Agenda item

I dderbyn y wybodaeth, ystyried risgiau sy’n deillio o’r tafluniadau gwariant yn erbyn y gyllideb, a chraffu’r penderfyniadau i’r Cabinet yng nghyswllt rheoli cyllidebau’r Cyngor a’i adrannau

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

 

  1. Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sefyllfa a’r risgiau yng nghyswllt cyllidebau’r Cyngor a’i adrannau
  2. Cytuno gyda’r argymhelliad i’r Cabinet ddefnyddio:

·         Balansau Ysgolion i gyllido'r cynnydd mewn prisiau trydan yn yr ysgolion

·         £4.5 miliwn o'r gronfa trefniadau adfer yn sgil Covid sefydlwyd i gyllido heriau ariannol cysylltiedig sy'n wynebu'r Cyngor

·         Bod y gweddill i'w gyllido o’r Gronfa Strategaeth Ariannol.

  1. Bod adroddiad cynnydd o’r camau gweithredu yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor  wedi trafodaethau rhwng y Prif Weithredwr a’r Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol ynglŷn a gorwariant yr Adran (yr adroddiad i gynnwys ymateb i argymhellion a gyflwynwyd i’r Adran gan WRAP Cymru).

 

Cofnod:

a)    Cyflwynwyd adroddiad gan Aelod Cabinet Cyllid y Cynghorydd Ioan Thomas yn gofyn i’r pwyllgor graffu’r sefyllfa a’r risgiau perthnasol yng nghyswllt cyllidebau’r Cyngor a’i adrannau, a chyflwyno sylwadau i’r Cabinet ar gyfer cymeradwyaeth 25ain Hydref, 2022.

 

Gosododd yr Aelod Cabinet y cyd-destun i’r adroddiad drwy nodi:-

·         Bod yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant yn gorwario sydd yn gyfuniad o ffactorau gan gynnwys methiant i wireddu arbedion.

·         Bod yr Adran Economi a Chymuned yn gweld effaith mewn cynnydd costau ynni

·         Bod Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol yn amlygu diffyg gwireddu arbedion ym maes gwastraff

·         Bod Adran Tai Ac Eiddo yn gweld effaith ym maes digartrefedd yn sgil addasiad i drefniadau deddfwriaethol covid-19

·         Bod bwriad edrych i falansau ysgolion i gyllido y gorwariant a ragwelir ar gostau trydan eleni gan fod yr Ysgolion wedi arbed ynni dros y cyfnod covid 

 

Cyfeiriodd yr Uwch Reolwr Cyllid at dalfyriad o sefyllfa derfynol yr holl adrannau gan amlygu’r meysydd ble fu gwahaniaethau sylweddol. Tynnwyd sylw ar effaith y cynnydd mewn chwyddiant, yn arbennig felly costau trydan sydd uwchlaw’r gyllideb ac i’w weld amlycaf yn yr Adrannau Addysg, Priffyrdd a Bwrdeistrefol ac Economi a Chymuned – sef ar ganolfannau hamdden Cwmni Byw’n Iach.

 

·         Yng nghyd-destun covid, er nad yw’r effaith mor sylweddol yn 2022/23 o’i gymharu â’r ddwy flynedd flaenorol, mae costau ychwanegol, colledion incwm a llithriad ar gynlluniau arbedion yn sgil Covid yn parhau mewn rhai meysydd.

·         Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant – rhagweld gorwariant o dros £1.9 miliwn eleni, a hynny yn gyfuniad o nifer o ffactorau gan gynnwys methiant i wireddu gwerth £930k o arbedion. Yn amlwg iawn eleni gwelwyd pwysau ar lety cefnogol a phecynnau taliadau uniongyrchol ynghyd a chostau staff a diffyg incwm yn y maes Gofal Cymunedol.

·         Adran Addysg - rhagweld gorwariant o £1.3m o ganlyniad i effaith prisiau trydan uwch am gyfnod o chwe mis o Hydref 2022 ymlaen yn yr ysgolion. O ystyried fod yr ysgolion eisoes wedi elwa o bron i filiwn o arbedion ynni yn deillio o Covid a'r cyfnodau clo cysylltiedig, ystyriwyd yn briodol felly  i ddefnyddio balansau ysgolion i gyllido'r pwysau ychwanegol eleni.

·         Byw’n Iach - o ganlyniad i sgil effaith Covid, bu i’r cwmni  dderbyn cymorth ariannol o gronfa caledi Llywodraeth Cymru (gwerth £1.4 miliwn yn 2021/22 a £2.7 miliwn yn 2020/21). Nid yw cymorth o'r fath ar gael gan y Llywodraeth eleni ond sgil effaith covid yn parhau yn 2022/23 ac yn amharu ar y gallu i gynhyrchu incwm. O ganlyniad, bu i'r Cyngor gadarnhau cefnogaeth ariannol angenrheidiol i gynnal gwasanaethau Byw'n Iach drwy ymestyn y cyfnod o sicrwydd a roddwyd i'r Cwmni hyd at ddiwedd 2022/23, sydd yn £842k eleni.

·         Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol -  tueddiad blynyddol o orwariant yn y maes bwrdeistrefol yn parhau, gyda’r problemau amlycaf yn y maes casglu gwastraff ac ailgylchu.  Yr adran hefyd yn cael trafferthion gwireddu arbedion gwerth £533k.

·         Tai ac Eiddo – goblygiadau newid i ddeddfwriaeth yn ymwneud â Digartrefedd yn golygu pwysau ariannol sylweddol. Er bod dyraniad o £1.5m o gronfa trefniadau yn sgil covid y Cyngor wedi ei roi i gynorthwyo’r sefyllfa, rhagwelir gorwariant net o £3.2 miliwn eleni.

·         Corfforaethol - rhagdybiaethau darbodus wrth osod cyllideb 2022/23 yn gyfrifol am gynnyrch treth ychwanegol a hefyd yn cyfrannu at y tanwariant ar Ostyngiadau Treth Cyngor – gostyngiad yn y niferoedd sydd yn hawlio. Y cynnydd diweddar mewn cyfraddau llog yn golygu fod y rhagolygon derbyniad llog £1.1 miliwn yn fwy ffafriol.

 

Adroddwyd y bydd yn rhaid gwneud defnydd o gronfeydd wrth gefn y Cyngor a balansau’r Ysgolion i gyllido’r bwlch ariannol o £7.1 miliwn a ragwelir am 2022/23. Rhoddwyd eglurhad ar ddwy ffynhonnell arian wrth gefn y Cyngor sef ‘Balansau’ (arian wrth gefn heb ei glustnodi) a ‘Cronfeydd’ (arian mewn cronfeydd penodol i wahanol bwrpasau penodol all warchod a chynorthwyo gyda heriau'r dyfodol).

 

O ystyried y gorwariant sylweddol a ragwelir gan yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant a’r Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol, nodwyd bwriad y Prif Weithredwr i alw cyfarfod gyda’r swyddogion perthnasol er mwyn mynd i wraidd y gorwariant. Y bwriad yw sicrhau bod camau pendant yn cael eu cymryd i geisio dod a'r sefyllfa o fewn rheolaeth cyn diwedd y flwyddyn ariannol, gan adrodd i'r Cabinet ar y cynllun ymateb.

 

Diolchwyd am yr adroddiad oedd yn  fanwl ei gynnwys ac wedi ei gyflwyno mewn modd deallus.

 

b)    Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan aelodau:

·         Mai chwyddiant yw'r gelyn mawr - yr argymhellion yn ddoeth i ddelio gyda sefyllfa anodd

·         Bod sefyllfa digartrefedd yn gyffredinol ar draws y wlad - galw felly i lobio ar y llywodraeth i ariannu costau addasiadau i’r ddeddfwriaeth

·         Mai unwaith yn unig fydd modd defnyddio balansau - angen ystyried hyn wrth osod cyllideb 2022/23

·         Bod y sefyllfa economaidd bresennol yn rhoi pwysau ychwaegol ar y Cyngor -bydd rhaid chwilio am ddatrysiadau wrth osod cyllideb

·         Y dylid peidio rhoi ysgolion dan bwysau i gyrraedd hicyn mympwyol wrth gynllunio ymlaen

·         I dderbyn diweddariad ar enillion llog yn y cyfarfod nesaf

·         Y dylid craffu rhesymau gorwariant parhaus yr Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol

·         Bod angen cyflwyno adroddiad cynnydd / cynllun gweithredu i’r Pwyllgor mewn ymateb i’r trafodaethau rhwng Priffyrdd a Bwrdeistrefol a’r Prif Weithredwr ynghyd ac ymateb i’r argymhellion a dderbyniwyd gan WRAP Cymru

·         Awgrym i lunio amserlen / rhaglen waith o gynllun gwireddu arbedion y Cyngor - byddai hyn yn fodd o gyflwyno’r wybodaeth sydd ei angen i ddeall y sefyllfa yn well

 

c)    Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â defnyddio premiwm ail gartrefi i fynd i’r afael a chynnydd mewn costau yn y maes digartrefedd, nodwyd y bydd rhaid rhoi ystyriaeth i hyn wrth gyllido ar gyfer 2022/23.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â herio’r Gwasanaeth Byw’n Iach i ystyried arbedion a chynnal trafodaethau i leihau costau, adroddwyd bod gan y cwmni gynllun arbedion ar gyfer 2022/23 a bod cais am fid wedi ei gyflwyno.

 

Mewn ymateb i’r bwriad o ddefnyddio balansau ysgolion i gyllido’r cynnydd mewn prisiau trydan yn yr ysgolion, nodwyd bod balansau’r ysgolion wedi codi yn aruthrol dros y ddwy flynedd ddiwethaf  a hynny oherwydd cynnydd mewn grantiau ac elw o arbedion ynni - priodol felly fyddai defnyddio’r balansau eleni i gynorthwyo gyda chyllido costau ynni.

 

PENDERFYNIAD:

 

1.  Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sefyllfa a’r risgiau yng nghyswllt cyllidebau’r Cyngor a’i adrannau

2.  Cytuno gyda’r argymhelliad i’r Cabinet ddefnyddio:

·         Balansau Ysgolion i gyllido'r cynnydd mewn prisiau trydan yn yr ysgolion

·         £4.5 miliwn o'r gronfa trefniadau adfer yn sgil Covid sefydlwyd i gyllido heriau ariannol cysylltiedig sy'n wynebu'r Cyngor

·         Bod y gweddill i'w gyllido o’r Gronfa Strategaeth Ariannol.

3.  Bod adroddiad cynnydd o’r camau gweithredu yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor  wedi trafodaethau rhwng y Prif Weithredwr a’r Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol ynglŷn â gorwariant yr Adran (yr adroddiad i gynnwys ymateb i argymhellion a gyflwynwyd i’r Adran gan WRAP Cymru).

 

Dogfennau ategol: