Agenda item

I dderbyn diweddariad ar raglen waith Chwarter 1 Archwilio Cymru ac adroddiadau sydd wedi eu cyhoeddi yn ddiweddar

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad.

Cofnod:

Cyflwynwyd - adroddiad ar y cyd gan Reolwr Gwasanaeth Cefnogi Busnes y Cyngor ac Archwilydd Arweiniol, Archwilio Cymru yn amgáu diweddariad Chwarter 1 Archwilio Cymru ar waith y cyrff adolygu (Atodiad 1) ac adroddiad cenedlaethol ‘Taliadau Uniongyrchol ar gyfer Gofal Cymdeithasol i Oedolion’ (Atodiad 2).

 

Croesawyd Alan Hughes (Archwilio Cymru) i’r cyfarfod, a manylodd ar gynnwys adroddiad Chwarter 1.

 

Gwahoddwyd cwestiynau a sylwadau gan yr aelodau.  Yn ystod y drafodaeth, codwyd y materion a ganlyn:-

 

·         Mewn ymateb i gwestiwn, cadarnhawyd mai yn 2023 y byddai’r adroddiad terfynol ar y gwaith Sicrwydd ac Asesu Risg (tudalen 114 o’r rhaglen) yn barod.  Eglurwyd bod yna 2 elfen i’r gwaith, sef ystyried yr elfennau er sicrwydd a’r mannau lle mae’r risg yn bodoli.  Fel arfer, roedd y gwaith yn cael ei grynhoi o gwmpas Rhagfyr / Ionawr cyn trafod gyda’r cynghorau ynglŷn â lle mae’r budd mwyaf i fod yn siapio cynllun lleol y flwyddyn i ddod, a’r siapio yna oedd wedi helpu dylanwadu’r cynllun archwilio ar gyfer eleni.  Gan hynny, wrth edrych ar faterion fel Gofal heb ei Drefnu, Digidol ac Adolygiad o Effethiolrwydd Craffu ddaeth allan o’r gwaith y llynedd, byddai’r archwilwyr yn mynd drwy’r drefn eto o asesu sicrwydd a risg ac yn ceisio dod i gasgliad ynglŷn â lle mae’r elfennau sicrwydd.  Roedd yna ychydig o risg yn bodoli hefyd, a gallai’r risg fod yn genedlaethol, yn rhanbarthol neu’n lleol.  Byddai’r gwaith yn digwydd drwy gydol y flwyddyn, gan edrych ar y sefyllfa ariannol tuag at ddiwedd y flwyddyn pan fyddai’r cyfrifon wedi’u drafftio, fel bod modd tynnu’r ffigurau ohonynt.  Dyna un o’r darnau gwaith oedd ar y gweill ar hyn o bryd, sef edrych ar y patrwm ariannol yn y cynghorau.

·         Gan gyfeirio at waith sy’n digwydd dros gyfnod mwy hir-dymor, holwyd a oedd yna unrhyw negeseuon interim fyddai’n gallu helpu’r pwyllgor gyda’i waith, yn hytrach nag aros tan ddiwedd y broses.  Mewn ymateb, nodwyd bod argymhelliad yn yr adroddiad Taliadau Uniongyrchol ar gyfer Gofal Cymdeithasol i Oedolion ynglŷn â data, a bod cyfeiriad yn y 4 adroddiad diwethaf a baratowyd gan Archwilio Cymru yng Ngwynedd at well defnydd o ddata.  Cafwyd adroddiad yn edrych ar y drefn reoli perfformiad ac roedd cyfeiriad yno at ddefnydd o ddata yn hybu gwneud penderfyniadau, ac ati, fel rhan o edrych ar sut mae argymhellion yn deillio o archwiliad allanol, ac ati, yn cael eu cwblhau.  Roedd yna adroddiadau rheolaidd hefyd yn diweddaru’r pwyllgor ar yr ymateb i’r argymhellion.  Nid oedd yn debygol y byddai’r data yn symud oddi ar y radar yn fuan iawn a chredid bod angen gwneud y defnydd gorau ohono i wneud penderfyniadau.

·         Mewn ymateb i gwestiwn, eglurwyd bod yr Adolygiad o Effeithiolrwydd Craffu yn ddarn o waith lleol, er ei fod yn bwnc oedd yn codi mewn cynghorau eraill hefyd, a diau y byddai yna enghreifftiau o waith tebyg ar gael ar safle we Archwilio Cymru gan ei fod yn destun sy’n cael ei archwilio o dro i dro yn y cynghorau.

·         Holwyd a fyddai’n addas i’r pwyllgor hwn weld yr adroddiad terfynol ynglŷn â’r adolygiad craffu.  Mewn ymateb, eglurwyd bod hyn yn syrthio i’r ardal lwyd rhwng yr hyn sy’n fater archwilio a risg a llywodraethu a’r hyn sy’n fater craffu pur.  Fodd bynnag, roedd gan y pwyllgor hwn rôl statudol o gadw trosolwg o sut mae’r Cyngor yn cael ei redeg a chredid bod edrych ar sut mae’r trefniadau craffu yn gweithio yn disgyn i mewn i’r categori llywodraethu, ac felly o fewn sgôp y pwyllgor.  Pwysleisiwyd hefyd mai rôl y pwyllgor hwn fyddai bodloni ei hun bod gan y Cyngor drefniadau priodol mewn lle i ymateb i’r prif negeseuon a’r argymhellion, yn hytrach na chraffu’r adroddiad.

 

Yna gosododd Alan Hughes (Archwilio Cymru) y cyd-destun i’r adroddiad ‘Taliadau Uniongyrchol ar gyfer Gofal Cymdeithasol i Oedolion’ a manylodd yr Uwch Reolwr Busnes ymhellach ar gynnwys yr adroddiad.

 

Gwahoddwyd cwestiynau a sylwadau gan yr aelodau.  Yn ystod y drafodaeth, codwyd y materion a ganlyn:-

 

·         Gan gyfeirio at dudalen 158 o’r rhaglen, lle mae’r tabl arddangosydd 4 yn cymharu blynyddoedd 2016/17 gyda 2018/19, sylwyd bod Gwynedd yn un o’r 5 awdurdod welodd y gostyngiad mwyaf yn y ganran o bobl oedd yn derbyn taliadau uniongyrchol.  Holwyd sut roedd hyn yn cymharu gyda’r blynyddoedd ers hynny, a gofynnwyd hefyd a oedd gweithwyr cymdeithasol yn gwneud digon i dynnu sylw pobl at y ddarpariaeth.  Mewn ymateb, nodwyd bod y niferoedd wedi aros yn eithaf sefydlog yn ystod y cyfnod Cofid, yn bennaf, mae’n debyg, oherwydd bod pobl yn teimlo nad oedd hyn yn rhywbeth ychwanegol y byddent yn dymuno ei gymryd ymlaen yn ystod y cyfnod.  Fodd bynnag, roedd angen cadw trac ar y ffigurau, gan dyfu’r gwasanaeth dros y blynyddoedd nesaf.  Eglurwyd bod llawer o gynghorau wedi mewnoli’r tîm sy’n rheoli’r taliadau uniongyrchol, a thros y misoedd nesaf, byddai’r Cyngor hwn yn edrych ar opsiynau gwahanol, megis mewnoli’r gwasanaeth neu basio’r gwasanaeth ymlaen i gomisiynydd allanol.  O ran y pwynt ynglŷn â gweithwyr cymdeithasol, nodwyd bod hynny’n amrywio ac yn ddibynnol ar hyder y gweithiwr cymdeithasol i hyrwyddo’r taliadau fel opsiwn.  Nodwyd hefyd mai un o flaenoriaethau’r gwasanaeth dros yr wythnosau nesaf fyddai darparu gwybodaeth a hyfforddiant i’r gweithwyr cymdeithasol fel eu bod yn hollol hyderus o ran hyrwyddo’r ddarpariaeth fel opsiwn, ac yn gallu ymateb i unrhyw gwestiynau neu bryderon.  Awgrymwyd hefyd y gellid codi hyder y gweithwyr cymdeithasol drwy roi’r cyfle iddynt weld sut mae timau eraill yn gweithredu, e.e. timau o Ynys Môn sy’n gweithio o Ysbyty Gwynedd.

·         Cyfeiriwyd at y ffeithiau allweddol ar dudalen 133 o’r rhaglen, sy’n nodi bod y gyfran o oedolion a oedd yn derbyn gwasanaethau gofal cymdeithasol trwy Daliadau Uniongyrchol yn 2018-19 yn amrywio o 1.6% (137) yng Ngwynedd i 12.9% (336) yng Ngheredigion, a holwyd a oedd y ffigwr wedi newid yn sylweddol erbyn hyn.  Mewn ymateb, nodwyd bod gan Wynedd 198 o unigolion yn derbyn y taliad bellach, yn cynnwys unigolion a phlant.  Gan hynny, roedd y ffigwr wedi cynyddu ers 2018/19, ond ddim cymaint ag y dymunid.

·         Holwyd a oedd cleifion sy’n derbyn taliadau uniongyrchol yn ei chael yn anodd cael pobl i ofalu amdanynt, ac ai dyma’r rheswm pam bod y niferoedd yn isel yng Ngwynedd?  Mewn ymateb, cadarnhawyd bod hynny’n broblem ar hyn o bryd.  Nodwyd, mewn siroedd eraill, bod yna unigolion yn gweithio i gwmnïau neu i’r cyngor lleol ac yn gweithio i unigolion sy’n derbyn taliadau uniongyrchol yn ystod y nos.  Roedd angen edrych yn fwy manwl ar yr opsiwn hwn, ond yn sicr, roedd diffyg cymorthyddion yn broblem ar hyn o bryd, ac yn debygol o roi pobl i ffwrdd os ydyn nhw’n edrych i mewn i’r posibilrwydd o daliadau uniongyrchol, ond yn methu cael gafael ar neb i ofalu amdanynt.  Ceisid cael y cwmni sy’n cael ei gomisiynu gan y Cyngor i gadw cofrestr o gymorthyddion sydd ar gael fel bod unigolion yn gallu cael gwybodaeth ynglŷn â phwy fyddai’n gallu eu cynorthwyo.  Nodwyd hefyd, gan nad oedd yn ofynnol i’r sawl sy’n cael ei gyflogi fod yn gofrestredig, bod modd i unigolion gyflogi ffrind neu gymydog, ac roedd hynny weithiau’n cynnig ateb lle mae’n anodd cael cwmni gofal i roi’r gwasanaeth.

·         Awgrymwyd gan aelod bod yna naddu ar y wladwriaeth les yma drwy roi cyfrifoldeb ar yr unigolyn yn hytrach na’r sefydliadau.

·         Holwyd i ba raddau roedd taliadau uniongyrchol yn caniatáu codi’r gyfradd tâl (sef £12.62 fesul awr) i gymorthyddion personol, gan fod yna brinder gweithwyr yn y maes yn y sir ac yn ehangach.  Mewn ymateb, nodwyd bod Gwynedd yn talu un o’r cyfraddau uchaf yng Nghymru ar adeg casglu’r data, ond yn amlwg roedd angen ail-edrych ar y gost uned erbyn hyn gan mai un o’r prif rwystrau i ddod o hyd i ofalwyr oedd lefel y cyflog.

·         Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â’r posibilrwydd o unigolion yn cychwyn micro fentrau gofal yn lleol, nodwyd bod y Cyngor yn gweithio gyda chwmni o’r enw Community Catalyst ar hyn o bryd.  Bwriad y cwmni oedd sefydlu’r micro fentrau hyn, a hynny oedd wedi amlygu’r angen i ail-edrych ar y gyfradd tâl, yn hytrach na bod y sawl sy’n derbyn y taliadau uniongyrchol wedi bod yn gwneud sylw bod y lefel tâl yn isel.  Felly, os ail-edrych ar y gyfradd, byddai’n rhaid ail-edrych arno ar gyfer pawb, ac nid ar gyfer y rhai sy’n dod i mewn drwy’r gwaith newydd yn unig.

 

Diolchodd y Cadeirydd i Alan Hughes (Archwilio Cymru) a’r Uwch Reolwr Busnes am gyflwyno’r adroddiad.  Nododd fod y maes yn fwy cymhleth nag y mae adroddiad ar bapur yn gallu gyfleu, ac awgrymodd fod y pwyllgor yn annog y swyddogion i fwrw ymlaen gyda’r rhaglen waith.

 

Nododd Alan Hughes (Archwilio Cymru) fod taliadau uniongyrchol yn faes i’w hyrwyddo ac anogodd bawb i ddarllen Adran 4 o’r adroddiad, sy’n rhoi blas o’r math o gefnogaeth mae taliadau uniongyrchol yn gallu rhoi er mwyn gwella llesiant pobl.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad.

 

 

Dogfennau ategol: