Cyflwyno gwybodaeth am gyfraniad yr adran i’r Polisi Iaith.
Penderfyniad:
Derbyn yr adroddiad
gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd.
Cofnod:
- Adroddwyd bod 94.5% o swyddogion yr adran yn cyrraedd dynodiad iaith eu
swydd. Yn anffodus, dim ond 39% o’r adran sydd wedi cwblhau’r holiadur. Gan mai
dyma yw’r gyfradd leiaf o holl adrannau’r Cyngor, mae’n anodd dweud faint o
bobl sydd yn cyrraedd eu dynodiad iaith.
- Ymhelaethwyd bod ystyriaeth wedi cael ei roi i fynediad at yr holiadur a
bod nifer o staff rheng flaen yr adran wedi methu cwblhau’r adroddiad gan nad
oes ganddynt fynediad at gyfrifiadur. Trafodwyd gyda’r Swyddog Dysgu a
Datblygu’r Iaith Gymraeg i geisio symleiddio’r holiadur ar lein yn ogystal â
gyrru copi caled o’r holiadur gyda llythyr o eglurhad gan bennaeth yr adran ond
yn anffodus nid yw’r mwyafrif o swyddogion wedi ei gwblhau, gan mai cynnydd o 14%
sydd i’w weld yn nifer yr ymatebion i flwyddyn ddiwethaf.
- Trafodwyd gyda swyddogion i dderbyn adborth pan nad oedden nhw eisiau
cwblhau’r holiadur a bu sawl rheswm o eglurhad:
§ Roedd rhai yn credu ei fod yn broses ddiwerth.
§ Roedd rhai yn poeni am eu dyfodol mewn cyflogaeth
os nad oedden nhw’n cyrraedd y dynodiad iaith.
- Mynegwyd bwriad i weithio ar y cyd gyda’r Adran
Amgylchedd i geisio cael mwy o adborth i’r holiadur hwn, gan gadarnhau bod
gweithwyr casglu gwastraff bellach wedi trosglwyddo i’r adran honno.
- Eglurwyd bod recriwtio swyddogion proffesiynol a rheng flaen wedi bod yn
rhwystr yn y cyfnod diwethaf. Mae hyn wedi bod yn broblem benodol gyda
gweithwyr gwasanaeth casglu sbwriel a glanhau strydoedd yn ardal Meirionnydd.
Er bod y dynodiad iaith yn sylfaenol yn y rolau yma, mae’r adran wedi gorfod
pwyso a mesur pwysigrwydd cyflogi gweithwyr gyda sgiliau Cymraeg, gyda darparu
gwasanaeth o safon.
- Adroddwyd bod yr adran wedi bod yn llwyddiannus yn penodi swyddog sydd
wedi datblygu ei hyder a sgiliau ieithyddol. Bu i’r ymgeisydd gyflwyno ei gais
yn y Gymraeg ac ers hynny wedi cael ei benodi yn amodol ei fod yn mynychu cwrs
iaith yn Nant Gwrtheyrn. Roedd y swyddog yn awyddus iawn i fynychu a bellach yn
cyfathrebu yn llafar ac yn ysgrifenedig
yn safonol iawn ac yn hyderus ei natur.
Rhoddwyd
cyfle i’r aelodau’r pwyllgor holi cwestiynau:
- Mynegwyd pryder nad oedd rhai o dermau technegol
yr adran yn cael eu cyfieithu o’r Saesneg i’r Gymraeg. Mae prosesau cyfieithu
yn effeithiol iawn yng Nghymru ac felly holiwyd os oes modd ail ymweld a’r
mater hwn.
o
Mewn ymateb
i’r ymholiad, nododd Pennaeth Cynorthwyol Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol bod
amryw o gamau allanoli gwaith yn digwydd yn ddwyieithog ond yn aml iawn mae
amodau yn cael eu cynnwys yn uniaith Saesneg oherwydd bod ystyr yn gallu
amrywio’n hawdd wrth gael ei gyfieithu. Mae hyn yn golygu bod y mwyafrif o’r
dogfennau yn cynnwys yr iaith Gymraeg ond bod rhai mannau sydd yn defnyddio
Saesneg yn unig.
- Trafodwyd nifer o materion sy’n gysylltiedig â
dynodiadau iaith. Roedd rhai o’r rhain yn cynnwys rheoli llithriad tuag at
ddefnydd Saesneg yn y swyddfa er budd swyddogion sy’n dysgu Cymraeg, a chysidro
bod rheolwyr llinell yn cymryd mwy o rôl i lenwi ffurflenni asesiad sgiliau
iaith.
o
Mewn ymateb i’r
ymholiadau, cadarnhaodd yr Ymgynghorydd Iaith bod holl faterion sy’n ymwneud â
dynodiadau iaith yn cael ei drafod yn Eitem 9 ar ddiwedd y cyfarfod hwn. Os
bydd unrhyw gwestiwn yn codi yn dilyn y cyflwyniad, y byddai’n briodol i’r
aelodau eu gofyn yn ystod y drafodaeth honno.
- Ymfalchïwyd yn y straeon o swyddogion sydd wedi llwyddo i wella eu
sgiliau Cymraeg ers ymuno â’r adran Amgylchedd yn ogystal â Phriffyrdd a
Bwrdeistrefol. Holiwyd os oes prosiectau ar y gweill i hyrwyddo llwyddiannau
unigolion fel hyn i osod esiampl ar gyfer swyddogion eraill sy’n ceisio gwella
eu sgiliau ieithyddol.
o
Mewn ymateb i’r
ymholiad, nododd y Swyddog Dysgu a Datblygu’r Iaith Gymraeg bod llwyddiannau o’r
fath yn cael eu rhannu ar safle iaith fewnol y staff. Yn ogystal â hyn mae
Gwobr Dafydd Orwig ar gael yn flynyddol i annog swyddogion i barhau i feithrin
eu sgiliau Cymraeg.
PENDERFYNWYD
- Derbyn yr adroddiad
gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd.
Dogfennau ategol: