skip to main content

Agenda item

Cyflwynwyd gan:Cyng. Menna Jones

Penderfyniad:

Cymeradwywyd a nodwyd y wybodaeth yn yr Adroddiad Blynyddol ar gyfer 2021/22.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Menna Jones

 

PENDERFYNIAD

 

Cymeradwywyd a nodwyd y wybodaeth yn yr Adroddiad Blynyddol ar gyfer 2021/22.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod yr adroddiad yn rhoi trosolwg o’r prif faterion gweithlu a oedd yn derbyn sylw y llynedd. Pwysleisiwyd fod yr adroddiad hefyd yn cyfeirio at y prif heriau sydd yn wynebu’r Cyngor fel cyflogwr dros y flwyddyn yma a’r tymor hirach.

 

Tynnwyd at y prif negeseuon yn yr adroddiad, yn gyntaf wrth ddod allan o’r pandemig, mae’r Cyngor fel pob Cyngor a chyflogwr yn gweithredu o fewn cyd-destun cyflogaeth sydd wedi newid yn sylweddol bellach. Mynegwyd fod  arferion gweithio wedi newid yn barhaol ac fod o ganlyniad ei fod yn golygu fod rhai problemau recriwtio a chadw staff yn dechrau dod i’r amlwg. Pwysleisiwyd fod mwy o ofyn nac erioed i gynllunio gweithlu yn effeithiol, ac i geisio rhagweld heriau’r dyfodol a pharatoi ar gyfer y sgiliau a pobl y bydd eu hangen i ymdopi a hynny.

 

Nodwyd fod iechyd a lles staff yn gwbl allweddol i’r Cyngor a nodwyd fod pwysau gwahanol bellach ar deuluoedd gyda’r cynnydd mewn costau byw ac mae angen i’r Cyngor fel cyflogwr fod yn fyw i sut y gall y straen hwnnw effeithio ar lesiant staff.

Mynegwyd fod y Cyngor yn parhau i ddatblygu ac arbrofi a threfniadau gwaith ‘hybrid’ ar gyfer staff, ac nodwyd y bydd trefniadau yn sefydlogi dros fisoedd y gaeaf ac yn rhoi gwell darlun o’r hyn fydd yn ei le yn y tymor hirach. Ond pwysleisiwyd mae anghenion gwasanaeth a thrigolion Gwynedd fydd yn gyrru’r trefniadau terfynol yn y pen draw.

 

Pwysleisiodd y Rheolwr Gwasanaeth fod yr adroddiad yn edrych yn benodol ar y gweithlu a themâu oedd i’w gweld yn y Cyngor dros y flwyddyn diwethaf. Ychwanegwyd fod y themâu a amlygwyd yn parhau i fod yn bwysig i’r gwasanaeth ac y byddant yn parhau i fod yn flaenoriaeth dros y cyfnod i ddod. Nodwyd fod pwysau ar wasanaethau i recriwtio a cadw staff i’w weld ar draws y Cyngor ac fod gwaith yn cael ei wneud i edrych ar hyn.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾     Nodwyd fod angen uchafu a hyrwyddo’r cynllun Prentisiaethau sydd i’w weld o fewn y Cyngor ac i wneud mwy o’r cynllun.

¾     Mynegwyd ei bod yn arwyddocaol fod cynnydd mawr wedi bod yn y ffigyrau o swyddi yn cael ei ail hysbysebu dros y blynyddoedd diwethaf, a nodwyd fod angen sicrhau fod y Cyngor yn edrych ar sut mae yn hysbysebu swyddi ac yn cyfleu y ddelwedd orau ar gyfer darpar ymgeiswyr. Eglurwyd fod y farchnad recriwtio wedi newid dros gyfnod y pandemig ac fod y Cyngor yn ceisio dal i fyny gyda’r oes i wella y ffordd maent yn hysbysebu.

¾     Eglurwyd fod yr aelodau yn ymwybodol o staff yn gadael y Cyngor i weithio mewn cwmnïau ac awdurdodau eraill oherwydd y gallu i weithio o adref a holwyd os yw’r Cyngor yn cynnig yr un math o delerau. Nodwyd fod gweithio yn hyblyg a rhithiol yn rhoi gyfleoedd a heriau i’r Cyngor ac amlygwyd yr angen i’r Cyngor fod yn annog ymgeiswyr i ymuno a’r gweithlu.

¾     Amlygwyd yr angen i’r Cyngor fod yn hyrwyddo y buddiannau o fod yn gweithio i Awdurdod Lleol ac i arddangos holl becyn cyflogaeth y Cyngor.

 

 

Awdur:Eurig Williams

Dogfennau ategol: