skip to main content

Agenda item

Cyflwynwyd gan:Cyng. Ioan Thomas

Penderfyniad:

Derbyniwyd yr adroddiad ar adolygiad diwedd Awst 2022 o’r Gyllideb Refeniw, ac ystyried y sefyllfa ariannol ddiweddaraf parthed cyllidebau pob adran / gwasanaeth.

 

Nodwyd bod effaith ariannol Covid ar rai meysydd yn parhau yn 2022/23, er nad yw’r effaith mor sylweddol yn 2022/23 o’i gymharu â’r ddwy flynedd flaenorol sydd yn gyfuniad o gostau ychwanegol, colled incwm a llithriad yn y rhaglen arbedion.

 

Nodwyd bod rhagolygon gorwariant sylweddol gan yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant, Adran Addysg, Adran Economi a Chymuned, Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol a’r Adran Tai ac Eiddo eleni. Manylir ar y rhesymau penodol sydd yn effeithio’r adrannau yn rhan 5 o’r adroddiad, ond mae effaith y cynnydd mewn chwyddiant a phrisiau trydan yn benodol yn ffactor amlwg.

 

O ystyried y gorwariant sylweddol a ragwelir gan yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant a’r Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol, nodwyd bwriad y Prif Weithredwr i alw cyfarfod o'r swyddogion perthnasol er mwyn mynd i wraidd y gorwariant, i sicrhau bod camau pendant yn cael eu cymryd i geisio dod a'r sefyllfa o fewn rheolaeth cyn diwedd y flwyddyn ariannol, gan adrodd i'r Cabinet ar y cynllun ymateb.

 

Er ei bod hi'n gynamserol i drosglwyddo arian o gronfeydd nes bydd y sefyllfa ariannol yn derfynol ar ddiwedd y flwyddyn, argymhellir mai'r drefn o ran defnyddio'r cronfeydd i gyllido'r bwlch ariannol bryd hynny fydd defnyddio:

¾    yn gyntaf, Balansau Ysgolion i gyllido'r cynnydd mewn prisiau trydan yn yr ysgolion

¾    yn ail, defnyddio £4.5 miliwn o'r gronfa trefniadau adfer yn sgil Covid a sefydlwyd i gyllido heriau ariannol cysylltiedig sy'n wynebu'r Cyngor

¾    yn olaf, y gweddill i'w gyllido o’r Gronfa Strategaeth Ariannol.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Ioan Thomas 

 

PENDERFYNIAD

 

Derbyniwyd yr adroddiad ar adolygiad diwedd Awst 2022 o’r Gyllideb Refeniw, ac ystyried y sefyllfa ariannol ddiweddaraf parthed cyllidebau pob adran / gwasanaeth.  

 

Nodwyd bod effaith ariannol Covid ar rai meysydd yn parhau yn 2022/23, er nad yw’r effaith mor sylweddol yn 2022/23 o’i gymharu â’r ddwy flynedd flaenorol sydd yn gyfuniad o gostau ychwanegol, colled incwm a llithriad yn y rhaglen arbedion.  

 

Nodwyd bod rhagolygon gorwariant sylweddol gan yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant, Adran Addysg, Adran Economi a Chymuned, Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol a’r Adran Tai ac Eiddo eleni. Manylir ar y rhesymau penodol sydd yn effeithio’r adrannau yn rhan 5 o’r adroddiad, ond mae effaith y cynnydd mewn chwyddiant a phrisiau trydan yn benodol yn ffactor amlwg.  

 

O ystyried y gorwariant sylweddol a ragwelir gan yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant a’r Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol, nodwyd bwriad y Prif Weithredwr i alw cyfarfod o'r swyddogion perthnasol er mwyn mynd i wraidd y gorwariant, i sicrhau bod camau pendant yn cael eu cymryd i geisio dod a'r sefyllfa o fewn rheolaeth cyn diwedd y flwyddyn ariannol, gan adrodd i'r Cabinet ar y cynllun ymateb.  

 

Er ei bod hi'n gynamserol i drosglwyddo arian o gronfeydd nes bydd y sefyllfa ariannol yn derfynol ar ddiwedd y flwyddyn, argymhellir mai'r drefn o ran defnyddio'r cronfeydd i gyllido'r bwlch ariannol bryd hynny fydd defnyddio:  

·         yn gyntaf, Balansau Ysgolion i gyllido'r cynnydd mewn prisiau trydan yn yr ysgolion  

·         yn ail, defnyddio £4.5 miliwn o'r gronfa trefniadau adfer yn sgil Covid a sefydlwyd i gyllido heriau ariannol cysylltiedig sy'n wynebu'r Cyngor  

·         yn olaf, y gweddill i'w gyllido o’r Gronfa Strategaeth Ariannol.  

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi  fod yr adroddiad yn manylu ar yr adolygiad diweddaraf o’r gyllideb refeniw’r Cyngor ar gyfer 2022/23, ynghyd a’r rhagolygon tuag at diwedd y flwyddyn ariannol. Mynegwyd fod yr adroddiad eisoes wedi ei gyflwnyo i’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio a oedd yn gefnogol iawn i’r argymhelliad.

 

Nodwyd fod rhagolygon presennol yn awgrymu y bydd yr Adrannau Oedolion, Iechyd a Llesiant, Plant a Theuluoedd, Addysg, Economi a Chymuned, Priffyrdd a Bwrdeistrefol a Tai ac Eiddo yn gorwario erbyn diwedd y flwyddyn ariannol. Manylwyd mai effaith cynnydd mewn chwyddiant, yn arbennig felly costau trydan sydd uwchlaw ‘r gyllideb sydd i’w weld amlycaf yn yr adran Addysg, Priffyrdd a Bwrdeistrefol ac Economi a Chymuned. Nodwyd fod gweddill adrannau’r Cyngor yn gweithredu o fewn eu cyllideb.

 

Mynegwyd nad yw effaith Covid i’w gweld mor sylweddol a beth a welwyd dros y ddwy flynedd diwethaf, ond fod costau ychwanegol, colledion incwm a llithriad ar gynlluniau arbedion yn parhau mewn rhai meysydd. Amlygwyd fod oedi mewn gwireddu arbedion i’w gweld yn amlwg gan yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant gyda cynlluniau gwerth £930k, tra bod £553k gan yr Adran Briffyrdd a Bwrdeistrefol.

 

Amlygwyd y prif faterion oedd yn wynebu yr adrannau a oedd yn gorwario yn unigol fel a ganlyn:

 

Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant

Mynegwyd fod gorwariant o £1.9m yn cael ei ragweld ar gyfer eleni, ac fod hyn o ganlyniad i gyfuniad o ffactorau gan gynnwys methiant i wireddu arbedion. Amlygwyd fod pwysau cynyddol ar lety cefnogol a phecynnau taliadau uniongyrchol i’w gweld yng Ngwasanaethau Pobl Hŷn, ynghyd â chostau staff a diffyg incwm yn broblem yng Ngofal Cymunedol.

 

Adran Addysg

Nodwyd fod gorwariant o £1.3m i’w ragweld gan yr Adran Addysg o ganlyniad i effaith prisiau trydan uwch am gyfnod o chwe mis o Hydref 2022 ymlaen i’r ysgolion. Esboniwyd gan fod yr ysgolion eisoes wedi elwa o bron o filiwn o arbedion ynni yn deillio o’r pandemig a cyfnodau clo, ystyrir felly yn briodol i ddefnyddio balansau ysgolion i gyllido’r pwysau ychwanegol am eleni.

 

Byw’n Iach

O ganlyniad i’r pandemig bu i Gwmni Byw’n Iach dderbyn cymorth ariannol o gronfa caledi Llywodraeth Cymru oedd werth £1.4m yn 2021/22 a £2.7m yn 2020/21. Esboniwyd nad yw cymorth o’r fath ar gael am eleni, ond fod effaith y pandemig yn  parhau i amharu ar allu’r cwmni i gynhyrchu incwm. Nodwyd fod y Cyngor wedi cadarnhau cefnogaeth ariannol angenrheidiol i gynnal gwasanaethau drwy ymestyn y cyfnod sicrwydd hyd ddiwedd 2022/23, sydd oddeutu £842k eleni. Amlygwyd mai costau trydan uwch sydd yn gyfrifol am weddill y gorwariant.

 

Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol

Mynegwyd fod tueddiad blynyddol o orwario yn y maes bwrdeistrefol yn parhau gyda’r problemau amlycaf i’w gweld yn y maes casglu gwastraff ac ailgylchu. Esboniwyd yn ogystal fod yr adran yn cael trafferthion gwireddu arbedion gwerth £533k mewn nifer o feysydd.

 

Adran Tai ac Eiddo

Amlygwyd fod newid i ddeddfwriaeth yn ymwneud a Digartrefedd wedi golygu pwysau ariannol sylweddol eleni. Ychwanegwyd er bod dyraniad o £1.5m o gronfa trefniadau yn sgil covid y Cyngor wedi ei roi i gynorthwyo’r sefyllfa, rhagwelir gorwariant net o £3.2m eleni.

 

Corfforaethol

Nodwyd fod rhagdybiaethau darbodus wrth osod cyllideb 2022/23 yn gyfrifol am gynnyrch treth ychwanegol a hefyd yn cyfrannu at y tanwariant ar Ostyngiadau Treth Cyngor, gyda gostyngiad yn y niferoedd sydd yn ei hawlio. Mynegwyd fod cynnydd diweddar mewn cyfraddau llog yn golygu fod y rhagolygon derbyniad llog £1.1m yn fwy ffafriol.

 

Rhagwelir y bydd angen gwneud defnydd o gronfeydd wrth gefn y Cyngor a balansau Ysgolion i gyllido’r bwlch ariannol o £7.1m sydd i’w ragweld ar gyfer 2022/23. Eglurwyd drwy ddefnyddio y cronfeydd penodol, bydd balansau cyffredinol wedi eu gwarchod ac ar gael i helpu i wynebu heriau y dyfodol.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾    Mynegwyd fod yr adroddiad hwn yn un difrifol ac yn codi llen ar adroddiadau gwaeth fydd i ddod. Amlygwyd y bydd hi yn her aruthrol i greu cyllideb ar gyfer flwyddyn nesaf. Amlygwyd fod hanner gorwariant y Cyngor yn deillio o’r maes digartrefedd ac ei fod yn pwysleisio yr argyfwng sydd i’w gweld yn y maes. Nodwyd ei bod yn anghyfrifol bellach i beidio ystyried arian o’r premiwm treth Cyngor i ariannu’r gorwariant yn y maes digartrefedd.

¾    Nodwyd fod y sefyllfa sydd ohoni yn argyfyngus a na fydd unrhyw gymorth yn dod gan Lywodraeth San Steffan. Pwysleisiwyd mai anghyfartaledd sydd wrth wraidd y broblem digartrefedd. Eglurwyd mewn sir ble mae cynnydd enfawr mewn di-gartrefedd mae niferoedd ail gartrefi yn ei miloedd.

¾    Mynegwyd fod y cynnydd mewn digartrefedd wedi arwain at orwario yn yr adran, ond gorwario er mwyn sicrhau fod gan unigolion a teuluoedd do dros eu pennau ac ymateb i’r sefyllfa.

¾    Holwyd fod effaith chwyddiant i’w gweld yn fwy amlwg mewn rhai adrannau megis Economi a Chymuned ac Addysg, a gofynnwyd pam? Nodwyd fod cynnydd mewn costau trydan i’w gweld yr adrannau yma gyda lleoliadau megis ysgolion, amgueddfeydd, llyfrgelloedd a canolfannau hamdden.

 

 

Awdur:Ffion Madog Evans

Dogfennau ategol: