Agenda item

I ystyried a chymeradwyo'r cynnig gan y diwydiant  tacsi i godi’r uchafswm prisiau

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD

 

  • Cymeradwyo’r cynnig i godi’r uchabris yn unol a’r argymhelliad

 

Uchafbris perthnasol

Cyfraddau presennol

Argymhelliad

 

 

 

Lle mae’r daith yn llai na milltir

£3.60

Dim newid

Lle mae’r daith yn fwy na milltir, am y filltir gyntaf

£3.00

Dim newid

Creu ‘tariff’ ychwanegol ar gyfer teithiau mewn bws mini lle mae rhwng 5 ac 8 o deithwyr

£3.00

£3.30

Uchafbris cludo bagiau ychwanegol yn cist y cerbyd

30c

50c

Uchafbris cost ‘valet‘ glanhau proffesiynol

£45

£120

Am logi'r cerbyd rhwng hanner nos a 7:00y.b. unrhyw ddydd neu ar unrhyw amser ar Ŵyl y Banc, heblaw am Ddydd Nadolig a Dydd Calan

50% yn ychwanegol ar y gyfradd sylfaennol

 £4.50

60% yn ychwaegol i’r cyfradd sylfaennol

£4.80

 

  • Cymeradwyo ymgynghoriad cyhoeddus am 14 diwrnod
  • Derbyn yr angen i ail drafod os daw gwrthwynebiadau i’r cynnig cyn gweithredu

 

Cofnod:

a)    Cyflwynwyd adroddiad gan Pennaeth Cynorthwyol Cynllunio ac Amgylchedd oedd yn ymateb i gais gan y diwydiant yng Ngwynedd i newid yr uchaf bris.

 

Yn unol â Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 sydd yn gosod dyletswyddau rheoleiddio ar yr Awdurdod Trwyddedu mewn perthynas â gweithredu  uchaf bris a all gael ei godi ar y cyhoedd wrth deithio mewn cerbydau hacni oddi fewn i’r Sir,  mae’n ofynnol fod unrhyw gais am newid yn cael ei gyflwyno gan y diwydiant. Cadarnhawyd bod 5 cais diweddar wedi eu derbyn gan berchnogion cwmnïau tacsi i adolygu’r prisiau a bod y prisiau hyn ar gyfer cerbydau hacni yn unig ac nid cerbydau preifat. Ategwyd bod y Ddeddf yn caniatáu darparu tabl prisiau ynghyd a’r gofyniad statudol i ddefnyddio cloc tacsi (taxi meter) fel mecanwaith i reoleiddio'r prisiau a diogelu buddiannau’r cyhoedd.

 

Nodwyd y bu cais llwyddiannus i gynyddu’r uchaf bris yn 2019 (wedi 9 mlynedd heb gynnydd) ac nad oedd newid wedi bod ers hynny. Ategwyd bod y cynnydd o £5 i £6 yn yr uchaf bris am y ddwy filltir gyntaf mewn taith tacsi yn 2019 yn un sylweddol ac yn adlewyrchu cyfartaledd costau chwyddiant dros y cyfnod.

 

Cyfeiriwyd at y ffactorau hynny sydd wedi effeithio busnesau tacsi yn ddiweddar (cyfnod clo dros gyfnod covid 19, cynnydd sylweddol yng nghostau tanwydd  ynghyd a chynnydd sylweddol mewn chwyddiant) gan nodi bod rhain yn ffactorau sydd yn effeithio pawb. Nodwyd pwysigrwydd cloriannu effaith y sefyllfa bresennol gan sicrhau tegwch i’r diwydiant a’r defnyddwyr tacsi.

 

Cyfeiriwyd at gynnig ac argymhellion yr Awdurdod Trwyddedu i gynyddu rhai prisiau o gymharu a’r cyfraddau presennol gan adrodd y bydd cyfnod o ymgynghori ar y cynnig yn dilyn penderfyniad y Pwyllgor. Ategwyd y bydd angen ail drafod y cynnig os bydd gwrthwynebiadau yn cael eu cyflwyno gan y diwydiant.

 

b)     Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan Aelodau:

·         Bod y cynnig yn un hael

·         Bod y cynnig am gostau glanhau proffesiynol yn gynnydd sylweddol

·         Angen sicrhau nad yw’r pris yn ormod i’r rhai hynny sydd yn ddibynnol ar wasanaeth tacsi

·         Bod rhai pobl fregus yn gaeth i’w tai oherwydd toriadau mewn gwasanaethau bws - angen sicrhau na fydd y rhain yn cael eu heffeithio gan y cynnydd am wasanaeth tacsi

·         Pryder y gall codi am gost o gludo bagiau gael effaith ar siopau lleol – awgrym y bydd pobl yn troi at siopa ar lein

·         Bod angen osgoi effaith negyddol ar ddefnyddwyr

 

c)    Mewn ymateb i sylw bod rhai cwmnïau yn osgoi siwrneiau byr oherwydd gormod o drafferth a bod sefyllfa o'r fath yn achos o bryder i unigolion bregus, nododd y Pennaeth Cynorthwyol ei ddymuniad i unrhyw achos o’r fath gael ei gyfeirio i’r Awdurdod Trwyddedu.

 

Mewn ymateb i sylw bod prisiau teithiau yn amrywio yn sylweddol mewn rhai ardaloedd, awgrymwyd mai cwmnïau preifat oedd yn gwneud hyn ond y dylid cyflwyno unrhyw esiamplau i’r Awdurdod Trwyddedu fel bod modd edrych i mewn i’r mater. Ategodd y dylid adrodd ar unrhyw ddigwyddiad fel bod modd osgoi sefyllfa o roi pobl mewn risg.

 

Mewn ymateb i gynnydd sylweddol yng nghostau glanhau ‘valet’ proffesiynol (£45 i £120), nodwyd bod y costau hyn yn adlewyrchu gwir gost o lanhau car. Derbyniwyd y sylw bod angen ystyried pob sefyllfa a diffinio perthnasedd pob sefyllfa unigol, ond bod y ffi a argymhellwyd yn un rhesymol.

 

Cynigwyd ac eiliwyd cymeradwyo’r cynnig

 

PENDERFYNWYD:

 

·         Cymeradwyo’r cynnig i godi’r uchabris yn unol a’r argymhellion

·         Cymeradwyo ymgynghoriad cyhoeddus am 14 diwrnod

·         Derbyn yr angen i ail drafod os daw gwrthwynebiadau i’r cynnig cyn gweithredu

Dogfennau ategol: