Agenda item

Adeiladu tŷ newydd a llecynnau parcio

AELOD LLEOL: Cynghorydd Dafydd Davies

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Gwrthod

 

Rhesymau

 

  1. Mae’r bwriad, oherwydd ei faint a gosodiad yn groes i ofynion Polisïau PCYFF3, TAI 4, o’r CDLL. Ystyrir byddai’r bwriad yn groes i’r patrwm datblygu oherwydd diffyg cwrtil / man agored o gwmpas y tŷ. Ni ystyrir byddai’r bwriad yn ychwanegu at nac yn gwella cymeriad ac ymddangosiad y safle a byddai colled o wagle agored rhwng anheddau presennol yn niweidio edrychiad a chymeriad y strydlun a’r ardal cadwraeth.

 

  1. Ystyrir bod y bwriad yn groes i ofynion polisïau PS19, PS20, AT 1 a AMG 1 o’r CDLL gan na fyddai’r bwriad, oherwydd y golled o lecyn agored ynghyd a maint ac edrychiad y tŷ, yn diogelu nac yn gwella’r gosodiad ac edrychiad yr ardal cadwraeth a’r Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol a golygfeydd pwysig i mewn ac allan o’r ardal.

 

Cofnod:

Adeiladu tŷ newydd a llecynnau parcio

 

Y cais wedi ei ohirio ym Mhwyllgor Cynllunio mis Gorffennaf er mwyn cynnal ymweliad safle.

 

Roedd rhai o’r Aelodau wedi ymweld â’r safle 02/09/22 er mwyn ymgyfarwyddo gyda gosodiad a chyd-destun y bwriad o fewn yr amgylchedd lleol. 

 

Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr

 

a)    Amlygodd y Swyddog Rheolaeth Datblygu mai cais llawn ydoedd i godi tŷ deulawr ar lain o dir ger Pen Lôn, o flaen anheddau a adnabyddir fel Y Ficerdy a Clynnog House gydag annedd preswyl Tŷ Isaf a Court Cottages at gefn y safle o fewn ardal breswyl a ffin datblygu Clynnog Fawr. Ceir hefyd yma fynediad cefn at Eglwys Beuno Sant sydd hefyd yn cael ei ddefnyddio gan y pum tŷ presennol cyfagos. Nodwyd bod y safle wedi ei leoli yn union gerllaw Adeiladau Rhestredig, wedi lleoli o fewn yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) a hefyd o fewn Ardal Cadwraeth ac er derbyn nifer o sylwadau ynglŷn a pharcio a man troi, nid oedd gan yr Uned Trafnidiaeth wrthwynebiad.

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio ar gais gan yr aelod lleol.

 

Wedi ystyried yr holl faterion perthnasol gan gynnwys polisïau a chanllawiau lleol a chenedlaethol a’r sylwadau a dderbyniwyd, amlygwyd na ellid argymell caniatáu’r cais oherwydd y methiant i fodloni gofynion polisïau TAI y CDLL sy’n ymwneud ag addasrwydd y datblygiad i gydymffurfio â chymeriad yr anheddle ar ran ei faint a graddfa a bod angen amddiffyn y llecyn agored rhag gor-ddatblygiad er mwyn diogelu edrychiad a chymeriad yr ardal cadwraeth leol.   

 

b)    Cynigiwyd  ac eiliwyd caniatáu y cais

 

Rhesymau: Hawl i berson godi tŷ a byw yn ei gynefin; plwyf yw Clynnog ac nid Eglwys yn unig; y dyluniad yn dderbyniol - mater o farn; Dim gwrthwynebiad gan yr Uned Trafnidiaeth na’r AHNE.

 

c)      Mewn ymateb i’r cynnig a sylw bod y Cyngor Cymuned yn cefnogi cartref i deulu lleol, nododd Pennaeth Cynorthwyol Cynllunio ac Amgylchedd mai tŷ marchnad agored oedd dan sylw ac nad oedd modd cyfyngu pwy fydd yn gallu byw yn yr eiddo.

 

ch) Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan Aelodau:

·         Bod y dyluniad yn rhy fodern, yn amhriodol ac yn sefyll allan yn y lleoliad yma

·         Bydd yn creu effaith ar yr eglwys – yn anaddas i’w leoliad

·         Mater o farn yw'r dyluniad – tir gwag yng nghanol y pentref

·         Bod y tir ym meddiant person lleol sydd eisiau dychwelyd i fyw yn y pentref

·         A yw polisïau yn gwarchod pobl ynteu adeiladau? Blaenoriaethu pwysigrwydd yr eglwys ynteu gadw pobl yn lleol?

·         Dyluniad yn dderbyniol – awgrym cynnwys amod i osod cerrig blaen

 

d)    Pleidleisiwyd ar y cynnig i ganiatáu.

 

Disgynnodd y cynnig

 

e)    Cynigiwyd ac eiliwyd gwrthod y cais yn unol ar argymhelliad

 

PENDERFYNWYD: Gwrthod

 

Rhesymau

 

1.    Mae’r bwriad, oherwydd ei faint a gosodiad yn groes i ofynion Polisïau PCYFF3, TAI 4, o’r CDLL. Ystyrir byddai’r bwriad yn groes i’r patrwm datblygu oherwydd diffyg cwrtil / man agored o gwmpas y tŷ. Ni ystyrir byddai’r bwriad yn ychwanegu at nac yn gwella cymeriad ac ymddangosiad y safle a byddai colled o wagle agored rhwng anheddau presennol yn niweidio edrychiad a chymeriad y strydlun a’r ardal cadwraeth.

 

2.    Ystyrir bod y bwriad yn groes i ofynion polisïau PS19, PS20, AT 1 a AMG 1 o’r CDLL gan na fyddai’r bwriad, oherwydd y golled o lecyn agored ynghyd a maint ac edrychiad y tŷ, yn diogelu nac yn gwella’r gosodiad ac edrychiad yr ardal cadwraeth a’r Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol a golygfeydd pwysig i mewn ac allan o’r ardal.

 

Dogfennau ategol: