Penderfyniad:
Derbyn yr adroddiad oedd yn
darparu trosolwg o waith y gwasanaeth Ynni
Newydd yn ogystal â’r gwaith Newid Hinsawdd.
Cofnod:
Derbyniwyd rhagair gan yr Aelod Cabinet Tai ac Eiddo a gyfeiriodd at
waith tîm o Swyddogion yn y Gwasanaeth Eiddo sy’n ceisio lleihau ôl troed
carbon y Cyngor. Nododd eu bod wedi profi llwyddiannau ac o ganlyniad, wrth
greu’r Cynllun Gweithredu Tai, roedd awydd i helpu trigolion a’r cyhoedd yng
Ngwynedd drwy gynnig cymorth a chefnogaeth ymarferol. O ganlyniad eglurwyd bod
y Gwasanaeth Cadwraeth Ynni Newydd wedi cael ei sefydlu. Dan arweiniad y
Rheolwr Ynni a Gwasanaethau Masnachol credwyd bod y gwasanaeth hwn wedi
llwyddo. Mynegwyd balchder yn y gwaith a phwysleisiwyd pwysigrwydd lledaenu’r
neges am y gwaith da sy’n cael ei wneud gan y tîm.
Mynegodd y Pennaeth Tai ac Eiddo ei diolch am y cyfle i adrodd am
weithgareddau’r Gwasanaeth Ynni Newydd i’r Pwyllgor. Nododd y bydd yr adroddiad
yn cyfeirio at y daith o sefydlu’r gwasanaeth a’r hyn sydd wedi ei gyflawni hyd
yma yn ogystal â’r gwaith sydd ar y gweill. Mae’r adroddiad yn cyfeirio at sut
mae cynllun rheoli carbon y Cyngor yn plethu efo’r gwaith ar y cynllun newid
hinsawdd y mae’r Cyngor wedi ei ymrwymo iddo.
Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Rheolwr Ynni a Gwasanaethau Masnachol gan
gyfeirio at brif negeseuon yr adroddiad. Nodwyd bod dwy ran i’r adroddiad, bydd
y rhan gyntaf yn cyfeirio at y Gwasanaeth Ynni Newydd a’r ail ran yn cyfeirio
at y Cynllun Rheoli Carbon a’r gwaith sydd wedi ei wneud dros y deuddeg mlynedd
diwethaf.
Tywyswyd y Pwyllgor drwy’r adroddiad gan dynnu sylw at y gwaith o
ddatgarboneiddio tai a’r help sydd ar gael gan y Cyngor tuag at dlodi tanwydd.
Nodwyd bod y wybodaeth yn yr adroddiad megis y graffiau yn drawiadol am eu bod
yn dangos difrifoldeb y sefyllfa yng Ngwynedd a chyfeiriwyd at
aneffeithlonrwydd ynni mwyafrif o dai'r Sir. Manylwyd am y cynlluniau megis
Nyth ac ECO a’r taliadau sydd ar gael i gynnig cymorth i bobl Gwynedd a
thrigolion sydd ar fesuryddion rhagdalu.
Ychwanegwyd bod y tîm yn ceisio sicrhau bod pobl y Sir yn hawlio popeth
sydd ar gael iddynt ac yn gwneud gwaith o gyfeirio unigolion at y cynlluniau
priodol. Rhagdybiwyd y bydd y galw ar y tîm yn cynyddu o ganlyniad i gostau
tanwydd cynyddol ac mai amser a ddengys a yw’r hyn sydd ar gael gan y tîm yn
ddigonol i anghenion pobl Gwynedd. Nodwyd bod hafan newydd ar gyfer tlodi ar
wefan y Cyngor yn cynnwys gwybodaeth defnyddiol am y gefnogaeth sydd ar gael.
Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau
a ganlyn gan aelodau:-
·
Diolchwyd am adroddiad arbennig a broliwyd y cynnwys
manwl.
·
Mynegwyd sylw ei bod yn fwy
costus i fod ar fesuryddion rhagdalu ond mai hwn yw’r opsiwn fwyaf fforddiadwy
i amryw yn y Sir am nad oes angen talu lwmp swm yn chwarterol.
·
Cyfeiriwyd at ECO 4 a’r grantiau
sydd ar gael i insiwleiddio tai er mwyn arbed ynni. Pryderwyd y gall lleithder
ddatblygu mewn eiddo o ganlyniad i waith insiwleiddio a holwyd os oes rywun o’r
Cyngor yn cynnal ymweliadau er mwyn sicrhau bod y deunyddiau a ddefnyddiwyd gan
gwmnïau yn addas. Holwyd hefyd a yw’r cwmnïau a ddefnyddir yn lleol, o
Wynedd neu Ogledd Cymru.
·
Mynegwyd ei fod yn gyfle da i
hybu cydweithio ac i’r Cyngor ddenu prentisiaid neu hyrwyddo cyfleoedd am
swyddi. Credwyd y byddai yn dda gallu cynnig cyfleoedd i’r ifanc ac i gyfrannu
at y gwaith newid hinsawdd.
·
Gofynnwyd beth yw criteria'r
grantiau gan holi os oes help i’r rhai sy’n talu biliau yn chwarterol.
·
Nodwyd bod y ffigyrau a nodwyd yn
yr adroddiad yn galonogol iawn fel y 349 o gyfeiriadau i ECO 3. Canmolwyd y
cynllun Nyth sydd wedi helpu i gynhesu eiddo trigolion a’i gwneud yn fwy ynni
effeithlon yn ogystal â chynnig cyngor. Nodwyd bod y rhain yn gynlluniau sydd â
budd sylweddol i iechyd a llesiant trigolion y Sir yn ogystal â lleihau eu
biliau.
·
Gwiriwyd y ffigwr o alwadau a chyfeiriadau Nyth gan nodi
bod yr adroddiad yn cyfeirio at 55 o gyfeiriadau allan o 257 o alwadau mewn un
rhan ond yna yn cyfeirio at 257 o gyfeiriadau mewn rhan arall.
·
Holwyd os yw unigolyn wedi derbyn
cymorth drwy’r cynllun Nyth yn y gorffennol a yw’r Cyngor yn cysylltu gyda hwy
eto ac a oes help pellach ar gael.
·
Gofynnwyd a yw’r rhai sy’n derbyn
lwfans person sengl treth Cyngor yn gymwys am y cynllun.
·
Credwyd bod angen edrych ar dai yn eu cyfanrwydd gan nodi
nad oes llawer o werth i wella boeleri a gwresogyddion os oes ffenestri o safon
gwael mewn eiddo.
·
Gwnaethpwyd sylw bod unigolion sy’n gweithio bellach
hefyd yn wynebu tlodi ac weithiau yn dlotach na’r rhai sy’n derbyn
budd-daliadau. Pwysleisiwyd bod angen helpu’r garfan yma o’r boblogaeth.
·
Credwyd bod y cynnydd yng
nghostau tanwydd wedi dychryn llawer o bobl ac y bydd galw uwch ar wasanaethau
eraill fel yr ambiwlans o ganlyniad i hynny. Pryderwyd y bydd ymdrech trigolion
y Sir i arbed costau ynni yn arwain at gymryd risgiau o fewn y cartref.
·
Holwyd beth mae sefydliadau Hydro
sydd i’w gweld mewn lleoliadau fel Llanberis, Maentwrog a Tanygrisiau yn ei
gyfrannu ac os oes modd iddynt gyfrannu neu gynnig cymorth i bobl Gwynedd.
·
Mynegwyd pryder am rai cwmnïau
sy’n ychwanegu cost ar filiau trydan sy’n hwyr ac o fewn wythnos yn eu cyfeirio
at gwmni dyled.
Mewn ymateb i’r
sylwadau uchod a chwestiynau gan aelodau, nodwyd:-
·
Bod pob math o bobl yn cysylltu
am gymorth ond bod y rhan helaeth ar fesuryddion rhagdalu a bod y mwyafrif o’r
help sydd ar gael ar gyfer y bobl hyn. Cadarnhawyd bod y tariff yn dueddol o
fod yn uwch i drigolion sydd ar fesuryddion rhagdalu.
·
Nodwyd bod llawer o broblemau yn
bodoli efo’r hen gynlluniau Arbed 1 ac Arbed 2. Eglurwyd bod gwefan y Cyngor yn
rhestru pedwar o gontractwyr sydd wedi eu gwirio ac y gellir cyfeirio pobl yma.
Adroddwyd mai’r Llywodraeth sydd yn ariannu’r cynlluniau a bod y contractwyr yn
cael eu talu ar yr amod eu bod nhw wedi gwella EPC yr eiddo dan sylw. Nid yw’n
debygol y bydd y Cyngor yn cynnal ymweliadau i fonitro am ei fod yn gytundeb
rhwng y contractwr a’r unigolyn. Cadarnhawyd bod un o’r pedwar cwmni o Ynys Môn
ond nid yw’r un ohonynt o Wynedd am eu bod yn gwmnïau mawr, arbenigol.
Ychwanegwyd efallai y bydd cyfleoedd yn y dyfodol i hybu’r cynllun a denu mwy o
gontractwyr ar ôl asesu’r galw. Nodwyd bod cyfarfodydd misol efo’r contractwyr
yn cael eu cynnal.
·
Nodwyd bod y mwyafrif o’r
cynlluniau ar gael i’r sawl sydd ar fesuryddion rhagdalu ond bod taliadau fel
DAF (cronfa cymorth ddewisol) ar gael ar gyfer y sawl sy’n talu biliau’n
chwarterol. Ychwanegwyd bod y wybodaeth ar sut i wneud cais wedi ei nodi ar
wefan Cyngor Gwynedd.
·
Nododd y Rheolwr Ynni a
Gwasanaethau Masnachol y byddai’n gwirio’r ffigyrau Nyth yn yr adroddiad ac yn
cysylltu efo’r Cynghorydd dan sylw i gadarnhau gan ei fod wedi derbyn y
ffigyrau yn uniongyrchol gan Nyth. Adroddwyd o hyn ymlaen fel rhan o adroddiad
monitro perfformiad y gwasanaeth byddant yn adrodd ar y gwaith sydd wedi ei
gwblhau a’r tai sydd wedi eu gwella.
·
Adroddwyd bod Nyth fel arfer yn
gwneud un ymweliad yn unig ond nad oes dim yn rhwystro unigolion rhag ceisio am
help o dan y cynllun ECO os wedi derbyn cymorth Nyth yn y gorffennol, cyn
belled ag y bo lle i wella EPC yr eiddo.
·
Credwyd nad yw’n broblem i dderbynwyr lwfans person sengl
treth Cyngor dderbyn cymorth gan Nyth ond byddant yn sicr yn gymwys o dan y
cynllun ECO. Adroddwyd bod yr Adran yn dueddol o gyfeirio mwy o unigolion at ECO.
·
Nodwyd mai’r nod yw ceisio helpu
gymaint o bobl a fu’n bosib, yn enwedig o dan ran o’r cynllun ECO Flex fydd yn
cychwyn un ai yn yr Hydref neu ar ôl y Nadolig. Bydd hwn yn hyblyg er mwyn
cynnwys amryw o bobl.
·
Adroddwyd efallai bydd cynllun
ychwanegol yn cael ei greu; cynhelir trafodaethau efo Bwrdd Uchelgais
Economaidd Gogledd Cymru sydd efo rhywfaint o gyllideb i’r pwrpas yma. Nodwyd
yn anffodus nad oes cynllun erioed wedi bodoli i helpu i wella a newid
ffenestri eiddo, efallai ei fod yn rhywbeth y gall y Cyngor edrych fewn iddo.
·
Ychwanegwyd y bydd lle i
ddiweddaru’r adroddiad gan fod datblygiadau yn digwydd yn sydyn ac y byddai’r
adroddiad yn adroddiad byw fydd yn cael ei ddatblygu.
·
Mewn ymateb i sylw am ail agor
llefydd tân sydd wedi cael eu cau mewn tai cymdeithasol, nodwyd yn anffodus bod
llefydd tân agored yn creu allyriadau carbon.
·
Adroddwyd bod ffactor carbon
trydan wedi lleihau o gymharu â 10 mlynedd yn ôl yn bennaf oherwydd yr ynni
adnewyddol fel Hydro, solar a melinau gwynt. Nodwyd bod astudiaeth yn cael ei
gynnal yn Nhanygrisiau i weld os oes modd darparu’r trydan lleol o’r Hydro i’r
tai. Eglurwyd bod rhwystrau e.e. yr angen i bob un o’r tai fod efo’r un
cyflenwr trydan, ond ei fod yn waith sy’n mynd yn ei flaen ar hyn o bryd.
·
Eglurwyd bod gwaith yn cael ei
gynnal gan y Bwrdd Uchelgais o safbwynt ‘Smart Networks’ sy’n edrych mewn i
drydan lleol i bobl leol a bod adroddiadau yn cael eu cynhyrchu ar hyn o bryd.
Cynhelir y gwaith hwn ar draws Gogledd Cymru.
Diolchodd y Pennaeth Tai am yr holl ymholiadau a’r cyfle i rannu’r
adroddiad efo’r Pwyllgor. Mynegwyd awydd i ddod yn ôl yn y dyfodol agos er mwyn
darparu diweddariad pellach ar y cynlluniau i Aelodau’r Pwyllgor.
Adroddwyd y bydd y wybodaeth gafodd ei rannu heddiw yn cael ei roi ar
Fewnrwyd yr Aelodau fel y gall yr Aelodau rannu’r wybodaeth efo’u hetholwyr. I
gloi nodwyd bod yr Adran yn gwneud eu gorau i helpu gymaint â fu’n bosib o bobl
Gwynedd dros y gaeaf nesaf ac yn gobeithio gall y cynlluniau fel y cynllun ECO
4 roi cymorth i amrediad eang o drigolion y Sir.
PENDERFYNIAD
Derbyn yr adroddiad oedd yn
darparu trosolwg o waith y gwasanaeth Ynni
Newydd yn ogystal â’r
gwaith Newid Hinsawdd.
Dogfennau ategol: