skip to main content

Agenda item

 

Ail-wynebu ac ail-drefnu meysydd parcio y Glyn gan gynnwys creu llwybr cerdded hygyrch gydag arwyneb tarmac a gosod wyneb system celloedd graean o fewn yr ardaloedd parcio.

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Kim Jones

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

 

 

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Dirprwyo’r hawl i’r Uwch Reolwr Cynllunio ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig ar dderbyn sylwadau cadarnhaol oddi wrth Gyfoeth Naturiol Cymru a'r Uned Goed ynghylch gwybodaeth bellach a gyflwynwyd mewn ymateb i'w sylwadau cychwynnol:

 

            1. Amser

            2. Cydymffurfio gyda’r cynlluniau

            3. Amodau priffyrdd

            4. Rhaid gweithredu’n unol ag argymhellion yr Asesiad o Effeithiau Ecolegol

5. Rhaid gweithredu’n unol ag argymhellion yr Asesiad Coedyddiaeth

6. Unrhyw amodau Bioamrywiaeth / Coedyddiaeth eraill angenrheidiol

 

            Nodiadau

 

1.    Dŵr Cymru

2.    Cyfoeth Naturiol Cymru

3.    Uned Draenio Tir

 

Cofnod:

Maes Parcio, Y Glyn, Llanberis, LL55 4EL

 

Ail-wynebu ac ail-drefnu meysydd parcio Y Glyn gan gynnwys creu llwybr cerdded hygyrch gydag arwyneb tarmac a gosod wyneb system celloedd graean o fewn yr ardaloedd parcio.

 

Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr

 

 

a)    Amlygodd y Rheolwr Cynllunio mai cais ydoedd i  ail-drefnu'r tri maes parcio presennol sydd wedi eu lleoli  yn ardal Y Glyn ar lan Llyn Padarn, Llanberis. Bydd yr aildrefnu yn gwelliannau i'r meysydd parcio yn unig – nid oes bwriad newid defnydd y tir a bydd y meysydd parcio yn parhau o dan reolaeth y Cyngor Sir. Bydd y gwaith yn cynnwys:

·         Ardal maes Parcio Rhif 1: 52 x bae parcio car, 3 x bae parcio anabl & 9 x bae parcio ‘camper van’. Bydd yr ardal hon hefyd yn cynnwys ardal ar gyfer glanhau canŵ/offer gyda waliau uchel o'i amgylch, ffynnon ddŵr yfed, cysgodfa ar gyfer cadw hyd at 10 o feics gyda tho gwyrdd a chladin coed a thri phwynt gwefru EV ar gyfer ceir trydanol.

·         Ardal maes Parcio Rhif 2: 57 x bae parcio car, 1 x bae parcio trelar & 13 x bae parcio ‘camper van’.

·         Ardal maes Parcio Rhif 3: 20 x bae parcio car, 2 x bae parcio anabl & 4 x bae parcio ‘camper van’.

 

Ategwyd y bydd y llwybr troed yn cael ei orffen gyda tharmac a bydd y lon a'r baeau parcio newydd i gyd yn cael eu gorffen gyda gridiau cellog wedi eu llenwi gyda cherrig mân gyda cherrig lliw llwyd golau yn cael eu defnyddio yn y baeau parcio a charreg lliw llwyd tywyll yn ardal y lon er mwyn creu cyferbynnedd gweledol.

 

Nodwyd bod Polisi Strategol PS 5 : Datblygu Cynaliadwy’n ymrwymo’r Awdurdod Cynllunio i gefnogi datblygiadau ble gellid dangos eu bod yn gyson ag egwyddorion datblygiad cynaliadwy. Mae'r polisi hwnnw'n rhoi blaenoriaeth i ddefnyddio tir a ddefnyddiwyd o'r blaen ac i hyrwyddo safonau dylunio o ansawdd uchel sy'n gwneud cyfraniad cadarnhaol i'r ardal leol; Bydd y cynllun hwn yn cynnig cyfle i wella ansawdd yr adnodd parcio sydd ar gael yn y lleoliad hwn ac yn sicrhau bod y tair ardal yn cael eu tacluso a'u gosod yn fwy trefnus er budd defnyddwyr a rheolaeth hir dymor y safle.

 

Yng nghyd-destun materion priffyrdd nodwyd nad oedd gan yr Uned Trafnidiaeth unrhyw wrthwynebiad i'r cynlluniau o safbwynt diogelwch y briffordd ac fe ystyriwyd bod y trefniant parcio'n dderbyniol. Byddai'r gysgodfa’n beics yn annog y defnydd o ddull trafnidiaeth gynaliadwy tra byddai gosod llwybr llawr caled yn hwyluso mynediad ar gyfer y rheiny sydd â phroblemau symudedd.

 

Yng nghyd -destun bioamrywiaeth a choed nodwyd bod y safle o fewn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ac fe gyflwynwyd Gwerthusiad Ecolegol Cychwynnol a daeth hwnnw i'r casgliad ei bod yn annhebygol y byddai'r cynllun arfaethedig yn arwain at effeithiau gweddilliol sylweddol ar nodweddion ecolegol pwysig yn y tymor hir pe bai'r holl fesurau lliniaru a digolledu a gynigiwyd yn cael eu dilyn. Yn ogystal cadarnhaodd yr Uned Goed fod yr Asesiad Effaith Coedyddiaeth (AIA) o safon dderbyniol ac awgryment ddilyn yr holl fesurau diogelu coed a choetiroedd a nodwyd yn yr Asesiad. Roedd yr Uned Goed hefyd yn awyddus i gael rhagor o fanylion ynghylch y cynllun ail blannu ac fe dderbyniwyd hynny gan yr ymgeisydd

 

Ni ystyriwyd fod y bwriad yn groes i unrhyw bolisi cynllunio perthnasol o fewn y CDLl a bod y datblygiad a gynigiwyd yn briodol ar gyfer y safle fydd hefyd yn cyfrannu at wireddu amcan o bwysigrwydd strategol i’r Cyngor Sir. Yn ogystal, ni ystyriwyd y byddai’r bwriad yn debygol o achosi effeithiau andwyol annerbyniol i drigolion gerllaw na’r gymuned yn gyffredinol.

 

b)    Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd yr Aelod Lleol y sylwadau canlynol:

·         Ei bod yn gefnogol i’r cais

·         Bod yr ardal yn barc gwledig sydd bellach mewn sefyllfa fregus a phwysau ar y Cyngor i ymateb i’r pryderon

·         Y meysydd parcio presennol yn flêr, gyda thyllau ac yn creu risg i ddefnyddwyr - dim ardal storio beics, dim digon o finiau sbwriel a dim incwm i’w gynnal a’i gadw

·         Y prosiect i’w groesawu - bydd yn gwella diogelwch, baeau parcio wedi eu marcio a system unffordd - bydd adnodd ar gyfer teithio gwyrdd, llochesi beics, biniau mawr a phwynt trydan

·         Bydd cyfle i gasglu incwm i ariannu gwelliannau pellach yn y parc a chyflogi wardeniaid

·         Croesawu gwell rheolaeth

·         Y Cyngor Cymuned yn gefnogol i’r cais

 

c)     Cynigiwyd  ac eiliwyd caniatáu y cais

 

ch) Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan Aelodau:

·      Bod y cynlluniau yn effeithiol

·      Bydd y gwaith yn gwella gwelededd y Parc

·      Angen cynlluniau tebyg ar draws y Sir

 

PENDERFYNWYD: Dirprwyo’r hawl i’r Uwch Reolwr Cynllunio ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig ar dderbyn sylwadau cadarnhaol oddi wrth Gyfoeth Naturiol Cymru a'r Uned Goed ynghylch gwybodaeth bellach a gyflwynwyd mewn ymateb i'w sylwadau cychwynnol:

 

            1. Amser

            2. Cydymffurfio gyda’r cynlluniau

            3. Amodau priffyrdd

4. Rhaid gweithredu’n unol ag argymhellion yr Asesiad o Effeithiau Ecolegol

5. Rhaid gweithredu’n unol ag argymhellion yr Asesiad Coedyddiaeth

6. Unrhyw amodau Bioamrywiaeth / Coedyddiaeth eraill angenrheidiol

 

            Nodiadau

 

1.         Dŵr Cymru

2.         Cyfoeth Naturiol Cymru

3.         Uned Draenio Tir

 

 

Dogfennau ategol: