Agenda item

Eitem er gwybodaeth yn unig. Mae’r ddogfen hon wedi ei chyfieithu gan y Cyngor.

Cofnod:

Cyflwynwyd y llythyr hwn er gwybodaeth i aelodau’r Pwyllgor gan yr Uwch Ymgynghorydd Iaith a Chraffu a nodwyd y prif bwyntiau isod:

 

-      Eglurwyd bod cyn-aelodau’r pwyllgor wedi ysgrifennu at Weinidog Y Gymraeg ac Addysg cyn yr etholiad ym mis Mai 2022 i ddatgan pryder nad oedd Microsoft Teams yn darparu cyfieithu ar y pryd ac roedd rhaid cynnal y cyfarfodydd yn Saesneg.

 

-      Ymhelaethwyd bod y llythyr a yrrwyd gan y cyn-aelodau yn gofyn am gael darpariaeth cyfieithu ar y pryd yn ddi-ofyn ym mhob cyfarfod er mwyn i’r cyfarfodydd gallu cael eu cynnal yn Gymraeg.

 

Rhoddwyd cyfle i aelodau’r pwyllgor drafod a holi cwestiynau:

 

-      Mynegwyd siomiant ym mhenderfyniad y Llywodraeth i aros dwy flynedd a hanner cyn cynnal ei cyfarfodydd dros Zoom. Nid ydi Microsoft Teams wedi bod yn ymdopi’n dda gyda systemau cyfieithu ar y pryd yn ystod y cyfnod yma ac yn y cyfamser mae cyfieithu ar safon eilradd wedi cael ei ddarparu dros y ffôn wrth i fynychwyr ymuno â’r cyfarfod ar eu cyfrifiaduron. Ychwanegwyd bod rhaid i gyfranwyr hysbysu’r trefnwyr os ydynt yn dymuno siarad Cymraeg. Nodwyd os byddai 10% o fynychwyr y cyfarfod yn gwneud hyn, dyma pryd byddai’r gwasanaeth cyfieithu ar y pryd yn cael ei ddarparu. Eglurwyd os nad oedd digon o geisiadau i gyfrannu yn Gymraeg, nid oedd dewis ond cyfrannu’n Saesneg.

-      Mewn ymateb i’r pwyntiau hyn, cadarnhaodd y Rheolwr Gwasanaethau Democratiaeth ac Iaith bod Microsoft Teams newydd ddiweddaru ei systemau cyfieithu. Ymhelaethwyd bod y Cyngor yn ei dreialu ar hyn o bryd cyn ei ddefnyddio yn y cyfarfodydd. Cadarnhawyd bod profiad y defnyddiwr yn bwysig iawn ac felly ni fydd Microsoft Teams yn cael ei ddefnyddio ar gyfer cyfarfodydd y Cyngor nes bod ansawdd y gwasanaeth yn cyfateb â beth sy’n cael ei ddarparu gan Zoom.

-      Mewn ymateb i’r pwyntiau hyn, pwysleisiodd yr Ymgynghorydd Iaith nad nid dewis y Llywodraeth ydi gosod gofyniad o 10% o’r mynychwyr wneud cais i siarad drwy gyfrwng y Gymraeg mewn cyfarfodydd cyn cael gwasanaeth cyfieithu ar y pryd. Cadarnhawyd bod hyn yn rhan o safonau ieithyddol ac mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol eu dilyn. O ganlyniad, mynegwyd bod y Llywodraeth yn cydymffurfio â’r safonau.

 

-      Mynegwyd siomiant bod y Llywodraeth ddim yn teimlo eu bod nhw angen mynd gam ymhellach na’r safonau i annog mwy o siaradwyr Cymraeg. Ymholwyd pa mod rhagweithiol ydi’r Llywodraeth i hyrwyddo’r Gymraeg a sicrhau darpariaeth cyfieithu.

-      Mewn ymateb i’r ymholiad, nododd yr Ymgynghorydd Iaith bod agweddau amrywiol i hyrwyddo’r iaith o fewn y llywodraeth. Ymhelaethwyd bod y Llywodraeth yn ddibynnol iawn ar swyddogion i hyrwyddo’r iaith ond nad ydi’r ddarpariaeth yno o hyd i allu gwneud hynny’n effeithiol.

 

-      Cytunwyd bod y Llywodraeth angen bod yn cefnogi Swyddogion a Gweinidogion i siarad Cymraeg yn y gweithle. Cadarnhawyd bod gwasanaeth cyfieithu ar y pryd yn ddull cyfoes o allu cynnal cyfarfodydd yn Gymraeg ond mae angen mynd ymhellach i sicrhau dyfodol yr iaith.

 

-      Gofynnwyd sut mae’r safonau iaith yn cael eu gosod.   

-      Mawn ymateb i’r ymholiad, nododd yr Ymgynghorydd Iaith bod y safonau yn rhan o ddeddfwriaeth y Llywodraeth. Cadarnhawyd bod y safonau yma yn cael eu monitro gan y Comisiynydd Iaith ac mae’r un safonau yn cael eu gosod ar Lywodraethau Lleol. Aethpwyd ymlaen i gadarnhau bod y safonau wedi cael eu hysgrifennu gyda’r meddylfryd bod cyfarfodydd yn cael eu cynnal yn Saesneg yn ddiofyn. Mae Cyngor Gwynedd yn cynnal eu cyfarfodydd yn Gymraeg yn ddiofyn ac felly yn mynd ymhellach na gofynion y safonau.

 

-      Diolchwyd am y llythyr.

 

PENDERFYNWYD

 

-      Ymateb i’r llythyr yn mynegi siom nad oedd eu hymateb yn fwy cadarnhaol. Bydd y llythyr hwn yn pwysleisio’r angen i annog siaradwyr Cymraeg i siarad Cymraeg yn y gweithle yn ogystal â gwella’r gwasanaeth cyfieithu ar y pryd. Cadarnhawyd bydd y llythyr hefyd yn gofyn am gadarnhad sut mae’ llywodraeth yn hyrwyddo’r iaith gan eithrio dilyn y gofynion safonau ieithyddol wrth gynnal cyfarfodydd rhithiol.

-      Trefnu trafodaeth yn y cyfarfod nesaf am ddyfodol cynghorau tref er mwyn sicrhau dyfodol defnydd yr iaith Gymraeg yn eu cyfarfodydd.

 

Dogfennau ategol: