Agenda item

I roi diweddariad ar y prosiect i’r Aelodau.

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Swyddog Dysgu a Datblygu’r Iaith Gymraeg, a thynnwyd sylw yn fras at y prif bwyntiau canlynol:

-          Adroddwyd ar hanes y prosiect dynodiadau iaith gan  gadarnhau ei fod yn deillio o drafodaethau’r Pwyllgor Iaith yn 2015 cyn i safonau ieithyddol newydd ddod i rym yn 2016. Yn sgil y prosiect, mae gan y Cyngor well dealltwriaeth o’r gwahanol sgiliau ieithyddol sydd gan y gweithlu ac yn gallu cynnig cefnogaeth fwy addas i feithrin sgiliau ieithyddol y staff.

 

-          Cadarnhawyd bod y prosiect hefyd wedi cael ei ddatblygu i roi dynodiadau iaith ar wahanol swyddi’r Cyngor. Bydd gan swyddogion fwy o ymwybyddiaeth o’r lefel sgil angenrheidiol i gwblhau’r gwaith yn effeithiol oherwydd hyn.

 

-          Eglurwyd bod y prosiect wedi bod yn flaenllaw er mwyn sefydlu system iaith fewnol sy’n cadw’r wybodaeth am sgiliau iaith staff ac er mwyn sefydlu proses i rannu gwybodaeth am gyrsiau, rhannu adborth a llwyddiannau gyda’r gwahanol adrannau. Hefyd fel rhan o’r prosiect, datblygwyd safle iaith mewnol. Dangoswyd gwahanol rannau o’r safle iaith hwn i’r aelodau.

 

-          Rhoddwyd sylw i’r cwestiynau a godwyd yn ystod y trafodaethau blaenorol a nodwyd y wybodaeth isod:

o   Esboniwyd bod y broses o gasglu gwybodaeth drwy’r holiadur hunan asesu yn amrywiol. Nodwyd bod rhai pobl yn hapus i’w lenwi ar lein ac eraill yn dymuno derbyn copi papur. Eglurwyd bod y rheolwr yn darparu’r wybodaeth ar gyfer y prosiect mewn sefyllfaoedd ble nad oes gan weithwyr fynediad agos at gyfrifiadur, neu eu bod nhw yn weithwyr rheng flaen. Y bwriad ydi i’r wybodaeth gael ei gasglu yn y dull mwyaf syml i’r gweithwyr er mwyn i bawb gael cyfle i’w lenwi. Eglurwyd hefyd bod swyddogion y prosiect yn deall bod rhai pobl yn amheus o lenwi holiaduron a bod sgiliau iaith yn gallu bod yn fater sensitif i lawer.

o   Tybiwyd bod nifer y bobl sy’n siarad Cymraeg yn uwch mewn rhai adrannau nag beth sydd yn cael ei nodi yn y canfyddiadau. Nodwyd bod rhai pobl yn gallu siarad Cymraeg ond ddim yn cyrraedd y dynodiad iaith ac felly ddim yn cael eu cynnwys mewn rhai ffigyrau. Cadarnhawyd mai dyma oedd prif nod yr holiadur er mwyn sicrhau dealltwriaeth o’r gwahanol lefelau sgil sydd yn bodoli mewn gwahanol dimau er mwyn sicrhau bod y gefnogaeth berthnasol ar gael i swyddogion.

 

-          Dangoswyd copi o’r holiadur fel esiampl i’r aelodau.

 

-          Nodwyd bod y prosiect ffurfiol yn dod i ben yn y misoedd nesaf. Cadarnhawyd bod y broses o gasglu gwybodaeth am sgiliau iaith staff yn parhau i ddigwydd, ond bod prif ffocws y swyddogion yn symud i sicrhau bod staff yn cael y gefnogaeth i ddatblygu eu sgiliau iaith.

 

-          Prosiect ffurfiol yn dod i ben yn y misoedd nesaf. Cefnogi staff a chasglu holiadau yn dal i ddigwydd ond ffocws yn symud i gefnogaeth staff.

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau’r pwyllgor holi cwestiynau:

-      Holiwyd os ydi’r hunanasesiad ieithyddol yn cael ei gwblhau o fewn yr adran Addysg, gan ei fod yn broses sydd yn cael ei ddatblygu ar draws y Cyngor.

 

o   Mewn ymateb i’r ymholiad, nododd y Swyddog Dysgu a Datblygu Iaith Gymraeg fod yr hunanasesiad ar gael i staff yr adran, a bod rhai o swyddogion yr adran wedi bod yn cwblhau’r holiadur. Yn ddiweddar mae Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg wedi cael ei sefydlu a bydd mwy o waith yn cael ei wneud er mwyn derbyn gwybodaeth am sgiliau iaith swyddogion yr adran Addysg yn sgil hyn. Bydd y strategaeth hon a chynllun diweddar Llywodraeth Cymru yn galluogi swyddogion yr adran i dderbyn mwy o gefnogaeth a gwersi Cymraeg os bydd yr angen yn codi.

 

-      Diolchwyd am yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD

-          Derbyn yr adroddiad gan nodi sylwadau a dderbyniwyd.

-           

 

Dogfennau ategol: