I dderbyn yr adroddiad a’r cynnydd a gofyn am adroddiad
pellach i Bwyllgor Chwefror
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD:
Cofnod:
a)
Cyflwynwyd adroddiad gan Pennaeth Gwasanaethau
Cyfreithiol (Swyddog Monitro) yn nodi, yn dilyn Cydsyniad Brenhinol, bod
darpariaethau’r Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiad (Cymru) 2021 bellach wedi
dod i rym ac er bod rhai elfennau o’r Arweiniad Statudol i’w cyhoeddi ni fydd
disgwyl i rain wyro yn arwyddocaol o’r drafftiau a ymgynghorwyd â hwy. Mewn
ymateb i ofynion y Ddeddf, cyfeiriwyd at y rhaglen waith sydd eisoes wedi ei
gosod o fewn Cofrestr Risg Corfforaethol y Cyngor gyda’r Pwyllgor Llywodraethu
ac Archwilio yn cadw trosolwg a sicrwydd ar y gweithredu sydd ei angen i weithredu’r
darpariaethau.
Cyfeiriwyd at dri
maes gwaith, Strategaeth Cyfranogiad y Cyhoedd, Cynllun Deisebau a Chanllawiau
Cyfansoddiad, sydd angen eu symud ymlaen drwy gynnal proses ymgynghori.
Diolchwyd am yr adroddiad
b)
Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â hawl gan y
Cyngor i ddewis trefn Pleidleisio Fwyafrifol neu Bleidlais Sengl Drosglwyddadwy
(STV) ac o ystyried bod gan Wynedd, yn etholiad 2022 y nifer uchaf o Gynghorwyr
wedi eu hethol heb unrhyw wrthwynebiad, nododd y Swyddog Monitro mai cyfle oedd yma i Wynedd benderfynu ar sut
i ymateb i’r dewis. Ategodd y byddai addasu’r broses gyfredol yn cynnwys
adolygiad manwl o’r sefyllfa fyddai’n debygol o gynnwys adolygiad ffiniau,
addasu cyfundrefn sylweddol ac
ymgynghori fel elfennau statudol. Y dewis sydd gerbron yw ystyried
cychwyn y broses neu beidio - bydd rhaid dod i farn ar sut i ymdrin ar opsiwn.
Mewn ymateb i
gwestiwn ategol, o ymateb Awdurdodau eraill i’r mater, mynegodd bod Awdurdodau
eraill mewn sefyllfa debyg o ystyried agor trafodaethau.
Mewn ymateb i
gwestiwn ynglŷn â phenodi Aelodau Lleyg, mynegwyd bod y broses bellach yn
un barhaus. Derbyniwyd y farn bod dwy sedd wag ar y Pwyllgor ac mewn ymateb,
nodwyd er yr ail-hysbysebu, na fu diddordeb. Ategwyd y bydd y swyddi yn parhau
yn agored a’r dyddiad cau yn cael ei ymestyn ac annogwyd
yr Aelodau, os yn adnabod rhywun sydd â diddordeb, i gyfeirio enw i’r Pennaeth
Cyllid.
Mewn ymateb i
gwestiwn ynglŷn â nodweddion y Strategaeth Gyfranogi, nodwyd bod
dyletswydd statudol bellach i annog cyfranogiad at benderfyniadau sydd wedi eu
gwneud a bod hyn yn cael ei weithredu drwy rannu gwybodaeth ar y wefan, megis
hysbysiadau penderfyniad a blaen raglenni. Y bwriad yw creu trefn sydd yn
cyfarch y dyletswydd heb fod yn gyfundrefn drwm.
Mewn ymateb i sylw am
y drefn ymgynghori, a bod hyn i’w groesawu, amlygodd Aelod bod rhaid ceisio
osgoi tanseilio trefn ddemocrataidd. Nododd bod Aelodau wedi eu hethol i
gynrychioli’r boblogaeth a mynegodd bryder y gall trefniadau oddiweddu’r drefn democratiaeth. Mewn ymateb i’r sylw, nododd y Swyddog
Monitro y dylai’r drefn ymgynghori gefnogi’r drefn Democratiaeth - rôl Aelodau
yw cymryd cyfrifoldeb am swyddogaethau ac felly dylai’r rôl ymgynghorol fod yn
gefnogol i’r ystyriaethau hyn.
c)
Cynigwyd ac eiliwyd derbyn yr adroddiad
PENDERFYNWYD:
1. Derbyn yr adroddiad
2. Derbyn cynnydd ar y rhaglen waith
3. Cais am ddiweddariad pellach i Bwyllgor
mis Chwefror 2023
Dogfennau ategol: