skip to main content

Agenda item

Uwchraddio cyfleusterau yn cynnwys gosod 10 uned deithiol a 6 pod glampio yn lle 25 pabell awdurdodwyd gan Dystysgrif Defnydd Cyfreithlon C12/1554/44/TC 

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Gwilym Jones

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

 

Dirprwyo’r hawl i’r Rheolwr Cynllunio i ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i’r amodau canlynol:

  1. Amser
  2. Yn unol â’r cynlluniau.
  3. Cyfyngu nifer o unedau teithiol i 10 uned deithiol, 6 pod a 50 pabell. 
  4. Defnydd gwyliau yn unig a chadw cofrestr.
  5. Tymor gwyliau - 1af Mawrth i 31 Hydref
  6. Symud y podiau i safle storio a ddangosir yn y cynllun rhwng 1 Tachwedd a 29 Chwefror. 
  7. Cwblhau’r gwaith tirweddu yn y tymor plannu cyntaf.
  8. Unol ac argymhellion Adroddiad Ecolegol

 

  • Nodiadau: Tynnu sylw at sylwadau Swyddog Trwyddedu Carafanau
  • Nodiadau: Tynnu sylw at sylwadau Cyfoeth Naturiol Cymru ynglŷn â chael cynllun llifogydd mewn lle.

 

Cofnod:

Uwchraddio cyfleusterau yn cynnwys gosod 10 uned deithiol a 6 pod glampio yn lle 25 pabell a awdurdodwyd gan Dystysgrif Defnydd Cyfreithlon C12/1554/44/TC

 

Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr

 

a)    Amlygodd y Rheolwr Cynllunio mai cais llawn ydoedd ar gyfer uwchraddio cyfleusterau yn cynnwys gosod 10 uned deithiol a 6 pod glampio symudol yn lle 25 pabell a awdurdodwyd gan Dystysgrif Defnydd Cyfreithlon C12/1554/44/TC yn safle Tyddyn Adi, Morfa Bychan. Byddai’r gwaith hefyd yn cynnwys tirlunio rhwng y lleiniau carafanau a thirlunio i amgáu safle’r podiau.

 

Tynnwyd sylw at sylwadau’r Cyngor Cymuned oedd wedi gwrthwynebu’r cais oherwydd bod y podiau glampio yn ymddangos fel nodwedd barhaol. Adroddwyd bod   gwybodaeth ychwanego wedi ei dderbyn gan yr ymgeisydd yn nodi bod y podiau yn rhai un stafell ac yn rhai symudol y gellid eu storio ar ddiwedd y tymor.

 

Cyfeiriwyd ar Polisi TWR5 o’r CDLl sydd yn caniatáu cynigion i ddatblygu safleoedd teithiol a llety gwersylla amgen dros dro os ydynt yn cydymffurfio a’r cyfan o’r meini prawf. Ystyriwyd fod dyluniad, gosodiad ac edrychiad y bwriad o ansawdd derbyniol a’i fod wedi ei leoli mewn lleoliad anymwthiol wedi ei guddio’n dda gan nodweddion presennol y dirwedd. Ni chredir byddai cyfnewid yr unedau o bebyll i garafanau a phodiau yn peri niwed sylweddol i ansawdd gweledol y dirwedd yn y safle yma.

 

Amlygwyd bod cynllun safle yn nodi nad yw’n fwriad gosod lleiniau caled i’r unedau ac mae’r Datganiad Cynllunio yn datgan nad yw’n fwriad cysylltu’r podiau i system ddraenio. Bydd y podiau yn cael eu symud i safle storio dros y gaeaf, felly bydd cysylltiad ffisegol i’r ddaear yn gyfyngedig. Mae blociau cawod a thoiledau presennol yn bodoli eisoes ar y safle, a bydd defnyddwyr y carafanau a podiau arfaethedig yn defnyddio’r ddarpariaeth bresennol. Nid oes bwriad adeiladu adeilad newydd fel rhan o’r cais.

 

Yng nghyd-destun mwynderau gweledol nodwyd bod y safle yn gorwedd  mewn lleoliad cefn gwlad. Ystyriwyd bod y safle ar y cyfan wedi cael ei sgrinio’n dda o ran helaeth o olygfeydd, gyda mannau gwan yma thraw yn y tirlunio. Ategwyd bod y safle yn weladwy o fannau agos o’r llwybr cyhoeddus ond bod cynllun yn dangos bwriad i dirweddu gyda gosodiad dwysedd isel, mannau agored a rhesi o wrychoedd oddi fewn y safle.

 

Cyfeiriwyd at y ffaith bod rhan o’r cae o fewn parth llifogydd C2 a phetai’n ddatblygiad o’r newydd y byddai’n groes i bolisi. Fodd bynnag, o ystyried sefyllfa ‘fall back’ a’r safle eisoes â chaniatâd am 75 pabell, ni fyddai cyfnewid yr unedau yn groes i bolisi gan nad yw’n cynyddu risg yn yr achos yma. Gellid dadlau oherwydd y gostyngiad niferoedd, y byddai’r risg yn lleihau.  O ystyried mai rhan fechan o’r cae yn unig sydd o fewn Parth C2 a sefyllfa caniatâd presennol y safle, cesglir na fyddai’r bwriad yn gwaethygu na chynyddu risg llifogydd yn yr achos yma. Awgrymwyd felly fod y sefyllfa ‘fall back’ yn golygu nad yw’r bwriad yn groes i bolisi NCT 15 a pholisi PS 6 y CDLl, gyda nodyn cyngor yn cael ei gynnwys i ddilyn cynghorion sylwadau CNC.   

 

Er nad oedd angen cyflwyno datganiad ar sut y disgwylir i ystyriaethau i’r Iaith Gymraeg eu hymgorffori i’r datblygiad, nodwyd bod yr ymgeisydd wedi cyflwyno datganiad iaith ar y modd y mae’n bwriadu rhoi ystyriaeth i’r Gymraeg.

 

Wedi ystyried yr holl faterion cynllunio perthnasol gan gynnwys polisïau a chanllawiau lleol a chenedlaethol yn ogystal â sylwadau a dderbyniwyd, ystyriwyd fod y bwriad yn dderbyniol na fyddai’n cael effaith niweidiol sylweddol ar y dirwedd, mwynderau’r gymdogaeth na diogelwch ffyrdd.

 

b)    Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd yr Aelod Lleol y sylwadau canlynol:

·         Ei fod yn gefnogol i’r datblygiad

·         Yn croesawu mwy o le ar gyfer unedau teithiol

·         Bod ymateb y swyddog i sylwadau’r Cyngor Cymuned ynglŷn â’r  podiau  yn dderbyniol.

 

c)    Cynigwyd ac eiliwyd caniatáu y cais

 

PENDERFYNWYD:

 

Dirprwyo’r hawl i’r Rheolwr Cynllunio i ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i’r amodau canlynol:

 

1.         Amser

2.         Yn unol â’r cynlluniau.

3.         Cyfyngu nifer o unedau teithiol i 10 uned deithiol, 6 pod a 50 pabell. 

4.         Defnydd gwyliau yn unig a chadw cofrestr.

5.         Tymor gwyliau - 1af Mawrth i 31 Hydref

6.         Symud y podiau i safle storio a ddangosir yn y cynllun rhwng 1 Tachwedd a 29 Chwefror. 

7.         Cwblhau’r gwaith tirweddu yn y tymor plannu cyntaf.

8.         Unol ac argymhellion Adroddiad Ecolegol

 

           Nodiadau: Tynnu sylw at sylwadau Swyddog Trwyddedu Carafanau

           Nodiadau: Tynnu sylw at sylwadau Cyfoeth Naturiol Cymru ynglŷn â chael cynllun llifogydd mewn lle.

 

 

 

 

 

 

Dogfennau ategol: