skip to main content

Agenda item

I Cyflwyno gwybodaeth i aelodau'r Cyd-bwyllgor ar brif ffocws ein rhaglen waith ar gyfer tymor yr hydref a'r tu hwnt.

Penderfyniad:

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Arweinydd Rhanbarthol Uwchradd GwE a nodwyd y prif bwyntiau isod:

 

-      Eglurwyd bod y cydbwyllgor eisoes yn ymwybodol o ddisgwyliadau a gofynion y canllawiau gwella ysgolion cenedlaethol newydd. Atgoffwyd bod GwE, y Llywodraethwyr ac Aelodau Lleol yn gyfrifol am ddal y gyfundrefn yn atebol ar y lefel lleol a bod Estyn yn rhannu’r un cyfrifoldebau yn rhanbarthol a chenedlaethol.

 

-      Nodwyd bod yr adroddiad hwn yn amlygu’r rhaglen waith ar gyfer y tymor hwn yn ogystal â’r tymhorau sy’n dilyn er mwyn cefnogi pob ysgol i ymateb i ofynion y fframwaith newydd.

 

-      Cadarnhawyd bod yr adroddiad wedi cael ei gymeradwyo gan Fwrdd Rheoli GwE  ac ymgynghorwyd â Phenaethiaid rhanbarthol mewn Fforymau Strategol ac yng Nghynhadledd GwE i uwch arweinwyr yn Venue Cymru ar 22 a 23 Medi 2022. 

 

-      Rhoddwyd sylw manwl i’r canllawiau newydd ar gyfer gwella ysgolion gan nodi’r pwyntiau canlynol:

 

-      Disgwylir i ysgolion feddu ar brosesau hunan-arfarnu a hunanwerthuso cadarn yn ogystal â’r mecanwaith ar gyfer gwella. Disgwylir hefyd bod gan ysgolion brosesau ar gyfer cynllunio a chynnal gwelliannau.

 

-      Eglurwyd nad yw ysgolion ar eu pen eu hunain gyda hyn gan y bydd yr awdurdodau lleol a’r consortia rhanbarthol yn sicrhau fod ganddynt gynhaliaeth er mwyn cynnal gwelliannau.

 

-      Esboniwyd mai un o brif ddyletswyddau ALl, GwE ac Estyn ydi gwerthuso’r gweithdrefnau hyn a’u gwella yn effeithiol. Golyga hyn fod yn rhaid cael system atebolrwydd clir er mwyn i bawb wybod beth sydd angen ei weithredu a pha ymyrraeth ychwanegol sydd ei angen.

 

-      Pwysleisiwyd bod gweithdrefnau arfarnu a gwelliannau wedi newid dros y ddwy flynedd ddiwethaf yn sgil y pandemig ac o’r herwydd nid yw’r rhaglen waith mor syml ag y mae’n edrych ar yr olwg gyntaf. Deilliai hyn o’r ffaith fod ysgolion wedi wynebu heriau dwys iawn i sicrhau fod plant y rhanbarth yn parhau i dderbyn addysg o safon, yn saff. Golyga hyn fod addysgu o safon uchel, llesiant ac iechyd a diogelwch wedi bod yn flaenoriaeth dros y ddwy flynedd diwethaf yn hytrach na diweddaru fframweithiau arfarnu.

 

-      Rhannwyd diolchiadau penaethiaid rhai ysgolion y rhanbarth am safiad y Cyd-bwyllgor, sydd wedi helpu i sicrhau mai asesiadau yr athrawon oedd yn asesu cyflawniad y disgyblion o fewn y cyfnod hwn, gan ei bod wedi gweithredu fel system effeithiol iawn drwy gyfnod ansicr.

 

-      Nodwyd bod Estyn bellach wedi cychwyn ail-ymweld ag ysgolion i gynnal arolygiadau, a nodwyd y prif bwyntiau isod:

 

-      Nad ydi fframweithiau arolygu Estyn wedi cael eu diwygio llawer ers cyn argyfwng Covid-19.

-      Eglurwyd bod ysgolion dal yn ymdopi gyda phroblemau ychwanegol sy’n deillio o’r pandemig megis presenoldeb, lles, trosiant staff a cholled sgiliau sylfaenol.

-      Er mwyn cefnogi ysgolion ar eu taith wella bydd pob ysgol yn derbyn cynllun cymorth unigryw fydd yn amlygu y gefnogaeth fwyaf priodol ar eu cyfer.

 

Rhoddwyd cyfle i aelodau’r Cydbwyllgor i rannu sylwadau a holi cwestiynau:

 

-      Cytunwyd bod angen cydnabod yr heriau newydd sy’n deillio o’r pandemig. Cydnabuwyd bod angen i arolygiadau edrych ar ysgolion yn unigol. Pwysleisiwyd bod arolygiadau, yn gyffredinol, yn rhan allweddol o sicrhau bod disgyblion yn derbyn addysg o’r radd flaenaf.

 

-      Nodwyd bod ysgolion hefyd yn delio gyda heriau newydd fel llesiant staff a disgyblion yn ogystal â materion fel y cynnydd mewn costau byw. Rhaid cofio bod ysgolion wedi tyfu i fod yn hybiau cymunedol mewn sawl ardal a bod maes addysg yng nghanol cyfnod digynsail.

 

-      Cynigwyd y byddai’n ddefnyddiol i gynnig hyfforddiant i  lywodraethwyr er mwyn sicrhau eu bod yn deall y Fframwaith Gwella Ysgolion newydd.

 

-      Soniwyd y byddai’n ddefnyddiol derbyn mewnbwn gan Weinidog Addysg Llywodraeth Cymru ar y materion hyn gan fod cryn amser cyn gellir mesur llwyddiant y gweithdrefnau newydd a bod llesiant staff a disgyblion ar lefelau pryderus iawn ar hyn o bryd.

 

PENDERFYNWYD

 

-      Derbyn a chymeradwyo’r adroddiad sy’n amlinellu prif ffocws Rhaglen Waith GwE yn ystod Tymor yr Hydref a'r Gwanwyn 2022-23.

 

-      Ysgrifennu at Weinidog Addysg Llywodraeth Cymru er mwyn derbyn mewnbwn.

 

-      Trefnu cyfarfod gydag Estyn er mwyn trafod y materion hyn ymhellach.

 

Dogfennau ategol: