skip to main content

Agenda item

Cais ar gyfer codi estyniad ochr ar gyfer storfa

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Gareth Williams

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Gwrthod

 

Ni ystyriwyd fod y bwriad yn arddangos dyluniad o ansawdd uchel ac felly mae’n groes i egwyddor polisi PCYFF 3 Dylunio a Siapio Lle o’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Mon (2017). 

 

Cofnod:

Cais ar gyfer codi estyniad ochr ar gyfer storfa

 

Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr

 

a)            Amlygodd y Rheolwr Cynllunio mai cais ydoedd ar gyfer codi estyniad unllawr ar ochr tŷ unllawr ar gyfer defnydd fel storfa. Nodwyd y byddai’r datblygiad yn cynnwys mynedfa ar ei flaen a chefn ac ni fyddai mynedfa fewnol o’r eiddo. Saif yr eiddo mewn rhes o dai ar wahân gerllaw ffordd ddosbarth 2 y B4413 mewn ardal anheddol o fewn ffin ddatblygu Pentref Arfordirol - Gwledig Aberdaron fel y’i diffinnir gan yn y Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) a hefyd o fewn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) ddynodedig a Thirwedd o Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol Llŷn ac Enlli.

 

Cyflwynwyd y cais gerbron y Pwyllgor ar gais yr Aelod Lleol.

 

Ystyriwyd Polisi PCYFF 3 y CDLL sy’n datgan bod disgwyl i bob cynnig arddangos dyluniad o ansawdd uchel a rhoi ystyriaeth lawn i gyd-destun yr amgylchedd adeiledig o’i gwmpas. Er gellid ystyried graddfa’r bwriad yn un bychan, nodwyd bod y rhan sy’n ymestyn o flaen yr eiddo yn amlwg ac yn tynnu sylw'r llygad at bresenoldeb y strwythur. Wrth edrych ar batrwm datblygu cyffredinol y stryd, nodwyd bod y byngalos cyfagos i gyd yn eistedd mewn cwrtil eithaf sylweddol gyda lle rhwng ochor y tai a’r ffensys terfyn. Er cydnabuwyd bod ambell sied gardd a paraffinalia preswyl rhwng rhai o’r tai eraill roedd y gwagle yn bennaf yn parhau ond byddai’r bwriad yn golygu codi adeilad sydd yn llenwi’r bwlch yn gyfan gwbl ac yn lleihau'r gwagle rhwng y tai.

 

O ganlyniad, ni ystyriwyd fod y bwriad yn ychwanegu nac yn gwella cymeriad ac ymddangosiad y tŷ a’r safle; nac yn parchu edrychiad a chymeriad y strydlun. Ategwyd bod maint a lleoliad yr estyniad, ynghyd a pits y to a’r gorffeniad yn anaddas ac nad oedd yn arddangos dyluniad o ansawdd uchel oedd yn cydweddu a’r eiddo presennol. Er posib gosod amod i gytuno ar ddeunyddiau ac o bosib gwella’r hyn sydd i weld ar y safle, ni ystyriwyd y byddai hynny yn ddigonol i gwrdd gydag anghenion polisi PCYFF 3. 

 

b)            Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd yr Aelod Lleol y sylwadau canlynol:

·         Mai defnydd storfa yw’r bwriad

·         Ei fod yn hapus gydag argymhelliad y swyddogion i wrthod

·         Bod y gwaith o godi estyniad wedi dechrau ers rhyw flwyddyn

·         Yn ddiolchgar bod y lluniau a gyflwynodd wedi eu rhannu

·         Cwt neu ‘lean-to’ sydd yma ac nid estyniad

·         Byddai yn sownd i’r wal derfyn ac yn ddolur llygad

·         Byddai’n lleihau'r gwagle rhwng y tai

·         Bod y pedwar eiddo sydd yn y rhes yn debyg, ond byddai’r bwriad dan sylw yn ei wneud yn wahanol – nid yw yn gweddu

·         Ei fod yn tynnu sylw at gasgliadau ac argymhelliad y swyddogion, ‘ni ystyrir fod y bwriad yn arddangos dyluniad o ansawdd uchel’

 

c)            Cynigiwyd ac eiliwyd gwrthod y cais

 

PENDERFYNWYD: Gwrthod

 

Ni ystyriwyd fod y bwriad yn arddangos dyluniad o ansawdd uchel ac felly mae’n groes i egwyddor polisi PCYFF 3 Dylunio a Siapio Lle o’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn (2017). 

 

Dogfennau ategol: