Agenda item

Codi 6 tŷ ( 2 fforddiadwy), creu mynedfa gerbydol newydd, darpariaeth parcio a gwaith cysylltiedig 

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Rhys Tudur

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Dirprwyo’r hawl i Pennaeth yr Adran Amgylchedd i caniatáu’r cais yn ddarostyngedig i amodau, cwblhau cytundeb 106 i sicrhau darpariaeth o un 2 dŷ fforddiadwy a trafod manylion parcio plot rhif 1:

 

Amodau

  1. 5 mlynedd.
  2. Yn unol â’r cynlluniau.
  3. Cytuno ar fanylion gorffeniad allanol yn cynnwys llechi
  4. Cyflwyno a derbyn cymeradwyaeth iddo Gynllun Tirlunio sy’n ymgorffori tirlunio meddal i’r driniaeth ffiniau, cadw ac atgyfnerthu gwrychoedd a chynnwys gwelliannau ecolegol
  5. Atal gosod ffenestri ychwanegol yn nhalcen y tai.
  6. Tynnu hawliau datblygu caniataol y tai fforddiadwy. 
  7. Amodau lefel llawr y datblygiad /materion llifogydd.
  8. Materion Fforddiadwy
  9. Materion Archeolegol
  10. Materion Priffyrdd
  11. Materion Draenio Cynaliadwy
  12. Enw Cymraeg i’r stad a’r tai.
  13. Gosod amod tai fforddiadwy

Cofnod:

Codi 6 tŷ (2 fforddiadwy), creu mynedfa gerbydol newydd, darpariaeth parcio a gwaith cysylltiedig

 

a)    Amlygodd y Rheolwr Cynllunio mai cais llawn ydoedd ar gyfer adeiladu 6 tŷ (2 ohonynt yn fforddiadwy), creu mynedfa gerbydol newydd, darpariaeth parcio a gwaith cysylltiedig ar dir ger Maes Llwyd, Llanystumdwy. Tai pâr fyddai’r unedau gyda pedwar tŷ deulawr gromen (2 ystafell wely) a dau dŷ deulawr llawn (3 ystafell wely). Bwriedir agor mynedfa lydan, gosod lôn wasanaethol i’r tai a gosod palmant ymyl ffordd ger y fynedfa flaen.

 

Eglurwyd mai cae amaethyddol yw’r safle yn bresennol, yn llain o dir ar ffurf triongl wedi ei leoli rhwng dwy ffordd ger mynediad i bentref Llanystumdwy o fewn y Ffin Datblygu. Nodwyd bod yr Uned Bolisi Cynllunio ar y Cyd wedi cadarnhau mai Cyflenwad Dangosol Tai  Llanystumdwy (gan gynnwys lwfans llithriad o 10%) yw 10 uned, gydag 1 tŷ wedi ei gwblhau yn y pentref rhwng 2011-2021. Ymddengys nad oedd unrhyw dai yn y banc tir heb eu hadeiladu na dynodiadau tai yn y pentref, felly’r diffyg yn weddill o 9 uned. O ystyried y wybodaeth, gellid caniatáu’r datblygiad gan fod 6 uned o fewn ffigyrau’r lefel cyflenwad ar gyfer Llanystumdwy.

 

Adroddwyd bod yr egwyddor o godi tai ar y safle wedi ei selio ym Mholisi TAI 4,  TAI 8 a TAI 15 o’r CDLl. Yn amodol ar ofynion Polisi TAI 15 ynglŷn a darparu tai fforddiadwy ar gyfer angen lleol, fe ddatgan polisi TAI 4 y caniateir cynigion am dai marchnad agored yn y Pentrefi Lleol os gellir cydymffurfio â dau faen prawf sef,

·         Bod maint, graddfa, math a dyluniad y datblygiad yn gytbwys a chymeriad yr an-heddle

·         Bod y safle o fewn ffin datblygu'r anheddle.

 

Ystyriwyd bod  maint, graddfa a math o unedau arfaethedig yn gyson gyda chymeriad y tai preswyl agosaf gyda’r dyluniad ychydig yn fwy cyfoes ac o ganlyniad yn cwrdd â gofynion y ddau faen prawf o bolisi TAI 4 uchod.

 

Tynnwyd sylw at sylwadau hwyr a dderbyniwyd gan asiant yr ymgeisydd mewn ymateb i’r adroddiad yn nodi bwriad o dirlunio a gosod dau lecyn parcio ychwanegol.

 

Yng nghyd destun llecynnau agored i’w gwarchod, nodwyd bod hanner dwyreiniol y cae dan sylw wedi ei ddynodi yn Llecyn Agored Cae Chwarae wedi ei Warchod ym mapiau y CDLl. Byddai datblygu’r safle arfaethedig felly yn golygu y byddai’r llecyn agored yn cael ei golli. Cyfeirwyd at bolisi ISA 4 (Diogelu Llecynnau Agored Presennol) sy’n datgan y gwrthodir cynigion fydd yn arwain at golli llecynnau agored presennol oni bai bod gormodedd o ddarpariaeth yn y gymuned.

 

Ystyriwyd mai cae amaethyddol yw’r safle yn hytrach na llecyn sydd wedi ei ddefnyddio gan y cyhoedd gyda’r bwriad yn dangos bod ardaloedd gwyrdd wedi ei dirlunio yn cael eu cadw yn rhan blaen y datblygiad fyddai’n cadw naws wledig agored cyhoeddus i’r safle. O ystyried hefyd yr angen am dai newydd yn Llanystumdwy, y ffin datblygu ynghyd a’r cyfyngiadau cynllunio, oedd yn cynnwys Ardal Cadwraeth ac ardaloedd sydd mewn perygl o lifogi, ymddengys bod tir datblygu addas ar gyfer tai yn gyfyngedig iawn yn yr anheddle. Yn yr achos penodol yma, ystyriwyd fod yr angen am dai newydd yn gorbwyso’r angen i warchod y llecyn agored. I’r perwyl hyn, ystyriwyd fod y bwriad  yn ei hanfod yn cwrdd â chydymffurfio gyda gofynion y polisïau lleol a chenedlaethol ac yn dderbyniol i’w ganiatáu yn ddarostyngedig i osod amod tai fforddiadwy yn lle cytundeb 106.

 

b)    Amlygodd y Cadeirydd, bod yr Aelod Lleol, wedi nodi mewn ebost, nad oedd ganddo wrthwynebiad i’r cais

 

c)    Cynigwyd ac eiliwyd caniatáu y cais

 

PENDERFYNWYD: Dirprwyo’r hawl i Pennaeth yr Adran Amgylchedd i caniatáu’r cais yn ddarostyngedig i amodau, cwblhau cytundeb 106 i sicrhau darpariaeth o un 2 dŷ fforddiadwy a trafod manylion parcio plot rhif 1:

 

Amodau

1.    5 mlynedd.

2.    Yn unol â’r cynlluniau.

3.    Cytuno ar fanylion gorffeniad allanol yn cynnwys llechi

4.    Cyflwyno a derbyn cymeradwyaeth iddo Gynllun Tirlunio sy’n ymgorffori tirlunio meddal i’r driniaeth ffiniau, cadw ac atgyfnerthu gwrychoedd a chynnwys gwelliannau ecolegol

5.    Atal gosod ffenestri ychwanegol yn nhalcen y tai.

6.    Tynnu hawliau datblygu caniataol y tai fforddiadwy. 

7.    Amodau lefel llawr y datblygiad /materion llifogydd.

8.    Materion Fforddiadwy

9.    Materion Archeolegol

10.  Materion Priffyrdd

11.  Materion Draenio Cynaliadwy

12.  Enw Cymraeg i’r stad a’r tai.

13.  Gosod amod tai fforddiadwy

 

Dogfennau ategol: