Agenda item

Estyniad ar flaen yr eiddo

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Gareth Tudor Jones

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: caniatáu, yn groes i’r argymhelliad

 

Amodau:

 

  1. 5 mlynedd
  2. Yn unol gyda’r cynlluniau a deunyddiau

 

Cofnod:

Estyniad ar flaen yr eiddo

 

Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr

 

a)    Amlygodd Arweinydd Tim Rheolaeth Datblygu mai cais ydoedd ar gyfer codi estyniad ar flaen eiddo sydd wedi ei leoli o fewn stad o dai unllawr  ar gyrion pentref Morfa Nefyn. Nodwyd bod yr eiddo presennol yn dŷ par unllawr gyda llawr yn y to gyda lle parcio presennol o’i flaen. Ategwyd bod yr eiddo yn dŷ fforddiadwy 3 llofft wedi ei sicrhau gyda disgownt o 35% drwy gytundeb 106.

 

Eglurwyd bod y cynllun diwygiedig oedd wedi ei gyflwyno yn lleihau’r estyniad o’i gymharu a’r bwriad gwreiddiol oherwydd lleoliad pibell ddŵr a bod y cais yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Cynllunio ar gais yr Aelod Lleol.

 

Adroddwyd bod yr eiddo yn dŷ fforddiadwy oedd eisoes wedi derbyn caniatâd cynllunio o dan gyfeirnod C05D/0192/42/LL a bod y bwriad yn golygu ehangu’r lolfa bresennol. Amlygwyd, yn arferol bydd estyniadau i dai fforddiadwy yn golygu ychwanegu ystafell wely, ond nid dyma oedd y bwriad dan sylw. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd cyfiawnhad dros yr angen am ofod byw ychwanegol o gofio’r angen i gynnal yr uned fel tŷ fforddiadwy. Bydd cyfanswm arwynebedd llawr, ar ôl ehangu, oddeutu 122m2 sydd, yn ôl atodiad 5, paragraff 3.4.10 CCA Tai Fforddiadwy, yn mynd a’r maint tu hwnt i uchafswm arwynebedd llawr ar gyfer tŷ fforddiadwy 4 ystafell wely. O ganlyniad, ystyriwyd fod y bwriad, oherwydd ei faint yn groes i ofynion maen prawf 3(vii) o Bolisi TAI 15 sy’n nodi “caniateir estyniadau ac addasiadau i dai fforddiadwy cyn belled â bod y newidiadau neu’r addasiadau yn caniatáu i’r tŷ barhau fel tŷ fforddiadwy”

 

Yng nghyd-destun dyluniad yr estyniad, ystyriwyd bod maint a lleoliad yr estyniad, ynghyd a pits y to a’i orffeniad yn anaddas ac nad oedd yn arddangos dyluniad o ansawdd uchel ac nid yn cydweddu a’r eiddo presennol. Er yn bosib gosod amod i gytuno ar ddeunyddiau, ni ystyriwyd y byddai hynny yn ddigonol i gwrdd gydag anghenion polisi PCYFF 3. 

 

b)    Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd yr Aelod Lleol y sylwadau canlynol:

·         Bod y Cyngor Cymuned o blaid y cais

·         Nad oedd cymydog na pherson lleol wedi gwrthwynebu

·         Ei fod yn gefnogol i’r cais

·         Yn gais teg am estyniad rhesymol ei faint - nid yw yn ymddangos yn ymwthiol nac allan o gymeriad

·         Mater o farn yw’r dyluniad

·         Bod y pensaer wedi dewis dyluniad syml ar gais yr ymgeisydd – yn estyniad syml i gadw’r gost yn isel

·         Dim digon o ardd yn y cefn i ymestyn

·         Ni fyddai’n amharu ar breifatrwydd cymdogion – estyniadau eraill wedi eu caniatáu

·         Y teulu yn deulu Cymraeg, lleol ac eisiau aros yn lleol ond heb obaith prynu tŷ yn lleol oherwydd prisiau’r farchnad agored – yr unig ateb yw adeiladu estyniad bychan i wneud lle i’r teulu dyfu

·         Buddsoddiad fyddai estyniad bychan ar gyfer y teulu

·         Deddf Llesiant yn annog cefnogi pobl i aros yn y gymuned leol

·         Ystyr a rheolaidau tai fforddiadwy yn newid yn y CDLl

·         Gweledigaeth Cyngor Gwyendd yw rhoi pobl Gwynedd yn ganolog i’r hyn rydym yn wneud gan sicrhau mynediad at gartref a hawl i fyw adref

 

c)    Cynigiwyd  ac eiliwyd caniatau y cais yn groes i’r argymhelliad

 

Rhesymau: bod y maint yn addas: bod tai y stâd o ddyluniadau gwahanol ac felly byddai’r estyniad yma ddim yn amharu ar edrychiad y stâd

 

ch) Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwada canlynol gan Aelodau:

·         Bod y maint yn dderbyniol

·         Bod polisïau yn anfon pobl lleol allan o gymunedau

 

d)    Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn a newid ystyr tŷ fforddiadwy yn y CDLl yn y dyfodol agos, nododd Pennaeth Cynorthwyol Cynllunio ac Amgylchedd nad oedd newidiadau i reoliadau maint a ffurf, ond y polisi yn debygol o gael ei asesu wrth i’r cynllun gael ei adolygu.

 

PENDERFYNWYD: caniatáu, yn groes i’r argymhelliad

 

Amodau:

 

1.   5 mlynedd

2.   Yn unol gyda’r cynlluniau a deunyddiau

 

Dogfennau ategol: