Agenda item

Cais i godi adeilad i storio dodrefn ardd ynghyd â chodi adeilad cyfagos i arddangos a gwerthu dodrefn, ardal storio agored ac estyniad i'r faes parcio cwsmeriaid presennol

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Cai Larsen

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Caniatáu gydag amodau

 

  1. 5 mlynedd. 
  2. Unol â chynlluniau a gyflwynwyd.
  3. Defnydd atodol i’r prif ganolfan garddio.
  4. Cwblhau'r parcio ychwanegol cyn defnyddio’r adeilad. 
  5. Yr holl arwyddion mewnol ac allanol i fod yn Gymraeg yn unig neu yn ddwyieithog gyda’r flaenoriaeth i’r iaith Gymraeg.
  6. Amodau bioamrywiaeth (golau, gwelliannau bioamrywiaeth.
  7. Tirweddu.
  8. Cytuno cynllun draenio tir.
  9. Cyfyngu i werthiant o nwyddau cymharol yn unig, dim gwerthiant o nwyddau cyfleus (bwyd)

 

Cofnod:

Cais i godi adeilad i storio dodrefn ardd ynghyd â chodi adeilad cyfagos i arddangos a gwerthu dodrefn, ardal storio agored ac estyniad i'r maes parcio cwsmeriaid presennol

 

Y cais wedi ei ohirio ym Mhwyllgor Cynllunio mis Gorffennaf er mwyn cynnal ymweliad safle.

 

Roedd rhai o’r Aelodau wedi ymweld â’r safle 02/09/22 er mwyn ymgyfarwyddo gyda gosodiad a chyd-destun y bwriad o fewn yr amgylchedd lleol. 

 

Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr

 

a)            Amlygodd y Rheolwr Cynllunio mai cais llawn ydoedd ar gyfer ymestyn canolfan arddio Fron Goch drwy godi adeilad i storio dodrefn ardd ynghyd a gofod cyfagos i arddangos a gwerthu dodrefn, ardal storio agored. Byddai'r adeilad yn mesur 46.2 medr o hyd (yn ei fan hiraf), 22.7 medr o led a 7.8 medr i ran uchaf y to yn gwneud cyfanswm o 977 medr sgwâr. Bwriedir hefyd ymestyn y lle parcio ceir cwsmeriaid presennol ynghyd a chreu ardal storio yn mesur 1452 medr sgwâr a leolir rhwng yr adeilad bwriededig a therfyn newydd de orllewinol y safle.

 

Gan fod defnydd manwerthu yn bodoli eisoes ar y safle awgrymwyd y dylid ystyried egwyddor y bwriad yn erbyn Polisi MAN6 (Manwerthu yng nghefn gwlad). Yn unol â pholisi MAN6, caniateir cynigion ar gyfer siopau ar raddfa fechan ac estyniadau i siopau presennol sydd tu allan i’r ffin datblygu, cyn belled fod y bwriad yn cydymffurfio gyda meini prawf y polisi. Amlinellir yn y maen prawf cyntaf y dylai’r  bwriad fod yn elfen israddol o fusnes presennol ar y safle. Datgan yr eglurhad i Bolisi MAN 6 mai’r lleoliad mwyaf addas i siopau yw o fewn ffiniau aneddiadau trefi a phentrefi. Fodd bynnag, gall siopau ar raddfa fechan sy’n cael eu rhedeg ar y cyd a busnes sydd eisoes ar y safle yn debygol o ddarparu gwasanaeth a chyflogaeth ddefnyddiol i gymuned wledig.

 

Wedi pwyso a mesur y bwriad yng nghyd-destun y polisïau perthnasol ni ystyriwyd bod y bwriad yn dderbyniol i’w ganiatáu oherwydd bod lleoliad, dwysedd, y cynnydd mewn maint yn afresymol ac y byddai'r bwriad yn cael effaith negyddol sylweddol ar edrychiad a chymeriad yr ardal sydd yn groes i sawl polisi. Yn ychwanegol nid yw’n glir os yw’r effaith ar fioamrywiaeth a’r amgylchedd naturiol yn dderbyniol ac  ni ystyriwyd fod cyfiawnhad am y golled o dir amaethyddol fyddai’n deillio o’r bwriad.

 

Wedi rhoi ystyriaeth lawn i’r holl faterion cynllunio perthnasol ni ystyriwyd fod y bwriad yn cyfarfod amcanion polisïau cynllunio.

 

b)            Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd yr Aelod Lleol y sylwadau canlynol:

·         Ei fod yn gefnogol i’r cais ac yn anghytuno gyda’r seiliau gwrthod

·         Elfennau bioamrywiaeth - hyderus bydd modd symud ymlaen heb greu effaith ar y coed hynafol a’r gwrychoedd aeddfed. Gwarchod y rhain yn fantais i ddenu pobl i leoliad hyfryd a naturiol

·         Bod y datblygiad yn un sylweddol ond nid yw’r safle yn agored. Nid yw’n weladwy hyd nes ei gyrraedd. Nid yw’r adeilad arfaethedig yn cwrdd â throthwy ‘adeilad mawr’

·         Nid yw’r bwriad yn is-raddol i’r busnes presennol - ni ellir ei lynu wrth y prif adeilad ond mae’n ‘ffitio’ i mewn i’r safle - yn darparu a rhesymoli trefn a diogelwch y safle i ddefnyddwyr: Yn intigreiddiedig i’r busnes ac nid mewn unrhyw ffordd yn annibynnol.

·         Colled tir amaethyddol – perchnogion y safle sydd yn berchen y tir ac nid yw’n cael ei ddefnyddio fel tir amaeth yn bresennol na bwriad o wneud hynny i’r dyfodol – nid yw’n dir amaethyddol o ansawdd uchel

·         Yn cyflogi yn lleol ac yn gyflogwr arwyddocaol.

·         Bod y Gymraeg yn glywadwy ac yn weladwy ar y safle

·         Bod y busnes yn haeddu cefnogaeth gan yr Awdurdod Lleol ac nid  rhwystrau

 

c)            Cynigiwyd ac eiliwyd caniatáu y cais yn groes i’r argymhelliad

 

ch)       Mewn ymateb i’r cynnig nododd Pennaeth Cynorthwyol Cynllunio ac Amgylchedd bod y polisïau perthnasol yn atal datblygiadau o raddfa fawr yng nghefn gwlad ac nad oedd y polisi yn unigryw i’r datblygiad yma. Awgrymodd i’r Aelodau ystyried amod bod y defnydd yn ddefnydd atodol i’r prif adeilad (yn un is-wasanaethol) ac   amod ychwanegol yn atal gwerthu o’r datblygiad

 

d)            Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylw canlynol gan aelodau:

·         Nad yw’r estyniad yn fawr o ystyried yr hyn sydd ar y safle yn barod

·         Nad oedd bwriad defnyddio’r tir fel tir defnydd amaethyddol

·         Nad oedd yn creu effaith andwyol ar edrychiad cefn gwlad - y  lleoliad yn guddiedig

·         Yn creu swyddi da i bobl leol. Y Gymraeg ‘yn fyw’ yno

·         Siomedig nad oedd ymateb gan yr Adran Economi

·         Bod y Cyngor Cymuned ac Uned Trafnidiaeth Cyngor Gwynedd yn gefnogol i’r bwriad ac nad oedd Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cyflwyno sylwadau

·         Bod y safle yn atyniad poblogaidd, yn daclus, yn drefnus ac yn gyflogwr da

·         Bod canolfannau garddio yn boblogaidd - yn llesol ar gyfer y corff a’r meddwl. Y busnes yn tyfu ac yn ehangu yn unol ag ehangder diddordeb yn y maes

·         Yn darparu cefnogaeth  i ddyfodol cynaliadwy – dyfodol lle byddwn yn cael ein hannog i dyfu ein bwyd ein hunain

·         Bod yr estyniad yn gam naturiol. Y cynllun yn cadw siâp y tir ac yn gwarchod y tir o’i amgylch.

·         Yn gefnogol i’r amodau a gynigiwyd

 

Mewn ymateb i sylw ynglŷn â phriodoldeb yr amodau ac os dylid ail ymgynghori gyda’r ymgeisydd a’r Aelod Lleol, nododd Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol bod gan y Pwyllgor, er yn mynd yn groes i’r argymhelliad, yr hawl i ffurfio a gosod amodau. Nododd, pe byddai’r ymgeisydd yn anhapus gyda’r amodau yna bod hawl ganddo i apelio.

 

Amlygodd y Rheolwr Cynllunio'r amodau perthnasol gan nodi bod yr amodau yn lleihau’r risgiau o fynd yn groes i bolisi. Cadarnhaodd y Pennaeth Cyfreithiol nad oedd dim yn amhriodol yn yr hyn oedd yn cael ei amodi ac yn unol â’r cyngor a gynigwyd bod yr amodau yn cefnogi’r penderfyniad; cyfrifoldeb y Pwyllgor yw gwneud penderfyniad

 

PENDERFYNWYD: Caniatáu gydag amodau

 

1.            5 mlynedd. 

2.            Unol â chynlluniau a gyflwynwyd.

3.            Defnydd atodol i’r prif ganolfan garddio.

4.            Cwblhau'r parcio ychwanegol cyn defnyddio’r adeilad. 

5.            Yr holl arwyddion mewnol ac allanol i fod yn Gymraeg yn unig neu yn ddwyieithog gyda’r flaenoriaeth i’r iaith Gymraeg.

6.            Amodau bioamrywiaeth (golau, gwelliannau bioamrywiaeth.

7.            Tirweddu.

8.            Cytuno cynllun draenio tir.

9.            Cyfyngu i werthiant o nwyddau cymharol yn unig, dim gwerthiant o nwyddau cyfleus (bwyd)

 

 

 

Dogfennau ategol: