Cyflwyno gwybodaeth am gyfraniad yr adran i’r Polisi Iaith.
Penderfyniad:
Cofnod:
- Adroddwyd bod y mwyafrif helaeth o staff yr adran wedi cwblhau’r hunan
asesiad sgiliau iaith ddiweddar. Dengys y canlyniadau bod 216 o’r gweithlu yn
cyrraedd dynodiad swydd, gyda 2 aelod o staff yn methu i’w gyrraedd. Nodwyd bod
96% o staff wedi llenwi’r hunan asesiad a bod y 4% sydd heb ei gwblhau, heb
wneud hynny gan eu bod yn newydd i’w rôl. Cadarnhawyd bod y 4% yma yn gyfwerth
â 11 aelod o staff.
- Ymhelaethwyd bod pob ymdrech wedi ei wneud er mwyn sicrhau bod y 2 aelod
o staff nad oedd yn cyrraedd dynodiad iaith eu swydd yn cael eu hannog a
chefnogi i fynd ar gyrsiau hyfforddi i fagu eu hyder. Cadarnhawyd bod y
swyddogion yn yr achosion hyn wedi mynychu cyrsiau ond yn parhau i fod ychydig
yn ddihyder yn eu sgiliau iaith ac wedi marcio eu hunain yn llym wrth lenwi’r
asesiad.
- Manylwyd nad ydi’r adran wedi bod yn llwyddiannus
yn hyrwyddo’r Gymraeg ym mhob agwedd o’r gwaith. Mae’r adran yn cysylltu yn rheolaidd
gyda cwmnïau technegol arbenigol yn ogystal â darparwyr technoleg gwybodaeth.
Mae llawer o’r cwmnïau hyn yn dod o’r Unol Daliaethau
fel rheol ac er bod pob ymdrech yn cael ei wneud i gychwyn trafodaeth yn
Gymraeg, mae’r adran yn bod yn realistig i ystyried pryd gall gyrru dogfennau
Cymraeg bod yn effeithiol neu’n rhwystrol. Er hyn, sicrhawyd nad ydi’r ffaith
bod cysylltiadau gyda ychydig o’r cwmnïau hyn yn digwydd yn Saesneg ddim yn
atal yr adran rhag darparu gwasanaeth Cymraeg o’r radd flaenaf i staff a
thrigolion Gwynedd.
- Pwysleisiwyd bod y rhan fwyaf o ddogfennau yn cael eu cynnal yn
ddwyieithog neu yn Gymraeg. Mae gwaith hanfodol wedi cael ei gyflawni i sicrhau
bod holl dermau technegol yr adran wedi cael eu Cyfieithu ac felly mae gan bobl
Gwynedd yr opsiwn i lenwi unrhyw ffurflen megis, ffurflenni trethi neu
geisiadau am fudd-daliadau yn ogystal â darllen adroddiadau, yn y Gymraeg os
ydynt yn dymuno.
- Diweddarwyd bod y gwasanaeth technoleg gwybodaeth
bellach wedi diweddaru meddalwedd Windows holl gyfrifiaduron y defnyddwyr yn y
Cyngor i fod yn defnyddio’r Gymraeg fel iaith diofyn y cyfrifiadur yn hytrach
na Saesneg. Mae hyn wedi cael ei annog yn y gorffennol ond yn ddiweddar mae’r
newid hwn wedi bod yn orfodol ar holl ddyfeisiau’r Cyngor.
- Esboniwyd bod yr adran wedi datblygu darpariaeth Dysgu Ddigidol ers mis
Ebrill eleni. Bu i hyn gymryd lle yn dilyn y broses o ddirwyn cwmni Cynnal i
ben a mewnoli’r gefnogaeth roeddent yn ei ddarparu. Fel rhan o’r gefnogaeth
honno mae’r adran yn gyfrifol am ddarparu gliniadur i holl athrawon y sir ac yn
y broses o ddarparu gliniaduron i holl ddisgyblion blynyddoedd 7 i 11 o fewn
ysgolion Gwynedd. Cadarnhawyd bydd y rhain hefyd yn defnyddio Cymraeg fel iaith
y cyfrifiadur.
- Eglurwyd bod ychydig o newid wedi bod i
ddefnyddwyr allanol gan fod banc Barclays wedi cau
cangau allweddol i’r adran gan gynnwyd Caernarfon, Porthmadog a Dolgellau.
Golyga hyn fod pobl yn colli’r cyfle i sgwrsio yn Gymraeg yn y banc ac yn
debygol o orfod delio gyda’r banc ar lein neu dros y ffôn yn fwy aml. Er hyn,
mae gwasanaeth amgen wedi cael ei sefydlu gyda’r swyddfa bost ac felly mae
dibyniaeth yn cael ei roi ar allu staff y swyddfa bost i allu siarad Cymraeg.
- Cyfeiriwyd at nifer o enghreifftiau eraill ble
mae’r adran yn ceisio sicrhau defnydd o Gymraeg. Nodwyd bod cynllun cyfeillion
wedi cael ei sefydlu ble mae dysgwr Cymraeg yn cael ei baru gyda swyddog o
wasanaeth arall yr adran ac yn cael cefnogaeth gyda meithrin eu sgiliau
ieithyddol. Cyfeiriwyd hefyd bod mewnrwyd yr adran yn cael ei ddiweddaru i
gynnwys geiriadur o eiriau defnyddiol gwasanaethau’r adran i wneud defnydd o’r
Gymraeg yn haws i’r staff. Cadarnhawyd bod yr adran yn parhau i weithio’n agos
gyda’r Swyddog Dysgu a Datblygu’r Iaith Gymraeg er mwyn sicrhau fod popeth yn
cael ei wneud i alluogi swyddogion i weithio a chyfathrebu’n Gymraeg yn hyderus
a naturiol.
Rhoddwyd
cyfle i’r aelodau’r pwyllgor holi cwestiynau:
- Canmolwyd yr adran am eu penderfyniad pendant o
newid iaith cyfrifiaduron o Saesneg i Gymraeg a holiwyd os oedd yr adran wedi
derbyn unrhyw bryder neu ymateb negyddol yn sgil y newid hwn?
o
Mewn ymateb i’r ymholiad
nododd Bennaeth Adran Cyllid bod staff y gwasanaeth technoleg gwybodaeth wedi
bod yn ofni ymateb negyddol i’r newid yma. Er hyn, nid oes ymatebiad negyddol
wedi bod. Yn naturiol, mae staff wedi cymryd amser i ddod i arfer gyda’r newid
ond yn gyffredinol mae pawb yn cofio ble mae’r eiconau a botymau ac mae’r
derminoleg Gymraeg wedi dal i fyny gyda hynny.
- Gofynnwyd a oes bwriad i ehangu’r cynllun cyfeillion i’w ddefnyddio ar
draws y cyngor?
o
Mewn ymateb
i’r ymholiad nododd Pennaeth Adran Cyllid y byddai’n hapus iawn i wneud hyn o
fewn yr adran. Er hyn, dim ond un swyddog sy’n gymwys ar gyfer y cynllun ar hyn
o bryd ac felly nid oes sgôp i’w ehangu o fewn yr adran ar hyn o bryd.
o
Mewn ymateb
i’r ymholiad nododd y Swyddog Dysgu a Datblygu’r Iaith Gymraeg bod y cynllun
hwn ar gael i bob adran o’r cyngor. Bu iddo gael ei greu yn wirfoddol gan
unigolion wedi iddynt fynychu cyrsiau gloywi iaith ac eisiau sicrhau bod defnydd
rheolaidd o'r iaith er mwyn iddynt allu meithrin eu sgiliau.
- Diolchwyd am yr adroddiad.
PENDERFYNWYD
-
Derbyn yr
adroddiad gan nodi sylwadau a dderbyniwyd.
Dogfennau ategol: