skip to main content

Agenda item

Cyflwyno adroddiad yr Uwch Swyddog Harbyrau.

Penderfyniad:

Nodi a derbyn yr adroddiad.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiadau isod a gwahoddwyd adborth gan yr aelodau ar faterion diogelwch a materion gweithredol yr harbwr.

 

(1)     Adroddiad yr Uwch Swyddog Harbyrau yn rhoi diweddariad bras i’r pwyllgor ar faterion yr harbwr ar gyfer y cyfnod o fis Mawrth 2022 i fis Medi, 2022.

 

Codwyd materion o dan y penawdau isod:-

 

Cyflwyniad

 

Gan gyfeirio at Gyfansoddiad y Pwyllgor Harbwr, a gynhwyswyd fel atodiad i’r adroddiad, ac sy’n rhestru aelodaeth y pwyllgor, mynegodd y Rheolwr Morwrol ei bryder bod cyn lleied o gynrychiolwyr gwahanol fuddiannau defnyddwyr yr harbwr yn mynychu’r cyfarfodydd, a nododd ei fwriad i gysylltu â’r cynrychiolwyr hynny i amlygu pwysigrwydd sicrhau mewnbwn eu haelodau, neu ddirprwyon iddynt, er mwyn cael trawsdoriad o sylwadau yn y cyfarfodydd.

 

Cod Diogelwch Morol Porthladdoedd

 

Nododd y Cadeirydd fod Cyngor Tref Porthmadog wedi derbyn llythyr yn ddiweddar yn cwyno fod Badau Dŵr Personol yn dod yn rhy agos i’r lan ym Mae Samson, a holodd a fyddai’n bosib’ i’r staff morwrol gael gair gyda’r sawl sy’n gyfrifol.

 

Mewn ymateb, nododd y Rheolwr Morwrol:-

 

·         Bod y Gwasanaeth yn rhannu’r pryderon hynny, a bod y staff morwrol wedi delio gyda damweiniau angheuol yn ymwneud â Badau Dŵr Personol, a chychod pŵer hefyd dros y blynyddoedd a fu.

·         Bod y Gwasanaeth yn ceisio gwella rheolaeth dros hyn yn yr ardal yma o’r harbwr, yn enwedig dros dymor yr haf, ond bod y digwyddiad dan sylw wedi digwydd ar yr 2il o Hydref, ddeuddydd ar ôl i’r staff morwrol orffen gweithio ar y traethau am y tymor.

·         Bod tystiolaeth ffotograffig ar gael o’r digwyddiad, ac y byddai’r Gwasanaeth yn cael gair gyda pherchennog y bad a perchennog y cwmni sy’n darparu hyfforddiant.

·         Bod nifer y cwynion ynglŷn a Badau Dŵr Personol a cychod pŵer yn lleihau’n gyffredinol, oedd yn dangos bod rheolaeth y Gwasanaeth o’r sefyllfa, ac ymddygiad pobl, yn gwella.

·         Os na all y cyhoedd neu staff dynnu sylw gyrrwr bad sy’n gyrru’n anghyfrifol neu’n rhy agos at y lan, bod gan y Cyngor system gofrestru mewn lle fel bod modd adnabod y perchennog yn weddol gyflym.  Cytunid nad oedd bob amser yn hawdd gweld y rhif cofrestru, ond roedd y gyrrwr yn siŵr o ddod i’r lan yn rhywle.

·         Bod Robert Owen, fel cynrychiolydd y diwydiant yma ar y pwyllgor, yn rhagweithiol yn hybu defnydd cyfrifol a da o’r badau.

·         Bod PWC Gwynedd wedi cynnal digwyddiad y ‘Black Rock Blast’ i hyrwyddo ymddygiad cyfrifol a diogel o Fadau Dŵr Personol.  Hefyd, roedd y Cyngor yn rhannu tystiolaeth o ymddygiad anghyfrifol gyda PWC Gwynedd fel bod modd iddynt ei roi ar eu safle we. 

·         Ei bod yn anodd plismona ar hyd a lled yr arfordir, ac er bod gan y Gwasanaeth gwch yn Harbwr Porthmadog, nid oedd modd ei gael allan bob tro.  Fodd bynnag, ceisid gwella ar hynny ar gyfer y flwyddyn nesaf.

·         Bod Cynghorau Môn a Chonwy wedi mabwysiadu system cofrestru badau fel sydd yn bodoli yng Ngwynedd ers blynyddoedd, a byddai’n dda petai hyn yn dod yn drefniant statudol, cenedlaethol fel ei bod yn ofynnol i bob bad gael ei gofrestru.

·         Bod y Cyngor Tref wedi anfon llythyr yr achwynydd ymlaen ato, a’i fod wedi gofyn i’r Harbwrfeistr a’r Uwch Swyddog Harbyrau ddarparu ymateb cynhwysfawr ar ran yr Awdurdod Harbwr.

 

Holodd y Cadeirydd pa mor aml roedd cwch yr Heddlu yn galw yn yr harbwr.  Mewn ymateb, nododd y Rheolwr Morwrol:-

 

·         Mai anaml iawn oedd hynny’n digwydd, ond bod yr Heddlu wedi bod yn cynnal ymgyrch cyhoeddusrwydd yn yr ardal yn ystod tymor yr haf.

·         Bod swyddog o Cyfoeth Naturiol Cymru ar fwrdd y cwch, ynghyd â heddweision a deifwyr.

·         Bod y cwch yn gweithredu allan o Gilgwri, Manceinion a Lerpwl yn bennaf, ac yn cyfro Gogledd Orllewin Lloegr hefyd.

 

Nododd y Cadeirydd ei bod yn ymddangos bod lefel y llaid wedi codi yn yr harbwr, a holodd pryd y cafodd yr harbwr ei garthu ddiwethaf.  Mewn ymateb, nododd y Rheolwr Morwrol:-

 

·         Bod 28 mlynedd ers pan gafodd yr harbwr ei garthu ddiwethaf.

·         Bod unrhyw gynnydd yn lefelau gwely’r môr yn mynd i amharu ar gychod mewn rhai rhannau o’r harbwr.

·         Bod datblygiad y pontŵn wedi arafu a newid llif y dŵr.  Roedd llaid yn cael ei adael ar ôl pan mae’r llanw yn mynd allan o’r harbwr, ac roedd llaid sy’n dod i lawr yr afon yn cael ei adael yn yr harbwr hefyd. 

·         Bod y llaid yn debygol o gynyddu nes cyrraedd ei ecwilibriwm, a chredid nad oedd y sefyllfa’n bell o gyrraedd hynny bellach.

·         Credid nad oedd y llaid yn amharu ar yr hyn sy’n digwydd o fewn yr harbwr o ran yr elfen statudol, gan fod y mordwyo yn dal i gael ei oruchwylio’n rheolaidd a’r bwiau yn dal i gael eu gosod yn y llefydd cywir.

·         Cydnabyddid bod y sefyllfa’n anhwylus i rai cychod oedd wedi arfer mynd allan ar unrhyw lefel llanw o fewn rheswm, ond roedd hynny’n ddisgwyliedig.

·         Pan gafodd yr harbwr ei garthu ddiwethaf, defnyddiwyd loriau, gyda pheiriannau’n codi’r llaid i’r loriau, ond nid oedd y ddeddf yn caniatáu gwneud hynny bellach.  Hefyd, byddai’n rhaid i’r llaid fynd i safle gwastraff gofrestredig.

·         Y byddai’r gost o garthu’r harbwr tua £500,000 neu ragor.

·         Efallai bod modd edrych yn y flwyddyn neu ddwy nesaf ar y posibilrwydd o bwmpio dŵr i mewn i’r harbwr i geisio symud rhywfaint o’r llaid.  Gallai’r Clwb Hwylio eu hunain wneud hynny oherwydd bod yr holl incwm o’r pontwns yn mynd i’r Clwb.

·         Bod yna hefyd bocedi o laid yn y waliau ar ochr y cei, ond byddai’r broses o’i waredu yn sylweddol.

·         Bod y Gwasanaeth yn parhau i fonitro’r sefyllfa, ond nid oedd yna unrhyw gynlluniau ar hyn o bryd i wneud gwaith carthu yn Harbwr Porthmadog.

 

Nododd y Cynrychiolydd Buddiannau Masnachol:-

 

·         Nad oedd wedi sylwi bod lefel y llaid yn waliau’r harbwr wedi newid o gwbl mewn 45 mlynedd.

·         Na chredai y byddai carthu yn cael unrhyw effaith gan y byddai’r llaid yn dychwelyd i’r harbwr ymhen amser.

 

Materion Ariannol

 

Nododd y Rheolwr Morwrol fod cyllideb ddiweddaraf yr harbwr fel a ganlyn, ac y byddai’n cylchredeg y wybodaeth i’r aelodau yn dilyn y cyfarfod:-

 

Grŵp

Disgrifiad

Cyllideb

£

Gwariant hyd at 31/03/21

£

Gor(Tan) Wariant

£

Staff

Costau Staff

63,530

67,132

3,602

Eiddo

Tiroedd ac Eiddo

24,440

22,898

(1,542)

Trafnidiaeth

Cwch a Cherbydau

670

919

249

Offer a Chelfi

Offer a Chelfi

12,120

7,006

(5,114)

Incwm

Incwm Harbwr

(73,830)

(61,619)

12,211

Cyfanswm

Cyfanswm

26,930

36,337

9,407

 

Nododd ymhellach y gobeithid gallu lleihau’r gorwariant o £9,407 yn erbyn cyllideb y flwyddyn ariannol bresennol drwy wneud llai o wariant o dan y pennawd Eiddo.

 

Ffioedd a Thaliadau

 

Nododd y Rheolwr Morwrol:-

 

·         Na dderbyniwyd y ffigurau chwyddiant gan yr Uned Gyllid eto, ond na fyddai’r ffigurau hynny mor isel ag yn y blynyddoedd a fu.

·         Na ddymunid codi’r ffioedd mor uchel fel bod neb yn gallu fforddio angori yn Harbwr Porthmadog, ond byddai’n rhaid asesu’r ffigurau a’r ffioedd yn realistig er mwyn gweld oes yna ffyrdd amgen o gynyddu incwm yr harbyrau.

·         Bod angen edrych ar ardal Borth y Gest oherwydd y gallai’r elfennau yna fod ychydig yn is na’r hyn fyddai’r farchnad yno’n gallu ysgwyddo.  Gan hynny, roedd bwriad i gynyddu ffioedd yn yr ardal yna, ond ni fyddai’n cael effaith niweidiol dros ben ar y cwsmeriaid sydd yna.

·         Y byddai angen edrych ar ffioedd lansio a ffioedd cofrestru ac elfennau costau Morfa Bychan hefyd, o bosib’.

·         Unwaith y byddai ffigurau ac argymhellion cadarn ar gael, byddai modd eu cylchredeg i’r aelodau y tu allan i gyfarfod pwyllgor ffurfiol, gan hefyd ymgynghori â’r Aelod Cabinet at y dyfodol.

 

(2)     Adroddiad yr Harbwrfeistr yn crynhoi’r materion Mordwyo a Gweithredol a wnaed ac a brofwyd yn y cyfnod rhwng mis Mawrth a mis Medi 2022, gan gynnwys materion cynnal a chadw.

 

Codwyd materion o dan y penawdau isod:-

 

Materion Mordwyo

 

Holwyd beth oedd canfyddiadau archwiliad blynyddol Tŷ’r Drindod o gymorthyddion mordwyo yn yr harbwr a dynesfa’r sianel.  Mewn ymateb, nododd yr Harbwrfeistr nad oedd unrhyw faterion wedi codi ym Mhorthmadog, nac mewn unrhyw harbwr arall.  Ychwanegodd y Rheolwr Morwrol fod y Gwasanaeth wedi gweithio i wella’r cymorthyddion mordwyo, a bod y ffaith nad oedd yna faterion yn codi ym Mhorthmadog nac mewn unrhyw harbwr arall, yn glod i’r harbwrfeistri.

 

Nododd y Rheolwr Morwrol fod yna rai pethau wedi codi ar asedau nad oedd y Gwasanaeth yn gyfrifol amdanynt, ond fel awdurdod goleudai lleol, bod dyletswydd ar y Gwasanaeth Morwrol i ddilyn y rhain i fyny gyda thrydydd parti.  Roedd y Gwasanaeth wedi bod yn ceisio gwneud hynny ers rhai blynyddoedd heb lwyddiant, ac roedd yn bwysig bod y trydydd parti yn cymryd hyn o ddifri’.

 

Cynnal a Chadw

 

Nododd yr Harbwrfeistr:-

 

·         Y rhoddwyd caniatâd i glwb rhwyfo newydd ym Mhorthmadog storio cwch rhwyfo yng nghefn yr harbwr.

·         Mai’r gwaith yng nghefn yr harbwr fyddai un o’r prosiectau mwyaf dros y gaeaf. 

·         Bod cwch y ‘Dwyfor’ angen llafn gwthio newydd a’i glanhau, a bod yna waith cynnal a chadw i’w wneud ar y Bwi Tramwyo hefyd.

 

Diolchodd y Cadeirydd, ar ran y pwyllgor, i’r grwpiau ac unigolion lleol fu’n ymgymryd â gweithgareddau glanhau traethau ar draeth y Graig Ddu.

 

Diolchodd y Rheolwr Morwrol i’r Cadeirydd a’r Cynghorydd Nia Jeffreys am eu diddordeb yn y Gwasanaeth, ac ym Morfa Bychan a’r harbwr, gan fynegi ei obaith y byddai hyn yn parhau i’r dyfodol.

 

PENDERFYNWYD nodi a derbyn yr adroddiad.

 

Dogfennau ategol: