skip to main content

Agenda item

I dderbyn y wybodaeth ac ystyried y risgiau cyffredinol sy’n deillio o lithriadau yn yr arbedion

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

 

1.    Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sefyllfa a’r risgiau perthnasol yng nghyswllt y Trosolwg Arbedion

2.    Argymell i’r Cabinet bod angen herio manwl ar gynlluniau sydd ddim yn cael eu gwireddu - angen sicrhau adolygiad rheolaidd o’r cynlluniau hynny sydd yn llithro a chyfeirio’r cynlluniau at raglen waith y  Pwyllgorau Craffu perthnasol

 

Cofnod:

a)    Cyflwynwyd adroddiad gan yr Aelod Cabinet Cyllid oedd yn crynhoi sefyllfa arbedion y Cyngor.  Gofynnodd  i’r pwyllgor nodi’r sefyllfa a’r risgiau perthnasol yng nghyswllt y Trosolwg Arbedion gan gynnig sylwadau ar y sefyllfa i’r Cabinet eu hystyried wrth iddynt gymeradwyo’r adroddiad 25 Hydref, 2022. Eglurodd hefyd mai’r adrannau oedd wedi cyflwyno’r cynlluniau arbedion ac mai adrodd yn unig ar y sefyllfa oedd y swyddogion cyllid.

 

Ategodd yr Uwch Reolwr Cyllid:

·         Ers 2015/16, fel rhan o strategaeth ariannol y Cyngor, bod gwerth £35.4m o arbedion wedi eu cymeradwyo i’w gwireddu ar gyfer y cyfnod 2015/16 - 2022/23. Nodwyd bod cyfanswm o £33.4 miliwn o’r arbedion wedi eu gwireddu, sydd yn 94% o’r swm gofynnol dros y cyfnod.

·         Bod effaith Covid i weld wedi cyfrannu at lithriad yn y rhaglen arbedion mewn rhai meysydd.

·         Y prif gynlluniau sydd eto i’w cyflawni yw cynlluniau gan yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant a’r Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol.

·         Bod angen, wrth baratoi cyllideb 2022/23 gydnabod fod y sefyllfa wedi newid cymaint fel nad oedd modd cyflawni’r cynlluniau arbedion oedd wedi eu cynllunio yn wreiddiol, ac felly dileuwyd bron i £500 mil o gynlluniau o’r gyllideb a symudwyd y proffil cyflawni ar gyfer cynlluniau gwerth £1.3 miliwn i 2023/24 a blynyddoedd dilynol

·         Bod hi’n anorfod bod gwireddu gwerth £33.4m o arbedion (allan o gyfanswm o £35.4 miliwn) ers Ebrill 2015 wedi bod yn heriol. Gydag  oediad a risgiau i gyflawni rhai o’r cynlluniau sydd yn weddill rhaid adolygu’r cynlluniau cyn diwedd y flwyddyn ariannol.

 

Diolchwyd am yr adroddiad a mynegwyd bod rhaid llongyfarch yr elfennau positif oedd yn yr adroddiad -

 

b)    Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan aelodau:

·         Bod 94% o’r cynlluniau wedi eu cwblhau – hyn yn galonogol

·         Mai’r adrannau eu hunain sydd wedi cynnig yr arbedion ac nid yw yn rhywbeth sydd wedi ei roi arnynt

·         Bod rhai o’r cynlluniau yn hanesyddol

·         Bod angen rhoi pwysau ar yr adrannau hynny sydd yn methu cyflawni arbedion i ail ystyried cynlluniau neu ail gynllunio

·         Bod angen annog gwybodaeth fwy manwl - os nad oes symud ar gynlluniau angen cynlluniau gwell

·         Wrth gynllunio arbedion o’r newydd, rhaid ystyried elfennau sydd tu hwnt i reolaeth - yr effaith o dorri rŵan yn arwain at fwy o wariant i’r dyfodol e.e., cynnal a chadw ffyrdd

·         Awgrym i amlygu yn glir mai arbedion sydd yn llithro sydd yn atodiad 4

·         Bod angen herio mwy manwl ar gynlluniau arbedion i’r dyfodol

·         Awyddus i gynlluniau sydd yn llithro dderbyn sylw a cael eu craffu

 

c)    Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn a bwriad gosod targedau mwy uchelgeisiol i’r adrannau gyfrannu at y cynllun arbedion, nodwyd bydd hyn yn anorfod ac fod gwaith ar gychwyn i ddatblygu trefn briodol. Ategwyd bod gwahanol brosesau wedi cael eu dilyn i gyfarch yr arbedion hyd yma ac y bydd penderfyniadau anodd i’w gwneud i’r dyfodol.

 

Mewn ymateb i sylw ynglŷn â llithriad o £25,000 (Adran Cyllid - oediad i gynllun ‘Cynhyrchu Incwm drwy Atal Twyll’), amlygodd y Pennaeth Cyllid bod y cynllun wedi ei sefydlu a staff wedi eu hyfforddi yn y maes, ond bod cyfnod covid wedi atal cynnal cyfweliadau ffurfiol ac felly’r cynllun heb ei ddechrau. Ategwyd mai llithriad oedd yma ac nid methiant ac os na fydd modd cyflawni i’r dyfodol yna bydd angen edrych ar drefniadau amgen.

 

Mewn ymateb i sylw bod y maes gwastraff yn trosglwyddo i’r Adran Amgylchedd ac os oedd hyn yn mynd i ailddechrau’r broses o ymateb i’r cynllun arbedion, nodwyd bod yr Adran Amgylchedd yn ymwybodol o’r angen i wireddu’r arbedion a bod trafodaethau wedi eu cynnal rhwng y ddwy adran i sicrhau bod yr ymdrech i ymdrin a’r sefyllfa ariannol yn parhau.

 

PENDERFYNWYD:

 

1.  Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sefyllfa a’r risgiau perthnasol yng nghyswllt y Trosolwg Arbedion

2.  Argymell i’r Cabinet bod angen herio manwl ar gynlluniau sydd ddim yn cael eu gwireddu - angen sicrhau adolygiad rheolaidd o’r cynlluniau hynny sydd yn llithro a chyfeirio’r cynlluniau at raglen waith y  Pwyllgorau Craffu perthnasol

 

Dogfennau ategol: