Cyflwyno adroddiad
yr Uwch Swyddog Harbyrau.
Penderfyniad:
Nodi a derbyn yr adroddiad.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr
adroddiadau isod a gwahoddwyd adborth gan yr aelodau ar faterion diogelwch a
materion gweithredol yr harbwr.
(1) Adroddiad yr Uwch Swyddog Harbyrau yn rhoi diweddariad bras i’r pwyllgor ar faterion
yr harbwr ar gyfer y cyfnod o fis Mawrth 2022 i fis Medi, 2022.
Codwyd materion o
dan y penawdau isod:-
Cyflwyniad
Gan gyfeirio at Gyfansoddiad
y Pwyllgor Harbwr, a gynhwyswyd fel atodiad i’r adroddiad, ac sy’n rhestru
aelodaeth y pwyllgor, mynegodd y Rheolwr Morwrol ei bryder bod cyn lleied o
gynrychiolwyr gwahanol fuddiannau defnyddwyr yr harbwr yn mynychu’r
cyfarfodydd, a nododd ei fwriad i gysylltu â’r cynrychiolwyr hynny i amlygu
pwysigrwydd sicrhau mewnbwn eu haelodau, neu ddirprwyon iddynt, er mwyn cael trawsdoriad o sylwadau yn y cyfarfodydd.
Cod Diogelwch
Morol Porthladdoedd
Nododd y Cadeirydd
fod Cyngor Tref Porthmadog wedi derbyn llythyr yn ddiweddar yn cwyno fod Badau
Dŵr Personol yn dod yn rhy agos i’r lan ym Mae Samson, a holodd a fyddai’n
bosib’ i’r staff morwrol gael gair gyda’r sawl sy’n gyfrifol.
Mewn ymateb,
nododd y Rheolwr Morwrol:-
·
Bod
y Gwasanaeth yn rhannu’r pryderon hynny, a bod y staff morwrol wedi delio gyda
damweiniau angheuol yn ymwneud â Badau Dŵr Personol, a chychod pŵer
hefyd dros y blynyddoedd a fu.
·
Bod
y Gwasanaeth yn ceisio gwella rheolaeth dros hyn yn yr ardal yma o’r harbwr, yn
enwedig dros dymor yr haf, ond bod y digwyddiad dan sylw wedi digwydd ar yr 2il
o Hydref, ddeuddydd ar ôl i’r staff morwrol orffen gweithio ar y traethau am y
tymor.
·
Bod
tystiolaeth ffotograffig ar gael o’r digwyddiad, ac y byddai’r Gwasanaeth yn
cael gair gyda pherchennog y bad a perchennog y cwmni sy’n darparu
hyfforddiant.
·
Bod
nifer y cwynion ynglŷn a Badau Dŵr Personol a cychod pŵer yn
lleihau’n gyffredinol, oedd yn dangos bod rheolaeth y Gwasanaeth o’r sefyllfa,
ac ymddygiad pobl, yn gwella.
·
Os
na all y cyhoedd neu staff dynnu sylw gyrrwr bad sy’n gyrru’n anghyfrifol neu’n
rhy agos at y lan, bod gan y Cyngor system gofrestru mewn lle fel bod modd
adnabod y perchennog yn weddol gyflym.
Cytunid nad oedd bob amser yn hawdd gweld y rhif cofrestru, ond roedd y
gyrrwr yn siŵr o ddod i’r lan yn rhywle.
·
Bod
Robert Owen, fel cynrychiolydd y diwydiant yma ar y pwyllgor, yn rhagweithiol
yn hybu defnydd cyfrifol a da o’r badau.
·
Bod
PWC Gwynedd wedi cynnal digwyddiad y ‘Black Rock Blast’ i hyrwyddo ymddygiad cyfrifol a diogel o Fadau Dŵr
Personol. Hefyd, roedd y Cyngor yn
rhannu tystiolaeth o ymddygiad anghyfrifol gyda PWC Gwynedd fel bod modd iddynt
ei roi ar eu safle we.
·
Ei
bod yn anodd plismona ar hyd a lled yr arfordir, ac er bod gan y Gwasanaeth
gwch yn Harbwr Porthmadog, nid oedd modd ei gael allan bob tro. Fodd bynnag, ceisid gwella ar hynny ar gyfer
y flwyddyn nesaf.
·
Bod
Cynghorau Môn a Chonwy wedi mabwysiadu system
cofrestru badau fel sydd yn bodoli yng Ngwynedd ers blynyddoedd, a byddai’n dda
petai hyn yn dod yn drefniant statudol, cenedlaethol fel ei bod yn ofynnol i
bob bad gael ei gofrestru.
·
Bod
y Cyngor Tref wedi anfon llythyr yr achwynydd ymlaen ato, a’i fod wedi gofyn
i’r Harbwrfeistr a’r Uwch Swyddog Harbyrau
ddarparu ymateb cynhwysfawr ar ran yr Awdurdod Harbwr.
Holodd y Cadeirydd
pa mor aml roedd cwch yr Heddlu yn galw yn yr harbwr. Mewn ymateb, nododd y Rheolwr Morwrol:-
·
Mai
anaml iawn oedd hynny’n digwydd, ond bod yr Heddlu wedi bod yn cynnal ymgyrch
cyhoeddusrwydd yn yr ardal yn ystod tymor yr haf.
·
Bod
swyddog o Cyfoeth Naturiol Cymru ar fwrdd y cwch, ynghyd â heddweision a
deifwyr.
·
Bod
y cwch yn gweithredu allan o Gilgwri, Manceinion a
Lerpwl yn bennaf, ac yn cyfro Gogledd Orllewin Lloegr hefyd.
Nododd y Cadeirydd
ei bod yn ymddangos bod lefel y llaid wedi codi yn yr harbwr, a holodd pryd y
cafodd yr harbwr ei garthu ddiwethaf.
Mewn ymateb, nododd y Rheolwr Morwrol:-
·
Bod
28 mlynedd ers pan gafodd yr harbwr ei garthu ddiwethaf.
·
Bod
unrhyw gynnydd yn lefelau gwely’r môr yn mynd i amharu ar gychod
mewn rhai rhannau o’r harbwr.
·
Bod
datblygiad y pontŵn wedi arafu a newid llif y dŵr. Roedd llaid yn cael ei adael ar ôl pan mae’r
llanw yn mynd allan o’r harbwr, ac roedd llaid sy’n dod i lawr yr afon yn cael
ei adael yn yr harbwr hefyd.
·
Bod
y llaid yn debygol o gynyddu nes cyrraedd ei ecwilibriwm,
a chredid nad oedd y sefyllfa’n bell o gyrraedd hynny bellach.
·
Credid
nad oedd y llaid yn amharu ar yr hyn sy’n digwydd o fewn yr harbwr o ran yr
elfen statudol, gan fod y mordwyo yn dal i gael ei oruchwylio’n rheolaidd a’r
bwiau yn dal i gael eu gosod yn y llefydd cywir.
·
Cydnabyddid
bod y sefyllfa’n anhwylus i rai cychod oedd wedi arfer mynd allan ar unrhyw
lefel llanw o fewn rheswm, ond roedd hynny’n ddisgwyliedig.
·
Pan
gafodd yr harbwr ei garthu ddiwethaf, defnyddiwyd loriau, gyda pheiriannau’n
codi’r llaid i’r loriau, ond nid oedd y ddeddf yn caniatáu gwneud hynny
bellach. Hefyd, byddai’n rhaid i’r llaid
fynd i safle gwastraff gofrestredig.
·
Y
byddai’r gost o garthu’r harbwr tua £500,000 neu ragor.
·
Efallai
bod modd edrych yn y flwyddyn neu ddwy nesaf ar y posibilrwydd o bwmpio
dŵr i mewn i’r harbwr i geisio symud rhywfaint o’r llaid. Gallai’r Clwb Hwylio eu hunain wneud hynny
oherwydd bod yr holl incwm o’r pontwns yn mynd i’r Clwb.
·
Bod
yna hefyd bocedi o laid yn y waliau ar ochr y cei, ond byddai’r broses o’i
waredu yn sylweddol.
·
Bod
y Gwasanaeth yn parhau i fonitro’r sefyllfa, ond nid oedd yna unrhyw gynlluniau
ar hyn o bryd i wneud gwaith carthu yn Harbwr Porthmadog.
Nododd y Cynrychiolydd
Buddiannau Masnachol:-
·
Nad
oedd wedi sylwi bod lefel y llaid yn waliau’r harbwr wedi newid o gwbl mewn 45
mlynedd.
·
Na
chredai y byddai carthu yn cael unrhyw effaith gan y byddai’r llaid yn
dychwelyd i’r harbwr ymhen amser.
Materion Ariannol
Nododd y Rheolwr
Morwrol fod cyllideb ddiweddaraf yr harbwr fel a ganlyn, ac y byddai’n
cylchredeg y wybodaeth i’r aelodau yn dilyn y cyfarfod:-
Grŵp |
Disgrifiad |
Cyllideb £ |
Gwariant hyd
at 31/03/21 £ |
Gor(Tan) Wariant £ |
Staff |
Costau
Staff |
63,530 |
67,132 |
3,602 |
Eiddo |
Tiroedd
ac Eiddo |
24,440 |
22,898 |
(1,542) |
Trafnidiaeth |
Cwch
a Cherbydau |
670 |
919 |
249 |
Offer
a Chelfi |
Offer
a Chelfi |
12,120 |
7,006 |
(5,114) |
Incwm |
Incwm
Harbwr |
(73,830) |
(61,619) |
12,211 |
Cyfanswm |
Cyfanswm |
26,930 |
36,337 |
9,407 |
Nododd ymhellach y
gobeithid gallu lleihau’r gorwariant o £9,407 yn erbyn cyllideb y flwyddyn
ariannol bresennol drwy wneud llai o wariant o dan y pennawd Eiddo.
Ffioedd a
Thaliadau
Nododd y Rheolwr
Morwrol:-
·
Na
dderbyniwyd y ffigurau chwyddiant gan yr Uned Gyllid eto, ond na fyddai’r
ffigurau hynny mor isel ag yn y blynyddoedd a fu.
·
Na
ddymunid codi’r ffioedd mor uchel fel bod neb yn gallu fforddio angori yn
Harbwr Porthmadog, ond byddai’n rhaid asesu’r ffigurau a’r ffioedd yn realistig
er mwyn gweld oes yna ffyrdd amgen o gynyddu incwm yr harbyrau.
·
Bod
angen edrych ar ardal Borth y Gest oherwydd y gallai’r elfennau yna fod ychydig
yn is na’r hyn fyddai’r farchnad yno’n gallu
ysgwyddo. Gan hynny, roedd bwriad i
gynyddu ffioedd yn yr ardal yna, ond ni fyddai’n cael effaith niweidiol dros
ben ar y cwsmeriaid sydd yna.
·
Y
byddai angen edrych ar ffioedd lansio a ffioedd cofrestru ac elfennau costau
Morfa Bychan hefyd, o bosib’.
·
Unwaith
y byddai ffigurau ac argymhellion cadarn ar gael, byddai modd eu cylchredeg i’r
aelodau y tu allan i gyfarfod pwyllgor ffurfiol, gan hefyd ymgynghori â’r Aelod
Cabinet at y dyfodol.
(2) Adroddiad yr Harbwrfeistr
yn crynhoi’r materion Mordwyo a Gweithredol a wnaed ac a brofwyd yn y cyfnod
rhwng mis Mawrth a mis Medi 2022, gan gynnwys materion cynnal a chadw.
Codwyd materion o
dan y penawdau isod:-
Materion Mordwyo
Holwyd beth oedd canfyddiadau
archwiliad blynyddol Tŷ’r Drindod o gymorthyddion mordwyo yn yr harbwr a dynesfa’r sianel. Mewn ymateb, nododd yr Harbwrfeistr
nad oedd unrhyw faterion wedi codi ym Mhorthmadog, nac mewn unrhyw harbwr
arall. Ychwanegodd y Rheolwr Morwrol fod
y Gwasanaeth wedi gweithio i wella’r cymorthyddion
mordwyo, a bod y ffaith nad oedd yna faterion yn codi ym Mhorthmadog nac mewn
unrhyw harbwr arall, yn glod i’r harbwrfeistri.
Nododd y Rheolwr
Morwrol fod yna rai pethau wedi codi ar asedau nad oedd y Gwasanaeth yn
gyfrifol amdanynt, ond fel awdurdod goleudai lleol, bod dyletswydd ar y
Gwasanaeth Morwrol i ddilyn y rhain i fyny gyda thrydydd parti. Roedd y Gwasanaeth wedi bod yn ceisio gwneud
hynny ers rhai blynyddoedd heb lwyddiant, ac roedd yn bwysig bod y trydydd
parti yn cymryd hyn o ddifri’.
Cynnal a Chadw
Nododd yr Harbwrfeistr:-
·
Y
rhoddwyd caniatâd i glwb rhwyfo newydd ym Mhorthmadog storio cwch rhwyfo yng
nghefn yr harbwr.
·
Mai’r
gwaith yng nghefn yr harbwr fyddai un o’r prosiectau mwyaf dros y gaeaf.
·
Bod
cwch y ‘Dwyfor’ angen llafn gwthio newydd a’i glanhau, a bod yna waith cynnal a
chadw i’w wneud ar y Bwi Tramwyo hefyd.
Diolchodd y
Cadeirydd, ar ran y pwyllgor, i’r grwpiau ac unigolion lleol fu’n ymgymryd â
gweithgareddau glanhau traethau ar draeth y Graig Ddu.
Diolchodd y
Rheolwr Morwrol i’r Cadeirydd a’r Cynghorydd Nia Jeffreys am eu diddordeb yn y
Gwasanaeth, ac ym Morfa Bychan a’r harbwr, gan fynegi ei obaith y byddai hyn yn
parhau i’r dyfodol.
PENDERFYNWYD nodi a
derbyn yr adroddiad.
Dogfennau ategol: