skip to main content

Agenda item

Estyniad a newidiadau i flaen yr eiddo, ynghyd â throsi'r gofod to yn ystafell wely ac ystafell ymolchi ac anecs dwy ystafell wely yng nghefn yr annedd i ddarparu llety ychwanegol.

AELOD LLEOL: Cynghorydd Elin Walker Jones

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Gwrthod, yn groes i’r argymhelliad

 

Rhesymau:

 

  1. Bod y bwriad yn groes i bolisi PCYFF 3 oherwydd ei fod yn or-ddatblygiad o’r safle
  2. Bydd yn cael effaith andwyol ar fwynderau trigolion cyfagos

 

Cofnod:

 

Estyniad a newidiadau i flaen yr eiddo, ynghyd â throsi'r gofod to yn ystafell wely ac ystafell ymolchi ac anecs dwy ystafell wely yng nghefn yr annedd i ddarparu llety ychwanegol.

 

a)    Amlygodd y Rheolwr Cynllunio mai cais ydoedd ar gyfer ymgymryd â newidiadau i dŷ deulawr presennol fyddai'n cynnwys :

·         codi estyniad llawr cyntaf 2.3m yn ei flaen ar ben modurdy unllawr presennol sydd ar flaen yr eiddo

·         Trosi'r gofod to yn ofod byw ychwanegol

·         Codi estyniad deulawr cefn i weithredu fel "anecs" i'r prif dŷ.

O ganlyniad i’r newidiadau, bydd yr eiddo yn cynyddu o dŷ pedair llofft, i dŷ gydag anecs a fyddai â chyfanswm o chwe llofft.

 

Saif y safle o fewn cwrtil tŷ “33 Bryn Eithinog” sy’n eiddo ar wahân mewn ardal anheddol o fewn ffin ddatblygu Canolfan Isranbarthol Bangor fel y’i diffinnir gan y  CDLl,  mewn stad dai a’i gwasanaethir gan ffyrdd di-ddosbarth yn arwain o Ffordd Belmont ger Ysgol Tryfan.

 

Cyflwynwyd y cais i Bwyllgor ar gais yr Aelod Lleol.

 

Nodwyd bod gan y term “anecs” ystyr benodol yng nghyd-destun cynllunio ac i  ystyried bwriad yn “anecs” byddai’n hanfodol i'r adeilad fod yn is-wasanaethol i'r prif dŷ ac na fyddai'n cael ei ddefnyddio fel annedd ar wahân. Yn yr achos yma, yng ngoleuni lleoliad yr adeilad yn gysylltiedig i'r prif dŷ mewn man lle nad oes mynediad annibynnol i'r stryd, ystyriwyd, er i'r cynlluniau ddangos y byddai'r anecs yn cynnwys ystafell ymolchi a chegin ar wahân, ei fod yn rhesymol ystyried y strwythur newydd fel anecs israddol i'r prif annedd. Ategwyd bod yr ymgeisydd wedi cadarnhau mai ei fwriad yw defnyddio'r tŷ fel tŷ teuluol ac nid fel HMO a chan mai anecs a geisiwyd amdano, ystyriwyd, trwy ddefnyddio amod cynllunio wedi'i eirio'n briodol, y gellid rheoli’r defnydd o’r strwythur newydd mewn modd priodol.

 

Cyfeiriwyd at bryderon gan gymdogion oherwydd y posibilrwydd o or-edrych o’u heiddo o’r estyniadau newydd, fodd bynnag nodwyd mai dim ond un ffenestr llawr cyntaf newydd a fyddai yn edrychiad gogleddol yr eiddo a byddai’n gwasanaethu ystafell ymolchi newydd yn y tŷ gwreiddiol. Gan i'r ffenestr honno fod yn edrychiad ochr y tŷ, yn unol â 'r Gorchymyn Datblygiad a Ganiateir Cyffredinol, bydd yn ofynnol i’r ffenestr gael ei chadw’n afloyw yn barhaol.

 

Yn ogystal, amlygwyd pryderon y byddai'r estyniadau newydd yn achosi niwed annerbyniol o safbwynt cysgodi eiddo cymdogion ac y byddent yn ddominyddol dros eu heiddo. Wrth ystyried maint y safle, y pellter sydd rhwng y tai cyfagos ac uchder gweddol fychan yr estyniadau, ni ystyriwyd y bydd niwed arwyddocaol i fwynderau cymdogion yn deillio o'r materion hyn.

 

Wedi asesu’r cais yn erbyn gofynion y polisïau perthnasol, ystyriwyd fod y bwriad yn dderbyniol o agwedd mwynderau gweledol, mwynderau preifat a mwynderau cyffredinol.

           

b)    Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd yr Aelod Lleol y sylwadau canlynol:

·         Ei bod yn siarad ar ran trigolion Bro Eithinog sydd yn gwrthwynebu’r cais oherwydd pryderon goredrych, colli preifatrwydd a golau

·         Nad oedd tŷ arall ar y stryd gydag estyniad o’r math na’r maint yma

·         Y safle wedi ei leoli ar gornel stryd  – plant a cherddwyr yn defnyddio’r stryd i fynd i’r ysgolion cyfagos. Y lleoliad yn brysur ac yn beryglus

·         Bod bwriad parcio dau gar yn y cwrtil – dim lle i wneud hyn heb newid sylweddol i’r ardd

·         Pryderon amlwg gan Dŵr Cymru sydd eisiau mynediad at garthffos

·         Pam cyflwyno cais? Bod cais wedi ei ganiatáu yng Ngorffennaf 2020 am estyniad heb ei weithredu.

·         Cais gwreiddiol yn dŷ yn yr ardd – dyma beth yw anecs. Pryder am effaith ymgripiol’ a bwriad o ddefnydd HMO

·         Nid yw’r ymgeisydd yn byw yn yr annedd

·         Awgrymu gwrthod ar sail gorddatblygu ynghyd a gormodedd o breswylwyr a cherbydau yn defnyddio’r ardal.

 

c)    Cynigiwyd ac eiliwyd gwrthod y cais am y rhesymau canlynol

·         ei fod yn or-ddatblygiad

·         nad oedd adnoddau digonol gan y Sir i fonitro’r defnydd.

 

ch) Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan Aelodau:

·         Y dyluniad yn anaddas – yn croesi draeniau. Petai difrod i’r draeniau byddai hyn yn creu anghyfleustra i bobl lleol

·         Yn orddatblygiad – yn creu effaith sylweddol ar fwynderau cymdogion

 

PENDERYNWYD: Gwrthod y cais, yn groes i’r argymhelliad

 

Rhesymau:

 

1.         Bod y bwriad yn groes i bolisi PCYFF 3 oherwydd ei fod yn or-ddatblygiad o’r safle

2.         Bydd yn cael effaith andwyol ar fwynderau trigolion cyfagos

 

 

 

 

 

Dogfennau ategol: