1.
Yn unol ag adran 4.12.1 (d) o’r Cyfansoddiad, y
derbyniwyd cais i’r Cadeirydd gan y pum aelod a nodir, yn galw am gyfarfod o’r
Cyngor i ystyried y mater oedd wedi ei gynnwys yn y cais.
2. Pecyn Gwybodaeth
a) 1. Cais am Gyfarfod Arbennig
2. Atodiad i’w cais –
copi Gorchymyn Uchel Lys
b) 1. Adroddiad yr Adran Addysg
2. Atodiad - Y Cwricwlwm
i Gymru – Y Cod Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD
Gwrthod y cynnig i gyfeirio'r materion, fel a nodwyd yn y cais am
Gyfarfod Arbennig o’r Cyngor Llawn, ar gyfer ystyriaeth frys gan y Pwyllgor
Craffu Addysg ac Economi gyda'r hawl i alw arbenigwyr allanol i mewn i’r
Pwyllgor hwnnw
Cofnod:
Ar gais y
Cadeirydd, derbyniwyd ac eiliwyd cynnig gan y Cynghorydd Louise Hughes i
gyfeirio'r materion sydd yn ymwneud a chyflwyno’r Cwricwlwm Addysg
Cydberthynas a Rhywioldeb yng Nghymru o fis Medi 2022, ar gyfer
ystyriaeth frys gan y Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi gyda'r hawl i alw arbenigwyr
allanol i mewn i’r Pwyllgor hwnnw.
Gwahoddwyd y Cyng.
Louise Hughes i ymhelaethu ar y cynnig. Nododd y sylwadau canlynol:
·
Diolch
am dderbyn cais cyfarfod arbennig ac i bawb am fynychu.
·
Ei
bod wedi galw cyfarfod oherwydd bod effaith cyflwyno Addysg Cydberthynas a
Rhywioldeb yn amlygu pryder a phoen meddwl iddi ynghyd ac anwybodaeth lawn o’r
pwnc. Pwysig felly rhannu gwybodaeth a chynnal trafodaeth agored (gan dderbyn
bydd gwahaniaeth barn)
·
Bod
cyflwyno Cod Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb yn statudol ac eisoes wedi ei
gyflwyno yn Yr Alban a Lloegr – i’w gyflwyno yng Nghymru 01/09/22
·
Bydd
yr addysg yn cael ei gynnwys ar draws y cwricwlwm ac nid fel pwnc unigol – hyn
yn peri pryder
·
Bod
achos Adolygiad Barnwrol ynglŷn â chyflwyniad y pwnc wedi ei dderbyn gan
yr Uchel Lys
·
A
yw cyflwyno Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb yn diogelu ein plant? Yn eu
gwarchod rhag pwy ac o beth?
·
Bod
cynnwys y cwricwlwm wedi ei selio ar waith Alfred Kinsey sydd yn dyddio’n ôl
i’r 1940au - ymddygiad gwahanol yn y cyfnod yma
·
Ei
bod yn annog cyd Aelodau i ddarllen dogfennaeth Sefydliad Iechyd y Byd
(WHO)
·
Bod
yr addysg yn yr Alban eisoes yn cynnig cyfarwyddiadau eglur i blant 9-12 oed ar
sut i gael rhyw
·
Bod
gemau adnabod a sut i enwi rhannau o’r
corff yn Loegr ac yn yr Alban ar gyfer plant 7-9 oed yn cael eu cynnwys yn y
cyfarwyddiadau a bod yr addysg i ddechrau gyda phlant 3 oed.
·
Yn
ôl ymchwil, ni ddylai plant gael cynnig unrhywbeth nad ydynt yn gallu ei
brosesu - rhaid ystyried bod aeddfedrwydd yn sail i wneud penderfyniadau
·
Fel
Cynghorwyr, rheini a llywodraethwyr dylai’r mater gael ei graffu – yn croesawu
trafodaeth
Gwahoddwyd eilydd
i’r cynnig, y Cyng. Gruffydd Williams i gyflwyno sylwadau
·
Nad oedd yn ymwybodol bod ymgynghoriad cyhoeddus
wedi ei gynnal
·
Bod
angen sicrhau tryloywder. Angen rhannu gwybodaeth am derminoleg a themâu'r
cwricwlwm
·
A fydd deunyddiau, hyfforddiant, adnoddau ar gael?
·
Angen sicrhau diogelwch plant drwy sicrhau bod mwy
o gymorth ar gael cyn gweithredu. Cymryd mai athrawon a chymorthyddion yw’r
‘ymarferion’?
·
Angen canllawiau mwy penodol – a oes asesiad
addasrwydd oed a datblygiad wedi ei gwblhau? A oes tystiolaeth wedi ei
gyflwyno?
Gwahoddwyd y Cynghorydd Beca Brown i agor yr ymateb fel yr Aelod Cabinet
sydd â chyfrifoldeb am faterion addysg. Nododd y sylwadau isod:
·
Bod y deunydd sydd yn cael ei
rannu ar y cyfryngau cymdeithasol a trwy ddrysau pobol yn ddiweddar, gan griw
sy’n lobïo yn erbyn y Cod Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb yn ddeunydd cwbl
anghywir a gwallus
·
Nad oedd eisiau enwi’r grŵp
lobïo na rhoi platfform na chyhoeddusrwydd i bobl
sy’n gweithredu mewn ffordd anghyfrifol, ac sydd mewn
peryg o danseilio lles a diogelwch plant a phobl ifanc y wlad
·
Ei bod yn gwbl
gefnogol i’r Cod Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb a'i bod yn rhoi blaenoriaeth i les,
diogelwch, iechyd a hapusrwydd plant a phobol ifanc Gwynedd.
·
Yn dyheu i weld plant y Sir yn hyderus wrth greu perthnasau iach; yn hyderus
wrth osod ffiniau o gwmpas eu cyrff eu hunain; yn hyderus i ddeud na; yn hapus yn
eu croen eu hunain, i barchu croen y rhai sy o’u cwmpas nhw, ac i dyfu fyny i
fod yn bobl empathi sydd yn deall ac yn parchu gwahaniaeth; yn deall ac yn
parchu cydsynio ac yn byw eu bywyd gyda chyfartaledd, tegwch a charedigrwydd
wrth wraidd bob dim maen nhw’n wneud.
·
Bod y Cod Addysg Cydberthynas a
Rhywioldeb yn ganllaw i blant ddeall mwy amdanynt eu hunain a phobl eraill
wrth iddynt dyfu i fyny ac yn cyflwyno addysg sydd wir ei angen bydd yn ymateb i’r holl
son am fwlio ar sail rhywedd, rhywioldeb, hunaniaith, hil,
crefydd neu gefndir.
·
Bod yr addysg yma wedi
cael ei ddatblygu gan arbenigwyr - yn athrawon, yn weithwyr ieuenctid ac yn
arweinwyr yn y maes. Arbenigwyr plant, sef ein hathrawon, fydd
yn trosglwyddo’r addysg yn arbenigwyr sydd wedi rhoi
oes o waith i wella byd plant a dim criw bach sy’n ceisio codi ofn a rhoi camargraff.
·
Y Cod wedi cael ei gymeradwyo gan Senedd Cymru. Y Comisiynydd Plant a’r
NSPCC yn llwyr gefnogol iddo.
·
Bod pob dim sy’n cael ei ddysgu
yn addas i oed ac i ddatblygiad y plant mewn dull addysg luosog - yn cyflwyno
sawl safbwynt i’r plant heb wthio un yn fwy na’r llall.
·
Bod y deunydd sy’n cael ei
rannu gan y lobïwyr sydd yn erbyn yr addysg yma yn codi braw ac nid oherwydd
pryder am yr hyn fydd yn cael ei ddysgu o dan y côd ond oherwydd bod gwybodaeth
a newyddion ffug yn cael ei ledaenu am bwnc sydd yn ofnadwy o bwysig, lles
plant.
·
Plant Gwynedd yn haeddu'r
addysg yma. Maent yn haeddu bod yn saff ac yn sicr wrth fynd drwy eu bywyd. Ein
lle ni yw gwneud safiad dros eu hawliau a sicrhau eu bod yn cael yr hyn maent
eu hangen, a’r hyn maent yn ei haeddu.
Gwahoddwyd y
Swyddog Monitro i roi eglurhad cryno o ystyr adolygiad barnwrol. Nododd bod
adolygiad barnwrol yn caniatáu i'r llys weithredu mewn modd goruchwyliol i
adolygu cyfreithlondeb penderfyniad a wnaed gan gyrff cyhoeddus wrth iddynt
weithredu swyddogaethau cyhoeddus. Ategwyd nad oedd Cyngor Gwynedd yn rhan o
achos adolygiad barnwrol sydd wedi ei wneud gan grŵp o rieni yn erbyn
Llywodraeth Cymru ac mai caniatâd i’r rhieni wneud y cais yn unig sydd wedi ei dderbyn gan y
Llys ac nad oedd dyfarniad wedi ei wneud ar rinweddau y cais . Ategodd ei fod
yn derbyn bod y sefyllfa yn creu ansefydlogrwydd ond bod y gofyn statudol ar
ysgolion i weithredu yn parhau mewn grym yn unol â gofynion Deddf Cwricwlwm ac
Asesu (Cymru) 2021
Rhoddwyd cyfle i’r aelodau gyflwyno sylwadau a gofyn cwestiynau. Codwyd y materion a ganlyn gan aelodau
unigol:-
·
Bod angen amddiffyn plant gan sicrhau eu bod yn
ddiogel, cael eu hatal rhag niwed
·
Bod dyletswydd ar Gynghorwyr y Sir i amddiffyn plant
dan eu gofal a sicrhau addysg lawn i blant (ar draws y Cwricwlwm)
·
Bod gofyn statudol yma i addysgu plant – yn
croesawu’r ddeddfwriaeth newydd
·
Bod angen hawl ar blant i dderbyn y gwersi heb
ddewis gan y rhiant i’w heithrio
·
Bod
Comisiynydd Plant yn cefnogi’r cynnwys
·
Bod
Llywodraeth Cymru wedi ymgynghori gyda phlant ac ymchwil yn amlygu’n glir y byddai
plant yn ymateb yn well i wybodaeth gywir
·
Bod addysg yn cryfhau diogelwch plant, yn fodd o
wneud i blant sylweddoli beth sydd yn iawn a beth sydd ddim
·
Bod
llenyddiaeth gamarweiniol iawn yn cael ei ddosbarthu ymysg y cyhoedd
·
Bod angen rhannu gwybodaeth gywir
·
Bod angen parchu penderfyniadau a dewisiadau rhieni
·
Bod gweithredu’r cod yn rhoi pwysau ychwanegol ar athrawon
·
Mai’r Ysgol Uwchradd fyddai’r lle gorau i ddechrau
dysgu addysg rhyw
·
Hawdd gosod canllawiau ar bapur ond anodd fydd
gweithredu
·
Bod achos llys i ddod – a yw hyn yn gwarantu saib
cyn gweithredu?
·
Dyma’r unig bwnc na fydd gan rieni hawl ei newid.
·
A ddylid craffu problemau a wynebwyd gan Yr Alban a
Lloegr wedi cyflwyno’r addysg yma cyn dechrau gweithredu yng Ngwynedd?
Mewn ymateb i
gwestiwn ynglŷn â barn athrawon, nododd y Prif Weithredwr bod athrawon ac
undebau’r athrawon wedi bod yn rhan o’r ymgynghoriad a bod ganddo ffydd yn yr
athrawon i addasu’r addysg yn briodol.
Yn ystod y
drafodaeth bu i aelod o’r cyhoedd dorri ar draws y drafodaeth. Er derbyn
rhybudd gan y Cadeirydd i dawelu, roedd yr
unigolyn yn parhau i dorri ar draws. Gorchmynnwyd iddo adael y Siambr. O
ganlyniad, bu i amryw o’r cyhoedd ymateb ac aflonyddu ymhellach ar y cyfarfod.
Penderfynwyd gohirio’r cyfarfod i geisio trefn.
Wrth ail agor y cyfarfod, gyda phresenoldeb yr Heddlu, nododd y Prif
Weithredwr ei fod yn dymuno trafodaeth agored ac aeddfed a’i fod yn ymwybodol
bod y pwnc yn un emosiynol. Gofynnodd i bawb barchu barn eraill ac ategodd y
byddai’r Heddlu yn gwagu’r oriel gyhoeddus petai aflonyddwch pellach.
Rhoddwyd cyfle i aelodau gyflwyno sylwadau a gofyn cwestiynau:
·
Yn parchu gwahaniaeth barn ond rhaid rhoi diogelwch
plant yn ganolog i bopeth
·
Derbyn bod y pwnc yn un emosiynol ac nad oedd
arbenigwyr Addysg Cydberthynas
a Rhywioldeb yn bresennol yn y cyfarfod
·
Bod
angen grymuso plant - addysg a gwybodaeth yn gwneud hyn:
·
Er
nad oes dewis ond gweithredu o’r 1af o Fedi 2022, angen monitro'r sefyllfa a
chraffu’r cyflwyniad gan sicrhau hyfforddiant priodol i weithredu yn gywir.
·
Bod angen adnabod aeddfedrwydd disgybl
·
Rhaid
diogelu plant ond sicrhau hefyd bod mesurau diogelu yn eu lle
·
Nad
oedd y cod yn cynnig newid mawr i’r addysg rhyw sydd eisoes yn cael ei gyflwyno
ar wahân i’w integreiddio ar draws y cwricwlwm
·
Y ddarpariaeth yn bwysig ac ar gael i bob plentyn
·
Rhaid symud ymlaen gyda threfn ac nid dysgu ar
fympwy
·
Bod rhaid sicrhau gwybodaeth gywir i Gynghorwyr
ymateb i gwestiynau rhieni
·
Nad yw’r canllawiau yn pwysleisio mai 16 yw oedran
cydsynio rhywiol
·
Angen sicrhau bod athrawon yn cael eu gwarchod – eu
diogelu rhag adlach
·
Bod Cwricwlwm Cymru ar gyfer Cymru ac nid i’w
gymharu gyda’r Alban a Lloegr
·
Bydd athrawon yn trafod sut i addysgu yn ôl oed ac
aeddfedrwydd
·
Croesawu
bod fframwaith pendant ac iach yn ei lle ac yn cefnogi arweiniad pendant
Llywodraeth Cymru
·
Nad
oedd yr Adolygiad Barnwrol yn rheswm i newid penderfyniad.
Mewn ymateb i sylw
bod y mater, ar gais Cadeirydd y Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi, mewn
cyfarfod diweddar o’r’ Fforwm Craffu angen sylw’r pwyllgor cyn cyfarfod mis
Hydref 2022 a beth fyddai’n digwydd petai’r cynnig yn cael ei golli ar
bleidlais, nododd y Prif Weithredwr mai ymateb a thrafod cynnwys y polisi oedd
bwriad y Pwyllgor Craffu yng nghyfarfod 20 Hydref 2022.
Mewn ymateb i
gwestiwn ynglŷn â’r Adran Addysg yn rhagweld problemau o ystyried bod rhai
athrawon yn cael eu disgyblu yn Yr Alban a Lloegr, nododd y Swyddog Monitro nad
oedd manylion yr achos wedi eu amlygu ond nid oedd yn gweld fod sail i bryderu os bydd athrawon yn
cydymffurfio gyda gofynion y cwricwlwm a’r gyfraith.
Yn manteisio ar y cyfle
i gloi’r drafodaeth, nododd y cynigydd, y Cyng. Louise Hughes, y pwyntiau
canlynol:
·
Ei bod yn croesawu’r drafodaeth ac yn diolch i bawb
am eu cyfraniad
·
Bod y pwnc yn faes cymhleth ac emosiynol
·
Nad yw
gwahaniaeth barn yn golygu bod yn anghywir
·
Cyngor Gwynedd yr unig Gyngor yn Gymru i drafod y
pwnc
·
Dim
gwrthwynebiad i addysg rhyw, ond angen gwarchod plant ifanc
·
Bod gan rieni gyfrifoldebau a hawliau dros addysg eu
plant
·
Angen
bod yn dryloyw, cymryd camau gofalus, dysgu o gamgymeriadau a chydweithio - dim
rheswm dros bleidleisio yn erbyn craffu’r mater
Pleidleisiwyd ar y cynnig
PENDERFYNWYD gwrthod cyfeirio'r
materion sydd yn ymwneud a chyflwyno’r Cwricwlwm Addysg Cydberthynas a
Rhywioldeb yng Nghymru o fis Medi
2022 ar gyfer ystyriaeth frys gan y Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi gyda hawl
i alw arbenigwyr allanol i mewn i’r Pwyllgor hwnnw.
Dogfennau ategol: