skip to main content

Agenda item

Estyniad unllawr

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Gareth Williams

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Caniatáu gydag amodau:

 

1.         Cychwyn o fewn 5 mlynedd.

2.         Unol a’r cynlluniau

3.         To llechi

4.         Deunyddiau i weddu

5.         Amod Dŵr Cymru

 

Cofnod:

Estyniad unllawr

 

Y cais wedi ei ohirio ym Mhwyllgor Cynllunio mis Gorffennaf er mwyn cynnal ymweliad safle.

 

Roedd rhai o’r Aelodau wedi ymweld â’r safle 02/09/22 er mwyn ymgyfarwyddo gyda gosodiad a chyd-destun y bwriad o fewn yr amgylchedd lleol. 

 

Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr. 

 

a)   Amlygodd y Rheolwr Datblygu mai cais ydoedd ar gyfer codi estyniad unllawr ar flaen tŷ unllawr. Adroddwyd y byddai’r datblygiad yn cynnwys ymestyn modurdy presennol, sy'n ffurfio rhan integredig o'r tŷ, 1.5m yn ei flaen. Byddai’r elfen newydd yma gyda tho brig, 3.8m o uchder (1.2m yn is na brig to'r tŷ ei hun)  gyda drws garej ar ei flaen.

 

Nodwyd bod yr eiddo yn un o res o dai ar wahân gerllaw ffordd ddosbarth 2 y B4413 mewn ardal anheddol o fewn ffin datblygu Pentref Arfordirol - Gwledig Aberdaron fel y’i diffinnir gan Gynllun Datblygu Lleol Gwynedd ac Ynys Môn; Yr eiddo hefyd o fewn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol ddynodedig a Thirwedd o Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol Llŷn ac Enlli.

 

Cyflwynwyd y cais gerbron y Pwyllgor ar gais y cyn aelod lleol, y Cynghorydd W Gareth Roberts, oedd yn gwrthwynebu cais ar sail effaith weledol y datblygiad ar y strydwedd ac oherwydd pryderon ynghylch yr effaith mwynderol ar gymdogion.

 

Cyfeiriwyd at Polisi PCYFF 3 y CDLL sy'n datgan bod disgwyl i bob cynnig arddangos dyluniad o ansawdd uchel sy'n rhoi llawn ystyriaeth i gyd-destun yr amgylchedd adeiledig o gwmpas. Yn yr achos hwn, wrth ystyried graddfa, dyluniad a deunyddiau'r estyniad,  ystyriwyd mai bychan iawn fyddai'r newid i edrychiad y safle o'i gymharu â'r tŷ presennol ac na fyddai unrhyw niwed i ansawdd adeiledig yr eiddo'n deillio o'r datblygiad. Nodwyd y gellid gosod amodau yn sicrhau bod y deunyddiau a ddefnyddir yn gweddu gweddill y tŷ.

 

Yn ogystal, adroddwyd, er y byddai peth cynnydd yn swmp yr adeilad ynghyd ag ymestyniad o'r "llinell adeiladu" yn ei flaen ychydig, nid oes unrhyw batrwm adeiladu pendant i ddatblygiadau yn yr ardal ac oherwydd mai bychan yw’r newid a byddai’r cynnig yn parchu cyd-destun adeiledig y safle ac yn gweddu gyda’r ardal o gwmpas. O ganlyniad, ystyriwyd bod y cynllun a gyflwynwyd, oherwydd ei raddfa, deunyddiau a dyluniad, yn gweddu’n briodol gyda'r eiddo presennol ac felly’n cydymffurfio gydag anghenion polisi PCYFF 3.

 

Er bod y safle’n gorwedd o fewn yr AHNE, ac o ystyried ei leoliad trefol, ni fyddai’r bwriad dan sylw yn effeithio ar gymeriad tirwedd yr AHNE.  Yn yr un modd ni ystyriwyd y bydd niwed i'r Dirwedd o Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol - y bwriad yn dderbyniol dan ofynion Polisïau AMG 1 ac AT 1 y CDLl ac felly hefyd dim effaith ar gymdogion na’r strydlun.

 

      b)   Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd yr Aelod Lleol y sylwadau canlynol:

·         Ei fod yn cytuno’n llwyr gyda sylwadau’r cyn Cynghorydd

·         Nid ‘angen’ i ehangu sydd yma ond perchennog yn dewis ymestyn ar gyfer storio cwch a thractor yn ei ail dŷ. Addasiad ’yn ddymunol’ ar gyfer ‘hamddena’ - does dim ‘angen’ yma

·         Byddai’r addasiad yn ddolur llygad - yn sefyll allan ac uchder y to yn creu effaith ar fwynderau cymdogion gan gwtogi golau naturiol

·         Digon o siediau amaeth yn lleol ar gael yn cynnig lloches i dractor a / neu gwch

·         Y bwriad yn adlewyrchu plot ‘diwydiannol’ yn creu ‘uned ddiwydiannol’ ar gyfer dibenion yr ymgeisydd heb unrhyw ystyriaeth i eraill - garej eisoes ar y safle

·         Bod estyniad storio ar y safle – heb hawl cynllunio

·         Byddai caniatáu yn gosod cynsail beryglus a chymeriadau tai Aberdaron yn cael eu colli am byth

·         Nid anghydfod rhwng cymdogion sydd yma ond pryderon cyn Gynghorydd a Chyngor Cymuned

·         Ers y cyfarfod diwethaf, ac erthygl yn y Daily Post, ei fod wedi derbyn cyhuddiadau annheg.

·         Ail dŷ, sydd yma – yn wag am fwyafrif o’r flwyddyn heb  ‘angen’ estyniad - yn creu effaith ar fwynderau pobl sy’n byw yn barhaol yn yr ardal. Annheg fyddai caniatáu.

 

Amlygodd y Rheolwr Cynllunio nad oedd Polisi Cyff 2 yn gofyn am gyfiawnhad dros estyniad ond bod safon i’r dyluniad. Er efallai yn ddymunol i’r perchennog, rhaid hefyd ystyried yr effaith ar gymdogion. Ategwyd bod y cais wedi ei gyflwyno fel defnydd tŷ ac nid fel defnydd busnes ac felly nid yw awgrymu ‘be ellid ei gael’ fod yn berthnasol yma. Mewn ymateb i sylw bod estyniad arall ar y safle cadarnhawyd bod cais pellach wedi ei gyflwyno ond y byddai yn cael ei ystyried ar wahân i’r cais yma.

 

b)         Cynigiwyd  ac eiliwyd gwrthod y cais oherwydd ei effaith ar yr AHNE, ei fod yn weledol amlwg ac yn orddatblygiad

 

ch)      Mewn ymateb i’r cynnig, nododd Pennaeth Cynorthwyol Cynllunio ac Amgylchedd mai estyniad ‘bach iawn’ i fyngalo oedd dan sylw ac ni fyddai yn cael effaith ar yr AHNE, cymdogion na’r strydlun. Ategodd, petai’r cais yn cael ei wrthod byddai’n debygol o fynd i apêl.

 

c)        Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan Aelodau:

·         Estyniad bychan

·         Cais tebyg wedi ennill ar apêl

 

dd)    Pleidleisiwyd ar y cynnig i wrthod

 

d)        Disgynnodd y cynnig

 

e)      Cynigiwyd ac eiliwyd caniatáu y cais yn unol â’r argymhelliad

 

     PENDERFYNWYD: Caniatáu gydag amodau:

 

1.         Cychwyn o fewn 5 mlynedd.

2.         Unol a’r cynlluniau

3.         To llechi

4.         Deunyddiau i weddu

5.         Amod Dŵr Cymru

 

 

 

Dogfennau ategol: