(B) CSGA (Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg) 2016 wedi methu gyda’r nod o gael 74.9% o blant i astudio 5 pwnc TGAU trwy'r Gymraeg erbyn 2020; 

(C) y nifer sy'n astudio 5 pwnc TGAU trwy'r Gymraeg wedi gostwng yn hytrach na chynyddu o 2016 i 2022  

Pa gamau polisi ydych chi am eu cymryd i sicrhau bod cynnydd am fod yn y mesuryddion uchod yn y blynyddoedd nesaf yn hytrach na llithriad?

 

Ateb gan yr Aelod Cabinet Addysg, y Cynghorydd Beca Brown

 

“Dyma gwestiwn pwysig arall ar fater y Gymraeg mewn addysg, ac er mor bwysig yw dathlu sefyllfa’r Gymraeg yng Ngwynedd, sy’n hollol unigryw, wrth gwrs, mae’r sefyllfa honno yn gallu llithro os nad ydym ni’n cadw llygaid barcud ar bethau.  Mae yna beth llithriad wedi bod, fel mae’r cwestiwn yn nodi, ac nid yw hynny, wrth gwrs, yn adlewyrchu ein dyhead ni ar gyfer plant a phobl ifanc Gwynedd.  Ond rydym ni mewn cyfnod newydd rŵan ac rydym i gyd yn edrych ymlaen at y CSGA newydd yma, ac mae yna drefniadau mewn lle i sefydlu’r Fforwm Iaith Addysg, er mwyn monitro’r cynnydd yn erbyn targedau CSGA.  Bydd y swyddogion a’r aelodau etholedig, gan gynnwys Cadeirydd y Pwyllgor Iaith yn rhan o’r Fforwm, a gellid enwebu aelodau’r Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi hefyd i fod ar y fforwm, os ydi pobl yn dymuno hynny, er mwyn adrodd yn ôl.  Bydd yna adroddiad o flaen y Pwyllgor Iaith yn flynyddol a bydd yr Adran yn cydweithio hefo’r ysgolion er mwyn annog a chefnogi cynnydd.  Ond gwaith tîm ydi hyn, wrth gwrs, ac rydw i’n mynd yn ôl at lywodraethwyr eto, achos rydym ni i gyd yn y fan hyn hefo’n gilydd, ac mae rôl a chyfrifoldeb o ran y ddarpariaeth sydd yn ein hysgolion unigol ni, a byddwn yn annog pob aelod etholedig sydd ar fwrdd llywodraethol i weithio efo’r Adran a hefo’r Cyngor er mwyn cyrraedd at yr hyn y byddem i gyd yn hoffi weld, sef bod plant Gwynedd yn cael yr holl elw posib o’r Gymraeg, a gwaith tîm ydi hynny.”

 

Cwestiwn Atodol gan y Cynghorydd Menna Baines

 

“Gan ei bod yn bwysig deall pam bod y llithriad wedi digwydd, oes 'na waith ymchwil am fod ar hyn?”

 

Ateb gan yr Aelod Cabinet Addysg, y Cynghorydd Beca Brown

 

“Mae’r llithriad yn y cyfnod pontio cynradd / uwchradd yn batrwm cenedlaethol, wrth gwrs, ac mae’n rhywbeth y dylai beri pryder i ni, ac mae’n bwysig ein bod yn mynd i’r afael â pham bod hynny’n digwydd.  Wrth gwrs, o ran dewis iaith, mae’r rhieni yn dewis, ac mae yna waith i’w wneud i ennill calonau a meddyliau drosodd i’r Gymraeg.  Mae yna waith yn cael ei wneud yn Ysgolion Friars ac Ein Harglwyddes sy’n rhoi swyddogion datblygu i mewn i weithio o ran y Gymraeg yn y fan honno, ac rwy’n credu bod y Cynllun Trochi am fod yn cyfrannu’n helaeth at hyn.  Rydym ni’n sôn am Fangor eto, gan mai yno mae yna golli rhwng y cynradd a’r uwchradd, ac rwy’n meddwl bod y cyfnod canol yna yn mynd i gael ei gyfarch i raddau helaeth efo’r Cynllun Trochi newydd ym Mangor.  Mae’n bwysig iawn ein bod yn trio deall beth sy’n digwydd a pham bod rhieni yn dewis newid cyfrwng addysg yn y cyfnod yma, a buaswn yn annog pawb i siarad hefo rhieni ac i fod yn lladmeryddion dros y Gymraeg yn hynny o beth.”

 

(6)     Cwestiwn gan y Cynghorydd Angela Russell

 

“Hoffwn ofyn cwestiwn am gyn wasanaeth bws a ddaeth i ben yn ystod y pandemig Cofid.  Y gwasanaethau bws o dan sylw ydi’r rhai a fyddai’n gadael Pwllheli am 10 o’r gloch ar nos Sadwrn, ac yn teithio trwy nifer o bentrefi, yn cynnwys Llanbedrog, ar draws Pen Llŷn.  Hefyd y gwasanaeth i Edern trwy Nefyn a Boduan.

 

Roedd y gwasanaethau hyn yn bwysig a phrysur dros ben gan fod nifer o bobl yn dibynnu ar y gwasanaethau yma i’w galluogi i gymdeithasu mewn nifer ffordd, hynny yw, ymweld â ffrindiau a theulu, mynychu llefydd bwyta a thai tafarn a nifer o ddigwyddiad eraill yn yr ardaloedd.  Gwyddwn i gyd yma heddiw pa mor bwysig yw cymdeithasu yn ein bywydau ni, lleihau unigrwydd, codi calon a helpu gydag iechyd meddwl.  Mewn ardaloedd gwledig mae trigolion ac ymwelwyr yn dibynnu ar fysiau lleolnid oes gan bawb gar.  Yn ogystal â hyn, bydd nifer o bobl yn awyddus i fynd allan gyda’r nos i rywle cynnes, ffrind, teulu, ac ati, yn lle aros gartref a methu rhoi'r gwres ymlaen oherwydd y costau difrifol heddiw.  Mae yna lawer o dlodi mewn ardaloedd gwledig fel y gwyddwn.  Felly hoffwn gael gwybod beth yw’r bwriad ar gyfer ail sefydlu'r gwasanaethau bws yma?

 

Ateb gan yr Aelod Cabinet Amgylchedd, y Cynghorydd Dafydd Meurig

 

“Cwestiwn amserol iawn, ac rwy’n cydymdeimlo’n fawr â’r rhai sy’n methu cael gwasanaeth bws, ac mae’n hynod o bwysig bod 'na gludiant cyhoeddus ar gyfer pobl sydd heb geir, yn enwedig pan rydym yn trio delio hefo effeithiau ar yr amgylchedd.  Er ei fod yn gwestiwn sy’n benodol ar gyfer un ardal ac un daith bws, mae hon yn broblem sy’n effeithio arnom i gyd - mae’n effeithio yn sicr ar yr ardal rydw i’n byw ynddi.  Mae yna broblemau rhwng Dyffryn Ogwen a Bangor wedi bod yn ddiweddar, ac rwy’n siŵr bod hyn yn rhywbeth sydd wedi bod yn effeithio ar y rhan fwyaf ohonom fel aelodau.  Fel mae’n sôn yn yr ateb, y broblem yn fan hyn, fel mewn llawer ardal, ydi prinder gyrwyr bws, ac o’r herwydd bod cwmnïau bysiau yn methu tendro am y teithiau yma.  Roeddwn yn clywed yn ddiweddar am gwmni bws lleol sydd 6-7 o yrrwr yn brin ac yn methu tendro.  Mae hyn yn broblem, ac rwy’n credu bod y daith rydym yn sôn amdani yn daith nos, ac mae gwaith nos yn waith lle mae hyd yn oed yn fwy anodd cael gafael ar yrwyr.  Felly dyna lle rydym ni.  Mae’r Uned Cludiant yn cynnal adolygiadau mewn gwahanol ardaloedd o’r sir drwy gydweithrediad gyda Thrafnidiaeth i Gymru, felly rydw i’n gobeithio’n fawr y byddwn yn gallu datrys llawer o’r problemau yn y misoedd nesaf drwodd i 2023.”

 

Cwestiwn Atodol gan y Cynghorydd Angela Russell

 

“Beth ydi’r newidiadau sylweddol sydd ar y gweill achos mae’r bws yma yn bwysig dros ben i bobl yn ardal Pen Llŷn?”

 

Ateb gan yr Aelod Cabinet Amgylchedd, y Cynghorydd Dafydd Meurig

 

“Dyna yr union waith sy’n mynd ymlaen.  Wn i ddim os ydi’r aelod yn ymwybodol am y gwaith sy’n digwydd yn ardal Llanberis lle mae Sherpa’r Wyddfa wedi ei ail lunio yn benodol ar gyfer cyfarch anghenion lleol yn ogystal ag anghenion twristiaid?  Felly, mae’n rhaid i ni feddwl ychydig bach yn wahanol gan feddwl pa fysus ydi’r rhai pwysig a sut rydym yn darparu, ac efallai nad bws ydi’r ateb, ond rhyw fath gwahanol o drafnidiaeth, a bod ni’n trafod gyda chymunedau lleol a chwmnïau tacsis.  Hynny ydi, nid bws 50 sedd yn mynd i bob man ydi’r ateb bellach, ond mae angen meddwl am yr atebion creadigol yma.  Mae hynny’n digwydd, ond mi fydd yn cymryd amser i fynd drwy’r sir yn adolygu pob ardal.”

 

(7)     Cwestiwn gan y Cynghorydd Elwyn Edwards

 

“Hoffwn ddiolch i’r Cabinet am gytuno i gyllido gwyliau Gŵyl Ddewi i weithlu’r Cyngor y llynedd.

 

Tra’n hynod siomedig ag ymateb sarhaus, ond nid annisgwyl, Llywodraeth Llundain, bu’r ymateb ar draws Cymru yn gadarnhaol iawn.  Gwnaed datganiad o gefnogaeth gan Lywodraeth Cymru a chan gynghorau sir sy’n amlygu’r dyhead i’n cenedl gael ei thrin â pharch drwy ddathlu’n nawddsant mewn modd haeddiannol.

 

A wnaiff yr Arweinydd roi diweddariad o’r sefyllfa eleni, ac ar unrhyw gamau i wireddu’n dyhead fel cenedl?”

 

Ateb gan yr Arweinydd, y Cynghorydd Dyfrig Siencyn

 

“Diolch i’r aelod am y cwestiwn, ac yn arbennig am y cynnig a roddodd o flaen y Cyngor yma, ac a basiwyd yn unfrydol bron i flwyddyn yn ôl bellach.  Do, mi gawsom ni ymateb sarhaus gan ryw Is-weinidog sydd bellach, mae’n siŵr, wedi diflannu dros y gorwel gwleidyddol, fel y gwnawn nhw i gyd cyn bo hir gobeithio.  Ond mae pethau wedi symud ymlaen.

 

Mae cynrychiolwyr cyflogwyr llywodraeth leol yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon wedi cynnig codiad cyflog terfynol i weithwyr llywodraeth leol ar gyfer 2022/23, sy’n cynnwys ychwanegu un diwrnod i flwyddyn gwyliau pob gweithiwr oddi ar y 1af o Ebrill, 2023.

 

Mae’r cynnig yma yn derbyn sylw gan y tri undeb yn bresennol gyda rhagolygon y byddant yn ymateb yn ffurfiol iddo tua canol y mis hwn ar ôl ymgynghori gyda’u haelodau.

 

Yn y cyfamser, mae trafodaeth wedi’i chynnal gyda chynrychiolwyr yr undebau yn lleol ac mae lle i gredu y byddai cefnogaeth ganddynt i’r diwrnod ychwanegol o wyliau yma gael ei glustnodi ar gyfer dathlu Dydd Gŵyl Dewi i’r dyfodol.

 

Pe byddai’n bosibl gwireddu’r cytundeb yma, ni fyddai cost ychwanegol i’r Cyngor, uwchben yr hyn y byddai’n rhaid darparu ar ei gyfer fel rhan o’r cytundeb cenedlaethol arfaethedig.

 

Byddai modd i ni symud y drafodaeth honno yn ei blaen efo’r undebau yng Ngwynedd yn unig ond rwy’n agor trafodaeth gyda rhai o’m cyd-arweinyddion ar draws awdurdodau eraill yng Nghymru yn cynnig bod yna gyfle yma i ni weithredu ar lefel genedlaethol h.y. bod pob sir yn dynodi’r diwrnod ychwanegol yma yn wyliau ar gyfer Dydd Gŵyl Dewi.

 

Byddai’n ofynnol sicrhau cydsyniad yr undebau llafur, wrth gwrs, cyn trosglwyddo’r mater i’r awdurdodau unigol i weithredu’n lleol.

 

Os na cheir y consensws hwnnw, y bwriad fyddai symud ymlaen i geisio sicrhau cytundeb ffurfiol yn lleol a thrwy hynny glustnodi’r 1af o Fawrth (neu’r diwrnod gwaith agosaf i’r dyddiad hwnnw) ar gyfer dathlu Dydd Gŵyl Dewi o fewn Cyngor Gwynedd i’r dyfodol.

 

Fe gafwyd ymateb syfrdanol i’r ffaith bod y Cyngor yma wedi dynodi diwrnod o wyliau ar Ddydd Gŵyl Dewi, a chafwyd cefnogaeth ryfeddol ar draws y pleidiau eraill, heblaw am un blaid, ac yn wir roedd yna ddatganiadau cefnogol ymhob man.  Fe wnaed datganiad gan Arweinydd Plaid Geidwadol Lloegr yng Ngymru yn eu cynhadledd yn dweud eu bod hwy bellach yn cefnogi cael diwrnod gŵyl banc ar Ŵyl Dewi ac rydw i am ysgrifennu at yr Arweinydd hwnnw yn gofyn iddo basio’r neges ymlaen i ba bynnag weinidog sydd ganddynt bellach yn San Steffan yn ei atgoffa ein bod ni yma yng Nghymru yn haeddu ein cydnabod fel cenedl, a’n bod ni yn haeddu cael diwrnod i ddathlu ein Nawddsant a’n hunaniaeth, ac mi wnâi hynny yn ystod yr wythnos nesaf”.

 

Cwestiwn Atodol gan y Cynghorydd Elwyn Edwards

 

“Be ydi’r amserlen o ran trafod hefo’r undebau?”

 

Ateb gan yr Arweinydd, y Cynghorydd Dyfrig Siencyn

 

“Mi wnes i gyfeirio at yr amserlen.  Pe bai’r undebau yn cytuno i’r amodau newydd, yna mi fydd y rheini yn dod i rym yn Ebrill 2023.  Mae gennym felly'r 6 mis nesaf i agor y drafodaeth gyda’n cyd-arweinyddion ar draws Cymru.  O ran ysgrifennu at arweinyddion y Blaid Geidwadol Seisnig yng Nghymru, mi wnâi hynny yn ystod yr wythnos nesaf.”