Agenda item

I ystyried cais Mr A

 

(copi arwahan i aelodau’r Is Bwyllgor yn unig)

 

Penderfyniad:

Cofnod:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Amlygodd y byddai'r penderfyniad yn cael ei wneud yn unol â pholisi trwyddedu Cyngor Gwynedd. Nodwyd mai pwrpas y polisi oedd gosod canllawiau ar y meini prawf wrth ystyried cais yr ymgeisydd gyda’r nod o ddiogelu’r cyhoedd drwy sicrhau:

 

       Bod yr unigolyn yn unigolyn addas a phriodol

       Nad yw'r unigolyn yn fygythiad i'r cyhoedd

       Bod y cyhoedd wedi'u diogelu rhag pobl anonest

       Bod plant a phobl ifanc wedi'u diogelu

       Bod pobl ddiamddiffyn wedi'u diogelu

       Bod y cyhoedd yn gallu bod yn hyderus wrth ddefnyddio cerbydau trwyddedig

 

 

Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu adroddiad ysgrifenedig ar gais a dderbyniwyd gan Mr A am drwydded gyrru cerbyd hacni/hurio preifat. Gofynnwyd i’r Is-bwyllgor ystyried y cais yn unol â’r cofnod DBS, y canllawiau ar droseddau a chollfarnau perthnasol ynghyd ag adroddiad Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau a thystysgrif feddygol. Roedd yr Awdurdod Trwyddedu yn argymell i’r Is-bwyllgor ganiatáu y cais.

 

Mewn ymateb i gyflwyniad y swyddog trwyddedu, oedd yn nodi’r angen i’r ymgeisydd ymhelaethu ar pam na fu iddo gydnabod trosedd yfed a gyrru ar ei ffurflen gais am drwydded, amlygodd y swyddog trwyddedu mai camgymeriad oedd y frawddeg yma yn yr adroddiad ac ymddiheurwyd am gamarwain yr is-bwyllgor.

 

Gwahoddwyd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar y cais gan roi gwybodaeth am gefndir y collfarnau ar ei drwydded a’i amgylchiadau personol. Nododd bod y collfarnau yn rhai hanesyddol ac wedi digwydd mewn cyfnod anodd yn ei arddegau. Amlygodd bod y gollfarn olaf wedi digwydd 37 o flynyddoedd yn ôl ac ers y gollfarn honno yn 1985 ei fod wedi dilyn gyrfa ym myd gofal plant ac oedolion gydag anghenion dysgu.

 

PENDERFYNWYD bod yr ymgeisydd yn berson addas a phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat gyda Chyngor Gwynedd.

 

Wrth gyrraedd eu penderfyniad, roedd yr Is-bwyllgor wedi ystyried y canlynol:

·      Gofynion ‘Polisi Trwyddedu ar gyfer Hurio Preifat a Cherbydau Hacni Cyngor Gwynedd’

·      ffurflen gais yr ymgeisydd

·      adroddiad yr Adran Drwyddedu ynghyd a’r datganiad DBS ac adroddiad Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau

·      sylwadau ar lafar gan yr ymgeisydd

·      Canllawiau'r Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau

·      Ffurflen feddygol yr ymgeisydd

 

Rhoddwyd ystyriaeth benodol i’r materion canlynol

 

Collfarn.1 : Ym Medi 1980, cafwyd yr ymgeisydd yn euog am ddwyn drwy ladrata o siop yn groes i'r Ddeddf Lladrata 1968a.1. Roedd yr ymgeisydd yn 15 oed pan ddigwyddodd y drosedd a derbyniodd ddirwy o £25.

 

Collfarn 2 : Ym mis Awst 1983 cafwyd yr ymgeisydd yn euog o geisio lladrad o anheddau yn groes i'r Ddeddf Lladrata 1968 a.9 (1)(a). Roedd yr ymgeisydd yn 18 oed pan ddigwyddodd y drosedd a derbyniodd orchymyn prawf dwy flynedd.

 

Collfarn 3 : Ym mis Mawrth 1984 cafwyd yr ymgeisydd yn euog o ddau achos o ladrata o siop yn groes i'r Ddeddf Lladrata 1968 a.1 ;Torri Gorchymyn Profiannaeth - Deddf Pwerau Llysoedd Troseddol 1973 a.6. Roedd yr ymgeisydd yn 19 oed pan ddigwyddodd y troseddau a chafodd ei roi mewn canolfan gadw am 21 diwrnod.

 

Collfarn 4 : Ym mis Hydref 1984 cafwyd yr ymgeisydd yn euog o dri achos o ladrata o siop yn

groes i'r Ddeddf Lladrata 1968 a.1 ynghyd a meddu Cyffur Dosbarth A a reolir yn groes i Ddeddf Camddefnydd Cyffuriau 1971 a5.(2). Roedd yr ymgeisydd yn 19 oed pan ddigwyddodd y drosedd a cafodd ei roi mewn dalfa ieuenctid am chwe mis a fforffedu a gwaredu’r cyffuriau.

Collfarn 5 : Ym mis Tachwedd 1985 cafwyd yr ymgeisydd yn euog o ddau achos o ladrata o siop yn groes i'r Ddeddf Lladrata 1968 a.1. Roedd yr ymgeisydd yn 20 oed pan ddigwyddodd y drosedd a derbyniodd orchymyn prawf am ddwy flynedd gydag amod i breswylio mewn hostel am flwyddyn.

 

Ystyriwyd paragraff 2.2 o Bolisi’r Cyngor lle nodi’r nad oes rheidrwydd i berson sydd â chollfarn am drosedd ddifrifol gael ei wahardd rhag cael trwydded, ond bydd disgwyl iddo fod yn rhydd rhag unrhyw gollfarnau am gyfnod priodol fel y nodir yn y Polisi, a dangos tystiolaeth ei fod yn unigolyn addas a phriodol i ddal trwydded. Mae cyfrifoldeb ar yr ymgeisydd i brofi ei fod yn berson addas a phriodol. Mae paragraff 2.4 yn nodi pan fydd ymgeisydd wedi'i gael yn euog o drosedd(au) neu fod mater arall/materion eraill i'w (h)ystyried yng nghyswllt hynny, ni chaiff y cyngor adolygu rhinweddau'r gollfarn honno na'r mater arall hwnnw.

 

Ystyriwyd paragraff 4.5 sydd yn nodi bod Gorchymyn Deddf Ailsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) (Diwygio) 2002 yn caniatáu’r Is-bwyllgor ystyried pob collfarn, p’run ai ydynt wedi eu treulio o dan Ddeddf 1974 neu beidio.

 

Ystyriwyd paragraff 8.0 o’r Polisi sydd yn cyfarch troseddau o anonestrwydd gyda pharagraff 8.1 yn nodi y cymerir golwg ddifrifol ar unrhyw gollfarn sy'n ymwneud ag anonestrwydd. Mae paragraff 8.2 yn nodi bydd cais fel arfer yn cael ei wrthod os bydd gan yr ymgeisydd gollfarn am drosedd a restrir, a bod y gollfarn yn llai na 3 blynedd cyn dyddiad y cais. Nodwyd bod y rhestr troseddau yn cynnwys, ymhlith eraill, lladrata.

 

Mae paragraff 9.1 yn nodi y cymerir safbwynt difrifol o unrhyw drosedd yn ymwneud â chyffuriau gyda pharagraff 9.4 yn nodi bod cais lle mae gan yr ymgeisydd gollfarn unigol yn ymwneud â meddu cyffuriau yn cael ei wrthod fel arfer oni bai bod cyfnod o dair blynedd wedi mynd heibio.

 

Mae paragraff 16.1 o’r Polisi yn ymwneud ag ail-droseddu. Rhaid yn gyntaf sicrhau bod y collfarnau’n bodloni canllawiau’r polisi yn unigol, ond gyda’i gilydd yn creu hanes o ail-droseddu sydd yn dangos diffyg parch at les eraill ac eiddo.  O dan y Polisi rhaid bod 10 mlynedd wedi mynd heibio ers y gollfarn fwyaf diweddar.

 

Daeth yr Is-bwyllgor i gasgliad bod cyfnod yr amser a nodir yn y Polisi lle dylid gwrthod ceisiadau oherwydd troseddau o’r fath wedi mynd heibio - roedd y gollfarn olaf wedi ei chyflwyno 37 mlynedd yn ôl (sydd ymhell tu hwnt i’r cyfnod 3 blynedd), ac felly nid oedd yr un o’r rhagdybiaethau dros wrthod yn goroesi, ac felly nid oedd sail i wrthod y cais.

 

Ystyriwyd hefyd y ‘patrwm’ o aildroseddu o dan baragraff 16.1 sy’n nodi dylid gwrthod cais os nad oes cyfnod o 10 mlynedd wedi mynd heibio ers y gollfarn olaf. Er y canfuwyd bod patrwm amlwg o droseddau anonestrwydd (dwyn yn bennaf), bu 37 mlynedd ers y gollfarn ddiwethaf ac ni chafwyd unrhyw gollfarnau dilynol.

 

Ystyriwyd eglurhad yr ymgeisydd dros ei ymddygiad yn ei arddegau ac roedd yr Isbwyllgor yn ei longyfarch ar ei lwyddiant o drawsnewid ei fywyd.

 

Penderfynodd yr Is-bwyllgor o blaid caniatáu y cais a bod yr ymgeisydd felly yn berson addas a phriodol i ddal trwydded gyrrwr cerbyd hacni a hurio preifat. 

 

Adroddodd y Cyfreithiwr y byddai’r penderfyniad yn cael ei gadarnhau yn ffurfiol drwy lythyr i’r ymgeisydd.