Agenda item

 

Codi 10 tŷ fforddiadwy canolradd a gwaith cysylltiedig.

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Gareth A Roberts

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

 

Dirprwyo’r hawl i’r Uwch Reolwr Cynllunio i ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i’r amodau isod:

 

  1. 5 mlynedd.
  2. Yn unol â’r cynlluniau/manylion a gyflwynwyd gyda’r cais.
  3. Cydymffurfio a’r cynllun tirweddu ynghyd a gwaith cynnal a chadw i’r dyfodol.
  4. Sicrhau cynllun/trefniadau ar gyfer darparu’r anheddau fforddiadwy e.e. meini prawf meddiannaeth, amserlen a threfniadau i sicrhau bydd yr unedau yn fforddiadwy yn bresennol ac am byth.
  5. Cydymffurfiaeth gydag argymhellion y dogfennau Arolwg Ecolegol ac Asesiad Effaith Coedyddiaeth.
  6. Cytuno manylion enw Cymraeg ar gyfer y datblygiad ac ar gyfer yr anheddau oddi fewn y datblygiad cyn i’r anheddau preswyl cael eu meddiannu at unrhyw ddiben ynghyd ac arwyddion sy'n hysbysu ac yn hyrwyddo'r datblygiad.
  7. Cyfyngu ar oriau gweithio i 08:00-18:00 Llun i Wener; 08:00-13:00 Sadwrn a dim o gwbl ar y Sul a Gŵyl y Banc.
  8. Cyflwyno Datganiad Dull Adeiladu i’r ACLL i gynnwys mesurau lleihau sŵn, llwch a dirgryniad, parcio cerbydau gweithredwyr y datblygiad, llwytho/dadlwytho nwyddau, storio cyfarpar offer ar y safle, ffensys diogelwch, cyfleusterau golchi olwynion a chynllun ail-gylchu/gwaredu sbwriel.
  9. Amodau perthnasol gan yr Uned Drafnidiaeth gan gynnwys sicrhau gwelededd o 33m i’r de-orllewin o’r brif fynedfa.
  10. Cytuno gyda gorffeniadau allanol yr anheddau.
  11. Llechi naturiol i’r toeau.
  12. Cytuno ar ffens acwstig
  13. Cytuno ar gyfarpar chwarae i plant.

 

Nodyn: Angen cyflwyno cais system ddraenio cynaliadwy i’w gytuno gyda’r Cyngor.

 

Cofnod:

Codi 10 tŷ fforddiadwy canolradd a gwaith cysylltiedig.

 

Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr. 

 

a)    Amlygodd y Swyddog Rheolaeth Datblygu mai cais llawn oedd dan sylw i godi 10 tŷ fforddiadwy canolradd ynghyd a gwaith cysylltiedig. Disgrifiwyd y safle fel safle segur cyn-Ysgol Babanod Coed Mawr i’r de o ganol dinas Bangor; oddi fewn i ardal breswyl rhwng Ffordd Caernarfon a Ffordd  Penrhos ac oddi fewn i ffin datblygu Bangor fel y’i cynhwysir yn y CDLL . Ategwyd nad oedd wedi ei ddynodi ar gyfer unrhyw ddefnydd arbennig. Rhannwyd y cais i sawl elfen wahanol oedd yn cynnwys:

 

     Darparu tai fforddiadwy canolradd ar ffurf: 4 tŷ par deulawr 2 lofft (4 person); 4 tŷ par deulawr 3 llofft (5 person) a 2 dy deulawr 3 llofft (5 person) gyda deiliadaeth ecwiti a rennir.

     Darpariaeth llecynnau parcio oddi ar y ffordd.

     Creu ardaloedd gerddi, palmentydd a chwrtilau preifat.

     Addasiadau i’r fynedfa bresennol a darparu ffordd a llwybrau i gerddwyr o fewn y safle.

     Tirweddu caled a meddal gan gynnwys plannu amrywiaeth o goed a llwyni.

     Creu llecyn chwarae i blant.

     Gosod system draenio dŵr aflan i wasanaethu’r anheddau ynghyd a system dwr wyneb.

 

Eglurwyd bod y safle’n presennol yn cynnwys gweddillion adeiladwaith y cyn-ysgol sy’n cynnwys hwynebau caled (concrid) a hwynebau meddal (glaswellt). Cyfeiriwyd at y polisïau perthnasol oedd wedi ei nodi yn yr adroddiad

 

Yng nghyd-destun egwyddor y datblygiad, nodwyd bod yr egwyddor yn dderbyniol ar sail lleoliad, angen, cymysgedd tai, defnydd, tai fforddiadwy a dwysedd ynghyd a’r wybodaeth ychwanegol a gyflwynwyd gan yr ymgeisydd. Ystyriwyd bod y bwriad yn dderbyniol ar sail mwynderau gweledol a rhagwelwyd y byddai yn y pendraw, yn creu cyfraniad positif i gymeriad y rhan yma o’r strydlun.

 

Yng nghyd destun mwynderau cyffredinol a phreswyl nodwyd bod nifer o wrthwynebiadau wedi eu derbyn gan rai o ddeiliaid Lôn Bedw a Bron y De yn ymwneud a cholli preifatrwydd ac aflonyddwch sŵn y gall ddeillio o ddefnyddio’r llecyn chwarae arfaethedig sydd wedi ei leoli yng nghornel de-gorllewinol y safle. Fodd bynnag, o ystyried bod llystyfiant eisoes yn bodoli rhwng cefnau anheddau Lôn Bedw a Bron y De gyda safle’r cais; defnydd blaenorol y safle fel defnydd addysgol; y bwriad i godi ffens coedyn 1.8m o uchder o amgylch ffin allanol y safle; bod y llecyn tir wedi ei ddewis ar sail hybu gwyliadwriaeth oddefol gan y cyhoedd ynghyd a’r bwriad o blannu mwy o lystyfiant cyfagos ac oddi fewn i’r llecyn chwarae. O ganlyniad, ystyriwyd na fydd y bwriad o leoli’r llecyn chwarae o fewn y rhan yma o’r safle yn mynd i darfu’n sylweddol ar fwynderau preswyl na chyffredinol deiliaid cyfagos. Ategwyd bod yr ymgeisydd wedi nodi bwriad o osod ffens acwstig fyddai’n lleihau sŵn a bod modd gosod amod perthnasol i sicrhau hyn.

 

Wedi asesu’r bwriad cyfredol yn ei gyfanrwydd, ni adnabuwyd unrhyw effaith sylweddol niweidiol fyddai’n groes i bolisïau cynllunio lleol a chyngor cenedlaethol perthnasol. I’r perwyl hyn, ystyriwyd y bwriad yn dderbyniol yn ddarostyngedig ar gynnwys amodau perthnasol.

 

b)  Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd yr Aelod Lleol y sylwadau canlynol:

·         Ei fod yn gefnogol i’r cais

·         Siomedig nad oedd byngalos wedi eu cynnwys yn y cynllun

 

c)  Cynigiwyd  ac eiliwyd caniatáu y cais

 

d)    Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â dymchwel yr hen ysgol, nodwyd bod rhybudd i ddymchwel wedi ei ganiatáu ac wedi ei weithredu.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â thystiolaeth am yr angen, nodwyd bod tystiolaeth wedi ei gyflwyno am yr angen am dai canolradd a bod y cynllun yn llenwi gwagle yn yr angen am y math yma o dai.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn ag ystyr tai canolradd nodwyd bod tai canolradd ar gyfer y rhai hynny sydd methu prynu tŷ ar y farchnad agored ac nid  yn gymwys ar gyfer tŷ cymdeithasol. Mewn ymateb i gwestiwn atodol ynglŷn â diffiniad o dŷ fforddiadwy o ystyried cynnydd mewn costau byw, nodwyd nad oedd diffiniad tŷ fforddiadwy wedi ei  addasu, ond bod ymgeiswyr yn cael eu hasesu ar lefelau cyflog a phrisiau tai - nid yw costau byw yn cael ei ystyried ar hyn o bryd.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â diffyg manylder am y  llecyn agored /man chwarae a'r gofyn statudol i ddarparu cyfarpar, nodwyd bod modd gosod amod yn sicrhau yr angen i ddarparu offer priodol ar y llecyn agored. Cyfeiriwyd at y wybodaeth gyfredol a gyflwynwyd gan yr Uned Polisi yn cadarnhau bod darpariaeth o 70m2 yn cael ei ddarparu fel rhan o’r datblygiad sydd yn fwy na chyfarch yr angen ar gyfer llecynnau a chyfarpar offer i blant o fewn yr ardal.

 

PENDERFYNWYD: Dirprwyo’r hawl i’r Uwch Reolwr Cynllunio i ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i’r amodau isod:

 

1.    5 mlynedd.

2.    Yn unol â’r cynlluniau/manylion a gyflwynwyd gyda’r cais.

3.    Cydymffurfio a’r cynllun tirweddu ynghyd a gwaith cynnal a chadw i’r dyfodol.

4.    Sicrhau cynllun/trefniadau ar gyfer darparu’r anheddau fforddiadwy e.e. meini prawf meddiannaeth, amserlen a threfniadau i sicrhau bydd yr unedau yn fforddiadwy yn bresennol ac am byth.

5.    Cydymffurfiaeth gydag argymhellion y dogfennau Arolwg Ecolegol ac Asesiad Effaith Coedyddiaeth.

6.    Cytuno manylion enw Cymraeg ar gyfer y datblygiad ac ar gyfer yr anheddau oddi fewn y datblygiad cyn i’r anheddau preswyl cael eu meddiannu at unrhyw ddiben ynghyd ac arwyddion sy'n hysbysu ac yn hyrwyddo'r datblygiad.

7.    Cyfyngu ar oriau gweithio i 08:00-18:00 Llun i Wener; 08:00-13:00 Sadwrn a dim o gwbl ar y Sul a Gŵyl y Banc.

8.    Cyflwyno Datganiad Dull Adeiladu i’r ACLL i gynnwys mesurau lleihau sŵn, llwch a dirgryniad, parcio cerbydau gweithredwyr y datblygiad, llwytho/dadlwytho nwyddau, storio cyfarpar offer ar y safle, ffensys diogelwch, cyfleusterau golchi olwynion a chynllun ail-gylchu/gwaredu sbwriel.

9.    Amodau perthnasol gan yr Uned Drafnidiaeth gan gynnwys sicrhau gwelededd o 33m i’r de-orllewin o’r brif fynedfa.

10.  Cytuno gyda gorffeniadau allanol yr anheddau.

11.  Llechi naturiol i’r toeau.

12.  Cytuno ar ffens acwstig

13.  Cytuno ar gyfarpar chwarae i plant.

 

Nodyn: Angen cyflwyno cais system ddraenio cynaliadwy i’w gytuno gyda’r Cyngor.

 

Dogfennau ategol: