Agenda item

Edrychiad a dyluniad yr anheddau i gynnwys deunyddiau, graddfa anheddau a tirlunio gan gynnwys gosodiad diwygiedig i ddarparu 14 annedd yn hytrach na 15 er darparu gofynion system ddraenio cynaliadwy.

AELOD LLEOL: Cynghorydd Elin Hywel

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Caniatáu gydag amodau -

 

  1. Unol gyda cynlluniau.
  2. Y gwaith i’w wneud yn unol gyda’r datganiad dull a gynhwysir yn atodiad 4 o’r Asesiad Effaith Coed.
  3. Coed newydd i gael eu tarddu o hedyn lleol a’i blannu yn unol gyda gofynion BS 8545:2014.

 

Nodyn fod amod 12 o’r caniatâd amlinellol sy’n ymwneud â materion draenio wedi eu rhyddhau fel rhan o’r caniatâd yma.

 

Nodyn SUDS

 

Cofnod:

Edrychiad a dyluniad yr anheddau i gynnwys deunyddiau, graddfa anheddau a thirlunio gan gynnwys gosodiad diwygiedig i ddarparu 14 annedd yn hytrach na 15 er darparu gofynion system ddraenio gynaliadwy

 

a)    Amlygodd y Rheolwr Cynllunio mai cais ydoedd ar gyfer materion a gadwyd yn ôl mewn cyswllt a chaniatâd cynllunio amlinellol C18/1198/45/AM. Nodwyd bod caniatâd C18/1198/45/AM ar gyfer codi 15 tŷ (oedd yn cynnwys 5 fforddiadwy) ond bod y cais dan sylw ar gyfer darparu 14 o dai a hynny er mwyn darparu gofynion system ddraenio gynaliadwy.

 

Saif y safle, sydd wedi ei ddynodi ar gyfer Tai yn y CDLl, o fewn ffin datblygu Pwllheli ac oddi fewn i Ardal o Ddiddordeb Hanesyddol Llyn ac Enlli.  Nodwyd bod ffordd ddosbarth 3 yn ffinio gyda’r safle, bod tai annedd gerllaw a safle Coleg Meirion Dwyfor gyferbyn a’r safle.

 

Cyflwynwyd y cais i Bwyllgor gan ei fod yn ymwneud gyda 5 neu fwy o dai.

 

Atgoffwyd yr Aelodau bod egwyddor y bwriad eisoes wedi eu caniatáu. Adroddwyd bod y cais presennol wedi ei gyflwyno gan Adra ac yn fwriad i ddarparu 100% o unedau fforddiadwy. Yn dilyn cefnogaeth Uned Strategol Tai Cyngor Gwynedd, nodwyd bod Adra yn bwriadu cyflwyno’r cynllun i Lywodraeth Cymru ar gyfer cymeradwyaeth grant tai cymdeithasol.

 

Amlygwyd bod sylwadau’r Uned Strategol Tai yn datgan fod y bwriad yn cyfarch yr angen yn yr ardal  a bod y cynlluniau yn cyfrannu yn uniongyrchol at nod Cynllun Gweithredu Tai Cyngor Gwynedd i ddarparu mwy o dai i gwrdd â’r galw uchel bresennol sydd yn bodoli yn y sir. Er hynny, gyda’r cais o dan sylw i gytuno ar faterion a gadwyd yn ôl yn unig,  nid oedd bwriad i ryddhau’r amod tai fforddiadwy fel rhan o’r cais oedd gerbron. Byddai’r materion tai fforddiadwy yn cael eu hystyried trwy gais rhyddhau neu ddiwygio amod ar wahân.

 

Yng nghyd-destun mwynderau cyffredinol a phreswyl, derbyniwyd y byddai datblygu’r safle yn newid i rai trigolion cyfagos ac y byddai’r datblygiad yn creu mwy o draffig.  Fodd bynnag, nodwyd bod y tir wedi ei glustnodi ar gyfer nifer mwy o dai yn y CDLl na’r hyn oedd wedi ei ganiatáu yn y cais amlinellol.  Ategwyd y byddai anghyfleustra yn ystod y gwaith adeiladu yn rhywbeth sydd yn codi gydag unrhyw waith adeiladu a bod amod ar y caniatâd amlinellol yn cyfyngu oriau’r gwaith adeiladu.  Ni ystyriwyd y byddai datblygu’r safle yn creu effaith andwyol sylweddol ar fwynderau’r gymdogaeth leol a bod y bwriad yn dderbyniol o ran Polisi PCYFF 2 CDLl.

 

Ystyriwyd fod y materion a gadwyd yn ôl ar ganiatâd amlinellol C18/1198/45/AM yn dderbyniol ac yn unol â’r polisïau cynllunio perthnasol.

 

b)    Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd asiant yr ymgeisydd y sylwadau canlynol:

·         Yn diolch am y cyfle i annerch y Pwyllgor ynghlyn a’r cais oedd ar gyfer materion a gadwyd yn ol yn ymwneud a chaniatad amlinellol a gafodd ei gymeradwyo yn 2019.

·         Bod y safle o fewn perchnogaeth Coleg Grwp Llandrillo Menai yn flaenorol ond bellach wedi ei werthu i Gymdeithas Tai, Adra.

·         Bod y safle wedi ei glustnodi ar gyfer datblygiad preswyl yn y CDLl gyda chaniatâd amlinellol wedi ei gymeradwyo ar gyfer 15 o dai, gyda phum tŷ fforddiadwy.

·         Bod yr egwyddor o ddatblygu tai ar y safle wedi ei gymeradwyo yn flaenorol a’r cais gerbron yn ymwneud gyda dyluniad manwl ac edrychiad y tai, eu graddfa a’r cynllun tirlunio.

·         Cafodd mynedfa a gosodiad y datblygiad ei gymeradwyo fel rhan o’r cais amlinellol – dim addasiadau i fynedfa i’r safle – mae’n parhau yn union fel a gymeradwywyd yn flaenorol.

·         Mae gosodiad y safle yn adlewyrchu’r gosodiad a gafodd ei gymeradwyo yn flaenorol, fodd bynnag, ers y caniatâd amlinellol, rhaid i’r bwriad gydymffurfio gyda gofynion systemau draenio cynaliadwy. Mewn ymateb i’r gofynion rhaid gostwng nifer y tai a fyddai yn cael eu datblygu i lawr o 15 i 14. (Bydd plot 14 bellach yn cael ei ddefnyddio fel gofod ar y safle i ddarparu pwll ymdreiddiad dwr wyneb. Bod Dwr Cymru ac Adran Dwr ac Amgylchedd YGC yn fodlon gyda’r wybodaeth draenio oedd wedi ei gyflwyno gyda’r cais).

·         Bod man newidiadau i osodiad y safle yn dilyn darparu dyluniad manwl y tai, megis tynnu rhywfaint o goed a phlannu rhai ychwanegol yn eu lle.

·         Bod swyddogion yn fodlon o ran dyluniad ac edrychiad y tai ac yn nodi bod eu maint yn cwrdd a gofynion Llywodraeth Cymru; bod cymysgedd  dda o dai yn cael eu darparu –rhai dwy, tair a phedair llofft a bynglos.

·         Bod graddfa ac edrychiad yr unedau yn addas ar gyfer y safle.

·         O dan fwriad Adra, bydd yr holl unedau yn rhai fforddiadwy

·         Bod Uned Strategol Tai'r Cyngor yn gefnogol o’r gymysgedd a’r math o unedau arfaethedig.

·         Bydd manylion pellach am yr unedau fforddiadwy yn cael eu cyflwyno fel cais arwahan i ddelio gyda amod 19 o’r caniatad amlinellol

 

c)    Cynigiwyd  ac eiliwyd caniatáu y cais

 

ch) Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan Aelodau:

·         Cefnogol i gynllun 100% tai fforddiadwy

·         Bod pobl leol yn pryderu bydd y tai yn cartrefu pobl sydd wedi eu gosod mewn gwestai yn y dref

·         Bod rhai o’r byngalos ar gyfer yr henoed – angen sicrhau eu diogelwch o ystyried bod y safle ar allt serth

·         Angen ystyried addasrwydd y lôn i dderbyn mwy o drafnidiaeth

 

d)    Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn a chynnal asesiad mwy diweddar o’r angen lleol, nododd y Rheolwr Cynllunio mai cais materion a gadwyd yn ôl oedd i’w drafod gan fod y cais amlinellol wedi ei ganaitau. Ategodd bod y wybodaeth berthnasol wedi ei gyflwyno gan Tai Teg a Rhestr Aros Tai Cyffredin, ac y byddai amod manwl yn sicrhau bod y math o dai a’r ‘angen’ yn cael ei gyfarch. Mewn ymateb i gwestiwn ategol ynglŷn ag Adra, sydd bellach yn gyfrifol am y datblygiad, nododd Pennaeth Cynorthwyol Cynllunio ac Amgylchedd, er yn derbyn y sylwadau, bod yr egwyddor eisoes wedi ei dderbyn, bod Adra eisoes wedi amlygu bwriad o ddarparu 100% tai fforddiadawy i gwrdd ar angen lleol.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â gosod amod i sicrhau bod asesiad angen lleol yn cael ei gwblhau, nododd y Swyddog Monitro bod yr egwyddor o ddwysedd a’r egwyddor tai fforddiadwy wedi ei dderbyn ac mai materion a gadwyd yn ôl yn unig y gellid eu trafod. Pwysleisiodd nad oedd modd ail agor y drafodaeth ar ganiatâd sydd eisoes wedi ei gymeradwyo na gosod amod ar fanylion. Mewn ymateb, gwnaed sylw bod angen asesiad manwl i’r dyfodol.

 

Nododd y Rheolwr Cynllunio bod trafodaethau cychwynnol wedi eu cynnal gyda’r Gymdeithas Tai ac y bydd materion megis cyfarch yr angen lleol yn cael eu trafod.

 

 PENDERFYNWYD: Caniatáu gydag amodau -

 

1.   Unol gyda chynlluniau.

2.   Y gwaith i’w wneud yn unol gyda’r datganiad dull a gynhwysir yn atodiad 4 o’r Asesiad Effaith Coed.

3.   Coed newydd i gael eu tarddu o hedyn lleol a’i blannu yn unol gyda gofynion BS 8545:2014.

 

Nodyn fod amod 12 o’r caniatâd amlinellol sy’n ymwneud â materion draenio wedi eu rhyddhau fel rhan o’r caniatâd yma.

 

Nodyn SUDS

 

 

Dogfennau ategol: