Adolygu Adroddiad Blynyddol Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd
ac Ynys Môn a diweddariad ar waith yr is-grwpiau.
Penderfyniad:
Derbyn
yr adroddiad, gan nodi’r sylwadau a gyflwynwyd yn ystod y drafodaeth.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr
adroddiad gan Arweinydd y Cyngor a Rheolwr Rhaglen Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus
Gwynedd ac Ynys Môn a tynnwyd sylw yn fras at y prif bwyntiau canlynol:
-
Esboniwyd
fod y Bwrdd wedi ei sefydlu o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol
(Cymru) 2015 a bod y bwrdd yn gorff statudol ar y cyd gydag Ynys Môn.
-
Eglurwyd
fod y gwasanaethau Iechyd a thân, colegau, Cyfoeth Naturiol Cymru, Parc
Cenedlaethol Eryri a chymdeithasau tai yn cael eu cynrychioli ar y bwrdd. Maent
yn adnabod meysydd pwysig a nodi mannau ble gall cydweithio mewn partneriaeth
gael mwy o effaith ar drigolion.
-
Adroddwyd
bod Asesiadau Llesiant yn cael eu cwblhau pob 5 mlynedd dros 13 ardal wahanol.
Nodwyd bod Gwynedd wedi ei rannu yn 8 ardal ac Ynys Môn wedi ei rannu i 5
ardal. Eglurwyd bod y rhaniad yma wedi cael ei greu fel bod y materion pwysicaf
ym mhob ardal yn cael eu cyfarch, gan fod y materion hynny yn amrywio o ardal i
ardal.
-
Cadarnhawyd fod Cynllun Llesiant yn cael ei baratoi ar gyfer y cyfnod
2023-2028 yn dilyn yr Asesiadau Llesiant presennol.
-
Cyfeiriwyd at dri is-grŵp gweithredol sy’n delio â rhai o agweddau
gweithredu’r Bwrdd a nodwyd eu prif blaenoriaethau:
-
Is-grŵp Newid Hinsawdd: yn canolbwyntio ar ddatblygu dulliau atal
llifogydd.
-
Is-grŵp yr Iaith Gymraeg: yn canolbwyntio ar wella a hwyluso’r
defnydd o’r iaith Gymraeg. Cynhaliwyd cynllun peilot er mwyn cydweithio â
sefydliadau cyhoeddus i weld pam bod pobl ddim yn defnyddio’r Gymraeg mewn
derbynfeydd a sut gynyddu defnydd o’r iaith.
-
Is-grŵp Iechyd a Gofal Cymdeithasol Integredig: yn llywodraethu
sefydlu trefn cydweithio yn y sector,
gan gynnwys y Timau Adnoddau Cymunedol.
-
Sicrhawyd
y byddai drafft o’r Cynllun Llesiant (2023-2028) yn cael ei gyflwyno i’r
pwyllgor.
Diolchwyd
am yr adroddiad.
Rhoddwyd cyfle i’r
aelodau ofyn cwestiynau a chynnig sylwadau. Yn ystod y drafodaeth, codwyd y
materion canlynol:
Byddai mewnbwn y
pwyllgor hwn yn ddefnyddiol i’r Bwrdd wrth lunio’r Cynllun Llesiant.
-
Mewn
ymateb i’r ymholiad, esboniodd Arweinydd y Cyngor bod adroddiad yn mynd i’r
Cabinet yn fuan ar sut roedd y Bwrdd yn mynd ati i gasglu gwybodaeth.
Ymhelaethodd Rheolwr Rhaglen Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd ac Ynys Môn
bod drafft y Cynllun Llesiant (2023-2028) ar ei ffordd i’r pwyllgor craffu hwn
mor fuan â phosibl.
Holwyd os oedd
modd gweld cynllun gweithredu’r is-grŵp newid hinsawdd yn ogystal â derbyn
cadarnhad o aelodaeth yr is-grŵp er mwyn edrych ar ei effeithiolrwydd a
chynllun amser.
-
Mewn
ymateb i’r ymholiad, eglurodd Rheolwr Rhaglen Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus
Gwynedd ac Ynys Môn, bod yr is-grŵp yn cael ei arwain gan Gyfoeth Naturiol
Cymru a sicrhawyd yr aelodau fod holl aelodau’r is-grŵp yn cymryd
perchnogaeth ohono. Cydnabuwyd bod amcanion yr is-grŵp wedi bod yn rhy
eang yn ystod y 5 mlynedd ddiwethaf ac o’r herwydd nid oedd wedi bod mor
llwyddiannus a obeithiwyd. Er hyn, ymhelaethodd Arweinydd y Cyngor bod atal
llifogydd yn brif ffocws yn ddiweddar ac yn y Cynllun Llesiant newydd. Nododd y
gwerthfawrogir derbyn sylwadau neu syniadau gan yr aelodau.
Cwestiynwyd sut
roedd y Bwrdd yn ymateb os nad ydi prosiectau yn datblygu fel y gobeithiwyd.
- Mewn ymateb i ymholiad, eglurodd Arweinydd
y Cyngor bod y Bwrdd wedi cael trafferthion gyda gweithio mewn partneriaeth yn
y gorffennol. Er mwyn i’r Bwrdd fod yn llwyddiannus roedd angen i bawb
gydweithio ac o’r herwydd byddai’r Bwrdd yn amlygu yn union pwy fyddai’n
gweithredu ar ba brosiectau a sut bwriedir eu gwireddu yn effeithiol.
Ymhelaethodd fod y Bwrdd yn adrodd i gyrff eraill ac mae hynny’n creu
atebolrwydd ac yn annog partneriaid i weithredu ar amser.
Gofynnwyd sut
roedd y Bwrdd yn ymdrin gyda tlodi. Nodwyd bod cyfraddau tlodi wedi cynyddu yn
y blynyddoedd diwethaf, a bod angen adnoddau i daclo’r broblem.
-
Mewn ymateb i’r ymholiad, nododd Arweinydd y Cyngor ei fod yn mater
pwysig iawn a bod y Cyngor yn datblygu
cynlluniau i helpu daclo’r broblem. Er hyn, mae’n fater cymhleth gan fod
Llywodraeth San Steffan yn gyfrifol am wariant cyhoeddus a budd-daliadau sy’n
rhoi cyfyngiadau ar yr hyn ellir ei gyflawni. Sicrhaodd Arweinydd y Cyngor bod
y Bwrdd yn bod mor weithredol a phosibl i ddatrys y broblem o dlodi yn ogystal
â materion problemus eraill megis cyfraddau gordewdra ymysg plant.
Nodwyd fod rhai o’r prosiectau, megis
Hwb Cymunedol Dolfeurig, Dolgellau yn cymryd peth
amser i’w datblygu a holwyd am amserlen ar gyfer y prosiect. Holwyd hefyd os
oedd yr adroddiad yn gywir i ddweud fod y gwaith wedi cychwyn pan nad oedd
datblygiadau amlwg i’w weld ar y safle.
- Mewn ymateb i’r ymholiad, eglurodd
Arweinydd y Cyngor bod prosiect Hwb Cymunedol Dolfeurig
yn brosiect Cyngor Gwynedd yn hytrach na phrosiect y Bwrdd. I ymhelaethu ar y
prosiect penodol hwn, nodwyd fod pwysau mawr i’r prosiect gael ei gwblhau
oherwydd cyflwr yr adeilad, ond bod problemau wedi bod gyda’r ceisiadau
cynllunio yn y gorffennol. Gan mai prosiect Cyngor Gwynedd ydyw, byddai’r
adrannau perthnasol yn edrych i mewn i’r prosiect yma mor fuan â phosibl.
Ymddiheurwyd bod yr adroddiad yn ymddangos fel bod y gwaith wedi dechrau yn
barod.
PENDERFYNWYD
Derbyn
yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a gyflwynwyd yn ystod y drafodaeth.
Dogfennau ategol: