Agenda item

I ddiweddaru’r Pwyllgor ar reolaeth biniau halen fel rhan o’r Gwasanaeth Cynnal Gaeaf.

 

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad, gan nodi’r sylwadau a gyflwynwyd yn ystod y drafodaeth.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr Aelod Cabinet Priffyrdd a Bwrdeistrefol ac Ymgynghoriaeth Gwynedd a Pennaeth Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol. Tynnwyd sylw yn fras at y prif bwyntiau canlynol:

 

-      Eglurodd yr Aelod Cabinet fod y Cyngor wedi cysylltu â chynghorau tref a chymuned yn y gorffennol er mwyn eu hysbysu na fydd biniau halen yn cael eu llenwi gan y Cyngor mwyach, ac mai eu cyfrifoldeb hwy byddai eu ariannu. Yn anffodus, doedd cynghorau tref a chymuned ddim yn gallu ymdopi â’r costau gan achosi i’r Cyngor dderbyn nifer o alwadau ar ffyrdd peryglus. Oherwydd hyn, roedd yr adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol wedi ail ymweld a’r sefyllfa.

 

-      Datganwyd fod tua 600 o finiau halen wedi eu lleoli ar draws y Sir a bod y Gwasanaeth yn y broses o’u hail llenwi. Byddai’r adran yn eu monitro yn rheolaidd dros y gaeaf er mwyn eu llenwi pan fu angen.

 

-      Esboniwyd bod lleoliadau’r biniau halen yn ogystal a’r ffyrdd sy’n cael eu graeanu gan y Cyngor yn mynd i ymddangos ar Fap Gwynedd er mwyn i drigolion ac Aelodau eu gweld.

 

-      Nododd Pennaeth Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol bod gwaith yn cael ei wneud i rifo’r biniau halen. Byddai rhif unigryw'r bin halen yn ei gwneud yn haws i aelodau a chynghorau tref a chymuned adrodd gan gynorthwyo’r gweithwyr i ddatrys unrhyw broblem yn gynt.

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a chynnig sylwadau. Yn ystod y drafodaeth, codwyd y materion canlynol:

 

Canmolwyd yr adran am dderbyn fod trafferthion wedi codi yn y gorffennol ynglŷn â biniau halen, a clodforwyd y syniad o rifo’r biniau a nodi eu lleoliad ar Map Gwynedd.

 

Holwyd lle’r oedd y cyllid i ail gyflwyno’r gwasanaeth hwn yn deillio.

 

-      Mewn ymateb i’r ymholiad, nododdy Pennaeth Adran bod y cyllid wedi  cronni ers i gynghorau tref a chymuned gymryd drosodd y gwasanaeth. Roedd y gost o ail-gyflwyno’r gwasanaeth yn gymharol debyg ac felly nid oedd angen chwilio am gyllid o unman arall.

 

Gofynnwyd os oedd lleoliad y biniau halen ar Fap Gwynedd yn barod ac os oedd gan y cyhoedd mynediad at y cyfleuster hwn.

           

-      Mewn ymateb i’r ymholiad, cadarnhaodd y Pennaeth Adran nad oedd y biniau halen i’w gweld ar Fap Gwynedd ar hyn o bryd ond roedd y broses o’u ychwanegu wedi cychwyn. Unwaith byddai’r broses yma wedi ei gwblhau, gall drigolion Gwynedd eu gweld drwy wefan y Cyngor. Hysbysir aelodau’r Cyngor yn dilyn cwblhau’r gwaith er eu galluogi i rannu’r wybodaeth gyda trigolion eu ward.

 

Datganwyd pryder bod y Gwasanaeth Cynnal Gaeaf yn cychwyn o 01.10.2022 ymlaen gan nad oedd yn rhoi digon o amser i edrych ar gyflwr y biniau halen a’u disodli pe bai angen.

           

-      Mewn ymateb i’r datganiad hwn, nododd y Pennaeth bod yr adran yn gweithio yn agos gyda’r Peiriannydd Ardal ac yn hyderus y byddai’r biniau halen mewn cyflwr da erbyn pryd y bydd eu hangen. Cadarnhawyd er bod y y gwasanaeth yn cychwyn o 01.10.2022, nad oedd y  gwasanaeth graeanu yn cychwyn nes yr ail wythnos ym mis Tachwedd fel rheol.

 

Tynnwyd sylw ei bod yn ymddangos o’r adroddiad bod mwy o finiau halen yn ardal Arfon o’i gymharu ag ardaloedd eraill y Sir a holwyd os oedd rheswm am hyn ac am y broses ynghlwm a pennu dyraniad biniau mewn ardaloedd.

 

-      Mewn ymateb i’r ymholiad, eglurodd y Pennaeth Adran nad oedd yna unrhyw reswm penodol pam fod mwy o finiau halen yn ardal Arfon. Nododd eu bod yn cael eu dosbarthu yn ôl yr angen a bod asesiad parhaus yn cael ei gynnal.

 

PENDERFYNWYD

Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a gyflwynwyd yn ystod y drafodaeth.

 

Dogfennau ategol: