Agenda item

Aelod Cabinet – Y Cynghorydd Menna Jones

 

Ystyried adroddiad ar yr uchod.

 

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau.

 

Cofnod:

Croesawyd y Cyfarwyddwr Corfforaethol a’r Ymgynghorydd Ffordd Gwynedd i’r cyfarfod.

 

Cyflwynwyd adroddiad yr Aelod Cabinet Cefnogaeth Gorfforaethol yn cyflwyno casgliadau Gweithgor Adolygu Ffordd Gwynedd ar sail yr ymatebion a dderbyniwyd i holiadur a gylchredwyd i’r penaethiaid er mwyn:-

 

·         cael trosolwg o sut mae egwyddorion Ffordd Gwynedd yn gwreiddio o fewn yr adrannau; a

·         galluogi datblygu cynllun Ffordd Gwynedd fydd yn sicrhau’r gefnogaeth briodol ar gyfer y tair blynedd i ddod.

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a chynnig sylwadau. 

 

Cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn gan aelodau unigol:-

 

·         Diolchwyd i’r Timau Tacluso newydd am eu gwaith clodwiw.

·         Nodwyd y dymunid i Ffordd Gwynedd weithio, ond na ellid rhannu brwdfrydedd y swyddogion ynglŷn â sut mae pethau’n mynd ar hyn o bryd. 

·         Nodwyd bod deall gwir anghenion y cwsmer yn ganolog i’r adroddiad, ond os nad oedd Ffordd Gwynedd yn ymwneud â hynny, nid oedd pwrpas iddo.

·         Awgrymwyd bod yr adroddiad yn rhy gyffredinol, gwlanog ac amwys, e.e. cyfeirir droeon at ‘gryn gynnydd’, ‘lle i wella’, ayb, ond ni cheir diffiniad o hynny.  Yn yr un modd, cyfeirir at e.e. ‘rai adrannau / timau’, ac awgrymwyd y dylid enwi’r adrannau sy’n llwyddo neu’n tangyflawni, yn fewnol o fewn y Cyngor.  Hefyd roedd yr adroddiad yn nodi bod timau yn gweithio’n arloesol, ond byddai’n fuddiol gwybod pa dimau oedd yn gwneud hynny, a beth oedd yr ymarfer da.

·         Er derbyn bod yna lawer o ffordd i fynd, awgrymwyd bod Ffordd Gwynedd, fel delfryd, yn rhywbeth i anelu ato, a llongyfarchwyd y weledigaeth.

·         Nodwyd bod diffyg ymateb gan rai staff/adrannau i ymholiadau gan aelodau etholedig ac aelodau o’r cyhoedd yn broblem fawr, a bod angen blaenoriaethu hyn yn y tymor byr, Ffordd Gwynedd neu beidio, gan enwi a chodi cywilydd ar y rhai sy’n tramgwyddo.

·         Pwysleisiwyd, os cael Ffordd Gwynedd i weithio, bod angen i bawb brynu i mewn i’r diwylliant, a mynegwyd siomedigaeth na lwyddwyd i ddod â’r gweithlu ymlaen gyda hyn, yn enwedig ar yr ochr Priffyrdd.

·         Nodwyd y dylid rhannu egwyddorion Ffordd Gwynedd gyda chwmnïau allanol sy’n cyflawni contractau i’r Cyngor.

 

Mewn ymateb i’r sylwadau, ac i gwestiynau gan aelodau, nododd y Cyfarwyddwr Corfforaethol:

 

·         Ei fod yn siomedig iawn o glywed rhai o’r sylwadau, ond yn llawn dderbyn bod yr aelodau yn awyddus i gael mwy o fanylion, ac yn fwy na bodlon rhannu’r wybodaeth.  Roedd hefyd yn derbyn y pwynt ynglŷn ag amlygu lle mae angen canolbwyntio ymdrechion.

·         Bod y Prif Weithredwr ac yntau yn cydweithio ar ddarn o waith ynglŷn â diffyg ymateb prydlon i ymholiadau gan rai gwasanaethau, a bod yna gamau eisoes wedi’u cymryd, gyda’r sefyllfa bellach wedi gwella mewn nifer o wasanaethau lle bu trafferthion yn y gorffennol.  Gofynnodd i’r aelodau gysylltu os oedd ganddynt unrhyw enghreifftiau o ddiffyg ymateb.  Mewn ymateb i sylw pellach ynglŷn â’r mater hwn, nododd y Cyfarwyddwr ei fod yn amau bod y dystiolaeth yn awgrymu bod yna gyswllt rhwng diffyg ymateb i ymholiadau a diffyg ymroddiad i egwyddorion Ffordd Gwynedd.  Mewn ymateb i gwestiwn pellach ynglŷn â’r angen i fonitro perfformiad yr adrannau, eglurodd y Cyfarwyddwr fod disgwyliad bod aelodau a’r cyhoedd yn derbyn cydnabyddiaeth o unrhyw ymholiad o fewn 7 diwrnod ar yr hwyraf.  Gofynnwyd i’r Cyfarwyddwr rannu’r ddogfen honno gyda’r aelodau.

·         O ran cael pawb i brynu i mewn i Ffordd Gwynedd, nododd y Cyfarwyddwr nad oedd y Cyngor wedi gweld y datblygiad y byddai wedi dymuno ei weld ar draws yr adrannau.  Fodd bynnag, roedd y cysyniad wedi gwreiddio mewn rhai gwasanaethau, gyda llawer o hynny yn sgil yr arweiniad sy’n cael ei roi gan benaethiaid a rheolwyr.  Pwysleisiodd fod angen sicrhau’r ymrwymiad i wreiddio’r meddylfryd a’r diwylliant, ac roedd angen buddsoddi amser yn yr argymhellion gweithredu er mwyn adnabod y camau gwag sy’n bodoli o fewn rhai systemau a sicrhau buddiant tymor hir. 

·         Bod y cysyniad oedd wedi’i wreiddio yn nyddiau cynnar Ffordd Gwynedd yn ystyried unrhyw adolygiad o’r system neu wasanaeth fel rhywbeth oedd yn edrych ar y gwasanaeth cyfan.  Fodd bynnag, er bod lle i adolygiadau adrannol o hyd, gwelwyd symudiad bellach tuag at wneud mwy a mwy o adolygiadau llai dwys, sy’n rhoi sylw i systemau unigol ar y tro.

·         Bod rôl y 2 Ymgynghorydd Ffordd Gwynedd wedi bod yn allweddol wrth gyflwyno’r technegau newydd i reolwyr o ran adolygu gwasanaethau, rhoi sylw i lif gwaith a darparu cyngor ar sut i ddelio â rhwystrau.  Wrth i amser fynd yn ei flaen, ac wrth i Ffordd Gwynedd wreiddio ymhellach, disgwylid y byddai hyn oll yn dod yn rhan naturiol o waith y rheolwyr.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau.

 

Dogfennau ategol: