Agenda item

Aelod Cabinet – Y Cynghorydd Beca Brown

 

Ystyried adroddiad ar yr uchod.

 

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad cynnydd yr Aelod Cabinet Addysg ar gais y Pwyllgor hwn ar baratoadau ysgolion Gwynedd i waith Cwricwlwm i Gymru.

 

Croesawyd cynrychiolwyr GwE i’r cyfarfod.

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a chynnig sylwadau. 

 

Cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn gan aelodau unigol:-

 

·         Ei bod yn galonogol gweld bod holl ysgolion Gwynedd yn sicrhau bod hyrwyddo’r Gymraeg a diwylliant a threftadaeth Cymru wedi’i blethu’n glir yn nyluniad y cwricwlwm.

·         Ei bod yn hanfodol nad ydym yn colli golwg ar bwysigrwydd y disgyblaethau academaidd traddodiadol, sy’n hanfodol er mwyn sicrhau tegwch mewn cymdeithas.

·         Ei bod yn hanfodol sicrhau cysondeb safon o ysgol i ysgol er mwyn sicrhau tegwch, nid yn unig rhwng cymunedau, ond ar lefel y disgybl unigol hefyd.

·         Bod un dudalen, yn arbennig, o’r adroddiad yn frith o gyfeiriadau at ‘ychydig’, ‘llawer’ neu ‘rai’ ysgolion’, sy’n gwbl ddi-ystyr heb y tabl, ac y dylid cynnwys y canrannau perthnasol ym mhob achos.

·         Y croesawir y cwricwlwm newydd, ond bod prinder staff, yn arbennig cymorthyddion, yn broblem enfawr.

 

Mewn ymateb i’r sylwadau, ac i gwestiynau gan aelodau, nodwyd:-

 

·         O ran y trefniadau hyfforddi, bod rhaglen yn cael ei chreu, yn drawsranbarthol ac ar draws Cymru, er mwyn gosod y fframwaith o ran dyluniad y cwricwlwm, gan ystyried beth yw’r weledigaeth, y gwerthoedd a’r math o ymddygiad lleol mae ysgol neu gymuned leol yn dyheu tuag ati o gwmpas y 4 diben.  Roedd GwE wedi bod yn gweithio’n agos gyda’r Athro Graham Donaldson ac wedi creu rhwydwaith rhanbarthol a rhwydweithiau lleol a phenodol yng Ngwynedd yn edrych ar feysydd dysgu a phrofiad yn unigol, ac wedyn yn oed berthnasol i’r meysydd dysgu a phrofiad.  Yna, roedd cyfres o glystyrau wedi’u creu a chyfres o gynghreiriau, ac roedd yr hyfforddiant yn mynd i lawr i lefel y clystyrau.  Roedd yn bwysig nodi hefyd, wrth i’r fwydlen fynd yn ei blaen, bod ysgolion yn dysgu oddi wrth y naill a’r llall ac yn rhannu profiadau.

·         Mai asesu a chynnydd oedd yr heriau mwyaf i’r proffesiwn.  Roedd yna ddarlun llawer mwy holistig o’r plentyn erbyn hyn, yn ogystal â’r ochr academaidd.  Crewyd modelau a systemau i rannu hefo’r ysgolion, yn enwedig o ran yr asesu ffurfiannol, ac roedd gwaith ar droed hefyd o ran y pontio cynradd/uwchradd yng nghyd-destun cwricwlwm lleol.  Nodwyd ymhellach mai un o’n harfau pwysicaf yn sgil datblygiad y cwricwlwm newydd fyddai’r ffocws amlwg ar gwricwlwm lleol/ardal, a chredid bod hynny’n fodd o gryfhau’r pontio mewn modd sy’n berthnasol i gwricwlwm sy’n wirioneddol adlewyrchu gofynion lleol.  Hyderid hefyd y gallai fod o gymorth i gael gwared â’r canfyddiad gan rai bod yna gyfnod addysg yn dod i ben ar ddiwedd blwyddyn 6, a chyfnod arall yn cychwyn ym mlwyddyn 7.

·         O safbwynt hyrwyddo’r diwylliant Cymreig ar draws yr ysgolion, bod y Cwricwlwm i Gymru yn gwricwlwm Cymreig, ac yn gwricwlwm sy’n gynyddol yn arddel a datblygu’r iaith Gymraeg.  Gan hynny, roedd yr elfennau hynny yn yr arlwy hyfforddiant mewn gwahanol ffyrdd, a nodwyd y byddai GwE yn hapus i adrodd yn ôl ar hynny i’r pwyllgor.

·         O ran bwriad y rhan fwyaf o ysgolion i asesu a thracio lles plant yn ogystal â’u hagwedd tuag at eu gwaith, a’r ffaith nad oes un dull/adnodd ar gael ar gyfer hynny, a hefyd yr angen i ddatblygu ymhellach y flaenoriaeth llesiant ysgol gyfan, gan gynnwys datblygu a gwerthuso’r maes dysgu a phrofiad iechyd a lles, nodwyd ein bod mewn cyfnod digynsail am sawl rheswm.  Gwelwyd newidiadau sylweddol yn y maes addysg, ac ni chredid bod neb yn llawn sylweddoli effaith y 2 flynedd ddiwethaf, nid yn unig ar y plant a’r bobl ifanc, ond hefyd ar yr oedolion sy’n dysgu yn yr ysgolion.  Roedd llais y disgybl yn bwysig yn ganol hyn, ond roedd gan y proffesiwn a chefnogwyr y proffesiwn le i aeddfedu a chywain y wybodaeth ynglŷn â beth yn union ydyw lles, a gallai gwneud pethau’n rhy generig olygu bod posib’ methu canolbwynt a chalon lles mewn ysgol.  Nodwyd bod agwedd plant a phobl ifanc at addysg ac ysgolion, yn enwedig yn yr ardaloedd mwy difreintiedig, wedi mynd yn fwy heriol ac anghenus ei natur yn y 2 flynedd ddiwethaf.  Roedd GwE yn gweithio ac yn derbyn cyngor gan arweinwyr prifysgolion ar sefydlu beth yn union yw’r anghenion yn lleol, a sut i ddiwallu’r anghenion hynny.  Nid oedd yr atebion gennym ar hyn o bryd, ond credid y byddai’n rhaid edrych yn ôl ar y cyfnod hwn ymhen amser er mwyn medru gweld beth yn union fu’r effaith ar blant a phobl ifanc.

·         Er mai un cyfeiriad byr sydd yn yr adroddiad at rifedd a llythrennedd, bod y sgiliau sylfaenol – llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol, yn ogystal â lles plant a phobl ifanc, yn greiddiol i’r cwricwlwm o’r oedran cynradd i 16 oed.  Nodwyd y byddai GwE yn hapus iawn i adrodd yn llawn i’r pwyllgor ar y ddarpariaeth a’r gefnogaeth mae ysgolion yn gael yn y meysydd yma.

·         Nad oedd y cymorthyddion dosbarth wedi’u cynnwys yn y meysydd sydd angen eu datblygu ymhellach, ond pwysleisiwyd eu bod yn bobl allweddol yn ein hysgolion sy’n cefnogi’r addysgu rheng-flaen yn y dosbarthiadau.  Roedd rhaid iddynt hefyd ddeall fframwaith, cynnwys a phwrpas y cwricwlwm, a bod yn rhan o unrhyw ddatblygiad proffesiynol yn eu hysgol leol a’u clwstwr lleol.

·         O ran tegwch i ddisgyblion unigol gyda golwg ar gyrhaeddiad academaidd, yn arbennig y rhai o gefndiroedd llai breintiedig sy’n llai tebygol o gael gwersi preifat, ayb, nodwyd y bu ymgais ers blynyddoedd bellach i symud oddi wrth gategoreiddio a labelu ysgolion.  Arferai ysgolion gael eu mesur yn amrwd iawn yn ôl canran y disgyblion oedd yn ennill graddau A* i C yn eu TGAU, ond nid oedd canran helaeth o’r plant yn cyrraedd y trothwy yma.  Awgrymwyd bod rhai ysgolion wedi culhau eu cwricwlwm yn llawer rhy gynnar, er mwyn cyrraedd y trothwy, a hynny ar draul profiad ehangach i’r ystod o blant, a chredid bod cadw ehangder y cwricwlwm yn mynd i fod yn her yn y sector uwchradd.  Gan nad oedd yn glir eto sut fyddai’r cymwysterau yn edrych erbyn 2025, pan fyddai’r cwricwlwm newydd yn cyrraedd Blwyddyn 10, roedd hynny’n llesteirio ychydig ar gynlluniau’r ysgolion, ond gellid bod yn eithaf clir y byddai’r brand TGAU a’r pynciau disgyblaethol yn aros. 

·         O safbwynt cysondeb safonau rhwng ysgolion, nodwyd yr anogid cydweithio rhwng yr ysgolion, gan bod hynny’n fodd o dorri ar y gystadleuaeth, yn ogystal â rhannu baich ac arbenigedd.  Yn y Fframwaith Atebolrwydd newydd, roedd cyfrifoldeb ar bob ysgol i adrodd i’w llywodraethwyr a rhieni yn flynyddol ar effeithiolrwydd y cwricwlwm, a pha mor dda ydyw ar gyfer profiadau disgyblion unigol.  Fel rhan o’r broses honno, byddai yna gymedroli gan gymheiriaid ar y math o adroddiad fel y rhagwelir sydd yn y ddogfen arfaethedig a’r canllaw fydd mewn lle.  Nodwyd bod yr Athro Donaldson wedi datgan mewn cynhadledd ddiweddar bod plentyn sy’n hapus ac yn dysgu yn linyn mesur da o lwyddiant y cwricwlwm, ond mae’n debyg bod angen ystyried wedyn beth sy’n cyfrannu at yr hapusrwydd a’r dysgu yma, sut i ddal y ddeubeth yna a sut mae’r ysgolion yn cyfrannu at beth bynnag yw’r nodau corfforaethol sy’n llawer iawn mwy holistig eu natur.  Roedd hon, mae’n debyg, yn drafodaeth i’r Aelod Cabinet Addysg a’r Pennaeth Addysg ei chael, o ran beth yw cyfundrefn addysg lwyddiannus yng Ngwynedd.

·         O ran agweddau lleol y cwricwlwm, eglurwyd nad oedd yna lwyr hyblygrwydd yn hyn o beth, a bod yna elfennau mandadol clir yn y cwricwlwm.  Awgrymwyd hefyd y gallai fod yn fuddiol cynnal gweithdy gydag ambell ysgol er mwyn dangos sut mae nhw’n rhoi’r cwricwlwm arfaethedig ar waith, a thrwy hynny leddfu rhai o’r pryderon bod ambell ysgol yn diystyru’r pethau craidd ar draul popeth arall.

·         O ran cydraddoldeb i bawb a mynediad at yr un profiadau, nodwyd bod y cwricwlwm yn cael ei gyflwyno mewn cyfnod di-gynsail o ran yr argyfwng costau byw presennol, ayb, ac nad oedd tlodi a chydraddoldeb byth mor syml ag edrych ar dlodi ariannol.  Roedd yna hefyd dlodi gwledig a thlodi o ran y profiadau mae plant a phobl ifanc yn gael, a nodwyd bod yr Aelod Cabinet Addysg yn awyddus i arwain ar waith gyda’r ysgolion o ran diffinio addysg a lles a phrofiadau cytbwys, fel nad yw plant a phobl ifanc a theuluoedd yn cael eu heithrio ar sail tlodi neu unrhyw agwedd gymdeithasol arall.  Ategodd yr Aelod Cabinet y sylw hwn drwy nodi y cynhaliwyd trafodaethau helaeth o fewn yr Adran ynglŷn â’r gwir gost o yrru plant i’r ysgol, nid yn unig y gost ariannol, ond hefyd y gost o ran llesiant, yn emosiynol a seicolegol.  Eglurodd na fyddai plant yn gadael yr ysgol gyda’r deilliannau a ddymunir heb iddynt fod yn hapus yn eu crwyn eu hunain a chael bod wedi mynd i’r ysgol ar yr un telerau â phawb arall.

·         Ei bod yn destun rhywfaint o bryder nad yw’r elfen galwedigaethol yn rhan lawn o ymgynghoriad Cymwysterau Cymru ar gymwysterau newydd.  Roedd yr elfen honno’n gorwedd yn ormodol y tu allan i Gymru gan gyrff allanol, a chredid y byddai angen dwyn pwysau gwleidyddol os am weld bwydlen sy’n rhoi cymwysterau Cymreig i bawb.  Fel arall, roedd perygl o greu system dwy haen unwaith eto, a dylai’r elfen yrfaol fod yn rhan o’r profiad llawn fel bod y person ifanc yn gallu cael llwybr di-dor i fywyd gwaith neu addysg bellach.

·         Bod yna ddwy ochr i’r ddadl o ran cyfuno llenyddiaeth ac iaith yn un pwnc yn y Gymraeg a’r Saesneg.  Wrth ddadansoddi canlyniadau TGAU, gellid dadlau mewn ambell i fan bod yna or-ddysgu llenyddiaeth, a dim digon o ddysgu’r sgiliau ieithyddol penodol.  Ochr arall y ddadl oedd bod llen yn cyfoethogi’r unigolyn, nid yn unig o ran sgiliau iaith, ond fel person hefyd.  Roedd cael y cydbwysedd yna mewn manyleb yn mynd i fod yn ddiddorol, a chredid y dylai hyn fod yn rhan o ymgynghoriad Cymwysterau Cymru.  Awgrymwyd bod yna gam-ganfyddiad wedi bod ynglŷn â’r newidiadau neu’r tueddiadau newydd yn y cwricwlwm, gyda rhai yn credu bod gosod mwy o ffocws ar sgiliau wedi bod ar draul gwybodaeth.  Fodd bynnag, roedd sgiliau a gwybodaeth yn cael eu cyfuno yn y cwricwlwm newydd, gyda’r naill yn cyfoethogi’r llall, a chredid bod hynny’n berthnasol hefyd yng nghyd-destun llen ac iaith.

·         Y bwriedid cyfrannu at ymgynghoriad Cymwysterau Cymru, naill ai fel awdurdod lleol, neu ar y cyd ar draws y 6 awdurdod yn rhanbarthol.

·         Bod anhawster recriwtio yn broblem genedlaethol, ac nad oedd wedi’i gyfyngu i’r maes addysg yn unig.  O ran prinder cymorthyddion, roedd yr ysgolion yn aml yn rhwydo yn yr un pwll am yr un bobl gyda’r un set o sgiliau â’r sector plant ac oedolion a’r sector gofal.  Roedd angen ystyried beth y gellid ei wneud i ddenu mwy o bobl i mewn i’r proffesiwn, a’u cadw ar ôl eu denu.  O siarad gyda phobl, roedd yn ymddangos nad y gyfradd gyflog oedd bob tro yn gyfrifol am hynny, ond y nifer oriau a gynigir, ac roedd angen i’r Cyngor fod yn fwy rhagweithiol yn y maes yma, gan feddwl y tu allan i’r bocs, ac efallai cyfuno swyddi ar draws sectorau fyddai’n creu swydd lawn amser gwerth ei chael sy’n atyniadol i bobl, ac yn fodd o’u cadw yn y proffesiwn.  Nodwyd ymhellach na chredid ein bod yn llawn sylweddoli effaith y 2 flynedd ddiwethaf ar y proffesiwn, a bod y pwysau yn sgil Cofid wedi bod yn fwy dirdynol nag oeddem wedi sylweddoli.  Gwelwyd llawer o drosiant staff hefyd, gydag 13 allan o’r 54 ysgol uwchradd ar draws y rhanbarth yn croesawu pennaeth newydd ym mis Medi eleni, a sgil effaith hynny yn rhaedru i lawr drwy’r gyfundrefn.  Nodwyd bod yna heriau ychwanegol yn y sector cyfrwng Cymraeg a’i bod yn bwysig gallu denu pobl sy’n hyfedr ddwyieithog, ac yn gallu cefnogi disgyblion yn y ddwy iaith.  Hefyd, o ran y sector arbennig, roeddem yn falch iawn yng Ngwynedd o fod yn gallu datgan sefyllfa lle mae ein darpariaeth addysg arbennig ar gael i’n plant i gyd ar draws y continwwm drwy gyfrwng y Gymraeg, ac felly roedd yn bwysicach byth ein bod yn gallu denu pobl sy’n siaradwyr Cymraeg naturiol i gefnogi’r holl sectorau.

·         Y byddai rhai o’r ysgolion uwchradd a benderfynodd ohirio cyflwyno’r cwricwlwm newydd tan y flwyddyn nesaf wedi bod mewn sefyllfa i’w gyflwyno fis Medi eleni, ond bu iddynt wneud penderfyniad strategol a doeth i ddefnyddio’r flwyddyn ychwanegol i ddysgu mwy am y cwricwlwm.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau.

 

Dogfennau ategol: