Cyflwyno gwybodaeth am gyfraniad yr adran i’r Polisi Iaith.
Penderfyniad:
Derbyn yr adroddiad
gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd.
Cofnod:
-
Adroddwyd bod 91.7% o
swyddogion yr adran yn cyrraedd dynodiad iaith eu swydd a mynegwyd balchder gan
fod hyn yn uwch na chyfartaledd y Cyngor. Cadarnhawyd bod 78.5% o holl
swyddogion yr adran wedi cwblhau hunan asesiad o sgiliau iaith ac mae’r adran
yn annog y swyddogion sydd yn weddill i’w gwblhau cyn gynted â phosibl.
- Cadarnhawyd bod 14 o swyddogion yr adran ddim yn cyrraedd dynodiad
ieithyddol ei swydd ond maent yn cael eu hannog i fynychu amrywiol gyrsiau a
hyfforddiant. Mae’r adran yn annog
swyddogion i fanteisio ar gwrs gloywi iaith. Canmolwyd y safle wê gan ei fod yn adnodd da sy’n rhoi cymorth i swyddogion
yn ogystal â’r fforwm iaith. Pwysleisiwyd bod sgyrsiau o hyd yn dechrau yn y
Gymraeg ac mae pob ymdrech yn cael ei wneud i sicrhau fod pawb yn teimlo’n
gyffyrddus i feithrin eu sgiliau a hyder ieithyddol.
- Pwysleisiwyd nad ydi’r ffigyrau hyn yn cynnwys
swyddogion y gwasanaethau gwastraff sydd wedi trosglwyddo o’r adran Briffyrdd a
Bwrdeistrefol yn ddiweddar.
-
Mynegwyd
balchder bod y gwasanaeth rheolaeth adeiladu wedi llwyddo i annog pobl i
sicrhau bod enwau eu tai yn aros yn enwau Cymraeg, neu annog perchnogion i
newid enwau eu tai yn ôl i’r Gymraeg gan ddangos pwysigrwydd enwau traddodiadol
iddynt. Bu i’r gwasanaeth Cynllunio hefyd hyrwyddo’r iaith Gymraeg drwy ddilyn
polisi PS1 sy’n rhoi ystyriaeth fanwl i’r iaith wrth ddelio gyda cheisiadau
cynllunio.
-
Eglurwyd bod
cyfran o waith yr adran yn cael ei allanoli i gontractwyr. Sicrhawyd bod pob
ymdrech yn cael ei wneud i warchod yr iaith. Pwysleisiwyd bod gwahoddiadau i
dendr yn ogystal â chanllawiau yn cael ei wneud yn y ddwy-ieithog.
Nodwyd bod trafferthion yn gallu codi wrth geisio cyfieithu contractau
cenedlaethol safonol gan bod ystyr y contractau yn gallu cael ei newid yn
hawdd. Er hyn, adroddwyd bod yr adran wedi bod yn llwyddiannus i gael
contractau Cymraeg gydag cwmnïau bws drwy teilwra contractau eu hunain.
-
Manylwyd mai un o brif
rwystrau sy’n wynebu’r adran yn ddiweddar ydi diffyg recriwtio. Cadarnhawyd ei
fod yn anodd recriwtio swyddogion cymwysedig yn gyffredinol ar draws
gwasanaethau’r adran a bod yr her yn dwysau wrth ymdrechu i recriwtio swyddogion
cymwysedig sydd hefyd yn meddu a sgiliau ieithyddol digonol.
- Ymhelaethwyd bod yr adran wedi bod yn llwyddiannus i recriwtio
hyfforddai proffesiynol yn y gwasanaeth traffig sy’n meddu a sgiliau ieithyddol
cryf. Mae’r adran yn parhau i fuddsoddi ynddo er mwyn sicrhau ei fod yn
gymwysedig i gyflawni’r rôl yn hyderus. Mynegwyd pryder bod sefyllfaoedd yn
codi ble mae’r adran yn buddsoddi mewn pobl a'u bod yn eu colli yn y pendraw
i’r sector preifat neu awdurdodau lleol eraill gan fod y cyflog yn uwch yn y
lleoliadau hyn. Yn anffodus, mae sawl swyddog o’r adran wedi newid swyddi i
leoliadau eraill o herwydd hyn.
- Esboniwyd bod yr adran yn arwain ar daclo’r
argyfwng newid hinsawdd a natur. Sicrhawyd bod yr holl drafodaethau sy’n cael
eu cynnal yn digwydd drwy gyfrwng y Gymraeg neu bod defnydd o’r iaith yn cael
ei annog os nad oes modd eu cynnal yn gwbl Gymraeg.
Rhoddwyd
cyfle i aelodau’r pwyllgor holi cwestiynau:
-
Gofynnwyd a ydi
trafferthion recriwtio wedi gwaethygu yn dilyn Pandemic
Covid-19. Holiwyd hefyd pa gamau mae’r adran yn eu cymryd i sicrhau fod
swyddogion newydd yn dysgu sgiliau Cymraeg pan fydd gofynion ieithyddol yn cael
eu lleihau wrth hysbysebu am yr ail neu drydydd gwaith.
o
Mewn ymateb
i’r ymholiad, nododd Pennaeth Adran Amgylchedd bod trafferthion recriwtio wedi
bod ers rhai blynyddoedd er mwyn sicrhau fod swyddogion yn gymwysedig ac yn
meddu â sgiliau’r Gymraeg. Mae sgiliau ieithyddol dal yn bwysig ar gyfer swyddi
yn yr adran hyd yn oed os ydi swydd yn cael ei hysbysebu mwy nag unwaith. Nodwyd
bod mwy o ymgeiswyr yn ymgeisio am swyddi pan mae’r dynodiad iaith yn cael ei
leihau. Bydd pwyso a mesur yn cael ei roi ar gyfer cymhwysedd yr ymgeiswyr a’u
sgiliau ieithyddol er mwyn sicrhau bod y swyddog gorau yn cael ei recriwtio.
Mae dibyniaeth yn cael ei roi ar yr ymgeisydd llwyddiannus hwnnw i feithrin eu
sgiliau ieithyddol pan maent wedi cael y swydd ac yn naturiol mae rhai
unigolion yn mynd i fod yn fwy ymroddgar i’r iaith nag eraill. Mae’r adran yn
rhoi anogaeth a chefnogaeth i bawb sydd angen cymorth ychwanegol gyda’r Gymraeg
yn syth wrth iddyn nhw gychwyn y swydd.
-
Holiwyd os
oes gan yr adran gynllunio unrhyw reolaeth ar enwau busnesau yn ogystal ag
enwau tai. Teimlwyd bod enwau cwmnïau yn uniaith Saesneg yn ddiweddar ac fe
fyddai’n ddefnyddiol i drigolion ac ymwelwyr petai enwau’r cwmnïau yn Gymraeg
neu ddwyieithog.
o
Mewn ymateb i’r ymholiad
nododd Pennaeth Cynorthwyol Adran Amgylchedd bod rheolaeth yr adran ar enwau
busnes yn gyfyngedig gan nad yw pob arwydd angen caniatâd cynllunio. Dim ond mewn
sefyllfa ble mae datblygiad neu arwydd angen caniatâd cynllunio bydd yr adran
yn gallu rheoli bod enwau’r busnesau a hyrwyddir yno yn Gymraeg neu’n
ddwyieithog a hynny drwy osod amod cynllunio i’r perwyl hyn.
o
Mewn ymateb
i’r ymholiad nododd Uwch Ymgynghorydd Iaith a Chraffu byddai’r sylwadau hyn yn
cael eu pasio ymlaen i’r Adran Economi a Chymuned yn ogystal â’r Tim Cefnogi
Busnes er mwyn iddynt bod yn ymwybodol o bryderon yr aelodau.
-
Ystyriwyd os byddai’r
adran yn debygol o recriwtio swyddogion di-gymraeg yn y dyfodol o ystyried bod
mwy o bwysau a galw am eu gwasanaethau yn sgil deddfwriaethau newydd.
o
Mewn ymateb
i’r ymholiad nododd Pennaeth Cynorthwyol Adran Amgylchedd nad ydi’r heriau
recriwtio yn broblem sy’n newydd ir adran. Gan fod trafferthion wedi bod ers
rhai blynyddoedd mae’r adran yn ceisio denu ymgeiswyr mewn sawl ffordd gwahanol
erbyn hyn. Nodwyd bod yr adran gynllunio wedi cael ei ddewis fel adran beilot
ar gyfer prosiect cynllunio gweithlu sydd yn
flaenoriaeth gwella yng Nghynllun y Cyngor. Mae swydd ddisgrifiadau yn
cael eu hadolygu a’u harfarnu er mwyn eu creu yn fwy cystadleuol gydag
awdurdodau cyfagos. Mae cais wedi cael ei wneud gan yr adran er mwyn cael
hyfforddai newydd i ymuno â’r tîm i dderbyn tair mlynedd o hyfforddiant
cymhwyso hefyd. Er y trafferthion recriwtio, mae’r adran yn ymwybodol bod y
mwyafrif o’u gwaith yn delio â unigolion a’r cymunedau ac felly mae sgiliau
iaith yn hanfodol. Ni fydd hyn yn newid ac bydd pob anogaeth a chefnogaeth i
bawb ddatblygu sgiliau Cymraeg.
-
Gofynnwyd sut
mae’r iaith Gymraeg yn cael ei flaenoriaethu o fewn y gwasanaeth cynllunio pan
mae llawer o newidiadau ar y gorwel a dim digon o swyddogion ar hyn o bryd i
gyrraedd gofynion ar amser.
o
Mewn ymateb i’r ymholiad
adroddodd Pennaeth Adran Amgylchedd bod amserlenni ymateb i geisiadau cynllunio
wedi llithro ychydig yn barod. Cyfaddefwyd bod pwysau ar y gwasanaeth
gorfodaeth cynllunio, a heriau gyda’r
amser gymerir i benderfynu ar geisiadau cynllunio, a bod hefyd oblygiadau
ychwanegol o ran staffio gyda chyflwyno
a gweithredu ar gyfarwyddyd Erthygl 4 i gael rheolaeth gwell o dai Haf. Bydd
angen sicrhau bod swyddogion ychwanegol ar gael i ymdopi a’r llwyth gwaith. Fel
trafodwyd yn gynharach, mae pob ymdrech yn cael ei wneud i ganfod ymgeiswyr
cymwys gyda sgiliau Cymraeg digonol ac mae pob cefnogaeth ar gael i unrhyw
ymgeisydd cymwys sydd angen cymorth i feithrin eu sgiliau ieithyddol. Ni fydd
yr adran yn diystyru cais oherwydd bod yr ymgeisydd ddim yn cyrraedd safon
dynodiad iaith y rôl, gan fod ymrwymiad unigolion i ymdrechu i wella eu sgiliau
ieithyddol yn newid o achos i achos.
-
Mynegwyd
balchder bod dros 91% o swyddogion yr adran yn cyrraedd dynodiad iaith eu swydd
a gofynnwyd os oes modd cael gwybod faint o’r staff sydd yn deall a siarad
Cymraeg ond ddim yn cyrraedd y dynodiad ieithyddol.
o
Mewn ymateb i’r ymholiad
nododd yr Ymgynghorydd Iaith bod adrannau'r cael adroddiad ar ddynodiadau iaith
o leiaf dwywaith y flwyddyn a bydd gwybodaeth bellach yn cael ei ddarparu wrth
drafod eitem olaf y cyfarfod hwn.
-
Tynnwyd sylw at y ffaith
fod Parc Cenedlaethol Eryri yn awdurdod cynllunio ar gyfer y Parc ac felly
gyda’r cyfrifoldeb am ddelio gyda ceisiadau cynllunio, materion gorfodaeth ac
am baratoi polisi cynllunio o fewn ardal y Parc
- Diolchwyd am yr adroddiad.
PENDERFYNWYD
-
Derbyn yr adroddiad gan nodi’r
sylwadau a dderbyniwyd.
Dogfennau ategol: